Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin 17 Ionawr, 2021

Daw e-fwletin yr wythnos hon gan awdur o Washington DC.

Cwestiynau mewn argyfwng.

Mae ein hwyrion wrth eu boddau yn chwarae’r gêm “Cwestiynau”. Yr unig reol ydi fod rhaid i bob brawddeg mewn sgwrs fod yn gwestiwn.  Erbyn hyn mae “pam ddylwn i ateb ?” yn un o’r atebion mwyaf poblogaidd!

Yn ystod cyfnod Cofid, ac yn arbennig yn dilyn Brexit, ac yn fwy diweddar byth,  beth ddigwyddodd yn y Capitol yn Washington DC wythnos yn ôl, mae yna gwestiynau diri wedi bod yn troi a throi yn fy mhen.  Mae’n siŵr fod yr un peth yn wir amdanoch chi hefyd.   Beth ar wyneb y ddaear sydd wedi digwydd i ni? Pam na welsom ni hyn yn dod? Beth sydd o’i le ar bobl? Pam na wnaeth yr arweinwyr wneud y penderfyniadau i  amddiffyn y bobl rhag y clefyd yma? Brexit? Yr Arlywydd yma? Y rhai oedd yn gwrthryfela yn DC?  A oes rhaid maddau iddyn nhw? Beth ydi ystyr maddeuant yn y cyswllt yma? Wnes i wneud digon i fynegi fy marn? I wrthwynebu? I sefyll dros gyfiawnder? Mae yn siŵr fod gennych chithau lu o gwestiynau hefyd.

Does dim ateb digonol i ddim un o’r cwestiynau yma, ond mae’r broses o drio eu hateb wedi bod yn werthfawr ac yn bwysig i mi.  Rydw i wedi sylweddoli mor bwysig ydi trio deall pwy ydw i, mewn modd na fu raid i mi wynebu o’r blaen. A pha fath o berson hoffwn i fod?  Sut mae fy ffydd i yn dylanwadu arnaf, yn fy arwain?

Cyn i mi allu ateb y cwestiwn pam na wnaeth pobl eraill chwarae eu rhan rydw i wedi gorfod gofyn i mi  fy hun- be’ wnes i? Wnes i fynegi fy marn yn glir?  Wnes i ddigon? Allwn i fod wedi gwneud mwy? Neu oeddwn i yn un o’r bobl oedd yn iste ar yr ymylon, yn gwylio, ac o gadair gyfforddus yn twt-twtian?

Beth ydi maddeuant? A ydi hi yn bosib/iawn/ maddau os  nad oes cyffesu bai hefyd ? Pa feiau ddylwn i eu cyffesu? Oes yna amodau i faddeuant? Sut mae gwlad yn maddau? Beth fyddai Iesu Grist yn ei wneud yn y sefyllfa?  Beth mae o yn wneud? Ble welais ei neges yn fyw? Beth ydw i yn ei wneud yn ei enw?

Wrth bendroni’r holl gwestiynau daeth y Bregeth ar y Mynydd i’m hymwybod droeon i’m hatgoffa o rai a chanllawiau sylfaenol fy ffydd “Gwyn eu byd y rhai addfwyn…. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder… Gwyn eu byd y rhai trugarog, y pur o galon, y tangnefeddwyr….”

E-fwletin 10 Ionawr, 2021

Câr dy gymydog

Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn America y dyddiau diwethaf hyn wedi peri tristwch i bawb ohonom. Fe gawsom ein syfrdanu gan mor hawdd y bu hi i’r dyrfa orlifo i mewn i’r Senedd-dy. Ond diffygion yr heddlu a’r lluoedd diogelwch fu’n gyfrifol am hynny. Beth oedd yn ddigri i mi oedd clywed Americanwyr yn sôn am y terfysgwyr yn halogi cysegr santeiddiolaf democratiaeth! Ni fyddai neb yng ngweddill y byd yn ystyried fod system lywodraethol yr Unol Daleithiau yn esiampl dda o ddemocratiaeth, pan na all neb ond ychydig gyfoethogion ystyried bod yn ymgeiswyr seneddol heb sôn am ymgeisio am yr Arlywyddiaeth. Plutocratiaeth yw’r system wleidyddol yn America, lle mae doleri’n prynu hysbysebion a phleidleisiau.

Ond yr hyn oedd yn drist i ni oedd cael gweld unwaith eto beth yw natur tyrfa. Mae hi’n hawdd ei harwain a’i thwyllo. Fe gredai’r mwyafrif o’r dorf yna y celwyddau am dwyll etholiadol, a chael eu llygad-dynnu gan unben Mae torf hefyd yn anghyfrifol o dreisgar. O fewn ychydig oriau fe gollwyd bywydau yn y terfysg. Ond y mae tyrfa hefyd yn wamal ei theyrngarwch. Trump yw ei harwr heddiw: pwy tybed fydd arwr yfory? Fel y gwelodd Iesu fe all tyrfa floeddio Hosana i Fab Dafydd un diwrnod, ac ymhen rhai dyddiau bleidleisio i Barabas.

Byddai Iesu bob amser yn osgoi tyrfa. Ym mhennod gynta’r Bregeth ar y Mynydd fe ddywedir “Pan welodd Iesu y tyrfaoedd esgynnodd i’r mynydd.” Ffoi oddi wrth dyrfa wnâi Iesu bob tro. Gwell ganddo ef oedd cwmni’r deuddeg. Yn wir ar brydiau arbennig byddai’n well ganddo gwmni tri.

