E-fwletin Mai 26ain

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Mai 26ain

Mae nifer o fy ffrindiau yn “anffyddwyr”. Dwi’n rhoi’r gair mewn dyfynodau, oherwydd mai cyfeirio ydw i at yr hyn y mae nhw’n galw eu hunain; does na ddim, yn aml iawn, ronyn o dystiolaeth o’u diffyg ffydd. Dydi dadlau nad oes yna Dduw ddim yn medru gwadu presenoldeb y Dwyfol yn ein bywydau. Dydi galw crefydd yn gyfres o straeon tylwyth teg ddim yn dirymu’r hanfod gwydn. Mae angen mwy o angerdd a rheswm Nietzsche arnyn nhw i wneud hynny. Dim ond gwadu mae “anffyddwyr” cyfoes yn llwyddo i’w wneud ar y cyfan, gan nad yw hi’n bosib profi negydd.

Newidiodd cymdeithas yn ein cenhedlaeth ni. Daeth yn fyd plwyfol, clos a phawb yn byseddu’r un iaith i’w teclynnau torfol ar bum cyfandir.  Torrodd y ‘fi’ fawr ryngwaldol ar draws yr hen batrymau lleol bregus. Culhaodd ein perthynas â’r byd o’n cwmpas i’n teulu clos, y sgrîn lydan a’r band eang. Dim ond rhif ydan ni bellach i’r cwmnïau sydd yn darparu ein dwr a’n trydan a’n bwyd a’n bara beunyddiol, hyd yn oed.

Pa ryfedd i ni ostwng ein parch at werthoedd cymdeithas. Os nad ydi hwn yn plesio – clic ar y botwm, a dyna un arall – clic, clic, clic.  Os nad ydw i – y fi fawr – yn medru gweld synnwyr mewn syniad, yna – clic!

Mae’r defnydd o’r gair ‘anffyddiwr’ yn nodwedd sy’n perthyn i unigolyn a’u byd a’u buchedd. Mae’n deillio yn aml o adwaith i fagwraeth dan gysgod crefydd gul. Gwrthod yn unigol mae anffyddiwr, a’r gwrthwyneb, hyd y gwela i, yw cyd-chwilio.

Neu, o leia, dyna sut ydw i’n i gweld hi. Beth ddwedi di?

 

Mae manylion ein cynhadledd i’w gweld ar y wefan erbyn hyn, ynghyd a ffurflen gofrestru. Cofiwch ddau beth o leiaf : rhaid cofrestru er mwyn sicrhau bwyd – a chofrestru mewn pryd! A’r ail beth ? Soniwch wrth eraill a chyfeiriwch hwy i’r wefan. Dyma’r tro cyntaf i’r Gynhadledd fod yn y De Orllewin ac o dri lleoliad posibl eleni, Caerfyrddin a enillodd !