Archifau Categori: Agora 17

Glywsoch chi hon?

Glywsoch chi hon?

Waldo yng ngharchar am wrthod talu dirwy, dirwy am wrthod talu treth incwm ag elfen yn mynd i gynnal byddin. Cyfaill yn mynd i ymweld ag e, ac mewn tristwch o’i weld yn y fath amgylchiadau yn ebychu, “Waldo bach, beth wyt ti’n neud fan hyn?”

Waldo yn ateb fel fflach, “Beth wyt ti’n neud mas yn fan’co?”

Dywedwyd yr hanes gan Tecwyn Ifan yn encil cristnogaeth21 yn Aberdaron.

Gweld mewn drych…

Gweld mewn drych …

Roedd gan George Monbiot erthygl yn y Guardian ychydig yn ôl, myfyrdod ar yr etholiad cyffredinol. Ynddi mae’n awgrymu bod y cyfryngau wedi dangos nad oedden nhw wedi deall y bobl, ‘wildly out of touch with the nation’ oedd ei ymadrodd. Dyw hynny ddim yn syndod, meddai, oherwydd mae’r cyfryngau’n byw mewn neuadd o ddrychau. Mae pawb yn edrych ar ei gilydd, y papurau’n edrych ar beth mae’r cyfryngau darlledu’n ei ddweud, a’r darlledwyr yn edrych ar y papurau, ac yn ailgylchu’r hyn mae’r naill a’r llall yn ei ddweud. Ac yna, beth am yr arbenigwyr sy’n cael eu holi? Wel, criw bach dethol, yn mynd o raglen i raglen, o sianel i sianel, a neb yn dweud fawr ddim sy’n wahanol.

The broadcasters echo what the papers say, the papers pick up what the broadcasters say. A narrow group of favoured pundits appear on the news programmes again and again. Press prizes are awarded to those who reflect the consensus, and denied to those who think differently. People won’t step outside the circle for fear of ridicule and exclusion.

Gellir mynd i’r afael â’r ddamcaniaeth, a siawns bydd dwy farn, os nad mwy.

Ond yr hyn wnaeth fy nharo i ar ôl darllen yr erthygl oedd hyn. Os mai mewn ‘hall of mirrors’ mae newyddiadurwyr ac ati yn byw lle mae gwleidyddiaeth a materion y dydd yn y cwestiwn, mae’n siŵr bod yr un peth yn wir am feysydd eraill hefyd – gwyddoniaeth, meddygaeth, cymdeithaseg, diwinyddiaeth a phob -iaeth ac -aseg arall. Mae arbenigedd mewn pwnc neu faes yn golygu bod yr arbenigwyr yn mynd i siarad â’i gilydd a gwneud hynny mewn iaith a delweddau sy’n gwneud synnwyr iddyn nhw.

Mae’r lle rydym ni nawr, y cyfrwng yma, a chynnwys y lle yma, yn ‘hall of mirrors. Tebyg at ei debyg, dweud pethau rydym am eu clywed, rhannu syniadau a barn sy’n ein bwydo a’n cynnal.

Gyda’r cyfryngau cymdeithasol ar y we rydym yn dewis ein ‘cyfeillion’ a’r rhai rydym am eu ‘dilyn’. Pam? Am ein bod yn eu hoffi neu’n cytuno â’u barn. Ac os yw’r hoffter yn darfod, gall y cyswllt ddarfod gydag un clic.

Mae gwyliau a chynadleddau crefyddol yn cael eu trefnu. Fe af i hon oherwydd dwi’n debygol o glywed yr hyn dwi’n awyddus i’w glywed. Ond am yr un acw, dwi’n gwybod ymlaen llaw na allaf stumogi’r hyn fydd ar gael yno.

Mae gennym bob math o neuaddau’n llawn drychau – enwadau, capeli ac eglwysi, pwyllgorau a phopeth sy’n cynnal ein hen gyfundrefn eglwysig / gapelog – ac rydym yn edrych ar ein gilydd, porthi’n gilydd, gweld ein gilydd, canmol ein gilydd heb, efallai, weld beth sydd y tu hwnt i’r drych.

Monbiot eto:

The media as a whole has succumbed to a new treason of the intellectuals, first absorbing dominant ideologies, then persuading each other that these are the only views worth holding. If we are to reclaim some relevance in these times of flux and crisis, we urgently need to broaden the pool of contributors and perspectives.

 Ydy hynny’n wir ac yn dweud rhywbeth am ein sefyllfa ni os newidiwn un gair yn y ddwy frawddeg yna – ‘eglwys’ yn lle ‘media’?

Tua diwedd yr erthygl mae Monbiot yn sôn am y diffyg cyswllt nid yn unig â thrwch y boblogaeth ond â’r byd go-iawn. Ydy hynny’n wir amdanom ni, bobl y capeli a’r eglwysi? Ac os ydyw, beth allwn ni ei wneud i newid pethau?

 Golygydd

Hen Broblem

HEN BROBLEM

Gan amlaf, mae rhywun nad yw’n Gristion yn gwybod rhywbeth am y ddaear, am y nefoedd ac elfennau eraill y byd, am symud a chylch y sêr a hyd yn oed eu maint a’u safle, am eclips yr haul a’r lleuad y gellir ei rag-weld, cylchoedd y blynyddoedd a’r tymhorau, am fathau o anifeiliaid, llwyni, cerrig ac ati. Ac mae’n dal ei afael yn sicrwydd yr wybodaeth hon trwy brofiad a rheswm.

Nawr, peth cywilyddus a pheryglus yw i anghrediniwr glywed Cristion, wrth ymhonni ei fod yn egluro ystyr yr Ysgrythur Sanctaidd, yn siarad dwli am y fath bynciau; a dylem sicrhau pob dull i rwystro’r fath sefyllfa letchwith pan yw pobl yn datguddio anwybodaeth enfawr ymhlith Cristnogion ac yn chwerthin am eu pennau mewn dirmyg. Mae’r cywilydd, nid yn gymaint bod unigolyn yn cael ei ddirmygu ond bod pobl y tu hwnt i gylch y ffydd yn credu bod awduron yr ysgrythur yn meddu’r fath opiniynau, ac er mawr golled i’r rhai rydyn ni’n gweithio er eu hiachawdwriaeth, mae awduron ein hysgrythur yn cael eu beirniadu a’u gwrthod fel pobl ddi-ddysg.

Os dônt o hyd i Gristion yn anghywir mewn maes maen nhw eu hunain yn ei ddeall yn dda ac yn ei glywed yn mynegi opinynau dwl am ein llyfrau, sut y maen nhw i gredu’r llyfrau hyn mewn materion ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, y gobaith am fywyd tragwyddol a theyrnas nefoedd pan maen nhw’n credu bod y tudalennau’n llawn celwydd ac ynghylch ffeithiau maen nhw eu hunain wedi’u dysgu trwy brofiad a goleuni rheswm? Mae dehonglwyr byrbwyll ac analluog o’r Ysgrythur Lân yn dwyn trafferth a thristwch di-ben-draw ar eu brodyr doethach pan maen nhw’n cael eu dal yn un o’u hopiniynau drygionus a ffug, ac yn cael eu herio gan rai sydd heb ymrwymiad i awdurdod ein llyfrau sanctaidd. Yna, er mwyn amddiffyn eu gosodiadau cwbl ffôl ac amlwg gelwyddog, maen nhw’n ceisio galw ar yr Ysgrythur Lân am brawf a hyd yn oed yn adrodd ar eu cof ddarnau y maen nhw’n credu sy’n cynnal eu barn, er nad ydyn nhw’n deall beth sy’n cael eu ddweud na’r pethau maen nhw’n datgan barn amdanyn nhw.

 O esboniad Awstin ar Genesis. Addasiad o waith J. H. Taylor, Ystyr Llythrennol Genesis (Efrog Newydd).

Naomi Starkey

Naomi, Aberdaron

Llun: Eglwys yng Nghymru

A ninnau wedi treulio diwrnod tawel, cofiadwy yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, ar y Sadwrn olaf o Fedi, daeth cyfle i gael sgwrs gydag un sydd wedi croesi’r bont ac wedi dysgu Cymraeg mewn amser byr. Mae bellach yn darllen a siarad Cymraeg yn hapus a chyfforddus. Mae Naomi Starkey yn giwrad yn Sant Hywyn ac yn un o dîm Plwyf Bro Enlli sydd yn ymestyn o Bwllheli i Aberdaron. Fe fu Pryderi yn sgwrsio gyda hi.

Naomi, diolch am gytuno i sgwrsio gyda Cristnogaeth 21. Fe ddeuthum i wybod amdanoch fel Golygydd Cyffredinol y cyhoeddiad New Daylight, sef deunydd defosiwn dyddiol y BRF (Bible Reading Fellowship). Fe ddof yn ôl at hynny. Roedd yn syndod felly i glywed eich bod bellach yn byw ym mhen draw Llŷn ac yn siarad Cymraeg. Fe ddof yn ôl at hynny hefyd.

 

Beth am eich cefndir, Naomi?

Merch ficer ydw i! Ces i fy magu yn Jersey, lle roedd fy nhad yn gweithio, ond symudodd y teulu i’r ‘tir mawr’ – Caergrawnt – ym 1977. Roedd fy nhad yn ficer anghonfensiynol iawn, ac am gyfnod yn fy arddegau,roedd y teulu yn cadw fferm fach, yn trio byw bywyd gwahanol gyda geifr, cywion, moch, ac yn y blaen.

Ai o argyhoeddiad hunan-gynhaliol neu amgylcheddol?