Yn nyddiau argyfwng yr haint hwn bydd llawer ohonom yn arswydo wrth feddwl fod capeli Cymru yn gweld ffarwelio am byth â’r cynulleidfaoedd lluosog.  Bydd y  pla hwn yn achos difodiant niferoedd o gynulleidfaoedd lleol. A byddwn yn eiddigeddu am Gristnogaeth rhai gwledydd dwyreiniol a’u heglwysi’n gyfoethog gan dyrfaoedd o addolwyr. Ond nid y dorf yw cynefin Iesu.

Yng ngeiriau Waldo Williams,

Mae rhwydwaith dirgel Duw
yn cydio pob dyn byw;
cymod a chyflawn we
myfi, tydi, efe:

Cariad a chwlwm rhwng unigolion yw hanfod dysgeidiaeth Iesu. Fe all cyfnod dieithr y Cofid presennol fod yn gyfle gwych inni ddarganfod perthynas newydd a dwfn â’n gilydd fel  unigolion wrth weld angen ein cymydog. Byddwn yn clywed y dyddiau nesaf yma ddyfynnu rhifau yn eu miloedd, hyd yn oed eu miliynau,  a’r rheini y tu hwnt i’n hamgyffred ni. Ond pan glywn ni am gymydog neu gyfaill neu rywun annwyl yng nghanol ei wendid gan yr haint, dyna pryd y bydd y cyfle yn agor i ni.

Pwy a ŵyr na fydd ambell berthynas newydd rhwng aelwyd ac aelwyd yn cael ei ennyn gan oedfa zoom, ac efallai’n clymu calonnau cymwynasgar â’i gilydd.

 

E-fwletin 3 Ionawr, 2021

Anghofio

Yng nghanol yr holl ganmol ar fanteision Zoom – canmol haeddiannol – a’r honiad bod mwy yn ‘addoli ar Zoom’ nag oedd yn addoli yn ein heglwysi o Sul i Sul, ni fu hanner digon o sylw i agwedd arall ar y manteision.

Roeddwn wedi cofrestru i ymuno mewn gwasanaeth yng Nghanolfan Sabeel yn Jerwsalem am 4.00 o’r gloch ddydd Sadwrn, Rhagfyr 19eg. Yn gynharach yn yr Adfent roeddwn wedi bod yn addoli yn Washington ac yn Genefa, ond roedd cael cyd-addoli mewn canolfan Gristnogol a sefydlwyd i fod yn gyfrwng cymod, yn hyrwyddo cyfiawnder ac yn dystiolaeth i’r ffydd Gristnogol yn gyffrous a grymus, ac yn dod o lygad y ffynnon.

Gan wybod fod ein dathliadau Nadolig  yn cynnwys mwy na digon o actio mynd yn ôl i ‘ddyddiau Herod Frenin’ roeddwn yn edrych ymlaen at gael addoli gyda’r Cristnogion sydd heddiw yng nghanol gwlad ranedig lle mae grymoedd militaraidd  a gwleidyddol yn rheoli ac yn gormesu.

Roedd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan Munther Isaac (Palestiniad a gweinidog Lutheraidd ym Methlehem), Michel Sabbah, Patriarch Jerwsalem 1987-2008 (y Palestiniad cyntaf erioed yn Batriarch y ddinas) a Yousef Alkhouri, Eglwys Uniongred Groeg (yn byw ym Methlehem ac yn un o sylfaenwyr ‘Christ at the Chekpoint.’) Roedd rhai eraill hefyd yn cynnwys y pregethwr, sef Naim Ateek, sylfaenydd Sabeel ac un sydd yn parhau i arwain yno ac yn un o Ddiwinyddion Rhyddhad mwyaf a phwysicaf yr eglwys Gristnogol. Ond nid yw ei enw yn golygu dim i’r mwyafrif o Gristnogion y Gorllewin.

Yn Sabeel mae byw’r efengyl yn un â rhannu a dehongli’r efengyl ar lawr gwlad ranedig. Roeddwn wedi edrych ymlaen yn fawr iawn i addoli yn Sabeel.

Ond  fe anghofiais.

Roeddwn ers misoedd wedi bod yn mynd o Zoom i Zoom i wasanaethau gyda ffrindiau a chydnabod, tebyg at debyg, ac yn teimlo weithiau fy mod yn Zoomoholig. Ond pan ddaeth gwasanaeth fyddai yn ehangu a dyfnhau addoliad ac yn gwneud ‘a drigodd yn ein plith ni’ yn gyfoes ac oesol – anghofiais ym mhrysurdeb paratoadau Nadolig, ac efallai mai un eglurhad am anghofio (er cywilydd) oedd mai pnawn Sadwrn oedd Rhagfyr 19eg.

Ond dyna rodd fwyaf Zoom i ni. Nid rhywbeth dros dro, ond cyfrwng i ddathlu ein bod erbyn hyn yn eglwys fyd-eang. A phechod yw anghofio hynny. Anfonais neges yn ymddiheuro na wnes ymuno (heb ddweud mai anghofio oedd y rheswm) a daeth ateb yn ôl o Sabeel gyda llun a neges annisgwyl.

O Sabeel, yr un llun ar gyfer y Nadolig a Blwyddyn Newydd.

Neges oedd hi gan Gristnogion yn poeni am y sefyllfa o ormes a thrais; gan Balestiniaid oedd yn perthyn i genedlaethau o ffoaduriaid ac yn parhau i fyw mewn tlodi dychrynllyd; a’r cyfan yn gyfarchiad dechrau blwyddyn i rai ohonynt a fydd yn dathlu Nadolig ar Ionawr 6. Neges fer oedd hi gyda llun llawen o arweinwyr a gwirfoddolwyr Sabeel yn anfon cyfarchion atom ni. Eu gobaith yw y bydd eu hymrwymiad a’u gobaith hwy yn ein hysbrydoli a’n cynnal ni yn 2021.

