E-fwletin 10 Ionawr, 2021

Câr dy gymydog

Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn America y dyddiau diwethaf hyn wedi peri tristwch i bawb ohonom. Fe gawsom ein syfrdanu gan mor hawdd y bu hi i’r dyrfa orlifo i mewn i’r Senedd-dy. Ond diffygion yr heddlu a’r lluoedd diogelwch fu’n gyfrifol am hynny. Beth oedd yn ddigri i mi oedd clywed Americanwyr yn sôn am y terfysgwyr yn halogi cysegr santeiddiolaf democratiaeth! Ni fyddai neb yng ngweddill y byd yn ystyried fod system lywodraethol yr Unol Daleithiau yn esiampl dda o ddemocratiaeth, pan na all neb ond ychydig gyfoethogion ystyried bod yn ymgeiswyr seneddol heb sôn am ymgeisio am yr Arlywyddiaeth. Plutocratiaeth yw’r system wleidyddol yn America, lle mae doleri’n prynu hysbysebion a phleidleisiau.

Ond yr hyn oedd yn drist i ni oedd cael gweld unwaith eto beth yw natur tyrfa. Mae hi’n hawdd ei harwain a’i thwyllo. Fe gredai’r mwyafrif o’r dorf yna y celwyddau am dwyll etholiadol, a chael eu llygad-dynnu gan unben Mae torf hefyd yn anghyfrifol o dreisgar. O fewn ychydig oriau fe gollwyd bywydau yn y terfysg. Ond y mae tyrfa hefyd yn wamal ei theyrngarwch. Trump yw ei harwr heddiw: pwy tybed fydd arwr yfory? Fel y gwelodd Iesu fe all tyrfa floeddio Hosana i Fab Dafydd un diwrnod, ac ymhen rhai dyddiau bleidleisio i Barabas.

Byddai Iesu bob amser yn osgoi tyrfa. Ym mhennod gynta’r Bregeth ar y Mynydd fe ddywedir “Pan welodd Iesu y tyrfaoedd esgynnodd i’r mynydd.” Ffoi oddi wrth dyrfa wnâi Iesu bob tro. Gwell ganddo ef oedd cwmni’r deuddeg. Yn wir ar brydiau arbennig byddai’n well ganddo gwmni tri.

Yn nyddiau argyfwng yr haint hwn bydd llawer ohonom yn arswydo wrth feddwl fod capeli Cymru yn gweld ffarwelio am byth â’r cynulleidfaoedd lluosog.  Bydd y  pla hwn yn achos difodiant niferoedd o gynulleidfaoedd lleol. A byddwn yn eiddigeddu am Gristnogaeth rhai gwledydd dwyreiniol a’u heglwysi’n gyfoethog gan dyrfaoedd o addolwyr. Ond nid y dorf yw cynefin Iesu.

Yng ngeiriau Waldo Williams,

Mae rhwydwaith dirgel Duw
yn cydio pob dyn byw;
cymod a chyflawn we
myfi, tydi, efe:

Cariad a chwlwm rhwng unigolion yw hanfod dysgeidiaeth Iesu. Fe all cyfnod dieithr y Cofid presennol fod yn gyfle gwych inni ddarganfod perthynas newydd a dwfn â’n gilydd fel  unigolion wrth weld angen ein cymydog. Byddwn yn clywed y dyddiau nesaf yma ddyfynnu rhifau yn eu miloedd, hyd yn oed eu miliynau,  a’r rheini y tu hwnt i’n hamgyffred ni. Ond pan glywn ni am gymydog neu gyfaill neu rywun annwyl yng nghanol ei wendid gan yr haint, dyna pryd y bydd y cyfle yn agor i ni.

Pwy a ŵyr na fydd ambell berthynas newydd rhwng aelwyd ac aelwyd yn cael ei ennyn gan oedfa zoom, ac efallai’n clymu calonnau cymwynasgar â’i gilydd.