Wel, roedd y teulu yn cael ei ysbrydoliaeth gan lawlyfr dylanwadol iawn Self Sufficiency gan John Seymour. Felly, dwi’n meddwl ei bod hi’n fater o fod yn hunan-gynhaliol yn y bôn! Ond roedd yn llawer iawn o hwyl hefyd.

Ar ôl mynd i’r brifysgol, ces i fy hyfforddi fel newyddiadurwr (yng Nghaerdydd!), ond wedi symud i Lundain ym 1993 dechreuais weithio fel golygydd llyfrau Cristnogol, gyda’r SPCK yn gyntaf ac wedyn y BRF. Symudais i Gymru yn 2011 a dechreuais hyfforddiant fel clerigwr yn 2012. Ddwy flynedd wedyn, penderfynais i weithio’n llawn-amser yn yr Eglwys yng Nghymru, felly symudais i Ben Llŷn yn 2015 a … dyma fi!

Onid oes perygl yn y syniad o ‘droi cefn ar y bywyd dinesig’ (‘escape to the country’) i gael bywyd tawelach?

 Cytuno’n llwyr!! Dydy bywyd cefn gwlad ddim yn ffordd syml i ‘fywyd tawelach’. Mae pobl yn medru symud o’r ddinas i gefn gwlad ond yn dal i fyw bywydau llawn o bryderon, straen ac yn y blaen. Ar yr un pryd, yn fy marn i, mae bywyd Cymru wledig yn medru bod yn ffordd o fyw sy’n annog persbectif tawelach, o’i gymharu â’r brifddinas beth bynnag!

O’ch cefndir, a fedrwch sôn am y cyfnodau mwyaf dylanwadol arnoch a’r bobl oedd yn bwysig yn y cyfnodau hynny?

 Roedd cyfnod fy magu yn Jersey yn gyfnod pwysig a dylanwadol dros ben arna i. Dwi’n cofio teimlad o gynnwrf yn eglwys fy nhad am ei bod yn tyfu’n gyflym yn ystod yr adeg honno.

Wnewch chi sôn mwy am y ‘twf’ hwnnw – twf mewn nifer?

Oedd, roedd twf mewn nifer ond roedd mwy o bobl ifanc yn ymuno â’r eglwys hefyd – ac roedd nifer dda ohonyn nhw’n parhau yn y ffydd, a rhai, hyd yn oed, wedi yn mynd i weithio’n llawn-amser mewn eglwysi eraill. Rydw i hefyd yn cofio pobl oedd yn dod i’r eglwys, ac wedi cael eu trawsnewid trwy gyfarfod y Duw byw – rhai ohonynt yn ymdrechu gyda phroblemau personol fel alcoholiaeth, caethiwed i gyffuriau ac iselder. Yn aml, roedd eu problemau’n parhau, wrth gwrs, ond fel merch ifanc iawn, roeddwn yn gweld sut roedd Iesu Grist yn rhoi gobaith i bobl oedd yn byw heb obaith.

A fyddech yn dweud fod y profiad hwnnw wedi bod yn brofiad o ‘drawsnewid’ neu o ‘dröedigaeth’ yn eich bywyd?

 Dwi ddim yn medru cofio adeg yn fy mywyd pan nad oeddwn yn credu yn Iesu Grist. Dwi ddim yn medru cofio moment benodol o ‘droëdigaeth’. Ond roedd profiadau fy magwrfa yn ddylanwad ac yn ysbrydoliaeth fawr, ac roeddwn yn parhau i dyfu fel Cristion. Ond roeddech chi’n holi am y bobl oedd yn bwysig. Fy nhad a mam! Ond hefyd aelodau’r eglwys oedd yn dangos cariad a gofal ohonof fi a’m brodyr a’m chwaer. Ac yn arbennig fy athrawon ysgol Sul. Roedd yr eglwys yn teimlo fel teulu mawr (i mi o leiaf) ac yn esiampl dda i fi o bwrpas eglwys leol i fod fel teulu ac yn deulu.

 Fel rhywun sydd yn gwasanaethu’r eglwys, sut, tybed, y byddech yn egluro ‘galwad’. Soniodd yr Esgob David Sheppard rywdro am ddwy ochr glir i’r un alwad: un gan Dduw a’r llall gan Lerpwl! Beth oedd – ac yw – natur eich galwad?

 Calon fy ngalwad ydy cysylltu pobl â Duw. Ers llawer o flynyddoedd i mi, roedd hynny trwy gyhoeddi (ac ysgrifennu) llyfrau Cristnogol a deunydd defosiwn dyddiol, ond nawr drwy weithio fel offeiriad Anglicanaidd. Dwi’n egluro ‘galwad’ fel ‘teimlad dwfn’ – hyd yn oed ‘greddf’. Er hynny, yn fy mhrofiad i, rhaid i chi dderbyn cyngor oddi wrth rywun yr ydych chi’n ymddiried ynddi neu ynddo. Mae rhai’n defnyddio’r gair ‘mentor’, ac eraill ‘cyfarwyddwr ysbrydol’, i’ch helpu chi i ddarganfod ac wedyn archwilio eich galwad bersonol, unigryw.

Ai cael gweithio mewn plwyf oedd eich dymuniad? Neu ai Aberdaron a’r cysylltiadau Cristnogol Celtaidd – fel rhai o’ch blaen – oedd yn denu, neu R. S. Thomas ?

Roeddwn i’n byw yn Llundain ers 18 mlynedd ond dwi wedi mwynhau bod yn rhan o gymuned leol bob amser. Roedd hi’n anodd – ond yn bosibl – ffeindio cymdeithas mewn prifddinas enfawr, ond mae’n llawer haws yng nghefn gwlad, mewn pentrefi a threfi bach. Roeddwn i isio dod i weithio yn ardal Pen Llŷn am fod gen i ddiddordeb yn hanes ysbrydol yr ardal – tradddodiad pererindod tros ganrifoedd, yn ogystal â cherddi R. S. Thomas! Hefyd, roeddwn i isio gweithio mewn ardal Gymraeg i’m helpu fi i barhau i wella fy sgiliau iaith.

Rydych wedi dysgu’r Gymraeg yn ardderchog a diolch i chi am werthfawrogi’r angen i fynd ymhellach na’r ‘token Welsh’ sydd, yn anffodus, wedi bod yn llawer rhy gyffredin o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn y gorffennol. Ond, ar wahân i ddysgu iaith fel sgìl a chyfrwng cyfathrebu, pa mor bwysig yw’r iaith yn ‘hanes ysbrydol’ Llŷn a Chymru?

Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig dros ben i fedru addoli Duw yn eich mamiaith – mae’n ffordd o dyfu mewn hyder fel Cristion. Hefyd, mae iaith yn rhan ganolog o hunaniaeth cenedl, pobl, cymuned leol … felly, yn ddi-os, mae deall (neu dysgu deall) y Gymraeg yn hanfodol i bawb sy isio gweinidogaethu yma, a hyd yn oed mewn ardaloedd eraill yng Nghymru sydd heb lawer o Gymry Cymraeg.

 O gofio eich profiad gyda New Daylight a’r pwyslais ar ddefosiwn personol, ai i’r cyfeiriad hwnnw rydych yn gweld prif bwyslais eich gweinidogaeth?

 Fel dwi wedi dweud yn barod, dwi’n credu mai calon fy ngalwad offeiriadol ydy cysylltu pobl â Duw. Ers imi ddechrau gweithio’n llawn-amser yn yr Eglwys yng Nghymru, dwi wedi darganfod mod i’n gallu gwneud y cysylltiad hwn trwy wasanaethau arbennig fel angladdau, priodasau a bedyddiadau, yn ogystal ag arwain gwasanaethau ysgolion (cynradd ac uwchradd), grwpiau astudio’r Beibl ac, wrth gwrs, gwasanaethau dydd Sul. Mae gen i angerdd, awydd mawr, i ddangos i bobl ym mhob ffordd bosibl fod Duw yn gofalu amdanyn nhw, yn eu caru nhw … ac mae Duw yn dda, trwy’r amser.

Mae eich pwyslais ar ‘fugeilio eneidiau‘ yn amlwg yn ganolog yn eich gweinidogaeth ac mae’r angen hwnnw yn fwy nag erioed – hyd yn oed yng nghefn gwlad. A oes gennych argyhoeddiad arbennig ynglŷn ag unrhyw agwedd o fywyd yr eglwys yn y byd, er enghraifft, fel mae Cymuned Iona yn cynnwys ‘gweinidogaeth iacháu’ yn ogystal ag ‘ymgyrchu cyfiawnder a heddwch’ yn ei chenhadaeth?

Dros y blynyddoedd dwi wedi mwynhau mynd i ŵyl ‘celf a chyfiawnder’ Greenbelt. Yno, dwi wedi dysgu cymaint am sut i gysylltu ffydd Gristnogol gyda’r angerdd a’r awydd i weld newidiadau yn y byd. Yno, hefyd, mae pwyslais hanfodol a chanolog ar sut i gyflawni gorchymyn Iesu Grist i ddangos cariad Duw i bawb sydd mewn angen neu ar ffin cymdeithas, a gwneud hynny trwy ffyrdd ymarferol.

A chithau yn Aberdaron, a oes gennych hoff gerdd (os ydych yn hoff o’i gerddi, wrth gwrs) gan R. S.Thomas? Ac oherwydd eich bod wedi cyfrannu cymaint i fywyd defosiynol Cristnogion drwy New Daylight, a oes yna gyfrol neu awdur y byddech yn ei ddweud sydd wedi bod yn bwysig yn eich pererindod?

