Archif Awdur: Golygydd

Dyfalu Duw

DYFALU DUW

Galwaf arnat, Dduw’r Gwirionedd,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob gwir, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Doethineb,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob peth doeth, ble bynnag y bo;

 

Dduw Ffynnon Bywyd,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y tardda pob bywyd, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Gwynfyd,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob llawenydd, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Da a’r Prydferth,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw popeth da a phrydferth, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Goleuni Tryloyw,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob llewyrch, ble bynnag y bo;

 

Dduw, y mae troi oddi wrthyt yn gwymp

a throi atat yn atgyfodiad,

a thrigo ynot yn gadernid sefydlog;

 

Dduw, y mae Ffydd yn ein hannog tuag atat,

Gobaith yn ein dyrchafu atat,

Cariad yn ein huniaethu â Thi;

Trugarha wrthym,

Nertha’n Ffydd

Ehanga’n Gobaith

a thania’n Cariad;

Er mwyn i ni dy addoli mewn rhyfeddod ac ufudd-dod.              

 

(Seiliedig ar weddi gan Awstin Sant)

Tangnefedd a byw yn ddi-drais

TANGNEFEDD A BYW YN DDI-DRAIS

Rwy’n dymuno tangnefedd ar bob gŵr, gwraig a phlentyn, ac yn gweddïo y bydd delw Duw ym mhob person yn ein galluogi i gydnabod ein gilydd fel rhodd sanctaidd wedi ein cynysgaeddu ag urddas enfawr. Yn enwedig lle bo gwrthdaro, gadewch i ni barchu ein ‘hurddas dyfnaf’ a seilio ein bywydau ar weithredu bwriadol ddi-drais.
(Y Pab Francis)

Mae gweithredu di-drais yn golygu hawlio ein hunaniaeth sylfaenol fel meibion a merched sy’n annwyl i Dduw tangnefedd; o ganlyniad awn allan i fyd rhyfel fel tangnefeddwyr i garu pob bod dynol. Ond dyma’r broblem: dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydyn ni. Yr her yw cofio pwy ydyn ni a bod yn ddi-drais atom ein hunain ac at eraill. (John Dear)

Mae byw yn ddi-drais yn hawlio patrwm beunyddiol o fyfyrio, synfyfyrio a meddylgarwch. Fel y mae diffyg meddwl yn arwain at drais, y mae meddylgaredd cyson ac ymwybodol o’n gwir hunaniaeth yn arwain at absenoldeb trais a thangnefedd. Po ddyfnaf yr awn i feddylgaredd di-drais, po agosaf y down at y gwirionedd am ein hunaniaeth fel chwiorydd a brodyr i’n gilydd, fel meibion a merched i Dduw tangnefedd. Mae goblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yr arfer yma’n rhyfeddol: os ydyn ni’n feibion a merched i greawdwr cariadus, yna mae pob creadur dynol yn chwaer a brawd, ac ni allwn fyth eto frifo neb ar y ddaear, a llai fyth dewi yn wyneb rhyfel, newyn, hiliaeth, rhywiaeth, arfau niwclear, anghyfiawnder y drefn a dinistr yr amgylchedd.
(Richard Rohr)

Cerwch eich gelynion …

Cyfarfod mis Tachwedd – manylion

Cyfarfod mis Tachwedd 2017

‘Beth yw ystyr dysgu gan Iesu mewn byd sy ar ddymchwel?’

Dyna’r cwestiwn y bydd y diwinydd disglair James Alison yn ceisio’i ateb yng nghyfarfod nesaf cristnogaeth21 ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol gynt) ym Mhenarlâg, 10.30am – 4.30pm.

Yn ei ail ddarlith bydd James yn sôn am ei ffordd bersonol ef o ddwyn ynghyd feddwl amheugar y sceptig a thraddodiad eglwysig.

Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30

Llyfrgell Gladstone Penarlâg

 DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON

 Rhaglen y Dydd:

 10.30am – Croeso, coffi a chofrestru

11am : Sesiwn 1

 What does it mean to be taught by Jesus 
in the midst of a world in meltdown?

 Cylchoedd Trafod

12.30pm Cinio

1.30pm Sesiwn 2:

 The sceptical mind and Church tradition

– a personal approach.

Cylchoedd Trafod

3pm Sesiwn: Holi’r darlithydd

3.30pm Defosiwn

4.15pm Te ac Ymadael.

Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the

Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 i gadw lle at 

Enid Morgan, Rhiwlas, Allt y Clogwyn, Aberystwyth SY23 2DN 
01970624648 enid.morgan[at]gmail.com

Cyfarfod nesaf Cristnogaeth21

CYFARFOD NESAF CRISTNOGAETH21

‘Beth yw ystyr dysgu gan Iesu mewn byd sy ar ddymchwel?’