Blwyddyn newydd dda i ni i gyd gan hyderu na fydd argyfwng y Palestiniaid a’r Israeliaid, na’r Cofid chwaith, yn ein hamddifadu o obaith Teyrnas Crist.

E-fwletin 27 Rhagfyr, 2020

Mae pobl o egwyddor yn rhai i’w hedmygu, a phobl ddiegwyddor i’w hosgoi.

Un o gwestiynau mawr Brexit yw a ddylid cadw at egwyddor, doed a ddêl, neu a fyddai’n ddoethach cyfaddawdu?

Ar y naill law, o orsymleiddio, mae’r tyndra rhwng Brexit heb gytundeb ar sail yr egwyddor ddisyfyd fod gennym yr hawl i ddilyn  ein llwybr ein hunain, ac ar y llaw arall  beth am ffyniant yr economi, a’r pris am wrthod cydweithredu.

Pa bryd mae penderfyniad yn  troi yn stwbwrnrwydd neu styfnigrwydd tybed?

Doedd proffwydi’r Hen Destament  ddim yn cyfaddawdu, na Iesu chwaith.  Câi’r proffwyd ei wawdio a’i erlid.  Aeth Iesu i’w groes “heb neb o’th du.” Mae bod yn broffwyd gau, a dweud y pethau  mae’r awdurdodau am eu clywed lawer yn haws.

Rwy’n ddiolchgar iawn na alwyd mohonof i fod yn broffwyd, i gyhoeddi “ fel hyn y dywed yr Arglwydd.” Mae pobl sy’n siŵr mai nhw sy’n iawn wedi achosi cymaint o hafog.

Roedd angen i’r Hen Genedl fedru gwahaniaethu rhwng gwir broffwyd a ffug broffwyd.  Doedd dim prawf di-droi- nôl, ond roedd yn werth holi, “ydy’r proffwyd yma yn boblogaidd?”  Os ydy’r ateb yn gadarnhaol, dyw hynny ddim yn arwydd da.

Talodd rhai yn ddrud iawn am wrthod cyfaddawdu.  Welwyd hynny erioed yn gliriach nag yng nghyfnod y Tuduriaid.  Roedd Mari yn gyfrifol am ladd llu o “hereticiaid,” ac Elizabeth yn fwy creulon fyth.

Rhaid edmygu unplygrwydd a dewrder y rheini nad oes  troi arnynt.  Gofynnaf i mi fy hun weithie ydw i yn credu unrhyw beth yn ddigon cryf i fynd i’r stanc drosto?

Un peth ydy bod yn broffwyd cyfiawn Duw yn talu am sefyll dros gyfiawnder. Y proffwyd ei hun sy’n dioddef.  Peth arall ydy dihirod pwerus sy’n benstiff ddi-ildio er eu lles eu hunain, eraill sy’n dioddef wedyn.

Yn amlach na pheidio, mae proffwyd a merthyr yn tynnu gwae. Nid arno’i hun yn unig, ond ar y rhai sy’n agos ato hefyd.

Rydym yn gyfarwydd â chlywed am bobl ddrwg yn achosi poen i eraill.  Pobl dda, egwyddorol, yn achosi poen i eraill sydd gan yr Americanes, Marilynne Robinson yn gyson yn ei nofelau.  Gwelir yr un peth yn nofel  fawr Emyr Humphries, “ Outside the House of Baal.” Gwn innau, o fewn cof, am wraig gweinidog fyddai ar dro heb swper, fel bod bwyd i’r plant.

Mae pris i’w dalu am lynu at egwyddor, a llawer i’w hedmygu am wneud.  Ond mae adegau hefyd, does bosib, pan mai cyfaddawdu sy’n iawn.

Adeg Rhyfel Cartre Sbaen roedd catrawd o anarchiaid yn ymladd yn erbyn Franco.  Gan nad oeddent ar egwyddor yn credu mewn awdurdod, fe saethon nhw’r swyddogion – a cholli’r rhyfel!

William Abraham (Mabon) oedd yr amlycaf o arweinwyr y glowyr yng nghymoedd y de yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd cyflogau ac amodau’r gweithwyr yn gwthio llawer tuag at streicio ond mantra Mabon oedd, “Mae  hanner torth yn well na dim torth” tra’n dal i ymladd â’i holl galon dros y gweithwyr.

Yn y diwedd felly, tybed nad  tyndra rhwng egwyddor a diegwyddor  ydy hi bob tro, ond brwydr rhwng egwyddor ac egwyddor.

E-fwletin 20 Rhagfyr, 2020

Un o brif themâu tymor yr Adfent yw Goleuni, ac mae’n thema briodol iawn, ar yr adeg  o’r flwyddyn pan fyddwn yn fwy ymwybodol o’r tywyllwch na’r goleuni. Mae’r dydd yn fyr a’r nos yn hir a hynny yn symbol o afael y tywyllwch – ac eleni fe fuom ni i gyd yn ymwybodol iawn o hwnnw.

Roedd ein byd yn un tywyll iawn i filiynau o’i bobl cyn y pandemig, a gweithredoedd y tywyllwch mor amlwg  ag erioed, ond eleni bu fel y fagddu i filiynau ar draws y byd.