Fy hoff gerdd gan R. S. Thomas ydy ‘Wrong?’ o’r gyfrol No Truce with the Furies – cerdd dyner, llawn o hiraeth am bresenoldeb Duw. Awdur neu gyfrol sy’n bwysig yn fy mhererindod bersonol … mae hi’n anodd dewis jyst un! Ond … roedd The Great Divorce gan C. S. Lewis yn llyfr a gafodd ddylanwad cryf arna i oherwydd ei ymdrech ystyrlon i egluro ‘iachawdwriaeth’ a ‘damnedigaeth’ a hynny, wrth gwrs, mewn stori gofiadwy.

Diolch yn fawr, Naomi, am rannu eich profiadau a’ch meddyliau gyda ni a phob bendith i chi yn y dyfodol gan obeithio y byddwch yn parhau i fyw a gweithio yng Nghymru ac yn cyfrannu i’r dystiolaeth Gristnogol yn ein plith.

Yn hytrach na gorffen ein sgwrs gyda’r gair ‘damnedigaeth’ (ac mae angen sgwrs arall i egluro’r gair!) fe hoffwn  dynnu sylw at eich cyfrolau. Eich cyfrol ddiweddaraf yw The recovery of joy : finding the path from rootlessness to returning home, cyfrol o fyfyrdodau Beiblaidd a gyhoeddwyd ym Medi eleni. Mae’r gyfrol yn drydedd mewn cyfres, The recovery of hope a The recovery of love.

Mae’r clawr lliwgar i’ch gyfrol ddiweddaraf yn cyfleu, dwi’n siwr, eich bywyd a’ch gweinidogaeth.

 

Cam 10 yr AA

CAM 10 yr AA

Arolwg personol a chyfaddef bai

Mae Cam 10 yn awgrymu y dylem barhau i wneud arolwg personol, a dal ati i unioni unrhyw gamgymeriadau newydd wrth i’n hadferiad fynd rhagddo a dwysáu. Dechreuon ni fyw fel hyn wrth lanhau llanast y gorffennol. Rydym wedi cael mynediad i fyd yr ysbryd. Ein prif bwrpas yn awr yw tyfu mewn dealltwriaeth ac effeithiolrwydd – a chynnal ein hadferiad. Mae’r tri cham olaf, sef Camau 10, 11 a 12, yn cael eu disgrifio gan Alcoholigion Anhysbys (AA) fel ‘rhaglen ddyddiol yr adferiad’.

Paratoad fu’r camau blaenorol i gyd – ein cyflyru ar gyfer hyn. Yng Nghamau 10, 11 a 12 bydd angen i ni weithio’n rheolaidd – yn ddyddiol – er mwyn cynnal a dwysáu ein hadferiad.

Drwy weithio’r 9 Cam cyntaf mae ein bywydau wedi newid yn ddramatig – ymhell y tu hwnt i’n holl ddisgwyliadau ers pan gyfaddefon ni ein hangen am help yn y lle cyntaf. Daethom yn fwy gonest, yn fwy gwylaidd, â chonsýrn am eraill, yn llai ofnus a hunanol, ac yn llai tebygol o ddal dig. Ond does dim gwarant y bydd y newidiadau syfrdanol hyn yn parhau. Oherwydd ein bod yn dioddef o afiechyd dibyniaeth, gallwn bob amser lithro’n ôl i’r hyn oeddem cyn dechrau adfer. Mae pris i’w dalu am adferiad – mae’n mynnu ein sylw llawn drwy’r amser; mae’n rhaid dyfalbarhau â’r arferion da. Mae’n rhaid i ni fod yn onest, gan feithrin ffydd ac ymddiriedaeth; rhaid talu sylw i’n gweithredoedd a’n hymatebion, ac asesu a ydynt yn gweithio o’n plaid neu yn ein herbyn. Rhaid i ni hefyd dalu sylw i sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar bobl eraill, a phan fo’r effeithiau hynny’n negyddol a niweidiol, rhaid gweithredu ar unwaith i wneud iawn amdanynt. Yn fyr, mae’n rhaid i ni barhau i wneud arolwg personol a chyfaddef yn syth pan fyddwn ar fai.

Gellir cymharu’r broses hon â rhaglen ddiogelwch ar gyfrifiadur sy’n ei amddiffyn rhag firws – mae bob amser ar wyliadwriaeth, yn sganio’n barhaus, a phan fydd yn dangos perygl, rhaid gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch y cyfrifiadur. Proses hollol anhepgorol os ydym am sicrhau bod y cyfrifiadur yn parhau i weithio’n iawn. Defnyddiwn Gam 10, felly, i greu a chynnal ymwybyddiaeth barhaus o’r hyn rydym yn ei deimlo, yn ei feddwl ac, yn bwysicach, yr hyn rydym yn ei wneud.

Ond cyn i ni ddechrau ar batrwm rheolaidd o arolwg, mae’n hanfodol ein bod yn deall beth yn union rydym yn ei asesu. Wnaiff e ddim llawer o ddaioni i wneud rhestr o’n teimladau heb eu clymu i’r gweithredoedd sy’n eu hysgogi. Tueddwn fel adictiaid i farnu yn ôl yr hyn rydym yn ei deimlo. Byddwn eisiau rhoi taw ar unrhyw beth sy’n teimlo’n ddrwg. Nid ydym bob amser yn cymryd i ystyriaeth fod y ffordd yr ydym yn teimlo yn gwneud synnwyr perffaith pan ystyriwn yr amgylchiadau.

Er enghraifft, mae gan lawer ohonom broblem gyda dicter. Nid ydym yn hoffi’r teimlad. Barnwn ef, gan ddod i’r casgliad nad oes gennym hawl i deimlo fel yna, ac yna gwnawn ein gorau glas i atal y teimlad hwnnw o ddicter. Hwyrach ein bod mewn perthynas gyda rhywun sy’n ein trin yn wael ac yn gwrthod dangos unrhyw barch tuag atom. Neu efallai i ni gael ein siomi dro ar ôl tro wrth fethu cael dyrchafiad yn y gweithle. Ein hymateb greddfol i’r amgylchiadau hyn yw teimlo’n ddig. Mae hon yn sefyllfa beryglus! Y perygl yw y gall ein hafiechyd ein llusgo i lawr i niwl trwchus iselder, dal dig a negyddiaeth. Ond ar y llaw arall, fe all ein hadferiad ein sbarduno i fwy o hunan-barch, a dangos agwedd fwy cadarnhaol.

Mae’r cyfan i’w wneud â sut y byddwn yn ymateb i’n dicter. Os byddwn yn sgrechian a thyngu a thaflu pethau, byddwn yn difetha unrhyw obaith o wneud ein perthynas neu ragolygon swydd yn well. Os na wnawn ddim byd, a chladdu ein teimlad o ddicter y tu fewn i ni ein hunain, yna byddwn yn dioddef o iselder ac yn dal dig, ac ni fydd hynny’n gwella’n sefyllfa chwaith. Ond, os byddwn yn gweithredu’n gadarnhaol er mwyn newid y sefyllfa, efallai bydd pethau’n gwella; o leiaf byddwn yn gwybod pryd i adael y swydd, a gallu gwneud hynny heb ddifaru dim!

Weithiau, y cwbl mae’n rhaid i ni ei wneud gyda theimladau yw eu teimlo – heb orfod ymateb iddynt. Er enghraifft, os ydym wedi colli rhywun, mae’n naturiol ein bod yn mynd i deimlo tristwch. O bosib, aiff y tristwch hwnnw ymlaen am amser hir – ond fe gyfyd wedi i ni alaru digon. Fedrwn ni ddim gadael i’r galaru ein tynnu i lawr i’r fath lefel fel na fedrwn fynd ymlaen â’n bywydau, ond fe ddylem ddisgwyl gael ein heffeithio ganddo.

Mae’n rhaid i ni ganfod cydbwysedd rhwng gwadu ein teimladau a chael ein gorlethu ganddynt; nid ydym eisiau mynd i unrhyw un o’r ddau begwn yna. Mae hwn yn swnio fel cysyniad syml – fel rhywbeth y dylem ei gymryd yn ganiataol – ond fe synnech faint o bobl mewn adferiad sy’n cymryd blynyddoedd lawer cyn medru canfod y cydbwysedd syml hwn.

Mae Cam 10 yn caniatáu’r rhyddid i ni deimlo ein teimladau drwy ein galluogi i weld y gwahaniaeth rhwng teimlo a gweithredu.

Mae’r egwyddor ysbrydol o hunanddisgyblaeth yn greiddiol i’r cam hwn, felly – oherwydd mae adferiad yn galw arnom i wneud rhai pethau sy’n groes i sut y byddwn yn teimlo amdanynt. Mewn ffordd, gallem ddweud bod dau reswm pam y dylem barhau i fynychu cyfarfodydd sy’n cefnogi ein ffordd o fyw a’n hadferiad: 1) oherwydd ein bod yn mwynhau mynychu’r cyfarfodydd; a 2) am nad ydym yn mwynhau mynychu’r cyfarfodydd. Mae fel ‘pleser anghyfforddus’!

Dyma pryd y dechreuwn ddefnyddio ofn fel rheswm dros wneud rhywbeth yn hytrach nag fel esgus i beidio. Nid ydym yn caniatáu i’n hemosiynau reoli ein hymddygiad mwyach. Gallwn goleddu teimladau drwg, ond does dim rhaid i ni ymddwyn yn ddrwg.

