Daw e-fwletin yr wythnos hon gan awdur o Washington DC.
Cwestiynau mewn argyfwng.
Mae ein hwyrion wrth eu boddau yn chwarae’r gêm “Cwestiynau”. Yr unig reol ydi fod rhaid i bob brawddeg mewn sgwrs fod yn gwestiwn. Erbyn hyn mae “pam ddylwn i ateb ?” yn un o’r atebion mwyaf poblogaidd!
Yn ystod cyfnod Cofid, ac yn arbennig yn dilyn Brexit, ac yn fwy diweddar byth, beth ddigwyddodd yn y Capitol yn Washington DC wythnos yn ôl, mae yna gwestiynau diri wedi bod yn troi a throi yn fy mhen. Mae’n siŵr fod yr un peth yn wir amdanoch chi hefyd. Beth ar wyneb y ddaear sydd wedi digwydd i ni? Pam na welsom ni hyn yn dod? Beth sydd o’i le ar bobl? Pam na wnaeth yr arweinwyr wneud y penderfyniadau i amddiffyn y bobl rhag y clefyd yma? Brexit? Yr Arlywydd yma? Y rhai oedd yn gwrthryfela yn DC? A oes rhaid maddau iddyn nhw? Beth ydi ystyr maddeuant yn y cyswllt yma? Wnes i wneud digon i fynegi fy marn? I wrthwynebu? I sefyll dros gyfiawnder? Mae yn siŵr fod gennych chithau lu o gwestiynau hefyd.
Does dim ateb digonol i ddim un o’r cwestiynau yma, ond mae’r broses o drio eu hateb wedi bod yn werthfawr ac yn bwysig i mi. Rydw i wedi sylweddoli mor bwysig ydi trio deall pwy ydw i, mewn modd na fu raid i mi wynebu o’r blaen. A pha fath o berson hoffwn i fod? Sut mae fy ffydd i yn dylanwadu arnaf, yn fy arwain?
Cyn i mi allu ateb y cwestiwn pam na wnaeth pobl eraill chwarae eu rhan rydw i wedi gorfod gofyn i mi fy hun- be’ wnes i? Wnes i fynegi fy marn yn glir? Wnes i ddigon? Allwn i fod wedi gwneud mwy? Neu oeddwn i yn un o’r bobl oedd yn iste ar yr ymylon, yn gwylio, ac o gadair gyfforddus yn twt-twtian?
Beth ydi maddeuant? A ydi hi yn bosib/iawn/ maddau os nad oes cyffesu bai hefyd ? Pa feiau ddylwn i eu cyffesu? Oes yna amodau i faddeuant? Sut mae gwlad yn maddau? Beth fyddai Iesu Grist yn ei wneud yn y sefyllfa? Beth mae o yn wneud? Ble welais ei neges yn fyw? Beth ydw i yn ei wneud yn ei enw?
Wrth bendroni’r holl gwestiynau daeth y Bregeth ar y Mynydd i’m hymwybod droeon i’m hatgoffa o rai a chanllawiau sylfaenol fy ffydd “Gwyn eu byd y rhai addfwyn…. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder… Gwyn eu byd y rhai trugarog, y pur o galon, y tangnefeddwyr….”