I ni, y golau mwyaf llachar oll yw golau’r Iesu. Golau ei eiriau a’i fyw dilychwyn, golau ei dosturi a’i gydymdeimlad ei ofal a’i gonsyrn am bobl.

Ym mhlith yr hanesion mwyaf trawiadol y mae ymwneud Iesu a’r gwahangleifion. Y gwahanglwyf oedd Covid-19 cyfnod Iesu. Mor heintus fel bod pob gwahanglwyfus yn gorfod ynysu ei hun am weddill ei oes! Yn esgymun o bob cymdeithas ac yn gorfod cario cloch neu glapiwr pren i rybuddio pobl o’u presenoldeb. Cymaint yr arswyd o’r gwahanglwyf, fel bod person oedd wedi cyffwrdd â dillad dioddefwr yn cael ei gyfri’n aflan!

A beth wnaeth Iesu? Mynd atyn nhw, treulio amser gyda nhw, a hyd yn oed cyffwrdd â nhw! Syfrdanol!  Meddyliwch mor olau a gobeithiol oedd bywyd iddyn nhw yn sgil hynny.

Yr hyn sy wedi bod yn gysur mawr yn ystod y cyfnod anodd yma, yw clywed  hanesion sy’ wedi goleuo dyddiau tywyll y pla o’r cychwyn cynta’.

Cymaint tywyllach y byddai arnom ni fel gwlad oni bai am ymroddiad ac ymdrechion  holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd. Pobl a fentrodd eu hunain er lles y rhai dan eu gofal, a hynny pan oedd gwybodaeth am yr haint a’i ledaeniad mor brin, a sawl un yn talu’r pris uchaf am wneud.

Sôn am efelychu Iesu gyda’r gwahangleifion!

Deth dwy ddihareb yn gyfarwydd iawn i ni bellach.

Y naill o Tsieina:  ‘Gall un gannwyll alltudio’r tywyllwch’

Y llall o Affrica:  ‘Paid â chwyno am y tywyllwch, goleua gannwyll’

Diolch i Dduw fod canhwyllau wedi, ac yn dal, i gael eu cynnau.

Dyna chi gannwyll  Marcus Rashford. Nid yn unig yn toddi calonnau caled, a llosgi’n ulw fwriadau llywodraeth, ond yn dod a gwirionedd pwysig i’r amlwg. 

                        “Edrychwch cymaint allwn ni wneud wrth weithio gyda’n gilydd

A dyna gannwyll Darryn Frost y gŵr  a fentrodd ei hun i ddal llofrudd Jack Merritt  a Siska Jones ar bont Llundain Rhagfyr y llynedd.  Flwyddyn yn union wedi’r digwyddiad, darlledwyd y cyfweliad cyntaf ag ef lle’r adleisiodd eiriau’r llythyr a adawodd i’r llofrudd ddyddiau wedi’r digwyddiad treisgar. 

Efallai y gallaf rywsut droi dy weithredoedd drwg i hyrwyddo cariad, caredigrwydd a thosturi. Yn olaf, rwy’n gadael rhosyn i ti, …….. wrth imi geisio bod mor dosturiol ag yr oedd Saskia a Jack, ond sylweddolaf fod gennyf dipyn o ffordd i fynd eto. Mae angen rhagolwg newydd, gytbwys, ar y byd yma, un yn rhydd o ofn. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiffodd casineb, yn union fel y gwnes i ar y bont hon. Byddaf yn ymdrechu i ddangos i ti, ac i’r byd, gobeithio, bŵer cariad. ”

Dyna chi dywynnu golau glân Iesu i ganol tywyllwch trais a chasineb.

Ac yn wyneb bygythiad y Canghellor i leihau Cymorth Tramor, peth digon syml i chi a fi fydd goleuo cannwyll drwy ysgrifennu at ein  Haelod Seneddol a’r Canghellor i wrthwynebu’r bwriad, ac arwyddo’r ddeiseb ar lein i geisio gwyrdroi penderfyniad sy’n mynd i ddiffodd y golau i ddegau a miloedd o’r  bobl fwyaf anghenus a bregus.

Medde Ioan am Iesu;  Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd.  Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. 

A fydd y tywyllwch ddim yn trechu chwaith, tra fod  yna rhywrai  yn dal ar gyfle i gynnau ambell gannwyll, ac ymroi i fyw ‘ fel plant goleuni,  oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd.

Mae un o ganeuon Garth Hewitt yn sôn am ‘Gynnau cannwyll yn y caddug‘, ac mae’n cloi fel hyn:

Cynnau gannwyll yn y caddug,
Dal ei fflam yn uwch o hyd
Fel bo golau cariad Iesu
Yn disgleirio dros y byd.

Dyna’r her o hyd. Er mor wahanol Nadolig eleni, gobeithio y bydd llewyrch y ‘gwir oleuni’ yn ysgogiad i ni gynnau canhwyllau bob cyfle gawn. 

Bendithion yr Wyl i chi i gyd.

e-fwletin 13 Rhagfyr 2020

NADOLIG LLAWEN!

Y Ffindir, Denmarc, Norwy, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd, Y Swistir, Sweden, Seland Newydd, Canada, Awstralia.  Beth sy’n nodedig am y rhestr hon, meddech chi?  Na, does a wnelo’r rhestr ddim â’r pandemig na chwaraeon o unrhyw fath ychwaith. Yn hytrach, rhestr yw hon, yn nhrefn blaenoriaeth, o’r deg gwlad mwyaf hapus yn y byd yn 2019!