Mae Cam 10 yn dweud wrthym hefyd i ‘gyfaddef yn syth pan fyddwn ar fai’. Mae hyn yn awgrymu ein bod yn gwybod pryd yr ydym ar fai, ond nid yw hynny bob amser yn wir – o leiaf ddim yn syth bin. Mae’n cymryd ymarfer cyson o wneud asesiadau moesol ohonon ni’n hunain cyn y down i wybod pryd yn union yr ydym ar fai.

Er enghraifft, wedi blynyddoedd o gael ein trin yn wael gan eraill, penderfynodd rhai ohonom fod ein hadferiad yn mynnu ein bod yn ymddwyn yn fwy pendant a phenderfynol o hyn ymlaen. Ond aethom yn rhy bell. Daethom i fynnu fod pawb yn ein trin yn berffaith drwy’r amser. Ni châi neb ddiwrnod drwg a pheidio ateb ein galwad ffôn. Roedd yn rhaid i bawb fod ar gael yn emosiynol i ni. Mynnem gael gwasanaeth perffaith yn lle bynnag y gwnaem fusnes. Ond nid ymddwyn yn fwy pendant a phenderfynol oedd hyn. Ymddygiad anaeddfed ac ymosodol oedd e. Roeddem ar fai.

Nid rhywbeth sy’n digwydd dros nos yw dod i wybod pryd yr ydym ar fai – os ydym ar fai o gwbl. Mae’n broses sy’n parhau drwy’n bywyd. Daliwn i wylio am hunanoldeb, anonestrwydd, dicter ac ofn. Pan ddaw’r rhain, gofynnwn i Dduw am arweiniad i ymateb iddynt ar unwaith – oherwydd dyma’r emosiynau sydd fel rheol yn ein harwain i ymddwyn mewn ffyrdd y byddwn o bosib yn edifar amdanynt maes o law. Mae’n well i ni eu trafod ar unwaith gyda rhywun, a gwneud iawn yn syth os ydym wedi niweidio unrhyw un. Wedyn, gallwn droi ein meddyliau at rywun y medrwn ei helpu – a chanolbwyntio ar ddatblygu’n ‘rhoddwyr’ yn hytrach na ‘chymerwyr’. Ein nod yw cariad a goddefgarwch tuag at eraill.

Mae’r egwyddor o onestrwydd, sy’n tarddu o Gam 1, yn dod i’w lawn ffrwyth yng Ngham 10, felly. Erbyn inni gyrraedd y man hwn yn ein hadferiad, ni chawn ddim llai na’n synnu gan ddyfnder ein gonestrwydd. O’r blaen byddem yn canfod ein gwir amcanion dros ymddwyn mewn ffordd arbennig wrth edrych yn ôl ar yr hyn oedd wedi digwydd. Erbyn hyn gallwn fod yn onest gyda ni’n hunain a sylweddoli beth sy’n digwydd ar y pryd. Anallu’r adict i fod yn onest ynglŷn â’r hyn mae’n ei deimlo, yr hyn mae’n ei feddwl, a’r hyn ydyw – y da a’r gwachul – sy’n rhwystro llawer rhag adfer. Gwelwn felly pa mor anhepgorol yw gonestrwydd i’r holl broses o adferiad – ac i’r cam hwn yn arbennig. Hebddo bydd yr adict yn llithro’n ôl i bwll du ei ddibyniaeth – a marwolaeth, os yw’n lwcus. (Mae tynged sydd hyd yn oed yn waeth na marwolaeth – syndrom Korsakoff yw honno, pan ddarostyngir y dioddefwr i fywyd sydd yn ddim gwell na chabetsien.)

Byddaf fi’n ychwanegu atodiad bach i Gam 10 ar ddiwedd pob diwrnod drwy ofyn dau gwestiwn i mi fy hun: pryd oeddwn i ar fy mwyaf cariadus heddiw, a phryd o’n i ar fy lleiaf cariadus heddiw? Mae’r ddau gwestiwn yn golygu ’mod i’n sganio’r diwrnod cyfan er mwyn canfod yr ateb. Ac wrth ateb yr ail gwestiwn, fe gyfyd cwestiwn arall. O sylweddoli pryd roeddwn i ar fy lleiaf cariadus, byddaf yn gofyn i mi fy hun, “Oes rhywbeth y byddwn yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf?” Ac os oes, byddaf yn ymdynghedu i wneud hynny y tro nesaf. Yna, byddaf yn troi a mynd i gysgu.

Ac os digwydd i mi ddefro yn ystod y nos byddaf yn meddwl yn syth am yr adeg honno pan oeddwn ar fy mwyaf cariadus. Yr hyn sy’n wych am y meddwl dynol yw na fedrwn feddwl am fwy nag un peth ar y tro. O feddwl yn gadarnhaol, felly, byddwn yn mabwysiadu agwedd gadarnhaol yn syth.

Wrth weithio Cam 10, cawn ein hunain yn ymddwyn yn iawn yn amlach na pheidio. Wrth ddysgu cyfaddef ein bai, daw rhyddid o fath nad ydym wedi’i brofi erioed o’r blaen. Mae mor naturiol i ni gyfaddef ein bod ar fai, bellach, fel ei bod yn anodd i lawer ohonom ddyfalu beth oedd mor ddychrynllyd ynglŷn â’r peth yn y lle cyntaf. Teimlo’n israddol, o bosib? A’r ffaith y byddai cyfaddef camgymeriad yn datgelu ein cyfrinach ddyfnaf i’r byd – ein bod yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd ac o’r herwydd yn israddol i bawb arall? Ond wrth weithio’r Camau, daethom i sylweddoli nad oeddem yn israddol i neb; bod gennym werth, fel pawb arall, a chyfraniad pwysig i’w wneud i glytwaith cyfoethog bywyd.

Canfyddwn gydbwysedd a chytgord drwy weithio Cam 10. Cawn ein hunain yn profi tawelwch meddwl a hapusrwydd anghyffredin yn ein bywydau y rhan fwyaf o’r amser. A phan na ddigwydd hynny, mae’n arwydd pendant fod rhywbeth o’i le. Dyna pryd y bydd angen i ni wneud arolwg personol eto, a pharatoi i gyfaddef ein bai a gweithredu yn ôl y galw.

Y mis nesaf gofynnwn, “Pam na ellir mynd ar y daith hon heb ffydd?” Gan na allwn rag-weld y dyfodol, ni wnaiff unrhyw gyflog swmpus na phensiwn na dim byd materol nac ego-ganolog ein harfogi i wynebu’r ofn a’r ansicrwydd y mae yfory a’i anwybod yn ei achosi ynom. Ffydd yn unig all wneud hynny. Dyma’r gwir brawf i ni Gristnogion: faint ohonom sy’n gallu ymddiried yn gyfan gwbl yn Nuw? A sut mae meithrin a chynnal y ffydd honno?

Wynford Ellis Owen

 

Calon y Drindod – Mentro Caru

CALON Y DRINDOD – MENTRO CARU

Pe baen ni ond yn medru cymryd o ddifrif yr alwad i ffordd newydd o fyw a ymgorfforwyd gan Grist ac amlygu’r cariad hwn gyda dewrder yng nghanol gwae ac ansicrwydd yr oes sydd ohoni, pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad? Tybed a fyddem yn agosach at yr undod y gweddïodd Iesu drosto cyn ei farwolaeth, yr undeb perffaith sy’n bodoli rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, a’r byd, yn sgil yr amlygiad rhyfeddol hwn, yn dod i gredu? (Ioan 17:2)

Ainsley Griffiths, Caplan Prifysgol Cymru: y Drindod, Dewi Sant, a swyddog y Weinidogaeth yn Esgobaeth Tyddewi, yn pori mewn cyfrol ddiwinyddol bwerus.

(Gil Bailie, God’s Gamble: The Gravitational Power of Crucified Love. Kettering, Ohio: Angelico Press, 2016)

Prif honiad y gyfrol afaelgar hon ydy argyhoeddiad yr awdur, mewn cymundeb â thraddodiad coeth Cristnogaeth Gatholig, mai Crist yw’r Alffa a’r Omega, rhesymeg ac ystyr y greadigaeth gyfan. Drama ydy iachawdwriaeth felly – nid rhyw waith ffuglen llawn dychymyg ond hanes ymgnawdoliad Duw wrth iddo gyffwrdd yn ddwys â’n hanes dynol a’i lwyr drawsnewid, gan ein hachub ni o’n rhwymedigaeth i ffyrdd sy’n arwain at farwolaeth a’n hailgyfeirio tuag at y bywyd syfrdanol hwnnw a amlygir yn y groes a’r atgyfodiad. I Gil Bailie, dirgelwch y Pasg yw trobwynt ein bodolaeth fel hil, gan ddatguddio llawnder cariad dwyfol ac arllwys y cariad hwnnw i galonnau parod, disgwylgar.

