Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Mehefin 9,2014

E-fwletin Mehefin 9ed. 2014

A Oes Pentecost?

Ddydd Sadwrn 7fed Mehefin, yng Nghanolfan y Morlan Aberystwyth, cynhaliwyd cynhadledd i drafod rhyfel a heddwch yng nghwmni’r gwleidydd, Jill Evans; y cyn uwch gaplan yn y fyddin, Aled Huw Thomas; yr ysgolhaig, Ken Booth; a’r gweinidog, Guto Prys  ap Gwynfor. Cynhaliwyd y gynhadledd yn dilyn diwrnod o seremonïau i goffáu 70 mlwyddiant glaniadau D-Day yn Normandi, sef rhai o gyrchoedd pwysicaf yr Ail Ryfel Byd. Priodol felly yn dilyn y cofio oedd holi’r cwestiwn yn y gynhadledd, A Oes Heddwch? 

Roedd hi’n ddiwrnod ardderchog a phob un o’r siaradwyr yn codi cwestiynau pwysig o safbwyntiau gwahanol. Mawr yw’n diolch i’r enwadau a’r mudiadau a ddaeth at ei gilydd i drefnu’r cyfan. Mae angen digwyddiadau cyson fel y rhain i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith fel Cristnogion wrth i ni geisio adeiladu byd o heddwch, gan y gwyddom nad rhywbeth sydd yn digwydd heb unrhyw fath o ymdrech ac ymroddiad yw heddwch ond bod yn rhaid wrth fwriad, ewyllys a phenderfyniad.

Ond y cwestiwn sy’n codi’n benodol ar un o wyliau mwyaf arwyddocaol y calendr Cristnogol yw: A Oes Pentecost? Ac a oes yna unrhyw fath o fwriad, ewyllys a phenderfyniad yn deillio o’n Pentecost ni eleni?

Mae stori’r Pentecost yn un ryfedd iawn. Yn ôl rhai dyma’r diwrnod y gwaeddodd Duw ar y greadigaeth gan roi’r oes newydd yn nwylo dyn ar waith yn ein byd.  Mae’r Ŵyl, sy’n syrthio ar yr hanner canfed diwrnod wedi’r Pasg, yn nodi diwrnod geni’r eglwys drwy dywalltiad nerthol o’r Ysbryd Glân. Mae’r hyn sy’n digwydd yn barhad o’r hyn a ddigwyddodd i’r disgyblion wedi i’r Iesu esgyn i’r nefoedd a Luc yw’r unig un o’r pedwar efengylydd sy’n adrodd yr hanes. Wrth gwrs, ceir digon o sôn am yr Ysbryd yn y Beibl cyn hynny ond dyma’r diwrnod y cynhyrfwyd y disgyblion i sefyll ar eu traed eu hunain ac i roi’r oes newydd ar waith yng ngrym yr Ysbryd.

Mae yna rai sy’n dyheu am dywalltiad eto o’r Ysbryd a fydd yn rhwystro’r dirywiad a’r trai a welir ar lawr gwlad ac yn adfer ein heglwysi i ogoniant y gorffennol. Yn hytrach na dyheu am oes sydd wedi hen ddiflannu cawn ein herio heddiw i ddeisyf ysbryd y Pentecost i’n grymuso a’n cynhyrfu o’r newydd fel y gallwn sefyll ar ein traed ein hunain a hyrwyddo gwerthoedd yr oes newydd gyda bwriad, ewyllys a phenderfyniad.

 

Ni wnawn eich atgoffa o’r Gynhadledd Flynyddol yr wythnos hon ! Fe ddaw cyfle eto. Ond brysiwch i gofrestru.

 

E-fwletin Mehefin 2, 2014

E-fwletin Mehefin 2, 2014

Cyfarchion ar drothwy’r Pentecost.

Wrth ddiffinio rhywbeth yn ôl ei ymyl, mae rhaid dewis. Mi fyddwch chi’n dod wyneb yn wyneb â chlawdd. Os am chwilio ymhellach bydd raid i chi chwilio am y porth.

Dyw hi ddim yn hawdd mynd drwy’r porth, chwaith. Efallai bydd rhaid i chi  blygu’n go isel. Mae’n bosib, hyd yn oed, i chi gael eich gwrthod. Mae yna reolaeth. Fel arall does fawr o bwrpas i ni fod tu mewn a hwythau y tu allan.

