E-fwletin Mehefin 9,2014

E-fwletin Mehefin 9ed. 2014

A Oes Pentecost?

Ddydd Sadwrn 7fed Mehefin, yng Nghanolfan y Morlan Aberystwyth, cynhaliwyd cynhadledd i drafod rhyfel a heddwch yng nghwmni’r gwleidydd, Jill Evans; y cyn uwch gaplan yn y fyddin, Aled Huw Thomas; yr ysgolhaig, Ken Booth; a’r gweinidog, Guto Prys  ap Gwynfor. Cynhaliwyd y gynhadledd yn dilyn diwrnod o seremonïau i goffáu 70 mlwyddiant glaniadau D-Day yn Normandi, sef rhai o gyrchoedd pwysicaf yr Ail Ryfel Byd. Priodol felly yn dilyn y cofio oedd holi’r cwestiwn yn y gynhadledd, A Oes Heddwch? 

Roedd hi’n ddiwrnod ardderchog a phob un o’r siaradwyr yn codi cwestiynau pwysig o safbwyntiau gwahanol. Mawr yw’n diolch i’r enwadau a’r mudiadau a ddaeth at ei gilydd i drefnu’r cyfan. Mae angen digwyddiadau cyson fel y rhain i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith fel Cristnogion wrth i ni geisio adeiladu byd o heddwch, gan y gwyddom nad rhywbeth sydd yn digwydd heb unrhyw fath o ymdrech ac ymroddiad yw heddwch ond bod yn rhaid wrth fwriad, ewyllys a phenderfyniad.

Ond y cwestiwn sy’n codi’n benodol ar un o wyliau mwyaf arwyddocaol y calendr Cristnogol yw: A Oes Pentecost? Ac a oes yna unrhyw fath o fwriad, ewyllys a phenderfyniad yn deillio o’n Pentecost ni eleni?

Mae stori’r Pentecost yn un ryfedd iawn. Yn ôl rhai dyma’r diwrnod y gwaeddodd Duw ar y greadigaeth gan roi’r oes newydd yn nwylo dyn ar waith yn ein byd.  Mae’r Ŵyl, sy’n syrthio ar yr hanner canfed diwrnod wedi’r Pasg, yn nodi diwrnod geni’r eglwys drwy dywalltiad nerthol o’r Ysbryd Glân. Mae’r hyn sy’n digwydd yn barhad o’r hyn a ddigwyddodd i’r disgyblion wedi i’r Iesu esgyn i’r nefoedd a Luc yw’r unig un o’r pedwar efengylydd sy’n adrodd yr hanes. Wrth gwrs, ceir digon o sôn am yr Ysbryd yn y Beibl cyn hynny ond dyma’r diwrnod y cynhyrfwyd y disgyblion i sefyll ar eu traed eu hunain ac i roi’r oes newydd ar waith yng ngrym yr Ysbryd.

Mae yna rai sy’n dyheu am dywalltiad eto o’r Ysbryd a fydd yn rhwystro’r dirywiad a’r trai a welir ar lawr gwlad ac yn adfer ein heglwysi i ogoniant y gorffennol. Yn hytrach na dyheu am oes sydd wedi hen ddiflannu cawn ein herio heddiw i ddeisyf ysbryd y Pentecost i’n grymuso a’n cynhyrfu o’r newydd fel y gallwn sefyll ar ein traed ein hunain a hyrwyddo gwerthoedd yr oes newydd gyda bwriad, ewyllys a phenderfyniad.

 

Ni wnawn eich atgoffa o’r Gynhadledd Flynyddol yr wythnos hon ! Fe ddaw cyfle eto. Ond brysiwch i gofrestru.