Er mwyn ymgymryd â’r dasg o geisio cymeradwyo’r ymagweddau diwinyddol craidd hyn mae’r awdur wedi dewis dau gydymaith dylanwadol dros ben. Y cyntaf yw’r ysgolhaig Ffrangeg-Americanaidd René Girard (1923–2015) a fu mor weithgar mewn sawl maes academaidd ond sy’n cael ei gofio, yn bennaf oll, am ei waith arloesol o ran deall arwyddocâd trais. Yn ôl Girard, tarddle trais yw’r gwrthdaro sy’n sicr o ddigwydd pan fo’n chwantau personol ni yn cyffwrdd â dyheadau pobl eraill. Gall y rhain ymddangos oherwydd cystadleuaeth am ryw adnodd prin – er enghraifft, rhai o bethau sylfaenol bywyd fel dŵr a bwyd neu rai o nwyddau moethus ein cymdeithas faterol, orffwyll, y breuddwydion hudol hynny y mae’r byd hysbysebu am i ni eu chwenychu a buddsoddi ynddynt ein harian, ein hegni a’n syniad personol o hunan-werth a phwrpas. Gall yr ymraniad ddigwydd hefyd oherwydd rhyw ysfa gyffredin am realiti sydd tu hwnt i wrthrychau, sef dyhead am ryw lesiant mwy annelwig, rhyw fudd metaffisegol neu gyflwr ysbrydol. Yr un sy’n tawelu a rheoli’r trobwll dieflig hwn o drais yn magu mwy o drais ydy’r bwch dihangol, y dioddefwr y mae’r ddwy garfan gynhennus yn ei gasáu. Drwy aberthu’r unigolyn (neu’r grŵp) hwn, daw heddwch a chymod – dros dro, o leiaf – er, yn ddiddorol iawn, mae’r ddwy blaid yn methu deall na chyfaddef y broses gudd sydd wrth wraidd y ‘llwyddiant’ hwn. I Girard, Iesu Grist yw’r dioddefwr pennaf oll, yr un sy’n datgelu ein tueddiad dynol cynhenid ac anochel i ganolbwyntio ein diffygion a’n dicter ar unigolyn. Wrth fyw yn gyson ag egwyddorion cariad tosturiol, digyfnewid y Tad, amlyga Iesu ffordd arall, ffordd bywyd a rhyddid. Wrth ddarllen hanesion yr efengylau o’r Dioddefaint, gwelwn farn yr awdurdodau crefyddol yn erbyn Iesu yn ennill cymeradwyaeth yr ymerodraeth bwerus ac o ganlyniad yn creu rhyw gytundeb rhyfedd, ond byrhoedlog, drwy’r hwn a aberthir.

Dull Girard yw darllen y Beibl drwy lensys anthropolegol gan awgrymu bod Crist yn cynnig iachawdwriaeth drwy ein rhyddhau o’r cylchoedd caeth sy’n adnabod bychod dihangol di-ri ac yna yn eu ‘haberthu’ er mwyn sicrhau rhyw heddwch ffug a ddadlennir yn y diwedd fel celwydd gan fod y cymod yn beth edwinol, diflanedig. Gellid dadlau, efallai, fod yr anthropolegydd hwn yn rhoi diagnosis o’r drwg y mae’n rhaid i ni ffoi rhagddo ac yn cymeradwyo gwaredwr i ni sydd yn unig yn medru cyflawni’r gwaith hwn. Ond wrth edmygu’r un holl-gariadus, dwyfol-ddynol sy’n medru byw y tu hwnt i’r maglau negatif sy’n rhwydo’r gweddill ohonom, nid oes ganddo ddigon o bwyslais ar y realiti positif sy’n ein disgwyl drwyddo. Hynny yw, mae gan Girard syniad clir a darbwyllol o’r hyn y’n hachubir ni rhagddo ond heb ddisgrifio neu ddychmygu yr hyn y prynwyd ni ar ei gyfer.

Os oes modd beirniadu campwaith Girard o ran diffyg dyfnder diwinyddol ni fyddai cyhuddiad o’r fath yn ddilys o gwbl i ail gydymaith Gil Bailie. Mynnodd yr offeiriad a’r diwinydd Catholig Rufeinig o’r Swistir Hans urs von Balthasar (1905–1988) ddarllen hanes Dioddefaint Crist fel drama lle mae geiriau a gweithredoedd yr ‘actorion’ dynol yn cael eu llwyr gysgodi gan yr hyn y mae Duw yn ei wneud. Ar ben hyn, nid yn unig y digwyddiadau allanol, gweladwy yw diwedd y stori ond yr hyn sy’n digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’ ym mywyd mewnol y Tri yn Un. Felly, er bod ystyr y gyfres o olygfeydd achubol a thrawiadol a gawn yn hanes yr efengylwyr o’r croeshoelio yn hollbwysig i Balthasar, mae’r hyn sy’n digwydd ar ôl marwolaeth Crist o arwyddocâd tyngedfennol. I’r rhan fwyaf o Gristnogion mae’r cyfnod rhwng ein coffâd dwys o farwolaeth yr Arglwydd ar y Groglith a’n dathliadau llawen ar Ddydd y Pasg fel rhyw saib bach, cyfle i addurno’n heglwysi ar gyfer yr ŵyl neu ymbaratoi mewn rhyw ffordd arall. I Balthasar, fodd bynnag, roedd digwyddiadau cudd y Dydd Sadwrn Sanctaidd – yr hyn y mae Credo’r Apostolion yn ei ddisgrifio fel y Disgyniad i Uffern – yn rhan anhepgor o’r modd y bu raid i Dduw waredu’r byd. Mae’r pwyslais ar reidrwydd yn allweddol yma oherwydd dealltwriaeth Balthasar o’r Drindod fel patrwm tragwyddol o hunan-roi rhwng y tri Pherson dwyfol. O ganlyniad mae disgrifiad Paul o Grist yn ei wacáu ei hun (Philipiaid 2:7) drwy ei ymgnawdoliad a’i groeshoeliad yn golygu nid rhyw cynllun argyfyngus i achub yr hil ddynol, rhyw batrwm sy’n estron i fywyd Duw, ond yn hytrach yn amlygiad yn ein cnawd a’n hanes dynol ni o fywyd hael a llawn y Drindod.

Mae’r ‘bwlch’ sy’n anorfod rhwng unrhyw roddwr a derbyniwr yno o fewn bywyd y Tri ac, mewn termau athronyddol, dyma sy’n galluogi’r posibilrwydd o greu unrhyw beth o gwbl. Dim ond oherwydd y gofod oesol rhwng y Tad a’r Mab y gall y byd fodoli ac mae pob pellter a welwn yn y greadigaeth yn medru digwydd oherwydd hynny, gan gynnwys y rhwyg gwenwynig, heintus sy’n ymddangos yn sgil penderfyniad Adda ac Efa i wrthod rhodd wreiddiol Duw a dewis rhyw ffantasi o fodoli y tu hwnt i’w batrymau rhagluniaethol. Ar y groes – ac yn enwedig yn y Disgyniad i Uffern – mae Crist yn profi’r agendor rhyngddo ef a’r Tad yn cael ei estyn i’r eithaf a thrwy waith pontio’r Ysbryd Glân daw gofod iachusol ym mywyd y Tri yn Un i’r greadigaeth glwyfedig ymgartrefu ynddo ac felly dderbyn iachâd. Felly, os oedd hanes achubiaeth Girard braidd yn denau o ran dychmygu diweddglo positif y ddrama mae Balthasar yn cynnig darlun bras iawn: ein tynged fel creaduriaid a wnaethpwyd ar lun a delw Duw (Genesis 1:26–8) yw cael cyfran ym mywyd yr un sydd yn ‘ddelw’r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth’ (Colosiaid 1:15).

Er bod yna wahaniaethau amlwg o ran disgrifiadau Girard a Balthasar o ystyr marwolaeth Crist mae’r syniad o aberth yn allweddol i’r ddau (er bod yr anthropolegydd yn tueddu i weld Crist fel dioddefwr (‘victim’) sy’n cael ei yrru i’r groes drwy gynllwynio dieflig dynol a’r diwinydd yn ei ystyried fel gweithred ddwyfol rydd sy’n amlygu cariad dwyfol tragwyddol). Mae Bailie yn dadlau, fel Girard, bod aberthu yn elfen reddfol o fod yn aelod o hil yr homo sapiens ac mae’n nodi digon o enghreifftiau o fewn a thu hwnt i’r traddodiad Iddewig-Gristnogol sy’n cryfhau ei ddadl. I Balthasar, mae patrymau treisgar esblygiad, lle mae’r un cryf yn difa’r un gwan, yn golygu mwy na chylchoedd creulon Darwin ond yn adleisio, yng nghanol datblygiad araf y greadigaeth, olion dirgelwch y Pasg ac felly olion y bywyd Trindodaidd. Felly, nid pethau sy’n herio neu’n tanseilio gwirionedd Cristnogol yw athroniaeth a gwyddoniaeth yn y meddylfryd Catholig (er y gallem feddwl am eithriadau, fel yn achos Galileo). Yn hytrach gall credinwyr eangfrydig lawenhau bod Duw wedi trefnu cyfres ddi-ben-draw o arwyddion yn y byd naturiol ac yn ein hymdrechion deallusol i’n harwain i mewn i ryfeddodau ei fywyd a’i amcanion iachusol. Gallwn fod yn hyderus fod dirgelwch Duw yn fwy na’n dyheadau dynol i’w ddiffinio a’i ffrwyno: ‘mystery … is the shimmering essence that endlessly excites the longing to know … [glowing] with the promise of what is yet to be known’ (tud. 38). Er bod darlleniad gofalus a ffyddlon o’r Ysgrythurau yn hanfodol i Bailie er mwyn dirnad a deall trysorau’r Ffydd, mae’r datguddiad yn fwy na’r hyn y medrir ei fynegi mewn geiriau: y Gair a wnaethpwyd yn gnawd yw’r ffordd y mae Duw yn ei uno ei hun â’n cyflwr dynol a thrwy wneud hynny ei drawsnewid.

