E-fwletin Mehefin 23ain.

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Mehefin 23ain.

Ers  tro’n byd yr wyf fi wedi dod i’r casgliad mai ‘creadigaethau’r ‘ dychymyg dynol yw pob un o’r crefyddau mawrion – a’r rhai ‘llai’a’u bod wedi eu gwreiddio yn y diwylliannau y tasgant ohono gan dderbyn rhagdybiadau y diwylliannau rheiny. Nofelau’r enaid ydynt i gyd.  Ymgeision tuag at ganfod ‘ystyr’, ‘arwyddocad’ a ‘pharhad’.  Nid yw dweud hynny o gwbl yn golygu nad oes yna ‘Rywbeth Mwy’ yn llechu y tu ol iddynt ac mai dychymyg yn unig yw’r  cwbl. Gwahaniaethaf rhwng  Y Gwirionedd a’r ‘gwirioneddau’; rhwng ‘duw’ a Duw.

‘Rwy’n grediniol hefyd fod pob un o’r crefyddau mawrion yn eu dyfnderau  yn Un, ond mewn ffordd na allwn ni fyth ei ddirnad. Mae’r unoliaeth hwnnw y tu hwnt i ni. Ond cawn gip ‘arno’ o bryd i bryd, yn bennaf drwy’r cyfriniol sy’ dod i’r amlwg, eto o bryd i bryd, ymhob crefydd ac sydd wedi peri  anhawster i’r’ uniongred’ erioed – wele y farn ranedig am natur crefydd Morgan Llwyd ymysg nifer o grefyddwyr Cymraeg. Tydy o ddim cweit mor ‘saff’ a^ Vavasor Powell! Yr un yw’r farn am gyfrinydd arall, Meister Eckhart o’r Almaen. Dawn y cyfrinwyr/wragedd yw medru torri drwy’r ‘gwirioneddau’ er mwyn teimlo gwrid  Y Gwirionedd.  Y ‘gwrid’, ond nid fyth y Wyneb.

I le rwyf fi’n mynd? Wel, y teimlad fod arnaf angen rhywbeth amgenach na’r math o grefydda  sydd ar gael yng Nghymru heddiw. A bod y cyfriniol yn rhywbeth gwerth edrych arno a’i ddarganfod drosom ein hunain. ( A gyda llaw ymdeimlad o annigonolrwydd iaith i son am y Trosgynnol  yw ‘hanfod’ cyfriniaeth, nid profiadau seicodelig o ‘dduw’- L.S.D  yw hynny ac awgrymaf nad ydych yn ei drio.) Fedrwn ni ddim cario ‘mlaen fel ag y mae hi.  Rhai enwadau wedi eu llwyr heijacio gan ‘uniongrededd’  styfnig o gul a di-ddychymyg yn y diwedd a ‘duw-a’ch-helpo’ os yda chi dros bymtheg oed – yn llythrennol ac  yn feddyliol. Yr adwaith i hynny wedyn: rhyddfrydiaeth lipa sy’n ‘esbonio’r’  dogmau – y ffenestri lliw cyfoethog  rheiny sy’n  llawn barddoniaeth gynnil – fel ‘camgymeriadau’ ol-Gwstenyn.   Ac yn waeth yr ‘anffyddiaeth’ ffasiynol sy’n hydreiddio ein gwlad o du rhai ‘uchelael’ na wyddant ddim am yr hyn y maent yn honni ei ‘wrthod’. Ni  fyddent yn meiddio gwneud hyn ag unrhyw ‘bwnc’ arall ond y crefyddol. Fe ymddengys mai’r unig gymhwyster i drafod y crefyddol mewn rhai cylchoedd yw twpdra.

Cyflwynaf y cyfriniol i’ch sylw fel ffordd amgen posibl. A man cychwyn i chi: llyfr ardderchog Denys Turner: The Darkness of God: Negativity in Christian Mysticism.

Mae ambell bererin yn holi ‘Ple mae’r Llwyfan ?’ Wel, fe wyr bawb ble mae’r Coleg yng Nghaerfyrddin ac mae ‘Ffordd y Coleg’ – cyfeiriad Y Llwyfan – yn arwain i’r coleg. Ac i’r satnafwyr/wragedd – SA31 3EQ !