Os lwyddwch i fynd drwy’r porth, mi fyddwch chi wedi ‘cyrraedd’. Mi fyddwch chi ‘i mewn!’ Mae na ddigon o le i bawb, wrth gwrs, ag eto mae na rai tu allan o hyd. Pwy sy’n rheoli? Pwy sy’n cerdded yn ôl a blaen ar hyd y clawdd? Pwy sydd yn creu a chadw’r du a’r gwyn?

Sut le sydd tu mewn? Wrth fynd drwy’r porth fe ddowch i’r ymyl prysur cecrus. Yma mae’r dadlau am fân wahaniaethau. Yma caiff y mintys ei ddegymu. O bryd i’w gilydd, cewch gip ar y canol llonydd tu hwnt. Mae cryn bellter i’w weld rhwng yr ymyl swnllyd a’r canol distaw, ond mae’n dda gwybod ei fod yno.

Am funud bach! Draw fancw mae ‘na glawdd arall!

Ar y llaw arall, wrth ddiffino rhywbeth yn ôl ei ganol, mae’n dirwedd gwahanol. Does dim ymyl. Does dim ‘ni a nhw’, ‘du a gwyn’. Mae pawb yn medru dod at y goelcerth. Yr hyn sydd yn ein diffinio yw ein agosrwydd at y gwres a’n gogwydd tuag at y goleuni. Ambell un yn agos, eraill ymhell. Rhai yn wynebu’r goleuni, ac eraill a’u cefnau ato. Pobl yn aml yn galw heibio ar lwybr crwydrol dolennog, yn dod at y tân, cyn cilio a cheisio eto o gyfeiriad gwahanol.

Neu, o leia, dyna sut ydw i’n i gweld hi. Beth ddwedi di?

 

Ar y botwm ‘Erthyglau’  mae darlith â draddodwyd yn ddiweddar gan John Gwilym Jones ym Mhrifysgol Aberystwyth. Teitl y ddarlith yw ‘Gwyddoniaeth a Chrefydd’ ac y mae Cristnogaeth 21 yn falch o fod y cyntaf i’w chyhoeddi.

Fe fydd Cathrin Daniel, Catrin Haf Williams a Tecwyn Ifan ‘gyda’i gilydd yn yr un lle.’ Fyddwch chi yno ?

E-fwletin Mai 26ain

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Mai 26ain

Mae nifer o fy ffrindiau yn “anffyddwyr”. Dwi’n rhoi’r gair mewn dyfynodau, oherwydd mai cyfeirio ydw i at yr hyn y mae nhw’n galw eu hunain; does na ddim, yn aml iawn, ronyn o dystiolaeth o’u diffyg ffydd. Dydi dadlau nad oes yna Dduw ddim yn medru gwadu presenoldeb y Dwyfol yn ein bywydau. Dydi galw crefydd yn gyfres o straeon tylwyth teg ddim yn dirymu’r hanfod gwydn. Mae angen mwy o angerdd a rheswm Nietzsche arnyn nhw i wneud hynny. Dim ond gwadu mae “anffyddwyr” cyfoes yn llwyddo i’w wneud ar y cyfan, gan nad yw hi’n bosib profi negydd.

Newidiodd cymdeithas yn ein cenhedlaeth ni. Daeth yn fyd plwyfol, clos a phawb yn byseddu’r un iaith i’w teclynnau torfol ar bum cyfandir.  Torrodd y ‘fi’ fawr ryngwaldol ar draws yr hen batrymau lleol bregus. Culhaodd ein perthynas â’r byd o’n cwmpas i’n teulu clos, y sgrîn lydan a’r band eang. Dim ond rhif ydan ni bellach i’r cwmnïau sydd yn darparu ein dwr a’n trydan a’n bwyd a’n bara beunyddiol, hyd yn oed.

Pa ryfedd i ni ostwng ein parch at werthoedd cymdeithas. Os nad ydi hwn yn plesio – clic ar y botwm, a dyna un arall – clic, clic, clic.  Os nad ydw i – y fi fawr – yn medru gweld synnwyr mewn syniad, yna – clic!