Yn yr ail wlad ar y rhestr, Denmarc, mae amgueddfa newydd wedi’i sefydlu – Amgueddfa Hapusrwydd. Agorodd yn swyddogol ar 14 Gorffennaf 2020 yn Copenhagen. Adeg ryfedd i agor y fath le, meddech chi, gan fod cymaint yn y felan yng nghanol Covid-19!  Ar ben hynny, clywed rydyn ni’r dyddiau hyn am amgueddfeydd mewn trafferthion ariannol, yn hytrach nag yn agor o’r newydd. 

Y Sefydliad Ymchwil i Hapusrwydd ddechreuodd yr Amgueddfa. Sylfaenydd y sefydliad hwnnw yw Meik Wiking, awdur toreithiog  ac un sy’n ymchwilio’n fanwl i hapusrwydd, lles ac ansawdd bywyd.  Mae’r Sefydliad a’r Amgueddfa’n rhoi cyfle i bobl o bob oedran a chefndir ddysgu mwy am hanfod hapusrwydd a lles. Y prif nod yw astudio pam mae rhai cymdeithasau’n fwy hapus na’i gilydd er mwyn ceisio ysgogi newid gwleidyddol a chymdeithasol.

Mae gweithgarwch yr Amgueddfa Hapusrwydd yn cynnig llygedyn o obaith i lawer yng nghanol düwch ein dyddiau! Mae’n siŵr y bydden ni i gyd yn cytuno â Wiking fod angen mwy o hapusrwydd yn ein byd. Mae’n nod i ni i gyd, ddywedwn i.

Mae cynnal hapusrwydd yn ystod pandemig yn dipyn o her a bu un pennaeth ysgol yn ceisio gwneud hynny drwy wisgo gwisg chwyddadwy gwahanol, fel llew, dinosor a roced, ar gyfer cynulliad yr ysgol ar-lein bob bore Llun!  Marciau llawn am ddyfeisgarwch!

Yn anffodus, fodd bynnag, byr yw oes hapusrwydd. Er gwaethaf ambell gimig ac ymdrechion Wiking ac eraill, dyw hapusrwydd ddim yn rhywbeth sy’n para am byth. Mae wedi’i sylfaenu ar ddigwyddiadau. Os yw pethau’n mynd yn dda, yna rydyn ni’n hapus. Ar y llaw arall, os oes rhywbeth drwg yn digwydd i ni, yna mae’n hapusrwydd yn debygol o ddiflannu, Rhywbeth dros dro yw hapusrwydd. Mae’n wahanol iawn i lawenydd sy’n tarddu o ffynhonnell wahanol.  Rydyn ni’n gallu cael llawenydd a bod yn hapus ond allwn ni ddim bod yn hapus heb lawenydd.

Dyw’r Beibl ddim yn addo hapusrwydd ond mae’n addo llawenydd. Ffrwyth yr Ysbryd Glân yw llawenydd ac mae’n llawer dyfnach na hapusrwydd. A thrwy droi at Dduw yn Iesu yn unig y down i brofi gwir lawenydd. Ac wrth brofi’r llawenydd hwnnw y down yn genhedloedd a phobl wirioneddol hapus.

Gŵyl o lawenydd yw’r Nadolig – y llawenydd a ddaw o adnabod Duw drwy Iesu’r Meseia, y llawenydd o wybod fod Duw gyda ni hyd byth a’r llawenydd sy’n gallu bod yn eiddo i ni’n rhad ac am ddim. Mae’r llawenydd hwn yn dragwyddol ac yn dyfnhau wrth i ni droi at ein Gwaredwr a dathlu popeth a wnaeth drosom.  Diolchwn nad yw’r llawenydd hwn yn ein gadael, hyd yn oed os nad ydym bob amser yn teimlo’n hapus. 

E-fwletin 6 Rhagfyr 2020

Dwi erioed wedi dweud wrth neb eu bod nhw’n bechadur. Ond mae sawl un wedi fy nghyhuddo i o hynny i’n wyneb a llawer rhagor i nghefn i siŵr o fod. Ond, rhywsut, fyddai gen i mo’r wyneb i ddod i gasgliad o’r fath am rywun arall, yn sicr nid o blith fy nghydnabod o ddydd i ddydd. Nid fy lle i yw eu barnu nhw, does bosibl? Ond mae rhai yn gyfforddus yn gwneud hynny.

Wna’i adael y drafodaeth ddiwinyddol i rywun arall. Dwi’n hapusach yn ceisio dirnad sut mae hyn i gyd yn gweithio ar lefel ddynol. Ar lefel geiriau, iaith, ieithwedd a iaith corff.

Mae’n nhw’n dweud i mi bod hyder yn beth atyniadol, a bod credu eich bod yn rhywiol, yn llwyddiannus, yn ddeallus, neu jyst yn ‘iawn’ … yn cyfrannu llawer at lwyddiant yn y byd sydd ohoni. A dichon nad yw hynny’n wir mewn cylchoedd crefyddol fel pob cylch arall.

Mae gallu rhoi’r argraff honno eich bod yn Gwybod yr Ateb yn beth braf. Mae’n beth amheuthun bod eich dealltwriaeth chi y tu hwnt i ddealltwriaeth neb arall ac yn sicr y tu hwnt i amheuaeth. Yr hyder hwnnw a ddysgir mewn ysgolion fel Eton. Dichon nad oes yna ryw ysgolion Sul tebyg yn rhywle sy’n dysgu hyder rhyfeddol i ‘ddynion’. Dychmyger lled orweddian mewn sêt fawr yn tywynnu rhyw hawl cynhenid fel Jacob Rees Mogg yn Nhŷ’r Cyffredin?

