E-fwletin Ebrill 14eg, 2014

“Eloï, Eloï, lema sabachthani.”

Mae’n bur debygol y clywn ni ddarllen y geiriau uchod yr wythnos hon. O bosibl y clywn ni bregeth neu fyfyrdod arnynt. Beth maen nhw’n ddweud?  “ Ni wyddom ni, ni allwn ddweud,” ac eto dweud fyddwn ni. Dweud beth?

Bod Iesu yn ymdeimlo â chanlyniadau pechod y ddynoliaeth y bu iddo uniaethu â hi. Gan fod pechod yn torri’r berthynas rhwng dyn a Duw nid rhyfedd i’r naill deimlo bod y llall ymhell, os yn bresennol o gwbl.

I’r rhai gaiff eu hunain yn yr enbydrwydd hwn, ymateb yr eglwys yw’r  3A – Athanasius, Abelard ac Anselm. O’r damcaniaethau a dyfodd o’u myfyrdodau a’u datganiadau  symudir y dieithriwch gan adael Duw yn “fodlon” a’r pechadur  “wrth fy modd.”

Yn y Salm 22 a ddyfynnir gan Iesu, lleisir cyhuddiad yn erbyn Duw, sy’n awgrymu bod ei absenoldeb yn ddiachos, yn annisgwyl ac yn afresymol os nad yn feius. Yn wir, ceir yr argraff nad yw Duw i’r Salmydd yn gwbl ddibynadwy! Does dim adlais o fai, neu ddiffyg neu bechod ar ran y Salmydd i gyfiawnhau, fel petai, absenoldeb Duw.

Yn dilyn y gŵyn ceir gyfres o apeliadau am bresenoldeb creadigol Duw sy’n fynegiant o’i ymddiriedaeth yn Nuw. Apeliadau y gwêl Duw yn dda i’w anrhydeddu.

Tybed a welwn ni yn y Salm, thema nad yw’n ddieithr yn yr Ysgrythurau’n gyfan, sef bod Duw yn un sy’n mynd a dod. Sylwer, er enghraifft,  ar y damhegion sy’n seiliedig ar y perchennog absennol ac fel mae’r Crist atgyfodedig yn bresenoldeb sy’n mynd a dod.

Ai teg nodi wedyn, mai rhywle rhwng cwyn ac ymddiriedaeth y gorwedd ffydd, gyda’r naill yn codi o’r tryblith ddaw yn sgil yr absenoldeb dwyfol, a’r llall o’r gobaith sydd ymhlyg yn y presenoldeb disgwyliedig?

Bendith y Pasg fo arnoch i gyd,

Oddi wrth Cristnogaeth 21.