Mae’r defnydd o’r gair ‘anffyddiwr’ yn nodwedd sy’n perthyn i unigolyn a’u byd a’u buchedd. Mae’n deillio yn aml o adwaith i fagwraeth dan gysgod crefydd gul. Gwrthod yn unigol mae anffyddiwr, a’r gwrthwyneb, hyd y gwela i, yw cyd-chwilio.

Neu, o leia, dyna sut ydw i’n i gweld hi. Beth ddwedi di?

 

Mae manylion ein cynhadledd i’w gweld ar y wefan erbyn hyn, ynghyd a ffurflen gofrestru. Cofiwch ddau beth o leiaf : rhaid cofrestru er mwyn sicrhau bwyd – a chofrestru mewn pryd! A’r ail beth ? Soniwch wrth eraill a chyfeiriwch hwy i’r wefan. Dyma’r tro cyntaf i’r Gynhadledd fod yn y De Orllewin ac o dri lleoliad posibl eleni, Caerfyrddin a enillodd !

 

E-fwletin Mai 19eg

Cristnogaeth 21 E-fwletin Mai 19eg

Cymwysterau pensaer sydd gen i, ac fel pensaer y bum yn ennill fy mara beunyddiol dros y rhan fwyaf or deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae pensaernïaeth yn broffesiwn diddorol. Daw rhywun i ofyn eich barn ynglyn a sut i ddarparu mwy neu well gofod mewn adeilad, ond yn amlach na pheidio mae nhw’n gwybod yn well na chi pan fentrwch chi roi ateb.

Mae rhaid i bensaer, felly, ddysgu yn gynnar iawn yn ei yrfa, sut mae gwahaniaethu rhwng yr hyn mae’r cleient yn gofyn amdano a’r hyn sydd arno’i angen. Ai dyma sydd angen arnyn nhw, neu ai dyma’r hyn y mae nhw’n meddwl y dylen nhw ofyn amdano?

Mae hwn yn batrwm lled gyffredin, wrth gwrs – yn arbennig ym myd ffasiwn (ac nid dim ond dillad). Am beth ydw i yn chwilio? Am beth ydw i’n meddwl y dylwn i fod yn chwilio? Ydi’r ymchwil wedi treiddio i’r dyfnder hwnnw lle mai dim ond gofynion y sefyllfa benodol honno sydd yn cyfri? Ydw i wedi ceisio’n ddigon caled i gyrraedd lle nad oes unman i guddio – dim twyll, dim deuoliaeth – er mwyn cael wynebu’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd? Ydw i’n ceisio ymgyrraedd am y gwirionedd hynny sydd tu hwnt i eiriau?

Dach chi’n gwybod be sy gen’i? Chwilio am y lle hwnnw o ble mae’r môr goleuni yn ymrolio. Tarddiad llewyrch yr haul sydd tu hwnt i’r haul.

Addoli.

Neu, o leia, dyna sut ydw i’n ei gweld hi. Beth ddwedi di?

 

Beth am annog ffrindiau i dderbyn yr E-fwletin yn uniongyrchol neu ei ddarllen ar y wefan www.cristnogaeth21.org. Mae nifer gynyddol yn ei werthfawrogi o wythnos i wythnos. A ydych wedi rhoi ‘Y Gynhadledd’ yn eich dyddiadur desg neu electroneg ar y dydd Sadwrn Gorffennaf 12ed ?

E-fwletin Mai 12

Annwyl Selogion Cristnogaeth 21,

Yr wythnos hon, bydd S4C yn cynnal wythnos o raglenni am iechyd meddwl gyda chymorth Amser i Newid Cymru– yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am salwch meddwl yng Nghymru heddiw.Mae’n benderfyniad clodwiw o gofio bod peth o’r ymchwil cychwynnol yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl yn broblem gynyddol ymhlith Cymry Cymraeg bellach.

Mewn oes mor unigolyddol â hon, y duedd yw ystyried problemau iechyd meddwl yn nhermau  yr unigolion eu hunain yn unig. Yn eironig, mae’r diwydiant “helpu’r hunan” sydd wedi blodeuo cymaint yn ddiweddar fel tae’n cadarnhau’r pwyslais hwn ymhellach trwy fynnu y gall unigolyn newid ei sefyllfa dim ond iddo ymdrechu i feddwl ac ewyllysio yn wahanol- a hynny ar ei liwt ei hun.