Efallai y byddech chi’n dysgu i gyhuddo’r werin gyffredin o drin crefydd fel ‘pick and mix’ tra bod Traddodiad ar eich ochr chi, achos eich bod chi a’ch cyndeidiau Wastad wedi bod yn Iawn – byth ers Y Pwyllgor yn 1689. A chyn i’r werin datws fedru mentro’ch cyhuddo o’r un peth byddai rhaid iddyn nhw gyfaddef na wyddon nhw ddim am Y Pwyllgor yn 1689, bod 1689 yn bell yn ôl a bod 1689 yn bell iawn, iawn ar ôl dyddiau Iesu Grist.

Bron nad yw’r rhai hynny sy’n credu bod gwyleidd-dra yn rhan hanfodol o’u cred (neu eu gwleidyddiaeth, neu eu personoliaeth), dan anfantais o’r cychwyn yn deg. Sut mae ateb byddin y Siwtiau Slic, y Priflythrennau, y Pwyntiau Bwled a’r Datganiadau Absoliwt gyda dadleuon troednoeth ac amheuon yn fyddin liwgar ac anhrefnus y tu ôl i chi?

Efallai ei fod o yn ein DNA ni i fod yn llais yn yr anialwch fel mae hi bron yn anorfod bod Llafur ac eraill yn wrthbleidiau yn y Tŷ hwnnw sy’n hanner llawn o bobl gyffredin.
Ond lle mae pethau’n mynd yn ddyrys i mi ydy pan dwi’n dechrau meddwl. Go brin y byddai Crist wedi ymddwyn fel rhain. Unwaith yn unig y collodd o’i limpyn, roedd o’n anghyfforddus o flaen y miloedd a chilio o’u plith nhw oedd ei reddf o. Roedd ei fyddin o’n flêr, yn amheus ac yn llawn amheuwyr. Nid llais Awdurdod oedd ei lais o ond adlais i’r gwrthwyneb.

Felly os ydw i’n meddwl hyn a ydw i mewn gwirionedd yn credu fod pobl sy’n ymddwyn i’r gwrthwyneb yn annhebyg i Grist, yn anghristnogol, yn bechaduriaid? Na, dwi rioed wedi galw neb yn bechadur.

Eto, ella dylwn i … Ond fiw i mi roi fy enw wrth y cyfraniad yma, a dwi’m hyd yn oed yn tynnu neb penodol i mhen … dim ond gadael i chi ddilyn eich trywydd eich hun … <https://bit.ly/3qtjqyK>

E-fwletin 29 Tachwedd

Drama’r Nadolig?

Ddwywaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf rwy wedi clywed pobl yn sôn am eu siom am na fydd plant yr Ysgol Sul eleni yn gallu cyflwyno ‘Hanes y Nadolig’.       Eu terminoleg oedd yn peri syndod i mi, nid eu siom.   Rwy wedi clywed am ‘ddrama’r geni’ a ‘stori’r Nadolig’ – ond ddim erioed cyn hyn wedi clywed am ‘Hanes y Nadolig’.  

Mae hi’n sicr yn ddrama, ac yn un o epics y ddynoliaeth.  Mae hi wedi cyfareddu’n dychymyg yn flynyddol.  Mae hi hefyd yn stori ryfeddol ar gymaint o haenau………..ond ‘hanes’?  Y gwir yw, nid yw’n deg cyfeirio ati fel ‘hanes’ na chwaith fel ‘stori’. 

Wedi croesholiad Crist tua’r flwyddyn 30, fe basiodd chwarter canrif cyn i’r ysgrifau Cristnogol cyntaf ddechrau ymddangos.   Y cyntaf oedd rhai o lythyrau Paul…….a does dim cyfeiriad yn rheiny at angylion, doethion, bugeiliaid na geni gwyrthiol. 

Yr efengyl gyntaf i gael ei hysgrifennu oedd un Marc, tua’r flwyddyn 70.  Does dim sôn yn Marc am stori’r nadolig,  a does dim unrhyw sylw am Iesu gan Marc nes iddo ddechrau ei waith tua 30 oed.

Ysgrifennwyd y 3 efengyl arall rhwng llunio Marc, a diwedd y ganrif gyntaf, a’r gred yw fod yr awduron eraill wedi gwybod am sgript Marc.  

Cofnodir geni Iesu,  yn  Luc  a Mathew – y ddwy efengyl nesaf i gael eu hysgrifennu.    Yr efengyl olaf i gael ei llunio oedd Ioan, bron i 70 mlynedd wedi’r croesholiad.  Mae Ioan eto yn hepgor stori’r geni, ond yn cychwyn gyda’r bennod anfarwol am ddirgelwch y dechreuad a’r Gair. 

Felly, dwy o’r efengylau yn unig sy’n cario stori’r geni o gwbl.  Ac o fewn y ddwy mae naratif sylweddol wahanol.  

Mae Mathew yn cyflwyno geni Iesu mewn termau tebyg i eni Moses, ac yn nhermau cyflawniad geiriau hen broffwydi Israel.   Roedd y Pharo am ladd pob plentyn i’r Hebreaid yn yr Aifft, mae Herod am wneud hynny i bob Iddew bach yn ardal Bethlehem.    Mae Mathew o’r cychwyn yn dymuno i bobl weld Iesu yn llinach Moses, ac i bobl ei ddilyn ef i rhyddhad, fel y gwnaeth Moses i’w bobl o’r Aifft.  Mae Mathew hyd yn oed yn gosod yn y stori fod Mair a Joseff wedi ffoi gyda’r babi i’r Aifft er mwyn tanlinellu’r cyswllt.  Gosodir Iesu ar bedestal arall gan Mathew achos yn ei stori ef y daeth y sêr-ddewiniaid o’r dwyrain, sy’n rhoi diddordeb yn a statws i’r babi y tu allan i gymdeithas yr Iddewon, ac hyd yn oed bod sêr y cosmos yn hapus i ail-drefnu eu orbit er mwyn arwain y sêr ddewiniaid at y preseb. 

