E-fwletin Ebrill 28ain, 2014

Wedi bod yn ymlafnio hefo plant yr ysgol Sul ‘roeddwn i pan ganodd y ffôn a rhywun yn holi a oedd fy nghymar yn rhydd ar gyfer y bore Sul canlynol.  Mi eglurais nad oedd hynny’n bosib am fod gennym ysgol Sul bob bore Sul, a ninnau hefo llond ein dwylo.  “Wel, da iawn”, oedd yr ymateb, “ydi hi’n llewyrchus acw?” “Wel, dim cystal ag y bu hi, ond o leiaf roedden nhw’n dal i ddod i’r Ysgol Sul.”

Mi aeth y Chwilys rhagddo: “Ac ydyn nhw’n ffyddlon?” “Wel, ydyn,  maen nhw’n eithaf da, chwarae teg iddyn nhw.”

Ac wedyn mi ddaeth y clinshar: “A faint ohonyn nhw a’u rhieni sy’n dod i’r Oedfa?” “Wel, nesa peth i ddim”, oedd yr ateb, a hynny a fu. Mi aethom rownd y riwbob unwaith neu ddwy, ac wedyn ffarwelio.

Ond roeddwn i’n anfodlon.  Yn un peth roeddwn i’n gallu teimlo’r sioc yn llais yr ymholydd fod fy nghymar yn fodlon rhoi Ysgol Sul o flaen Oedfa, fel tae hynny yn bechod marwol, ac wedyn mod i’n gorfod “cyfaddef” nad oedden nhw na’u rhieni ddim ond yn mynychu’r Oedfa’n achlysurol.

Ers pryd, tybed, ydym ni wedi bod yn rhoi’r Oedfa o flaen yr Ysgol Sul? A waeth i ni gyfaddef yn onest, mae ’na ryw deimlad y dylem ni fod yn gwneud hyn – mai rhyw fraenaru’r tir ar gyfer yr Oedfa mae’r Ysgol Sul. Ond pam? Onid fel arall rownd y dylai hi fod mewn gwirionedd? Oni ddylem fod yn rhoi’r Ysgol Sul yn gyntaf, a’r Oedfa’n eilbeth? Onid ymostwng i ddysgu yn yr Ysgol Sul ddylai fod y cam cyntaf i ni i gyd?

Ac fel tasai hynny ddim yn ddigon, fe ddaeth gweinidog atom yn weddol fuan wedyn gan agor ei bregeth drwy ddweud “Pan oeddwn i’n arfer mynd i’r Ysgol Sul ers talwm…”. Hynny ydi, doedd o ddim yn mynd i’r Ysgol Sul. Pam tybed?

Oes yna wendid ynom fel crefyddwyr ein bod yn fodlon mynd i wrando’n ddeddfol ar rywbeth yn cael ei ddweud wrthym o’r pulpud ond nad ydan ni’n fodlon herio hynny? Ein bod yn fodlon gwrando’n oddefol ond nid yn fodlon treulio awr mewn dosbarth Ysgol Sul lle mae’n rhaid i ni ddarllen a holi a stilio – a chael ein holi.

Mae’r diweddar Brifathro R. Tudur Jones yn Ffydd yn y Ffau yn dweud “Dyna pam y mae pob eglwys gwerth ei halen yn ysgol yn ogystal â bod yn gartref; y mae hi’n goleg ac yn gorlan. Heb y ddisgyblaeth ddeallol hon, buan y try Cristnogaeth yn ofergoel.”

A tybed na ddylem ni fod yn ystyried newid y drefn?  Ein bod yn trefnu rhagor o Ysgolion Sul, a dosbarthiadau i oedolion yn benodol, ac yn mynnu fod y gweinidog neu’r pregethwr sy’n gwasanaethu ar y Sul yn rhoi hanner awr o’i amser i agor trafodaeth hefo ni mewn dosbarth oedolion yn yr Ysgol Sul.  Efallai y dylem fynd gam ymhellach a chanslo bob Oedfa a chynnal Ysgol Sul yn ei lle.