Gan ddilyn egwyddor lwyr Drindodaidd Balthasar, mae Bailie yn cytuno mai ym mywyd y Tri yn Un y cawn darddle, ystyr a diben cariad, y cariad sy’n byrlymu allan drwy weithredoedd achubol y Gwaredwr ac yn ei gwneud hi’n bosibl i ni ystyried cariad dynol fel peth da (gweler Genesis 1). ‘Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun,’ meddai Duw yn y dechreuad (Genesis 2:18) ac felly mae ein perthynas â’n gilydd – gan gynnwys atyniad rhywiol – yn gallu mynegi rhywbeth o’n dyhead am y Duw byw, y Tri yn Un sy’n ‘diffinio’ cariad pur sy’n mentro tu hwnt i’w anghenion ei hun er mwyn caniatáu i’r un arall ffynnu ac er mwyn creu a chynnal cymundeb. I Bailie felly, mae gwir gariad yn haeddu’r disgrifiad ‘ecstasi’ (ek-stasis yn y Roeg) oherwydd ei darddiad yn y syniad o ‘sefyll y tu allan’ i’m byd bach cyfyng er mwyn gadael i rywbeth mwy ymddangos a blodeuo, gan fod yn argyhoeddiedig fod y peth newydd hwn yn fwy na’r ddwy ran a fu ar wahân ynghynt ac yn datgelu rhyw gipolwg ar fywyd bythol-ffrwythlon Duw. Wrth wneud hyn mae Bailie yn ei roi ei hun o fewn y traddodiad Catholig o ‘nuptial theology’ a amlygwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif gan Balthasar a’r Pab Ioan Paul II ond sydd â’i gwreiddiau ganrifoedd ynghynt yn nhraddodiad diwinyddion y Canoloesoedd, fel Richard o Sant Victor.

Gwyddom, fodd bynnag, fod cariad yn fenter, yn risg. Dyna yw’r ‘gamble’ y mae Bailie yn cyfeirio ato yn nheitl y llyfr, sef penderfyniad Duw i roi rhyddid i’r ddynolryw oherwydd ei gariad mawr tuag atynt gan sicrhau bod olion o’r cariad hwnnw i’w dirnad yn y Cread a’r gwahoddiad i ymateb i’r ysfa am gariad llawn a blennir yn ein calonnau.

One could say that God’s great gamble was in giving human beings freedom, but it was a necessary gamble. Not only is freedom indispensable to the creature whose unique vocation is love, but only a creature thus endowed with freedom has the capacity to seek out and to recognize truth, goodness and beauty (mysteries to which non-human creatures are oblivious) and to say ‘Yes’ to the God who has left traces of divinity in our midst and inscribed a hunger for them in our hearts. (tud. 69)

I Bailie, felly, mae’r Cwymp yn golygu diffyg cymundeb, methiant mewn cariad, ac yn sgil ei effaith rymus gellid parhau i fod yn gaeth i’r prosesau y mae Girard yn eu gweld fel rhan o’n gwneuthuriad neu ddeall a derbyn y ffordd ‘amgen’ (sydd yn wir yn ffordd wreiddiol) a amlygir yn Iesu o Nasareth, Adda’r ail.

Mewn ffordd drawiadol mae Bailie yn ystyried y llwybrau mae ein rhyddid dynol a’n cyflwr bregus a phechadurus yn eu cynnig i ni. Ar y naill ochr mae heol serth sy’n arwain i lawr tuag at farwolaeth, y llwybr sy’n ymddangos wrth i ni ddilyn y prosesau o greu bychod dihangol ac a welir ym mhrofiadau arswydus y dioddefwyr, o Abel ymlaen, patrwm a grisialir ym mharodrwydd Abraham i ufuddhau i alwad Duw i roi ei fab Isaac i farwolaeth. Ar y naill ochr, mae gennym un arall sy’n fodlon tramwyo’r un llwybr o aberth ond yn hytrach nag offrymu un arall mae’n benderfynol o’i gyflwyno ei hun – fel Duw a dyn – gan hunan-roi i’r fath raddau fel bod yr holl fecanwaith a fu mor ddylanwadol ynghynt wedi ei lwyr ddiwallu ac, o ganlyniad i hyn, ei danseilio. Er mwyn i ni gael cyfle i gamu i mewn i fywyd newydd, llawn a rhyfeddol y greadigaeth newydd, mae’n rhaid i Dduw, yn gyntaf, gamu i mewn i’r ‘hanner bywyd’ a gawn fel etifeddion Adda. Trwy wneud hyn, gall cyfraith Duw beidio â bod yn rhestr o orchmynion beichus, ‘allanol’, ond yn llawenydd yn ffrydio oddi mewn, y Torah wedi ei gnawdoli ym mherson Iesu Grist, y Gair dwyfol sydd i’w ysgrifennu oddi mewn i’n calonnau dynol (Jeremeia 31:31–4; Eseciel 11:19–20) ac, wrth drigo yno, eu gweddnewid.

Gan adleisio syniadau Girard am sut mae ein dyheadau gwyrgam yn medru ein caethiwo mewn rhwydwaith dychrynllyd o gystadleuaeth, trais ac aberth, mae Bailie (tud. 154) yn pwysleisio cwestiwn Iesu i’r disgyblion cyntaf: ‘Beth yr ydych yn ei geisio?’ (Ioan 1:38; Beibl Cymraeg Newydd) neu, yn ôl cyfieithiad mwy llafar a bachog Beibl.net, ‘Beth dych chi eisiau?’ Hynny yw, beth yw gwir ddyhead ein calon? Ai am gael ein diffinio gan yr hyn sydd gennym yn faterol, ein chwantau cnawdol, ein huchelgeisiau, ein statws a’n bri, ynteu’r ysfa wrth-ddiwylliannol lwyr am y sancteiddrwydd a ddaw oddi wrth Dduw yn unig? Ar ôl sôn wrth y wraig o Samaria am ei syched ef am ddŵr, mae Iesu’n cyfeirio at ei syched hithau ac yn cynnig yr hyn sy’n rhagori ar holl ddiddanwch y gall y byd ei gynnig: ‘Bydd pawb sy’n yfed o’r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o’i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol’ (Ioan 4:13–4; cf. Datguddiad 21:7). Dyma alwad felly i beidio â chael ein hudo a’n cyflyru gan rythmau gwyllt ein byd aflonydd sy’n cynnig rhyw foddhad darbodus drwy fasnach neu eiddo neu ryw, ond gwir gyflawnder sy’n parhau. Cawn wahoddiad oddi wrth y Crist Ioanaidd i aros ynddo (Ioan 15:4), gyda ffrwythlondeb a llawenydd yn dilyn. Mae’r efengylwr yn defnyddio’r ferf Roegaidd menein yma, gair sy’n ein hatgoffa o gwestiwn y disgyblion cyntaf: ‘Rabbi, ble’r wyt ti’n aros (menein)?’ (Ioan 1:38). Mae Ioan felly’n awgrymu mai galwad yw i gyfranogi ym mherthynas dragwyddol y Tad a’r Mab, ‘er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un: myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith’ (17:22–3). Os yw’r dymuniad hwn – a ymddengys ymhlith geiriau olaf Iesu yn yr efengyl – fel rhyw fath o ‘ewyllys olaf’ ac yn dangos ei ddealltwriaeth o alwedigaeth ddyfnaf y credinwr, felly dylai’r un ysfa ffynnu yn ein calonnau ninnau hefyd, gan ddad-wneud y strwythur hollddifaol o chwantau sy’n tynnu’n groes i bwrpas Duw ar ein cyfer.

Yn ystod hanes Israel mae Duw wedi bod yn chwilio am yr ‘ie’ sylfaenol hwnnw, yr ymateb llawen a chyson i’w gynlluniau yn y genedl a’r greadigaeth ehangach. Daw’r cysyniad hwnnw i’r golwg ym mywydau rhai o’r mawrion, fel Abraham, Moses a Dafydd, ond yn amherffaith. Dadl Bailie (tud. 141) – gan gytuno â’r traddodiad diwinyddol Catholig mawr – yw cyflwyno Mair, y Forwyn ddifrycheulyd, fel yr un sy’n lleisio cydsyniad llwyr y ddynolryw â phwrpas achubol Duw, gan berffeithio ffydd yr hynafiaid a pharatoi ffordd, yn ei chalon ac yn ei chroth, i’r Gair tragwyddol gymryd cnawd dynol ac felly agosáu i waredu’r byd. Yn y bôn, mae yna alwad i adleisio honiad yr apostol Paul fod gwir fodolaeth yn golygu byw yng Nghrist a thrwyddo: ‘yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof fi. A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a’m carodd i ac a’i rhoes ei hun i farw trosof fi’ (Galatiaid 2:20).