Anghofir yn aml am y dimensiwn cymdeithasol sy’n dylanwadu cymaint ar fywydau pawb ohonom.  Ac o  ran Cymry Cymraeg yn benodol, diau bod dwy elfen gymdeithasol unigryw ar waith yma.  Yn gyntaf, onid yw dirywiad ieithyddol yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol mewn cyn lleied o amser wedi cyfrannu at yr ing meddyliol sydd i’w weld ymhlith Cymry Cymraeg heddiw? Rydym oll yn gyfarwydd â’r ystadegau, ond faint mewn gwirionedd a wyddom ni am effeithiau seicolegol gweld rhywbeth mor greiddiol i’n hunaniaeth yn diflannu o dan ein trwynau? Oes, mae yna ddosbarth Cymraeg hyderus a huawdl wedi codi yn yr ardaloedd Cymraeg yn sgîl datblygiadau diweddar gyda’r cyfryngau, ond eilbeth annigonol yw hyn yn ei hanfod yn wyneb colli’r Cymreictod naturiol, di-ymdrech a di-son amdano, a fu’n nodweddu’r ardaloedd hyn cyhyd.

Ochr yn ochr â’r golled hon sy’n mynd rhagddi, rydym hefyd fel Cymry Cymraeg wedi gorfod ymdopi â dadfeiliad ein traddodiad crefyddol dros y blynyddoedd diwethaf. Bid siŵr, mae Cymry Cymraeg wedi fotio hefo’u traed wrth gefnu ar ein heglwysi dros y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf, a’r mwyafrif ohonynt yn ymddangos fel petaent yn berffaith fodlon â’u bywyd cyfoes mwy troedrydd. Eto, mae yma archoll sydd heb ei chydnabod yn iawn wrth i sefydliad oedd yn cynnig sicrwydd, sefydlogrwydd a chynhaliaeth i bobl ddiflannu o fywydau cymaint ohonom. Gyda dau draddodiad mor hanfodol i’n holl ddiwylliant dan warchae ar yr un pryd- a yw hi’n syndod mewn gwirionedd bod problemau iechyd meddwl ar gynnydd ymhlith Cymry Cymraeg heddiw?

A minnau wedi byw gydag iselder a phryder cymdeithasol am flynyddoedd, rwy’n hynod o ddiolchgar am fodolaeth Amser i Newid Cymru– ac yn croesawu’r ffaith bod y mudiad am geisio dwysáu ei waith ymhlith Cymry Cymraeg yn ystod y flwyddyn nesaf. Efallai’n wir y bydd yr ymgyrch hefyd yn gallu procio ein heglwysi i gymryd y mater hwn mwy o ddifrif.

Fel Cristion, bu’n siom i mi na ddaeth unrhyw gyfle i drafod fy mhroblemau iechyd meddwl o fewn yr eglwys dros y blynyddoedd, a does gen i ddim cof chwaith o fynychu gwasanaeth yn trafod materion iechyd meddwl fel y cyfryw.

Ond, mae Eglwys St. Barnabas yn Epsom, Surrey wedi dangos nad yw hi’n gorfod bod fel hyn mwyach. Mae’r eglwys hon newydd gychwyn elusen o’r enw “Love me, Love my Mind”  er mwyn gosod iechyd meddwl  yn sail ar gyfer ei holl genhadaeth. Gan brofi fod yr eglwys hithau, er ei phroblemau, hefyd yn agored i bosibiliadau newydd er mwyn cyflawni y gwaith iacháu hwnnw oedd mor greiddiol yng ngweinidogaeth Iesu .

Gobeithio eich bod wedi rhoi dyddiad ein cynhadledd flynyddol yn eich dyddiadur neu ar galendar y gegin : Gorffennaf 12ed. Caerfyrddin.

E-fwletin Mai4

Annwyl Selogion Cristnogaeth 21:

 

YN wyneb y safbwyntiau gwrth-grefydddol milwriaethus a nodweddir gan wyddonwyr megis Richard Dawkins a’i debyg heddiw, mae anffyddiaeth gyfoes fel petai’n ymhyfrydu mynd ben-ben â’r  traddodiad Cristnogol. Fel credinwyr, rydym ninnau hefyd yn ein tro wedi’n cyflyru i ystyried anffyddiaeth fel  ffenomena cwbl bendant a di-wyro ei barn.

