E-fwletin Mai 12

Annwyl Selogion Cristnogaeth 21,

Yr wythnos hon, bydd S4C yn cynnal wythnos o raglenni am iechyd meddwl gyda chymorth Amser i Newid Cymru– yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am salwch meddwl yng Nghymru heddiw.Mae’n benderfyniad clodwiw o gofio bod peth o’r ymchwil cychwynnol yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl yn broblem gynyddol ymhlith Cymry Cymraeg bellach.

Mewn oes mor unigolyddol â hon, y duedd yw ystyried problemau iechyd meddwl yn nhermau  yr unigolion eu hunain yn unig. Yn eironig, mae’r diwydiant “helpu’r hunan” sydd wedi blodeuo cymaint yn ddiweddar fel tae’n cadarnhau’r pwyslais hwn ymhellach trwy fynnu y gall unigolyn newid ei sefyllfa dim ond iddo ymdrechu i feddwl ac ewyllysio yn wahanol- a hynny ar ei liwt ei hun.

Anghofir yn aml am y dimensiwn cymdeithasol sy’n dylanwadu cymaint ar fywydau pawb ohonom.  Ac o  ran Cymry Cymraeg yn benodol, diau bod dwy elfen gymdeithasol unigryw ar waith yma.  Yn gyntaf, onid yw dirywiad ieithyddol yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol mewn cyn lleied o amser wedi cyfrannu at yr ing meddyliol sydd i’w weld ymhlith Cymry Cymraeg heddiw? Rydym oll yn gyfarwydd â’r ystadegau, ond faint mewn gwirionedd a wyddom ni am effeithiau seicolegol gweld rhywbeth mor greiddiol i’n hunaniaeth yn diflannu o dan ein trwynau? Oes, mae yna ddosbarth Cymraeg hyderus a huawdl wedi codi yn yr ardaloedd Cymraeg yn sgîl datblygiadau diweddar gyda’r cyfryngau, ond eilbeth annigonol yw hyn yn ei hanfod yn wyneb colli’r Cymreictod naturiol, di-ymdrech a di-son amdano, a fu’n nodweddu’r ardaloedd hyn cyhyd.

Ochr yn ochr â’r golled hon sy’n mynd rhagddi, rydym hefyd fel Cymry Cymraeg wedi gorfod ymdopi â dadfeiliad ein traddodiad crefyddol dros y blynyddoedd diwethaf. Bid siŵr, mae Cymry Cymraeg wedi fotio hefo’u traed wrth gefnu ar ein heglwysi dros y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf, a’r mwyafrif ohonynt yn ymddangos fel petaent yn berffaith fodlon â’u bywyd cyfoes mwy troedrydd. Eto, mae yma archoll sydd heb ei chydnabod yn iawn wrth i sefydliad oedd yn cynnig sicrwydd, sefydlogrwydd a chynhaliaeth i bobl ddiflannu o fywydau cymaint ohonom. Gyda dau draddodiad mor hanfodol i’n holl ddiwylliant dan warchae ar yr un pryd- a yw hi’n syndod mewn gwirionedd bod problemau iechyd meddwl ar gynnydd ymhlith Cymry Cymraeg heddiw?

A minnau wedi byw gydag iselder a phryder cymdeithasol am flynyddoedd, rwy’n hynod o ddiolchgar am fodolaeth Amser i Newid Cymru– ac yn croesawu’r ffaith bod y mudiad am geisio dwysáu ei waith ymhlith Cymry Cymraeg yn ystod y flwyddyn nesaf. Efallai’n wir y bydd yr ymgyrch hefyd yn gallu procio ein heglwysi i gymryd y mater hwn mwy o ddifrif.

Fel Cristion, bu’n siom i mi na ddaeth unrhyw gyfle i drafod fy mhroblemau iechyd meddwl o fewn yr eglwys dros y blynyddoedd, a does gen i ddim cof chwaith o fynychu gwasanaeth yn trafod materion iechyd meddwl fel y cyfryw.

Ond, mae Eglwys St. Barnabas yn Epsom, Surrey wedi dangos nad yw hi’n gorfod bod fel hyn mwyach. Mae’r eglwys hon newydd gychwyn elusen o’r enw “Love me, Love my Mind”  er mwyn gosod iechyd meddwl  yn sail ar gyfer ei holl genhadaeth. Gan brofi fod yr eglwys hithau, er ei phroblemau, hefyd yn agored i bosibiliadau newydd er mwyn cyflawni y gwaith iacháu hwnnw oedd mor greiddiol yng ngweinidogaeth Iesu .

Gobeithio eich bod wedi rhoi dyddiad ein cynhadledd flynyddol yn eich dyddiadur neu ar galendar y gegin : Gorffennaf 12ed. Caerfyrddin.