E-fwletin Mai4

Annwyl Selogion Cristnogaeth 21:

 

YN wyneb y safbwyntiau gwrth-grefydddol milwriaethus a nodweddir gan wyddonwyr megis Richard Dawkins a’i debyg heddiw, mae anffyddiaeth gyfoes fel petai’n ymhyfrydu mynd ben-ben â’r  traddodiad Cristnogol. Fel credinwyr, rydym ninnau hefyd yn ein tro wedi’n cyflyru i ystyried anffyddiaeth fel  ffenomena cwbl bendant a di-wyro ei barn.

Ofni’r gwaethaf oedd sawl un felly wrth i’r anffyddiwr Darren Aronofsky, y cyfarwyddwr ffilm o America, droi ei sylw at un o straeon enwoca’r Hen Destament, wrth gyflwyno “Noah”  ar gyfer y sgrin fawr.

Mae’r cyfarwyddwr wedi mentro newid rhai manylion hanfodol am deulu Noa ar yr arch,  wedi creu cewri cerrig dychmygol  i helpu Noa ar sail y cyfeiriad at y Neffilim yn Genesis a hyd yn oed wedi cwestiynu cymhellion y prif gymeriad ei hun ar un plwc. Oes ryfedd bod rhai wedi siarsio Cristnogion i beidio â mynd i weld y ffilm hon?!

Ond yr eironi yw fod yr anffyddiwr hwn wedi llwyddo i greu ffilm sydd yn ei hanfod yn ymdrin â dirgelwch ffydd a sut y mae ffydd yn gallu symud mynyddoedd yn llythrennol.  Ac er y cwestiynu ffydd sydd hefyd yn digwydd wrth i gymeriad Noa anobeithio am gyflwr y ddynoliaeth ac ystyried gweithredu fel Duw ei hun ar un pwynt yn y stori, y rhyfeddu at ffydd a’i holl ganlyniadau yw gwaddol arhosol y ffilm hon.

Defnyddir dwy stori’r creu yn Genesis fel canolbwynt dramatig i’r cwbl. Ceir darn o sinema fyth-gofiadwy wrth i Noa( Russell Crowe) adrodd hanes y creu sydd yn cyplysu’r stori Feiblaidd ac esblygiad er mwyn dangos  perffeithrwydd gorffenedig byd y creawdr. Ond wrth i Tubal-Cain-un o ddisgynyddion Cain- ddatgan yn heriol mai holl bwrpas dyn “wedi ei greu ar lun a delw’r creawdr” yw tra-arglwyddiaethu ar y ddaear a’i holl breswylwyr, mae cas-wir ail stori’r creu a’i afael ar fywyd hefyd yn cael llwyfan eang.

Mae Noa a’r prif gymeriadau wedi eu gosod yn solet yn hanes yr Hen Destament, ond ceir cyfeiriadau cynnil at natur argyfyngus ein byw presennol trwy’r ffilm. Ac mae’r tirwedd apocalyptaidd sy’n gefnlen i’r stori, a’r awgrymiadau am ddinasoedd “hi-tech”  yn y pellter, yn dangos fod y stori wedi ei osod rhywbryd yn y dyfodol hefyd.  Nid cymaint stori am un llif sydd yma felly ond cydnabyddiaeth mai un yw amser mewn gwirionedd a bod argyfwng a galwad i ymateb i argyfwng  yn realiti diymwad  yn ein holl hanes fel dynoliaeth.

A beth bynnag fo’r farn am newid rhai o fanylion y stori Feiblaidd,  mae’n ymddangos i mi fod y cyfarwyddwr ffilm  wedi seilio’r cwbl ar yr adnod honno yn Genesis sy’n son am ganlyniadau bwyta o bren y bywyd:

“Yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw, yn gwybod da a drwg”.

Mae’r anffyddiwr hwn fel petai’n dweud wrthym mai mater i ni yw dewis yn y pendraw- pa stori’r creu ydym am ei dychmygu a’i harddel? Pa Gristion allai anghytuno â’r dehongliad hwn o’n cyfrifoldebau ni fel bodau dynol i benderfynu sut fath o fywydau yr ydym am eu dilyn a sut fath o greadigaeth yr ydym am ei chreu?

Fel credinwyr, rydym yn gyfarwydd iawn â ffydd sy’n gallu gwyro tuag at anffyddiaeth ar adegau yn ein hanes.  Efallai mai un o gymwynasau mwyaf y ffilm ”Noah” yw awgrymu bod hyn yn gallu digwydd yn hanes anghredinwyr hefyd, ond i’r cyfeiriad arall, ac anffyddiaeth weithiau’n gallu gwyro- er syndod iddi’i hun- tuag at ffydd.

Dyddiad i’w gofio : CYNHADLEDD CRISTNOGAETH 21 Sadwrn Gorffennaf 12ed

Y Llwyfan, Caerfyrddin. Mwy o fanylion i ddilyn.