Wrth reswm, mae croeshoeliad Crist yn allweddol bwysig i Bailie. Ystyria foliant y canwriad a fu’n dyst i’r dienyddio, ynghyd â’i ddatganiad fod y dioddefwr rhyfeddol hwn yn ‘ddiniwed’ (‘cyfiawn’, yn ôl y Beibl Cymraeg Newydd) fel arwydd o allu unigryw Crist i fod yn waredwr:

Jesus’s innocence consisted neither of his merely moral impeccability nor his merely juridical innocence of the charges leveled against him. He was ontologically innocent. He was like us in all things but sin. This is essentially why it took the crucifixion of Christ to save us. Only the kind of innocence of which we fallen creatures are incapable could have broken the spellbinding power of the system of ritual accusation and immolation by which sinful man has turned mimetic aggravations into social camaraderie and a communal sense of moral rectitude ‘since the foundation of the world’. (tud. 168)

Mae’r geiriau olaf hyn yn adleisio teitl un o lyfrau mwyaf dylanwadol Girard, lle mae’r anthropolegydd yn tanlinellu cryn dystiolaeth yn y Beibl o system gathartig y bwch dihangol, nid yn unig yn y rheolau ar gyfer Dydd y Cymod ond hefyd yn ymestyn yn ôl i Abel ac ymlaen at Grist, y Gwas Dioddefus sy’n gwyrdroi pŵer yr hen drefn ac yn sefydlu ffordd newydd. Pwysleisia Bailie arwyddocâd disgrifiad Luc o’r digwyddiad yn syth ar ôl cyhoeddiad y canwriad: ‘troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio’r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau’ (Luc 23:48). Yn ôl Bailie, mae’r Roeg a gyfieithir fel ‘troi’ yn golygu ailgyfeirio sylfaenol i’r bobl, gyda’r curo bronnau yn awgrymu’r dryswch dwys sydd wedi cael gafael ynddynt wrth iddynt sylweddoli bod y mecanwaith oesol o lwytho dicter a thrais ar ddioddefwr diniwed bellach wedi ei ddadlennu fel peth ffiaidd a gwag sydd heb allu i wireddu unrhyw newid heblaw am ryw ysbaid o heddwch byrhoedlog cyn i’r holl broses gylchol, ddieflig fynnu un aberth arall ar ôl y llall. Marwolaeth Crist yn unig sydd â’r gallu i danseilio a llwyr ddiddymu nerth yr hen drefn a chynnig ffordd arall, drawsnewidiol: ‘Dyma awr barnu’r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan. A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun.’ Yn ôl Ioan, dywedodd Iesu hyn ‘i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros’ (Ioan 12:31–3). I Bailie, mae’n ddigwyddiad hollgynhwysol:

 

[we insist] on the universal impact of Christ’s life, death, and Resurrection on everyone who ever has or ever will live and on creation itself – ordained as it is to being brought by human wonder and affection into the everlasting liturgy of Trinitarian communion. (tud. 171)

 

Ond er mwyn i’r ddynolryw gael cyfran yn yr agosrwydd hwn sy’n perthyn i’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, rhaid i’r Un a gymerodd gnawd dynol oddef arswyd y bwlch enfawr sydd wedi agor oherwydd pechod. Felly, gan ddilyn Balthasar, mae Bailie yn cynnig bod prosesau iachawdwriaeth (yr hyn a elwir yn ‘Iawn’ gan rai) yn golygu mwy na’r digwyddiadau gweladwy sy’n diorseddu cylchoedd trais ond hefyd yn ddigwyddiad Trindodaidd sy’n cymryd o ddifrif lef Iesu adeg y croeshoelio: ‘Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?’ (Marc 15:34). Heblaw ein bod ni am ddeall y geiriau hyn fel profiad dynoldeb Crist yn unig, mae yna ryw ‘ymwahanu mewnol’ o fewn y Drindod am ennyd, rhyw rwyg yn y patrymau tragwyddol o agosatrwydd annisgrifiadwy y Personau. Fel cardiolegydd sy’n gorfod stopio curiad calon claf sydd dan y gyllell am eiliad er mwyn cyflawni rhyw broses iachusol, mae angen y ddynolryw am iachâd mewnol a pharhaol yn golygu ymestyn rhythmau llif cariad rhwng y Tad a’r Mab i’r eithaf, gyda’r Ysbryd Glân yn pontio’r agendor ac yn ei gwneud hi’n bosibl i gredinwyr ddarganfod ‘cartref’ newydd i aros ynddo (gweler y sylwadau uchod am arwyddocâd menein yn Efengyl Ioan). Mae profiad Crist o’i deimlo ei hun wedi ei adael gan y Tad yn fwy ingol na phrofiad unigrwydd na dioddefaint unrhyw un arall oherwydd ei fod yn adnabod gwynfyd y Mab tragwyddol ‘ym mynwes y Tad’ (Ioan 1:18). Ond fel y mae Bailie yn nodi, mae’r ffaith fod y weithred yn cael ei chyflawni gyda’r bwriad o ailsefydlu’r cymundeb dwyfol a gollwyd gan bechaduriaid yn golygu bod y Personau yn parhau i fod yn berffaith un o ran ewyllys wrth i rwymau cariad tragwyddol gael eu lledu i’r eithaf. I Balthasar (a Bailie), mae’r ddysgeidiaeth fod Crist wedi disgyn i drigfan y meirw a dioddef mwy na marwolaeth gorfforol yn unig yn golygu bod y gadwyn o ddigwyddiadau o’r oruwchystafell i’r ardd i’r brawdle i’r groes i’r bedd ac i uffern ei hun – fel un symudiad o gariad dwyfol pur – yn weithred achubol hollgynhwysol nad oes unrhyw un wedi ei eithrio ohono. Serch hynny, mae’r ddau yn cytuno bod trugaredd diddiwedd Duw yn parchu rhyddid ac annibyniaeth ddynol; felly, mae angen i bob un ei dderbyn drwy benderfyniad personol fel bod y gwaith gwrthrychol yn medru bod yn ffrwythlon ynom a thrwom.

Fodd bynnag, nid yw angau a disgyniad Crist yn gyflawn yn ei allu iachusol heb rym yr atgyfodiad. Dyma’r digwyddiad hanesyddol a thyngedfennol sy’n dangos buddugoliaeth lwyr dros gadwyni’r system arswydus hynafol a nodweddir gan drais a marwolaeth. Yn fwy na gweithred achubol sy’n rhoi sicrwydd a chysur ond yn parhau i fod yn rhywbeth ‘allanol’ a phellennig, mae’n cynnig modd newydd o fyw, ffordd sy’n wahanol i’r drefn ddiddiwedd, ddiffaith a fu:

At the Resurrection, ‘the power of death’ was broken, but not the fact of death. Death, the dark curse of human existence since the relinquishing of our full ontological dignity in return for the excitations of the mimetic melodrama, has now been turned into the universal opportunity to enter into the Paschal Mystery, taking up one’s cross, and dying with Christ. (tud. 179)

Mae Bailie felly yn awgrymu ffordd syfrdanol o fyw a bod sy’n golygu mwy na dal ein gafael ar ein bodolaeth bresennol na hyd yn oed fynd yn ôl i baradwys Eden. Y nod yw ymdebygu i Grist drwy batrwm o dderbyn a rhoi sy’n adleisio rhythmau bywyd y Drindod, y bywyd a ddatgelwyd yn yr Ymgnawdoliad, ac yn bennaf oll drwy ddirgelwch y Pasg. Gydag eneiniad yr Ysbryd Glân a hir ddisgwyliwyd, caiff gredinwyr le newydd i ffynnu a’r sicrwydd bod digwyddiadau’r Diwedd wedi dechrau wrth i’r greadigaeth symud tuag at ei Omega, sef Crist ei hun. Wrth ddathlu sacramentau’r Cyfamod Newydd mae Cristnogion Catholig yn dal eu gafael ar hanes ein hiachawdwriaeth ond gan ymestyn ymlaen yn llawen i’r hyn sydd i fod. Digwydd y pontio rhyfeddol hwn drwy Iesu Grist, yr un ffyddlon a digyfnewid (Hebreaid 13:8), sy’n bresennol mewn ffordd arbennig ym mhob Offeren: ‘the Mass represents the inbreaking into time of the Messianic Banquet … anamnesis (memory) under the sign of maranatha (the Lord is coming, come Lord)’ (tud. 344). Mae’r Cymun Bendigaid yn cymeradwyo i’r Eglwys ffordd aberthol – nid yr hen drefn ddieflig, dreisgar ond llwybr cariad, realiti cymundeb: felly, nid gweithred litwrgaidd ydyw’r Offeren yn bennaf oll: ‘the Eucharist … “is not an isolate cultic act but a way of existence” (Joseph Cardinal Ratzinger, Y Pab Bened XVI), “a mode of being which passes from Jesus into each Christian, through whose testimony it is meant to spread throughout society and culture”’ (Y Pab Ioan Paul II).

Mae cyfrol Bailie yn un drawiadol iawn sy’n tynnu sylw’r darllenydd at ystod eang o ysgolheigion Catholig eu naws yn ogystal â Balthasar a Girard. Gellid dadlau bod persbectifau Bailie a’i gymdeithion diwinyddol yn dra gwahanol i gyd-destun y rhan fwyaf o bobl a fydd yn darllen yr erthygl hon o ran cenedligrwydd, traddodiad eglwysig ac ati. Serch hynny, wrth geisio goresgyn y gwahaniaethau cymharol arwynebol hyn daw ffrwyth da. Er enghraifft, drwy ystyried honiadau Girard ynglŷn â phwrpas trais ac aberth yn y gymdeithas ddynol, efallai y daw modd dilyn y llwybr a agorwyd gan yr un a ddioddefodd ei allu difaol a’i ddisodli. Da fyddai clywed hyn o’r newydd yn ein hoes derfysgol sy’n mynnu hunan-amddiffyniad a’r gallu i dalu’r pwyth yn ôl. A ninnau yng nghanol dirnad goblygiadau penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn wynebu’r holl atgasedd a dywalltwyd yn sgil y refferendwm ar bobl o wledydd eraill sy’n preswylio yn ein mysg, sut mae modd osgoi mynnu bychod dihangol sy’n dioddef baich ein dicter a’n digalondid pan fo’n bywydau’n llai llewyrchus nag y dymunem? A thra bod eglwysi’r Gorllewin (gan gynnwys eglwysi Cymru) yn edwino, yn cael eu rhwygo gan ddadleuon mewnol, yn prysur ddiwygio’u strwythurau ac yn poeni am oroesiad yn hytrach na chyhoeddi’r Deyrnas, mae Bailie yn ein hatgoffa o’r un ffactor amlwg sy’n cael ei esgeuluso’n gyson, sef Duw ei hun, yr un dirgel yn ein mysg sydd am wireddu ei ddyheadau er gwaethaf ein ffolineb a’n dallineb ysbrydol. Os bydd y gyfrol yn llwyddo i danio’r Eglwys â’r argyhoeddiad fod Duw eisoes wedi gwneud yr hyn sydd ei angen er mwyn dod â’n hanes fel hil i’r diweddglo llawen a fwriadodd o’r dechreuad a’i fod wedi cynysgaeddu’r Corff â’r cwbl sydd ei angen arno, gallai chwarae rôl bwysig wrth adennill hyder.

