E-fwletin Mehefin 16, 2014

Cristnogaeth 21 : E-fwletin Mehefin 16eg.

Yr hyn na wneir yn aml yw gwahaniaethu rhwng ‘dogma’ a’r ‘dogmatig’. Yn aml eto, cyfnewidir y ddau air fel petaent yn golygu’r un peth.  Yn fras  fe ddywedwn  i mai cyfnod y crefydda dogmatig yw ein cyfnod ni a’r dogmau yn ddim byd amgenach na’r pastynau yn y dwylo haearnaidd i waldio eraill. Ond y mae prydferthwch yn perthyn i’r dogmau.

Yn y bon ,a hyd y gwelaf fi, myfyrdodau dwys iawn ar brofiadau creiddiol-grefyddol y mae iaith yn cael anhawster dybryd i’w ‘dal’ ac felly’n creu ‘lluniau’, yw hanfod y ‘dogmau’. Lluniau ydynt.

Nid oes, efallai, yr un o’r ‘lluniau’ hyn mor gyfoethog  â’r ‘Drindod’.  Y profiad o ‘Dduw’ fel cymuned ynddo’i hun a ddaeth gyntaf – a’r sdraffig wedyn o geisio peintio hynny mewn geiriau. Rhywsut nid oedd ‘undodiaeth’  yn ‘dal’ y profiad creiddiol.  Nid oedd ‘dau’ yn gwneud y tric chwaith.  Ond, diaist i, mi oedd ‘na rwbath am ‘dri’ oedd fwy neu lai yn ffitio ‘ffram’ y profiad. A dyna’i hongian ar y wal fregus. Dipyn go lew yn ‘licio’ a dipyn-llai!- yn tynnu tursiau ( cuchio ). Ac fel yna mae hi wedi bod. Rhywbeth i sbio arnynt yn hir yw’r dogmau yn ‘oriel’ ein crefydda, licio falla ar y tro cyntaf, yn aml gorfod dod yn ol y degfed tro a rhyw gynhesu, ac weithiau -‘byth ar fy wal i!’

Cynhesu ddaru mi hefo llun ‘Y Drindod’ o waith yr artistiaid Cristnogol cynnar. Dirnad wrth edrych  gyda’r blynyddoedd  fod ‘Un’ yn y diwedd yn medru bod yn rhywbeth pell ac oer ac unbeniaethol. ‘Dau’? Yda chi erioed wedi bod yng nghwmpeini dau sy’n nabod ei gilydd yn dda  a chitha wedyn yn eistedd yn fan’no fel lemon yn gwrando ar y ‘ddau’ yma’n hel atgofion?  Gwneud i ni deimlo ar wahan a wna ‘dau’ yn aml. Ond daw ‘trydydd’ i agor y ‘ddau’ allan ac i’n cynnwys. Mi  roedd yna  ‘rywbeth’ am lun Y Drindod oedd yn cadarnhau fy mhrofiad egwan a di-eiriau o ‘Dduw’. Cynhesu oedd y gair iawn i ddisgrifio’r edrych hir ar y llun hwnnw. Ac fel rhyw ddisgrifiad-ymyl-llun fel ag a geir mewn orielau, clywais rhywun ar bregeth yn Rhydychen yn son am Y Drindod fel’ ‘God in  ‘his’ varied availabilities to us’.  ‘Duw’ ar gael i fy nghyneddfau meidrol a ffaeledig fel ‘tad’, ‘gwaredwr’ a ‘dychymyg’ anarchaidd bron- anarchiaeth ‘tan’ a ‘gwynt’.

Ond ‘llun’! Nid yr ‘hanfod’. A dyna wrth gwrs yw ‘dogmatiaeth’: ffeirio’r ‘llun’ am yr ‘hanfod’. Mae yna wastad ‘rywbeth’ na ellir fyth fythoedd ei ‘ddal’ y tu hwnt i’r ‘llun’. Dirnad hynny mae’n debyg a arweiniodd Morgan Llwyd i geisio mynd ‘tu draw’ i’r Drindod a son am y ‘canol llonydd’. Ond ‘llun’ yw hwnnw hefyd. Yn grefyddol yr ydym ni’n ‘wastad’ yn gaeth i luniau. Y dasg enfawr yw i ni beidio ceisio caethiwo eraill  hefo’r lluniau rheiny. O wneud, wele Irac a Syria a’r duw–bach- sydd- a- rhywbeth- yn- erbyn- hoywon .

Dim ond tair wythnos a phedwar diwrnod tan y Gynhadledd yng Nghaerfyrddin. Ydych chi wedi cofrestru eto ?