E-fwletin Ebrill 21ain, 2014

Wedi tristwch y Groes ar Ddydd Gwener y Groglith, rydan ni’n cael sicrwydd y bedd gwag ar Sul y Pasg. Waeth faint fo’r teimlad o unigrwydd, gwacter ac anobaith ar ddydd Gwener y Groglith, mi wyddom y daw’r trydydd dydd.

Tybed ydi o’n dweud rhywbeth amdanom fel cenedl fod yna lawer iawn mwy o wasanaethau a chyfarfodydd pregethu ar Ddydd Gwener y Groglith yn “dathlu” marw Crist ar y Groes nag sydd o wasanaethau arbennig, gorfoleddus yn dathlu ei atgyfodiad ar Sul y Pasg? Neu  tybed nad ydi hi’n haws deall a derbyn buddugoliaeth y Groes – y gri am faddeuant i’r rhai oedd yn gyfrifol am erchylltra Calfaria – na chredu yn yr Atgyfodiad?

Tristwch mawr yr oes hon ydi nad y bedd sy’n wag ond ein capeli a’n heglwysi. Yn ôl y dyrnaid sy’n mynychu sawl capel ac eglwys, oni fuasai’n llawer doethach i ni fod yn efelychu’r Cristnogion cynnar ac yn cwrdd yn nhai ein gilydd?

Mae hynny, wrth gwrs, yn ein gadael gyda llawer iawn mwy o addoldai gwag nag sydd gennym yn barod. A beth ddylid ei wneud hefo nhw? Tybed beth fyddai cyngor yr Iesu i ni?

Un o ddau orchymyn mawr yr Iesu oedd ar i ni garu ein gilydd.

Mewn oes sy’n gweiddi am fanciau bwyd, i drueiniaid sydd angen to uwch eu pennau, i’r rhai unig sy’n crefu am gwmni a sgwrs a “siarad mawr am bethau mân” neu hyd yn oed mân siarad am bethau mawr, mae nifer o eglwysi eisoes yn cynnig cymorth. Onid harddach a rheitiach fyddai i bob eglwys yn ddiwahân agor drysau caeedig ein blychau sgwâr, diaddurn a chynnig yr union bethau y gorchmynnodd Crist i ni ei wneud. Yn cynnig bwyd a diod i’r rhai sydd eu hangen, yn cynnig lloches i’r rhai sy’n gorfod cysgu allan ar y stryd, yn cynnig cwmnïaeth i’r rhai unig a drwy wneud hynny yn llenwi ein capeli gweigion.

Bu llawer o drafod yn y wasg a’r cyfryngau yn ystod yr wythnos a aeth heibio am y rhesymau pam fod rhagor o alw am fanciau bwyd yn ein cymdeithas. Datgelodd y Trussell Trust fod bron i filiwn o bobl yn Ynysoedd Prydain wedi ceisio bwyd am dridiau am nad oedd ganddynt ddim oll i’w fwyta. Mae nifer yn mynnu mai oherwydd polisïau’r llywodraeth y cododd y galw am fanciau bwyd a chais am lety, ond beth bynnag fo’r rhesymau, onid ein braint yw cynnig cymorth? Onid dyma’r ffordd i ddod â goleuni’r Pasg i’r rhai sydd mewn tywyllwch?

Pam na allwn fod yn fwy llawen am ein cred? Pam na fedrwn ddathlu a gorfoleddu mwy? Pam fod yn well gennym gyfyngu ein hunain i awr o dristwch ar bnawn Gwener y Groglith ac awr o hunan faldodi unwaith y Sul yn hytrach na bwrw iddi i’r gwaith o estyn ein dwylo a’n haddoldai gwag i’r rhai sydd mewn angen a thrwy hynny ddathlu Sul y Pasg yn orfoleddus gydag eraill?