Dyna’r cwestiwn y bydd y diwinydd disglair James Alison yn ceisio’i ateb yng nghyfarfod nesaf cristnogaeth21 ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol gynt) ym Mhenarlâg, 10.30am – 4.30pm.

Yn ei ail ddarlith bydd James yn sôn am ei ffordd bersonol ef o ddwyn ynghyd feddwl amheugar y sceptig a thraddodiad eglwysig.

Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30

Llyfrgell Gladstone Penarlâg

 DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON

 Rhaglen y Dydd:

 10.30am – Croeso, coffi a chofrestru

11am : Sesiwn 1

 What does it mean to be taught by Jesus
in the midst of a world in meltdown?

 Cylchoedd Trafod

12.30pm Cinio

1.30pm Sesiwn 2:

 The sceptical mind and Church tradition

– a personal approach.

Cylchoedd Trafod

3pm Sesiwn: Holi’r darlithydd

3.30pm Defosiwn

4.15pm Te ac Ymadael.

Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the

Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 i gadw lle at 

Enid Morgan, Rhiwlas, Allt y Clogwyn, Aberystwyth SY23 2DN
01070624648 enid.morgan@gmail.com

Lewis Glyn Cothi – englynion

ENGLYNION I DDUW

Un o’r cyfranwyr i Encil Cristnogaeth21 yn Aberdaron ar 30 Medi oedd y gantores Gwyneth Glyn. Yn ei chyflwyniad cyfoethog darllenodd y detholiad hwn o englynion o’r 15ed ganrif gan Lewis Glyn Cothi. Diolchodd i Twm Morys am y gwaith dethol.

Ar dymor cynhaeaf maen nhw’n arbennig o ystyrlon a dwys. 

Glanaf o bob goleuni – yn y byd,
         Mal y berth yn llosgi,
     Yn yr haul, yn yr heli,
     Yn y sêr, myn f’einioes i.

Tad planed wastad, Tad niwl distaw – gwyn,
           Tad gwynt, helynt hylaw,
   Tad gwenith, Tad eginaw,
     Tad yw i’r gwlith, Tad i’r glaw.

Yn y gwŷdd y bydd, ym mhob âr – drwy’r byd
         Yn yr ŷd a’r adar,
     Yn Dduw y mae’n y ddaear,
     Yn ddewin gwyn, yn ddyn gwâr.

Yn egin y llin gerllaw, – yn y gwynt,
         Yn y gwellt yn gwreiddiaw,
     Yn y gwenith yn rhithiaw,
     Yn y gwlith ac yn y glaw.

Yn eigion ymhell, yn agos, – y mae,
         Yn y main, yn y rhos,
     Yn y niwl ac yn y nos,
     Yn y dydd, yn y diddos.

Tad Tri Enw, tad tirionaf – daear,
         Tad yw i’r cynhaeaf,
     Tad yw i’r hin, tad yr haf,
     A’i oleuni sy lanaf.

 

Môr Goleuni – Tir Tywyll

MÔR GOLEUNI – TIR TYWYLL

Pelydrau dros Enlli – (h) Iestyn Hughes

Encil Aberdaron

Daeth ffrindiau hen a newydd ynghyd i ail encil cristnogaeth21 yn y gogledd ddydd Sadwrn, 30 Medi 2017. Diwrnod cofio Waldo ydoedd a dyfyniad o waith Waldo ‘Môr goleuni, tir tywyll’ oedd y thema gan y siaradwyr i gyd. Gyda gwyntoedd Hydref yn bygwth a dau o’r cwmni wedi eu dal ar Ynys Enlli am dri diwrnod oherwydd y tywydd, yr oeddcreigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’ yn gefndir cyson i’r sgwrs a’r myfyrio. Yn Eglwys Aberdaron ei hun – a oedd, ganrif a hanner yn ôl, yn furddun ond sy bellach yn gadarn ac yn glyd – cawsom arweiniad hyfryd o amrywiol.

Cofeb Waldo

Agorwyd gan Pryderi Llwyd yn dangos rhai o luniau Aled Rhys Hughes  sy’n ddrych o lawer o gerddi Waldo, ac yn arlwy cyfoethog Gwyneth Glyn cawsom amryw osodiadau o eiriau Waldo. Gobeithiwn weld cyhoeddi a recordio’r rhain cyn hir er bod ‘Rhodia, o wynt’ yn newydd sbon gan nad yw hyd yn oed yn ei chryno ddisg newydd Tro. Cawsom ddarlleniadau effeithiol iawn gan Aled Lewis Evans, a Gwen Aaron ac Anna Jane yn darllen o’r ddwy gyfrol Galar a Fi a Gyrru Drwy Storom. Clymodd Tecwyn Ifan y cwbl ynghyd mewn myfyrdod a chân hynod afaelgar oedd yn peri i rai o ddelweddau symlaf Waldo befrio yn y cof a’n herio i holi: ‘Ble mae’ch llawr chi? Ble mae’ch ffenest chi?’