Ofni’r gwaethaf oedd sawl un felly wrth i’r anffyddiwr Darren Aronofsky, y cyfarwyddwr ffilm o America, droi ei sylw at un o straeon enwoca’r Hen Destament, wrth gyflwyno “Noah”  ar gyfer y sgrin fawr.

Mae’r cyfarwyddwr wedi mentro newid rhai manylion hanfodol am deulu Noa ar yr arch,  wedi creu cewri cerrig dychmygol  i helpu Noa ar sail y cyfeiriad at y Neffilim yn Genesis a hyd yn oed wedi cwestiynu cymhellion y prif gymeriad ei hun ar un plwc. Oes ryfedd bod rhai wedi siarsio Cristnogion i beidio â mynd i weld y ffilm hon?!

Ond yr eironi yw fod yr anffyddiwr hwn wedi llwyddo i greu ffilm sydd yn ei hanfod yn ymdrin â dirgelwch ffydd a sut y mae ffydd yn gallu symud mynyddoedd yn llythrennol.  Ac er y cwestiynu ffydd sydd hefyd yn digwydd wrth i gymeriad Noa anobeithio am gyflwr y ddynoliaeth ac ystyried gweithredu fel Duw ei hun ar un pwynt yn y stori, y rhyfeddu at ffydd a’i holl ganlyniadau yw gwaddol arhosol y ffilm hon.

Defnyddir dwy stori’r creu yn Genesis fel canolbwynt dramatig i’r cwbl. Ceir darn o sinema fyth-gofiadwy wrth i Noa( Russell Crowe) adrodd hanes y creu sydd yn cyplysu’r stori Feiblaidd ac esblygiad er mwyn dangos  perffeithrwydd gorffenedig byd y creawdr. Ond wrth i Tubal-Cain-un o ddisgynyddion Cain- ddatgan yn heriol mai holl bwrpas dyn “wedi ei greu ar lun a delw’r creawdr” yw tra-arglwyddiaethu ar y ddaear a’i holl breswylwyr, mae cas-wir ail stori’r creu a’i afael ar fywyd hefyd yn cael llwyfan eang.

Mae Noa a’r prif gymeriadau wedi eu gosod yn solet yn hanes yr Hen Destament, ond ceir cyfeiriadau cynnil at natur argyfyngus ein byw presennol trwy’r ffilm. Ac mae’r tirwedd apocalyptaidd sy’n gefnlen i’r stori, a’r awgrymiadau am ddinasoedd “hi-tech”  yn y pellter, yn dangos fod y stori wedi ei osod rhywbryd yn y dyfodol hefyd.  Nid cymaint stori am un llif sydd yma felly ond cydnabyddiaeth mai un yw amser mewn gwirionedd a bod argyfwng a galwad i ymateb i argyfwng  yn realiti diymwad  yn ein holl hanes fel dynoliaeth.

A beth bynnag fo’r farn am newid rhai o fanylion y stori Feiblaidd,  mae’n ymddangos i mi fod y cyfarwyddwr ffilm  wedi seilio’r cwbl ar yr adnod honno yn Genesis sy’n son am ganlyniadau bwyta o bren y bywyd:

“Yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw, yn gwybod da a drwg”.

Mae’r anffyddiwr hwn fel petai’n dweud wrthym mai mater i ni yw dewis yn y pendraw- pa stori’r creu ydym am ei dychmygu a’i harddel? Pa Gristion allai anghytuno â’r dehongliad hwn o’n cyfrifoldebau ni fel bodau dynol i benderfynu sut fath o fywydau yr ydym am eu dilyn a sut fath o greadigaeth yr ydym am ei chreu?

Fel credinwyr, rydym yn gyfarwydd iawn â ffydd sy’n gallu gwyro tuag at anffyddiaeth ar adegau yn ein hanes.  Efallai mai un o gymwynasau mwyaf y ffilm ”Noah” yw awgrymu bod hyn yn gallu digwydd yn hanes anghredinwyr hefyd, ond i’r cyfeiriad arall, ac anffyddiaeth weithiau’n gallu gwyro- er syndod iddi’i hun- tuag at ffydd.

Dyddiad i’w gofio : CYNHADLEDD CRISTNOGAETH 21 Sadwrn Gorffennaf 12ed

Y Llwyfan, Caerfyrddin. Mwy o fanylion i ddilyn.

