E-fwletin 24 Ionawr, 2021

Wel am wythnos!

‘Wythnos Weddi am Undod Cristnogol’, Wythnos Cofio Martin Luther King, Wythnos Sefydlu Arlywydd newydd America, Wythnos ffarwelio â Mr Trump a’r wythnos pryd y gorffennwyd y ‘gacen gwyliau’ (Nadolig i chi Ddeheuwyr)! Mae’n siŵr fod yna lawer i beth arall wedi digwydd rhwng yr eilfed ar bymtheg o Ionawr a’r trydydd ar hugain ond dyna fydd yn aros yn y cof. Er bod briwsionyn olaf cacen Nadolig yn destun siom i rywun sydd â dant melys ac yn symbolaidd, syml yn arwyddo bod ‘Gŵyl y Geni’ a’i fendithion drosodd unwaith eto, digwyddiad Ionawr yr 20fed fydd yn aros yn y cof.

Tydw i ddim yn wleidydd ac felly haerllugrwydd o’r mwyaf fyddai ceisio dadansoddi mewn manylder yr hyn ddigwyddodd yn Washington ac eto naturiol ydi bod rhywun yn cyfeirio at un neu ddau o bethau cyffredin, amlwg oedd yn rhan o’r seremoni honno a dim yn fwy na’r ymdeimlad o ryddhad. Mi ‘roedd hynny’n amlwg yn holl awyrgylch y digwyddiad, yn eiriau ac ystum a phwyslais, a’r ymdeimlad yna o ddechrau newydd gyda’i obaith a’i ryddid a’r ffarwel hir-ddisgwyliedig i bedair blynedd o lywodraethu oedd ar adegau yn hynod o anghredadwy a swreal. Wrth i ‘Airforce 1’ yn symbolaidd godi ei hadenydd i gerddoriaeth a geiriau awgrymog Frank Sinatra, ‘I did it my way!’, fe symudwyd ymlaen i seremoni urddasol a theimladwy, ac i bennod newydd.

Ymhlith holl elfennau’r seremoni honno, yn draddodiadol ac yn newydd fe fyddai’n wir dweud y bydd cyfraniad un yn aros yn y cof am amser, sef Amanda Gorman, merch ddwy ar hugain oed o Galiffornia, ‘Bardd Laureate’ yr Ieuenctid’, a’i cherdd sy’n dwyn y teitl ‘Y Bryn a Ddringwn’. Nid dyma’r lle i ddadansoddi’r gerdd honno, cerdd yn ôl Amanda ddaeth iddi’n rhwydd; ceisiwch gopi, Digon ydi nodi’r agoriad a’r diweddglo

“When day comes, we ask ourselves where we can find light in this never-ending 
shade?’...

We will rebuild, reconcile and recover in every known nook of our nation, in every 
corner called our country our people diverse and beautiful will emerge battered 
and beautiful. When day comes, we step out of the shade aflame and unafraid. 
The new dawn blooms as we free it. For there is always light. If only we’re brave 
enough to see it. If only we’re brave enough to be it’.

Mae Ionawr y seithfed ar hugain yn cael ei ddynodi yn ‘Ddiwrnod Cofio’r Holocost’, cyfle i gofio am y chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond hefyd realiti hil-laddiad; Darfur, Ruanda, Myanmar, Tseina i enwi ond ychydig. Thema’r diwrnod y flwyddyn yma ydi ‘Byddwch yn Oleuni yn y Tywyllwch’ ac fel is-themau fe geir y canlynol –

   (i)  Y mae tywyllwch yn ‘tynnu i mewn’ - tywyllwch ystumio a chasineb
  (ii)  Goleuni yng nghanol tywyllwch - yn llewyrchu i mewn i’r tywyllwch
 (iii)  Tywyllwch heddiw - hiliaeth a rhagfarn
 (iv) Bod yn oleuni yn y tywyllwch - ein cyfrifoldeb i fod yn oleuni

"For there is always light.  If only we’re brave enough to see it."

Gwahoddiad a her Amanda Gorman a her a chyfrifoldeb ein ffydd.  Ewch i wefan ‘Diwrnod Cofio’r Holocost’, darllenwch a myfyriwch.

Fe gaiff yr Iesu’r gair olaf – “Myfi yw goleuni’r byd…..Chwi yw goleuni’r byd’.