Mae Luc ar y llaw arall yn llunio ei stori i ddangos Iesu mewn goleuni gwahanol.  Y fam dlawd ddistadl sy’n rhoi genedigaeth, a’i gwlad dan ormes tramor Cesar Awgwstws, yr ymerawdwr Rhufeinig.  Bugeiliaid tlawd lleol sy’n dod i dalu gwrogaeth i’r Iesu. Trwy gydol efengyl Luc, mae’r Iesu yn ffrind i’r tlodion a’r rhai dan anfantais.   Y llinyn euraidd yw mai negeseuydd angylaidd rhoddodd wybod i Mair am ei beichiogrwydd, ac hefyd i’r bugeiliaid er mwyn iddyn nhw fynd i weld y babi hwn.  Wedi’r stori honno, a’i enwaediad yn 8 niwrnod oed, mae Luc yn sôn nesaf am Iesu’n 12 oed – yn cael ei gyflwyno yn y deml.   Hanes Iddewig a lleol sydd i’r plentyn hwn.

Felly, nid hanes na stori sydd yma, ond storîau sy’n dra gwahanol eu pwrpasau a’u grym, â’r ddwy wedi cyfareddu dychymyg pobl dros ddau fileniwm cyfan.     Mae eu gweld fel ‘hanes’ yn dibrisio’r grym hwn, a’u negeseuau canolog.    Boed i’r adfent hwn fod yn un o gyffro i chi, wrth i ni weld bywyd Iesu o Nasareth fel un perthnasol i’r bugail a’r brenin, y doethion a’r distadl.  Boed i haenau bwriadol yr efengylau siarad gyda ni gyd fel storiau cyfoethog di-amser.  Efallai, yn y diwedd, byddwch chi fel fi jyst yn falch o allu ymlacio gyda Ioan a gweld y cyfan fel dirgelwch pur…….

“Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.”

E-fwletin 22 Tachwedd 2020

Pwy yw fy nghymydog?

Beth ydyn ni’n ei feddwl o’n cymdogion? A beth maen nhw’n ei feddwl ohonon ni? O ran hil, crefydd a mewnfudo, er enghraifft, pa faterion sy’n ein rhannu a beth sy’n ein clymu at ein gilydd?

Dyma rai o’r cwestiynau y mae astudiaeth arbennig a gynhaliwyd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi ceisio’u hateb. Gwnaed yr astudiaeth gan yr Woolf Institute yng Nghaergrawnt a sefydlwyd yn 1998 i ymchwilio a cheisio deall y berthynas rhwng Cristnogion, Iddewon a Mwslimiaid. Ac yn ôl yr adroddiad How We Get Along, a gyhoeddwyd yr wythnos hon ac sy’n crynhoi casgliadau’r gwaith, mae rhagfarn ar sail crefydd yn gryfach na rhagfarn ar sail hil.

Mewn arolwg o 11,700 o bobl yng Nghymru a Lloegr, gwelwyd bod y rhan fwyaf o bobl yn oddefgar tuag at rai o gefndiroedd ethnig gwahanol neu o genhedloedd eraill, ond fod gan lawer o bobl agweddau negyddol ar sail crefydd.

Mae hyn yn arbennig o wir yn achos Mwslimiaid. Nhw oedd yn fwyaf tebygol o gael agweddau negyddol tuag at bobl o grefyddau eraill, a nhw hefyd oedd yn fwyaf tebygol o ddioddef agweddau negyddol gan grwpiau ffydd eraill.

Canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar gwestiwn priodas gymysg fel ffordd o fesur goddefgarwch a rhagfarn. Yn gyffredinol, roedd yr agweddau tuag at briodasau cymysg rhwng pobl o grwpiau ethnig a chenhedloedd gwahanol yn rhai cadarnhaol. Ond roedd y gair ‘Mwslim’ yn ennyn teimladau mwy negyddol na’r gair ‘Pacistani’, er bod y rhan fwyaf o Bacistaniaid Cymru a Lloegr yn Fwslimiaid.

Pobl dros 75 oed, y rhai heb fawr o gymwysterau addysgol, pobl o grwpiau ethnig nad oedd yn Asiaidd, a Bedyddwyr, oedd yn dangos y rhagfarn fwyaf ar sail crefydd. Ac mae dynion fel petaen nhw’n fwy anghyfforddus â’r syniad fod perthynas agos yn priodi rhywun o gefndir ethnig, o genedl neu o grefydd wahanol.

Yn gyffredinol hefyd, roedd agweddau’r Cymry a phobl gogledd Lloegr tuag at amrywiaeth yn fwy rhagfarnllyd na phobl sy’n byw yn ardal Llundain.

Ystrydeb bellach yw dweud bod y bleidlais o blaid Brecsit fel petai wedi agor cil y drws i alluogi rhai pobl i fynegi rhagfarnau hyll a di-sail yn erbyn sawl carfan o gymdeithas, ac mae diffyg goddefgarwch a pharch at eraill hefyd i’w weld mewn bywyd cyhoeddus, er enghraifft yn yr honiadau o fwlio a brofwyd yn erbyn un o weinidogion llywodraeth Llundain yr wythnos hon.