 

E-fwletin Ebrill 28ain, 2014

Wedi bod yn ymlafnio hefo plant yr ysgol Sul ‘roeddwn i pan ganodd y ffôn a rhywun yn holi a oedd fy nghymar yn rhydd ar gyfer y bore Sul canlynol.  Mi eglurais nad oedd hynny’n bosib am fod gennym ysgol Sul bob bore Sul, a ninnau hefo llond ein dwylo.  “Wel, da iawn”, oedd yr ymateb, “ydi hi’n llewyrchus acw?” “Wel, dim cystal ag y bu hi, ond o leiaf roedden nhw’n dal i ddod i’r Ysgol Sul.”

Mi aeth y Chwilys rhagddo: “Ac ydyn nhw’n ffyddlon?” “Wel, ydyn,  maen nhw’n eithaf da, chwarae teg iddyn nhw.”

Ac wedyn mi ddaeth y clinshar: “A faint ohonyn nhw a’u rhieni sy’n dod i’r Oedfa?” “Wel, nesa peth i ddim”, oedd yr ateb, a hynny a fu. Mi aethom rownd y riwbob unwaith neu ddwy, ac wedyn ffarwelio.

Ond roeddwn i’n anfodlon.  Yn un peth roeddwn i’n gallu teimlo’r sioc yn llais yr ymholydd fod fy nghymar yn fodlon rhoi Ysgol Sul o flaen Oedfa, fel tae hynny yn bechod marwol, ac wedyn mod i’n gorfod “cyfaddef” nad oedden nhw na’u rhieni ddim ond yn mynychu’r Oedfa’n achlysurol.

Ers pryd, tybed, ydym ni wedi bod yn rhoi’r Oedfa o flaen yr Ysgol Sul? A waeth i ni gyfaddef yn onest, mae ’na ryw deimlad y dylem ni fod yn gwneud hyn – mai rhyw fraenaru’r tir ar gyfer yr Oedfa mae’r Ysgol Sul. Ond pam? Onid fel arall rownd y dylai hi fod mewn gwirionedd? Oni ddylem fod yn rhoi’r Ysgol Sul yn gyntaf, a’r Oedfa’n eilbeth? Onid ymostwng i ddysgu yn yr Ysgol Sul ddylai fod y cam cyntaf i ni i gyd?

Ac fel tasai hynny ddim yn ddigon, fe ddaeth gweinidog atom yn weddol fuan wedyn gan agor ei bregeth drwy ddweud “Pan oeddwn i’n arfer mynd i’r Ysgol Sul ers talwm…”. Hynny ydi, doedd o ddim yn mynd i’r Ysgol Sul. Pam tybed?

Oes yna wendid ynom fel crefyddwyr ein bod yn fodlon mynd i wrando’n ddeddfol ar rywbeth yn cael ei ddweud wrthym o’r pulpud ond nad ydan ni’n fodlon herio hynny? Ein bod yn fodlon gwrando’n oddefol ond nid yn fodlon treulio awr mewn dosbarth Ysgol Sul lle mae’n rhaid i ni ddarllen a holi a stilio – a chael ein holi.

Mae’r diweddar Brifathro R. Tudur Jones yn Ffydd yn y Ffau yn dweud “Dyna pam y mae pob eglwys gwerth ei halen yn ysgol yn ogystal â bod yn gartref; y mae hi’n goleg ac yn gorlan. Heb y ddisgyblaeth ddeallol hon, buan y try Cristnogaeth yn ofergoel.”

A tybed na ddylem ni fod yn ystyried newid y drefn?  Ein bod yn trefnu rhagor o Ysgolion Sul, a dosbarthiadau i oedolion yn benodol, ac yn mynnu fod y gweinidog neu’r pregethwr sy’n gwasanaethu ar y Sul yn rhoi hanner awr o’i amser i agor trafodaeth hefo ni mewn dosbarth oedolion yn yr Ysgol Sul.  Efallai y dylem fynd gam ymhellach a chanslo bob Oedfa a chynnal Ysgol Sul yn ei lle.

E-fwletin Ebrill 21ain, 2014

Wedi tristwch y Groes ar Ddydd Gwener y Groglith, rydan ni’n cael sicrwydd y bedd gwag ar Sul y Pasg. Waeth faint fo’r teimlad o unigrwydd, gwacter ac anobaith ar ddydd Gwener y Groglith, mi wyddom y daw’r trydydd dydd.