Aethom adre o niwl ar Ynys Enlli a’r môr goleuni yn ein hudo fwy nag erioed.

Diolch i bob un.

Cynhadledd Pantycelyn 14 Hydref

Cynhadledd Pantycelyn, 14 Hydref

Llun: LlGC

Cynhelir y gynhadledd undydd eleni yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Sadwrn 14 Hydref 2017. Y mae’n briodol iawn mai agweddau ar waith William Williams Pantycelyn a fydd dan sylw am ein bod yn dathlu tri chanmlwyddiant ei eni eleni. Bydd pum papur yn cael eu cyflwyno, a’r siaradwyr fydd yr Athro E. Wyn James, Dr Eryn M. White, Gwynn Matthews, yr Athro Densil Morgan a’r Athro Ceri Davies. Yn sesiwn olaf y diwrnod, bydd panel o dri (Dafydd IwanGareth Bonello a Lleuwen Steffan) o dan gadeiryddiaeth Delyth Morgans Phillips yn sôn am ddylanwad emynau Pantycelyn arnynt hwy, ac am yr her o gyflwyno emynau’r Pêr Ganiedydd mewn cyd-destun cyfoes.

Trefnodd y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa arbennig ar Bantycelyn a bydd hon i’w gweld yn ystod y dydd yn Ystafell Summers. Yn ystod y dydd hefyd, bydd Cymdeithas Emynau Cymru yn lawnsio cyfrol o ysgrifau’r diweddar Glyn Tegai Hughes ar Bantycelyn.

Trefnir y digwyddiad gan Adran Diwylliant y 18-19 Ganrif, Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gyda chydweithrediad a chefnogaeth yr Adrannau Athroniaeth, Clasuron, Diwinyddiaeth, a Llên Gwerin ac Ethnoleg, ynghyd â Chymdeithas Emynau Cymru. Cafwyd cefnogaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd. Noddir y digwyddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30 ac yn gorffen am 4.30. Bydd y tâl cofrestru yn £5 am y diwrnod a gofynnir i bob un gofrestru ymlaen llaw. Gellir cofrestru trwy anfon siec am £5 yn daladwy i ‘Prifysgol Cymru’ a’i hanfon i’r Ganolfan Uwchefrydiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH. Gellir cofrestru trwy anfon ebost at: canolfan@cymru.ac.uk. Rhif ffôn y Ganolfan yw: 01970.636543.

Bydd Caffi Pendinas yn y Llyfrgell ar agor yn ystod y dydd.

 

 

 

 

E-fwletin 1 Hydref 2017

Cenhadaeth ein Cenedl

Aeth blynyddoedd lawer ers i’n capel ni godi arian i’r “genhadaeth”. Dwi ddim yn cofio pryd y gwnaethon ni sôn ddiwethaf am y “genhadaeth”, hynny ydy, yn y ffordd rwy’n cofio pethau fel plentyn yn y ’60au.

Ry’n ni, fel nifer o eglwysi eraill, yn ariannu cynlluniau i oresgyn tlodi, i ymladd afiechyd a newyn, i gynorthwyo cynlluniau sy’n cefnogi ffoaduriaid yn ne Ewrop, i ddilladu’r digartref yn lleol ac i gynnig cefnogaeth i rai gydag anawsterau salwch meddwl. Mae ‘na gyffro am nifer o’r prosiectau hyn. Fodd bynnag, nid yw’r gair ‘cenhadaeth’ wedi cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag unrhyw un o’r gweithgareddau uchod; ac i fod yn onest, ry’n ni fel eglwys yn ddigon hapus gyda hynny.

Yr wythnos hon yng Nghymru fe lansiwyd cenhadaeth newydd, ac rwy’n tybio y bydd hon yn genhadaeth a fydd yn ennyn ein cefnogaeth. Os na ddarllenoch chi’r ddogfen, mae hi’n werth i chi daro golwg ar Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. Gydag arddeliad cenhadol, fe gyhoeddodd Kirsty Williams y ffordd ymlaen ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae’r wlad ar fin mynd ar daith newydd gyda’i phlant. Wedi cenedlaethau o greu cwricwlwm sy’n seiliedig ar restrau cynnwys diben-draw, ond heb weledigaeth am eu pwrpas, mae yna gwricwlwm newydd ar ddod a fydd wedi ei wreiddio mewn gwerthoedd.

