E-fwletin 6 Rhagfyr 2020

Dwi erioed wedi dweud wrth neb eu bod nhw’n bechadur. Ond mae sawl un wedi fy nghyhuddo i o hynny i’n wyneb a llawer rhagor i nghefn i siŵr o fod. Ond, rhywsut, fyddai gen i mo’r wyneb i ddod i gasgliad o’r fath am rywun arall, yn sicr nid o blith fy nghydnabod o ddydd i ddydd. Nid fy lle i yw eu barnu nhw, does bosibl? Ond mae rhai yn gyfforddus yn gwneud hynny.

Wna’i adael y drafodaeth ddiwinyddol i rywun arall. Dwi’n hapusach yn ceisio dirnad sut mae hyn i gyd yn gweithio ar lefel ddynol. Ar lefel geiriau, iaith, ieithwedd a iaith corff.

Mae’n nhw’n dweud i mi bod hyder yn beth atyniadol, a bod credu eich bod yn rhywiol, yn llwyddiannus, yn ddeallus, neu jyst yn ‘iawn’ … yn cyfrannu llawer at lwyddiant yn y byd sydd ohoni. A dichon nad yw hynny’n wir mewn cylchoedd crefyddol fel pob cylch arall.

Mae gallu rhoi’r argraff honno eich bod yn Gwybod yr Ateb yn beth braf. Mae’n beth amheuthun bod eich dealltwriaeth chi y tu hwnt i ddealltwriaeth neb arall ac yn sicr y tu hwnt i amheuaeth. Yr hyder hwnnw a ddysgir mewn ysgolion fel Eton. Dichon nad oes yna ryw ysgolion Sul tebyg yn rhywle sy’n dysgu hyder rhyfeddol i ‘ddynion’. Dychmyger lled orweddian mewn sêt fawr yn tywynnu rhyw hawl cynhenid fel Jacob Rees Mogg yn Nhŷ’r Cyffredin?

Efallai y byddech chi’n dysgu i gyhuddo’r werin gyffredin o drin crefydd fel ‘pick and mix’ tra bod Traddodiad ar eich ochr chi, achos eich bod chi a’ch cyndeidiau Wastad wedi bod yn Iawn – byth ers Y Pwyllgor yn 1689. A chyn i’r werin datws fedru mentro’ch cyhuddo o’r un peth byddai rhaid iddyn nhw gyfaddef na wyddon nhw ddim am Y Pwyllgor yn 1689, bod 1689 yn bell yn ôl a bod 1689 yn bell iawn, iawn ar ôl dyddiau Iesu Grist.

Bron nad yw’r rhai hynny sy’n credu bod gwyleidd-dra yn rhan hanfodol o’u cred (neu eu gwleidyddiaeth, neu eu personoliaeth), dan anfantais o’r cychwyn yn deg. Sut mae ateb byddin y Siwtiau Slic, y Priflythrennau, y Pwyntiau Bwled a’r Datganiadau Absoliwt gyda dadleuon troednoeth ac amheuon yn fyddin liwgar ac anhrefnus y tu ôl i chi?

Efallai ei fod o yn ein DNA ni i fod yn llais yn yr anialwch fel mae hi bron yn anorfod bod Llafur ac eraill yn wrthbleidiau yn y Tŷ hwnnw sy’n hanner llawn o bobl gyffredin.
Ond lle mae pethau’n mynd yn ddyrys i mi ydy pan dwi’n dechrau meddwl. Go brin y byddai Crist wedi ymddwyn fel rhain. Unwaith yn unig y collodd o’i limpyn, roedd o’n anghyfforddus o flaen y miloedd a chilio o’u plith nhw oedd ei reddf o. Roedd ei fyddin o’n flêr, yn amheus ac yn llawn amheuwyr. Nid llais Awdurdod oedd ei lais o ond adlais i’r gwrthwyneb.

Felly os ydw i’n meddwl hyn a ydw i mewn gwirionedd yn credu fod pobl sy’n ymddwyn i’r gwrthwyneb yn annhebyg i Grist, yn anghristnogol, yn bechaduriaid? Na, dwi rioed wedi galw neb yn bechadur.

Eto, ella dylwn i … Ond fiw i mi roi fy enw wrth y cyfraniad yma, a dwi’m hyd yn oed yn tynnu neb penodol i mhen … dim ond gadael i chi ddilyn eich trywydd eich hun … <https://bit.ly/3qtjqyK>