E-fwletin Ebrill 7fed, 2014

Wedi gwrando ‘cyffes’ gyhoeddus cyn-gadeirydd banc y Co-op yn ddiweddar,  daeth i gof ddernyn o gyfrol Vincent Donovan, Christianity Re-discovered. Sôn wna’r cenhadwr am ei brofiadau ymhlith y Masai yn Nwyrain Affrica – profiadau a’i hebryngodd yn y pendraw i sylweddoli nad oedd yr efengyl a gyflwynai yn ei gwisg orllewinol yn gweddu, nac yn berthnasol, i grwydriaid y safanau.

Wrth gyflwyno’r efengyl iddynt  synhwyrodd bod ei eiriau’n wag a diystyr, yn taro’n ddieithr ar glustiau’i wrandawyr. Nid rhyfedd hynny, oherwydd  prif amcan geiriau i’r Masai yw creu perthynas gymdeithasol, yn fwy felly na mynegi  gwirionedd.

Noda enghraifft i gadarnhau ei bwynt.

Gwêl athro ysgol un o’r disgyblion yn cicio pêl drwy’r ffenest:

Pe bai’r athro’n orllewinwr diau y gofynnai ; “Johnny, ai ti dorrodd y ffenest ’na?”  Mae’n sicr mai “Na” fyddai’r ateb, nid am fod Johnny’n gelwyddgi ond am ei fod am adfer y berthynas a beryglwyd gan gwestiwn yr athro.

Pe bai’n athro o blith y Masai byddai ei ymddygiad yn dra gwahanol:

“Johnny, sut wyt ti?”

“Da iawn.”

“Wyt ti’n hoffi’r gwersi?”

“O dwi’n gwneud yn eithaf da”

“Sut mae dy iechyd di nawr?”

“O dipyn yn well. Mae’r bwyd yn dda ’ma. Dwi lot cryfach, erbyn hyn. Gallaf gicio pêl yn eitha’ pell. Fe’i ciciais hi drwy’r ffenest!”

Ie, y ffenest a dorrwyd nid y berthynas. Pa athro na fyddai ’di gwenu a chwerthin hefyd yn wyneb y fath ddiniweidrwydd, gonest. Byddai ganddo un broblem, er hynny, delio â’r cyffeswr. Pa fodd  mae trin troseddwr o ‘r fath ? Y peth  gorau o bosibl, fyddai ei orfodi  helpu’r saer i drwsio’r ffenest. ‘Cosb’ wrth fodd crwt hoff o waith coed!