Amcanion cwricwlwm newydd Cymru yw gwneud yn siwr bod y genhedlaeth nesaf yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sydd hefyd yn gyfranwyr mentrus a chreadigol; eu bod yn unigolion iach a hyderus, sydd hefyd yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus.  Bydd y cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei ysgrifennu er mwyn helpu’r ifanc i ddatblygu yn y ffyrdd hyn. Dyna yw ei bwrpas.

Yn eich barn chi, tybed a fyddai’r rhain hefyd yn nodau teilwng i’ch eglwys? Beth fyddai angen i’ch eglwys chi ei wneud i greu aelodau sy’n ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn gymdogion sy’n cyfrannu’n fentrus a chreadigol i fywyd yr eglwys a’i chymuned, yn bobl iach a hyderus ac yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus?

Ydy’n heglwysi ni hyd yn oed yn anelu mor uchel â hyn? Neu a ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae nodau ein system addysg ar gyfer ein pobl ifanc yn fwy nobl ac uchelgeisiol na nodau’r eglwys ar gyfer ei haelodau? Beth am gefnogi egwyddorion Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer ein plant, tra hefyd yn mynd ati i greu strategaeth ar gyfer ein heglwysi ar sail yr un egwyddorion?

Gallwch gyrchu’r ddogfen ar y ddolen hon: http://gov.wales/docs/dcells/publications/170926-education-in-wales-cy.pdf

 

E-fwletin Medi’r 25ain, 2017

Yn ei chyfrol Learning to Walk in the Dark, cydnebydd Barbara Brown Taylor ei dyled i’r awdur a’r gweithredwr gwleidyddol o Ffrainc,  , 1924-71,  am ddangos iddi’r ffordd i weld yn y tywyllwch.  Buan iawn, wedi ei ddallu’n ddamweiniol yn saith oed, y sylweddolodd Lusseyran mai  ‘golau arall yw tywyllwch’. Gyda chefnogaeth ei rieni  ymwrthododd â hunan-dosturi ac ar eu hanogaeth rhannai â nhw’n gyson ei ddarganfyddiadau o’i fyd a’i fywyd newydd.

Jacques Lusseyran 1924-71

Nid yn lleiaf y ffaith nad aeth y golau o’i fywyd. Ni chollodd ei allu i weld ac adnabod a dirnad. Er i’w lygaid ddiffodd gallai weld ac adnabod y goeden wrth furmuron  yr awel drwy’i dail ac uchder y wal wrth wasgfa’i chysgod ar ei gorff. Gwyddai  wrth gyffyrddiad ei law p’run ai offer llaw ynteu beiriant fu’n llunio’r bwrdd cinio.
Dysgodd fyw’n sylwgar.  Dawn nad yw’r llygaid gwibiog, cyflym, arwynebol eu trem  yn ei chaniatau. Dawn y mae Iesu’n gofyn am ei meithrin. Syllu a sylwi  a chraffu ar adar a blodau a chymylau a gwynt. Cyn anodded â dim iddo oedd meithrin y ddawn i sylwi arno’i hunan a chanfod fod  y ddawn honno’n ddibynnol ar ei gyflwr mewnol. Yng nghysgodion ofn a thristwch pylai’r golau  a’i ddiffodd yn llwyr gan feddylfryd cas, dialgar ac anfaddeugar.
Profwyd hynny pan  gludwyd ef,  ynghyd â  dwy fil o’i gyd-wladwyr, gan y Natsïaid i Buchenwald.  Sylwodd fel y gweithiai casineb yn ei erbyn, nid yn unig wrth dywyllu ei fywyd ond ei grebachu’n ogystal. Tra mewn natur ddrwg, dymherus cerddai i fewn i furiau a baglu dros gelfi. 

Tra carai, gwelai. Tra carai, cerddai’n rhydd.

 Yng ngoleuni  ei sylwadau cawn ragorach golwg ar natur ddeublyg y farn a gyhoeddir gan Iesu yn nhermau adfer a cholli golwg.  (Ioan 9.39)  Bod y  dall yn cael adferiad golwg  sydd fendith fawr yn wir.  A ninnau yn byw ym myd Trump a Kim Jong Un gwyddom pa mor beryglus yw’r person sy’n gweld yn glir â hithau’n amlwg i’r ddau lle triga’r gelyn ac yn  lle gorwedd y bygythiad i fywyd y byd. A chofio mai dau sy’n gweld pethau’n glir yw Trump a Kim Jong Un onid oes lle i gredu nad llai bendithiol y bywyd hwnnw sydd ar dro’n gorfod ymbalfalu ei ffordd yng nghysgodion nos lle mae’r goleuni , nad oes a wnelo ddim  â’r llygaid, yn llewyrchu.