Archifau Categori: Agora 17

Lewis Glyn Cothi – englynion

ENGLYNION I DDUW

Un o’r cyfranwyr i Encil Cristnogaeth21 yn Aberdaron ar 30 Medi oedd y gantores Gwyneth Glyn. Yn ei chyflwyniad cyfoethog darllenodd y detholiad hwn o englynion o’r 15ed ganrif gan Lewis Glyn Cothi. Diolchodd i Twm Morys am y gwaith dethol.

Ar dymor cynhaeaf maen nhw’n arbennig o ystyrlon a dwys. 

Glanaf o bob goleuni – yn y byd,
         Mal y berth yn llosgi,
     Yn yr haul, yn yr heli,
     Yn y sêr, myn f’einioes i.

Tad planed wastad, Tad niwl distaw – gwyn,
           Tad gwynt, helynt hylaw,
   Tad gwenith, Tad eginaw,
     Tad yw i’r gwlith, Tad i’r glaw.

Yn y gwŷdd y bydd, ym mhob âr – drwy’r byd
         Yn yr ŷd a’r adar,
     Yn Dduw y mae’n y ddaear,
     Yn ddewin gwyn, yn ddyn gwâr.

Yn egin y llin gerllaw, – yn y gwynt,
         Yn y gwellt yn gwreiddiaw,
     Yn y gwenith yn rhithiaw,
     Yn y gwlith ac yn y glaw.

Yn eigion ymhell, yn agos, – y mae,
         Yn y main, yn y rhos,
     Yn y niwl ac yn y nos,
     Yn y dydd, yn y diddos.

Tad Tri Enw, tad tirionaf – daear,
         Tad yw i’r cynhaeaf,
     Tad yw i’r hin, tad yr haf,
     A’i oleuni sy lanaf.

 

Môr Goleuni – Tir Tywyll

MÔR GOLEUNI – TIR TYWYLL

Pelydrau dros Enlli – (h) Iestyn Hughes

Encil Aberdaron

Daeth ffrindiau hen a newydd ynghyd i ail encil cristnogaeth21 yn y gogledd ddydd Sadwrn, 30 Medi 2017. Diwrnod cofio Waldo ydoedd a dyfyniad o waith Waldo ‘Môr goleuni, tir tywyll’ oedd y thema gan y siaradwyr i gyd. Gyda gwyntoedd Hydref yn bygwth a dau o’r cwmni wedi eu dal ar Ynys Enlli am dri diwrnod oherwydd y tywydd, yr oeddcreigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’ yn gefndir cyson i’r sgwrs a’r myfyrio. Yn Eglwys Aberdaron ei hun – a oedd, ganrif a hanner yn ôl, yn furddun ond sy bellach yn gadarn ac yn glyd – cawsom arweiniad hyfryd o amrywiol.

Cofeb Waldo

Agorwyd gan Pryderi Llwyd yn dangos rhai o luniau Aled Rhys Hughes  sy’n ddrych o lawer o gerddi Waldo, ac yn arlwy cyfoethog Gwyneth Glyn cawsom amryw osodiadau o eiriau Waldo. Gobeithiwn weld cyhoeddi a recordio’r rhain cyn hir er bod ‘Rhodia, o wynt’ yn newydd sbon gan nad yw hyd yn oed yn ei chryno ddisg newydd Tro. Cawsom ddarlleniadau effeithiol iawn gan Aled Lewis Evans, a Gwen Aaron ac Anna Jane yn darllen o’r ddwy gyfrol Galar a Fi a Gyrru Drwy Storom. Clymodd Tecwyn Ifan y cwbl ynghyd mewn myfyrdod a chân hynod afaelgar oedd yn peri i rai o ddelweddau symlaf Waldo befrio yn y cof a’n herio i holi: ‘Ble mae’ch llawr chi? Ble mae’ch ffenest chi?’

Aethom adre o niwl ar Ynys Enlli a’r môr goleuni yn ein hudo fwy nag erioed.

Diolch i bob un.