Tybed ydi o’n dweud rhywbeth amdanom fel cenedl fod yna lawer iawn mwy o wasanaethau a chyfarfodydd pregethu ar Ddydd Gwener y Groglith yn “dathlu” marw Crist ar y Groes nag sydd o wasanaethau arbennig, gorfoleddus yn dathlu ei atgyfodiad ar Sul y Pasg? Neu  tybed nad ydi hi’n haws deall a derbyn buddugoliaeth y Groes – y gri am faddeuant i’r rhai oedd yn gyfrifol am erchylltra Calfaria – na chredu yn yr Atgyfodiad?

Tristwch mawr yr oes hon ydi nad y bedd sy’n wag ond ein capeli a’n heglwysi. Yn ôl y dyrnaid sy’n mynychu sawl capel ac eglwys, oni fuasai’n llawer doethach i ni fod yn efelychu’r Cristnogion cynnar ac yn cwrdd yn nhai ein gilydd?

Mae hynny, wrth gwrs, yn ein gadael gyda llawer iawn mwy o addoldai gwag nag sydd gennym yn barod. A beth ddylid ei wneud hefo nhw? Tybed beth fyddai cyngor yr Iesu i ni?

Un o ddau orchymyn mawr yr Iesu oedd ar i ni garu ein gilydd.

Mewn oes sy’n gweiddi am fanciau bwyd, i drueiniaid sydd angen to uwch eu pennau, i’r rhai unig sy’n crefu am gwmni a sgwrs a “siarad mawr am bethau mân” neu hyd yn oed mân siarad am bethau mawr, mae nifer o eglwysi eisoes yn cynnig cymorth. Onid harddach a rheitiach fyddai i bob eglwys yn ddiwahân agor drysau caeedig ein blychau sgwâr, diaddurn a chynnig yr union bethau y gorchmynnodd Crist i ni ei wneud. Yn cynnig bwyd a diod i’r rhai sydd eu hangen, yn cynnig lloches i’r rhai sy’n gorfod cysgu allan ar y stryd, yn cynnig cwmnïaeth i’r rhai unig a drwy wneud hynny yn llenwi ein capeli gweigion.

Bu llawer o drafod yn y wasg a’r cyfryngau yn ystod yr wythnos a aeth heibio am y rhesymau pam fod rhagor o alw am fanciau bwyd yn ein cymdeithas. Datgelodd y Trussell Trust fod bron i filiwn o bobl yn Ynysoedd Prydain wedi ceisio bwyd am dridiau am nad oedd ganddynt ddim oll i’w fwyta. Mae nifer yn mynnu mai oherwydd polisïau’r llywodraeth y cododd y galw am fanciau bwyd a chais am lety, ond beth bynnag fo’r rhesymau, onid ein braint yw cynnig cymorth? Onid dyma’r ffordd i ddod â goleuni’r Pasg i’r rhai sydd mewn tywyllwch?

Pam na allwn fod yn fwy llawen am ein cred? Pam na fedrwn ddathlu a gorfoleddu mwy? Pam fod yn well gennym gyfyngu ein hunain i awr o dristwch ar bnawn Gwener y Groglith ac awr o hunan faldodi unwaith y Sul yn hytrach na bwrw iddi i’r gwaith o estyn ein dwylo a’n haddoldai gwag i’r rhai sydd mewn angen a thrwy hynny ddathlu Sul y Pasg yn orfoleddus gydag eraill?

E-fwletin Ebrill 14eg, 2014

“Eloï, Eloï, lema sabachthani.”

Mae’n bur debygol y clywn ni ddarllen y geiriau uchod yr wythnos hon. O bosibl y clywn ni bregeth neu fyfyrdod arnynt. Beth maen nhw’n ddweud?  “ Ni wyddom ni, ni allwn ddweud,” ac eto dweud fyddwn ni. Dweud beth?

Bod Iesu yn ymdeimlo â chanlyniadau pechod y ddynoliaeth y bu iddo uniaethu â hi. Gan fod pechod yn torri’r berthynas rhwng dyn a Duw nid rhyfedd i’r naill deimlo bod y llall ymhell, os yn bresennol o gwbl.