Gall hyn i gyd wneud i rywun deimlo mor ddiymadferth a di-rym, felly beth allwn ni fel unigolion cyffredin ei wneud yn wyneb hyn oll?

A mynd yn ôl at adroddiad yr Woolf Institute, efallai y dylem i gyd ddechrau wrth ein traed, ac ystyried sut rydyn ni’n dod ymlaen gyda’n cymdogion. Yydyn ni’n euog o fod yn anoddefgar a rhagfarnllyd – ar sail hil neu’n fwyaf arbennig ar sail crefydd, neu ar sail enwad, hyd yn oed?

Gellir darllen yr adroddiad cyflawn – How We Get Along: The Diversity Study of England and Wales 2020 ar wefan y Woolf Institute: https://www.woolf.cam.ac.uk/research/projects/diversity

 

E-fwletin 15 Tachwedd 2020

Amrywiaeth

‘Amrywiaeth’ – ‘diversity’  – yw un o eiriau mawr y funud; cydnabyddiaeth nad yr un yw pob copa walltog, ond galwad hefyd i barchu gwahaniaethau. I ran helaeth o bobl y byd, ond nid i bawb, un Duw sydd ond y mae gwahaniaethau dybryd yn y modd yr anrhydeddir y Duw hwnnw, gwahaniaethau a fu’n achos gwrthdaro a brwydro hyd  at waed ddoe a heddiw. Daw hyn i’r amlwg yn y gwrthdaro gwaedlyd ar brydiau rhwng crefydd Islam a’r grefydd Gristnogol, gwrthdaro sy’n groes i rai o egwyddorion sylfaenol y ddwy grefydd fel ei gilydd. Un Duw ond dwy olwg ar hynny. Ac y mae gwahaniaethau o ran dull o addoli a chyfundrefnu wedi bod yn gymaint o sail i hunaniaeth ag yw iaith nes bod crefydd a gwleidyddiaeth wedi cydblethu’n anochel.  

Mae dylanwad gwahaniaethau o fewn y grefydd Gristnogol ei hun yn drwm ar ein hunaniaeth ninnau fel Cymry, o oes y saint hyd heddiw. Y mae crefydd wedi pennu pwy yw ein harwyr a pha ddarlun o’r gorffennol yr ydym yn ei dderbyn a’i drosglwyddo. Mae’r holl lannau sy’n enwau ar ein trefi a’n pentrefi yn cyhoeddi mai Cristnogion yw – neu a fu’r – Cymry, ac enwau fel Bethesda, Saron, Nasareth a Biwla’n dangos goruchafiaeth Cristnogaeth efengylaidd, ymneilltuol, anghydffurfiol o fewn ein tirlun ffisegol a meddyliol. I raddau helaeth mae ein syniad amdanom ni ein hunain o hyd – ein hunaniaeth yn yr unfed ganrif ar hugain – yn seiliedig ar yr hyn fu’n ymneilltuol dderbyniol, y farn, neu’n hytrach y rhagfarn, mai Cymry’r capel, Cymry ‘Buchedd A’, yw’r ‘gwir Gymry’ a naw wfft i bawb arall.

Canlyniad hyn yw mai dewisol yw ein syniad o hanes. Daeth hyn i’r amlwg i mi yn ddiweddar wrth fynd trwy bapurau fy nhad a gweld cyfeiriad at un o arwresau mamgu, sef Morfudd Eryri. Arwres iddi hi, efallai, ond rhaid i mi gyfaddef na chlywais i erioed amdani. Dyma arwres a anghofiwyd i bob pwrpas. Mynd ati wedyn i chwilota, a chael ei bod yn wraig hynod o ddiddorol. Saesnes o’r enw Anna Fison (1839-1920) oedd hi o dras ond, yn ôl ei geiriau ei hun, yn ‘Gymraes o galon’. Ymddiddorai mewn ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg, priododd â Chymro, Walter Thomas, a dod gydag ef i Fethesda pan wnaed ef yn ficer Eglwys Santes Ann. Yno daeth yn gwbl rugl yn y Gymraeg, gan ymddiddori yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn rhan o’r mudiad i’w diwygio ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.   Ar ben hynny, yr oedd ganddi diddordeb arbennig mewn addysgu chwarelwyr ac addysgu yn y Gymraeg pan oedd y defnydd o’r iaith Saesneg yn dod fwyfwy i’r amlwg ym myd addysg Cymru. Bu ei mab, wedyn, Evan Lorimer Thomas (1872-1953), yn Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan o 1903-1915, ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yno ymhlith myfyrwyr. Dyma deulu arwrol, heb os, o safbwynt hybu’r Gymraeg.

Pam, felly, nad yw enwau’r rhain yn amlwg yn ein cof? Ai am mai eglwyswyr oeddynt ac felly y tu allan i’r teulu ymmneilltuol; ac ar ben hynny o eglwys Santes Ann yn ardal Bethesda a gysylltwyd â’r rhai a dorrodd y Streic Fawr yn y Penrhyn? Dyma rywbeth sy’n groes i’r darlun arferol o Seisnigrwydd yr Anglicaniaid. Ai dyma pam yr ysgubwyd hwy o’r syniad ‘swyddogol’, ymneilltuol o’n hunaniaeth fel Cymry? Ie, gall enwadaeth fod  yn beth tra pheryglus hyd yn oed yn y cyd-destun Cymreig. Gadewch i ninnau, felly, unioni hynny trwy fod yn fwy cynhwysol, ac achlesu ‘amrywiaeth’ yn ein plith ein hunain.