Pe baem ni ddim ond yn medru cymryd o ddifrif yr alwad i ffordd newydd o fyw a ymgorfforwyd gan Grist ac amlygu’r cariad hwn â dewrder yng nghanol gwae ac ansicrwydd yr oes sydd ohoni, pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad? Tybed a fyddem yn agosach at yr undod y gweddïodd Iesu drosto cyn ei farwolaeth, yr undeb perffaith sy’n bodoli rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, a’r byd, yn sgil yr amlygiad rhyfeddol hwn, yn dod i gredu? (Ioan 17:21)

 

Ainsley Griffiths
Caerfyrddin

31 Awst 2017  

 

 

 

 

 

 

 

Encil

Encil

Sylwadau Valmai a John Gwilym Jones ar Encil Aberdaron

Daeth cwmni cynnes o bererinion i olwg Ynys Enlli ddydd Sadwrn olaf Medi. Wnaethom ni ddim croesi y tro hwn, ond lluesta yn Eglwys Aberdaron am y bore a rhan o’r prynhawn. Gan ein bod yn cwrdd ar Ddydd Waldo, roedd hi’n briodol iawn mai thema’r sesiynau oedd ‘Tywyllwch a Goleuni’. Fel gyda llawer o gyfarfodydd Cristnogaeth 21, bu’r geiriau a’r meddyliau a’r gweddïau yn gwlwm o emosiynau, yn gyfres o fyfyrdodau trosgynnol.

 

Roedd hyd yn oed lleoliad yr eistedd o fewn yr eglwys yn symbolaidd. Agorwyd y diwrnod yn rhan dywyll yr eglwys. Mae’n wir i Pryderi egluro y byddai hynny’n fanteisiol i weld sgrin y pwerbwynt, ond bu’r gwyll ynddo’i hun yn foddion gras wrth gael ein tywys drwy lun a gair.

Symud wedyn i’r ochr olau a chael ein cyfareddu gan eiriau a llais a chân Gwyneth Glyn. Rhagoriaeth ei chanu hi bob amser yw cyfoeth a barddoniaeth ei cherddi. Y tro hwn fe glymwyd y cyfan yn fyfyrdod a gweddi a chân.

Wedi cydginiawa yn gwmni diddan dod yn ôl, heibio i donnau gwyllt y môr, i awyrgylch cysegredig yr eglwys a chael cyfle i ddarllen oriel o gerddi grymus R S Thomas ar hyd y muriau. Rhyfeddu yn arbennig at greiriau annisgwyl, megis y garnedd o gerrig glan môr oddi ar draeth Aberdaron, ac arnynt arysgrifau â beiro. Ymwelwyr oedd awduron y geiriau, yn mynegi meddyliau ingol eu profiadau. Cofiaf ddwy neges yn arbennig: ‘Er bythol gof am ein hannwyl ferch’, ac ar un arall: ‘Fe’th garaf, Taid, er na welais mohonot erioed.’

Agorwyd sesiwn y prynhawn gan Gwen Aaron ac Aled Lewis Evans ac Anna Jane. Fe’n harweiniwyd mewn darlleniadau gafaelgar gan y tri. Er mor amrywiol eu cynnwys teimlem eu bod oll yn ein tywys drwy dywyllwch at oleuni.

Fel y disgwyliem ac y gobeithiem, o gofio’i fagwraeth yn Nyfed, fe’n harweiniwyd gan Tecwyn Ifan at drysorau barddoniaeth Waldo. Cawsom ein tywys drwy gyfres o weledigaethau syfrdanol am dywyllwch a goleuni yn y cerddi, gan gynnwys y cyfeiriad at y môr goleuni yn ‘Mewn Dau Gae’, at ‘Preseli’, lle sonnir am ‘hil y gwynt a’r glaw … yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg’, ac at ‘Geneth Ifanc’ a’r hyder yn niweddglo’r gerdd honno:

Dyfnach yno oedd yr wybren eang,
Glasach ei glas oherwydd hon;
Cadarnach y t anweledig a diamser
Erddi hi ar y copâu hyn.

Clowyd y prynhawn â deuawd gan Tecwyn Ifan a Gwyneth Glyn, a ninnau yn cael ymuno yn y gytgan obeithiol. Yn sain y gân honno, ac fel hen bererinion Enlli dros y canrifoedd, troesom am adre o Aberdaron wedi ein hysbrydoli a’n symbylu.

(Valmai a John Gwilym)

Dyfalu Duw

DYFALU DUW

Galwaf arnat, Dduw’r Gwirionedd,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob gwir, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Doethineb,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob peth doeth, ble bynnag y bo;

 

Dduw Ffynnon Bywyd,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y tardda pob bywyd, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Gwynfyd,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob llawenydd, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Da a’r Prydferth,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw popeth da a phrydferth, ble bynnag y bo;

 

Dduw’r Goleuni Tryloyw,

Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti

Y daw pob llewyrch, ble bynnag y bo;

 

Dduw, y mae troi oddi wrthyt yn gwymp

a throi atat yn atgyfodiad,

a thrigo ynot yn gadernid sefydlog;

 

Dduw, y mae Ffydd yn ein hannog tuag atat,

Gobaith yn ein dyrchafu atat,

Cariad yn ein huniaethu â Thi;

Trugarha wrthym,

Nertha’n Ffydd

Ehanga’n Gobaith

a thania’n Cariad;

Er mwyn i ni dy addoli mewn rhyfeddod ac ufudd-dod.              

 

(Seiliedig ar weddi gan Awstin Sant)

Tangnefedd a byw yn ddi-drais

TANGNEFEDD A BYW YN DDI-DRAIS

Rwy’n dymuno tangnefedd ar bob gŵr, gwraig a phlentyn, ac yn gweddïo y bydd delw Duw ym mhob person yn ein galluogi i gydnabod ein gilydd fel rhodd sanctaidd wedi ein cynysgaeddu ag urddas enfawr. Yn enwedig lle bo gwrthdaro, gadewch i ni barchu ein ‘hurddas dyfnaf’ a seilio ein bywydau ar weithredu bwriadol ddi-drais.
(Y Pab Francis)

Mae gweithredu di-drais yn golygu hawlio ein hunaniaeth sylfaenol fel meibion a merched sy’n annwyl i Dduw tangnefedd; o ganlyniad awn allan i fyd rhyfel fel tangnefeddwyr i garu pob bod dynol. Ond dyma’r broblem: dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydyn ni. Yr her yw cofio pwy ydyn ni a bod yn ddi-drais atom ein hunain ac at eraill. (John Dear)

Mae byw yn ddi-drais yn hawlio patrwm beunyddiol o fyfyrio, synfyfyrio a meddylgarwch. Fel y mae diffyg meddwl yn arwain at drais, y mae meddylgaredd cyson ac ymwybodol o’n gwir hunaniaeth yn arwain at absenoldeb trais a thangnefedd. Po ddyfnaf yr awn i feddylgaredd di-drais, po agosaf y down at y gwirionedd am ein hunaniaeth fel chwiorydd a brodyr i’n gilydd, fel meibion a merched i Dduw tangnefedd. Mae goblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yr arfer yma’n rhyfeddol: os ydyn ni’n feibion a merched i greawdwr cariadus, yna mae pob creadur dynol yn chwaer a brawd, ac ni allwn fyth eto frifo neb ar y ddaear, a llai fyth dewi yn wyneb rhyfel, newyn, hiliaeth, rhywiaeth, arfau niwclear, anghyfiawnder y drefn a dinistr yr amgylchedd.
(Richard Rohr)

Cerwch eich gelynion …

Cyfarfod mis Tachwedd – manylion

Cyfarfod mis Tachwedd 2017

‘Beth yw ystyr dysgu gan Iesu mewn byd sy ar ddymchwel?’

Dyna’r cwestiwn y bydd y diwinydd disglair James Alison yn ceisio’i ateb yng nghyfarfod nesaf cristnogaeth21 ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol gynt) ym Mhenarlâg, 10.30am – 4.30pm.

Yn ei ail ddarlith bydd James yn sôn am ei ffordd bersonol ef o ddwyn ynghyd feddwl amheugar y sceptig a thraddodiad eglwysig.

Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30

Llyfrgell Gladstone Penarlâg

 DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON

 Rhaglen y Dydd:

 10.30am – Croeso, coffi a chofrestru

11am : Sesiwn 1

 What does it mean to be taught by Jesus 
in the midst of a world in meltdown?

 Cylchoedd Trafod

12.30pm Cinio

1.30pm Sesiwn 2:

 The sceptical mind and Church tradition

– a personal approach.

Cylchoedd Trafod

3pm Sesiwn: Holi’r darlithydd

3.30pm Defosiwn

4.15pm Te ac Ymadael.

Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the

Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 i gadw lle at 

Enid Morgan, Rhiwlas, Allt y Clogwyn, Aberystwyth SY23 2DN 
01970624648 enid.morgan[at]gmail.com