I’r rhai gaiff eu hunain yn yr enbydrwydd hwn, ymateb yr eglwys yw’r  3A – Athanasius, Abelard ac Anselm. O’r damcaniaethau a dyfodd o’u myfyrdodau a’u datganiadau  symudir y dieithriwch gan adael Duw yn “fodlon” a’r pechadur  “wrth fy modd.”

Yn y Salm 22 a ddyfynnir gan Iesu, lleisir cyhuddiad yn erbyn Duw, sy’n awgrymu bod ei absenoldeb yn ddiachos, yn annisgwyl ac yn afresymol os nad yn feius. Yn wir, ceir yr argraff nad yw Duw i’r Salmydd yn gwbl ddibynadwy! Does dim adlais o fai, neu ddiffyg neu bechod ar ran y Salmydd i gyfiawnhau, fel petai, absenoldeb Duw.

Yn dilyn y gŵyn ceir gyfres o apeliadau am bresenoldeb creadigol Duw sy’n fynegiant o’i ymddiriedaeth yn Nuw. Apeliadau y gwêl Duw yn dda i’w anrhydeddu.

Tybed a welwn ni yn y Salm, thema nad yw’n ddieithr yn yr Ysgrythurau’n gyfan, sef bod Duw yn un sy’n mynd a dod. Sylwer, er enghraifft,  ar y damhegion sy’n seiliedig ar y perchennog absennol ac fel mae’r Crist atgyfodedig yn bresenoldeb sy’n mynd a dod.

Ai teg nodi wedyn, mai rhywle rhwng cwyn ac ymddiriedaeth y gorwedd ffydd, gyda’r naill yn codi o’r tryblith ddaw yn sgil yr absenoldeb dwyfol, a’r llall o’r gobaith sydd ymhlyg yn y presenoldeb disgwyliedig?

Bendith y Pasg fo arnoch i gyd,

Oddi wrth Cristnogaeth 21.

E-fwletin Ebrill 7fed, 2014

Wedi gwrando ‘cyffes’ gyhoeddus cyn-gadeirydd banc y Co-op yn ddiweddar,  daeth i gof ddernyn o gyfrol Vincent Donovan, Christianity Re-discovered. Sôn wna’r cenhadwr am ei brofiadau ymhlith y Masai yn Nwyrain Affrica – profiadau a’i hebryngodd yn y pendraw i sylweddoli nad oedd yr efengyl a gyflwynai yn ei gwisg orllewinol yn gweddu, nac yn berthnasol, i grwydriaid y safanau.

Wrth gyflwyno’r efengyl iddynt  synhwyrodd bod ei eiriau’n wag a diystyr, yn taro’n ddieithr ar glustiau’i wrandawyr. Nid rhyfedd hynny, oherwydd  prif amcan geiriau i’r Masai yw creu perthynas gymdeithasol, yn fwy felly na mynegi  gwirionedd.

Noda enghraifft i gadarnhau ei bwynt.

Gwêl athro ysgol un o’r disgyblion yn cicio pêl drwy’r ffenest:

Pe bai’r athro’n orllewinwr diau y gofynnai ; “Johnny, ai ti dorrodd y ffenest ’na?”  Mae’n sicr mai “Na” fyddai’r ateb, nid am fod Johnny’n gelwyddgi ond am ei fod am adfer y berthynas a beryglwyd gan gwestiwn yr athro.

Pe bai’n athro o blith y Masai byddai ei ymddygiad yn dra gwahanol:

“Johnny, sut wyt ti?”

“Da iawn.”

“Wyt ti’n hoffi’r gwersi?”

“O dwi’n gwneud yn eithaf da”

“Sut mae dy iechyd di nawr?”

“O dipyn yn well. Mae’r bwyd yn dda ’ma. Dwi lot cryfach, erbyn hyn. Gallaf gicio pêl yn eitha’ pell. Fe’i ciciais hi drwy’r ffenest!”

Ie, y ffenest a dorrwyd nid y berthynas. Pa athro na fyddai ’di gwenu a chwerthin hefyd yn wyneb y fath ddiniweidrwydd, gonest. Byddai ganddo un broblem, er hynny, delio â’r cyffeswr. Pa fodd  mae trin troseddwr o ‘r fath ? Y peth  gorau o bosibl, fyddai ei orfodi  helpu’r saer i drwsio’r ffenest. ‘Cosb’ wrth fodd crwt hoff o waith coed!