MÔR GOLEUNI – TIR TYWYLL
Encil Aberdaron
Daeth ffrindiau hen a newydd ynghyd i ail encil cristnogaeth21 yn y gogledd ddydd Sadwrn, 30 Medi 2017. Diwrnod cofio Waldo ydoedd a dyfyniad o waith Waldo ‘Môr goleuni, tir tywyll’ oedd y thema gan y siaradwyr i gyd. Gyda gwyntoedd Hydref yn bygwth a dau o’r cwmni wedi eu dal ar Ynys Enlli am dri diwrnod oherwydd y tywydd, yr oedd ‘creigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’ yn gefndir cyson i’r sgwrs a’r myfyrio. Yn Eglwys Aberdaron ei hun – a oedd, ganrif a hanner yn ôl, yn furddun ond sy bellach yn gadarn ac yn glyd – cawsom arweiniad hyfryd o amrywiol.
Agorwyd gan Pryderi Llwyd yn dangos rhai o luniau Aled Rhys Hughes sy’n ddrych o lawer o gerddi Waldo, ac yn arlwy cyfoethog Gwyneth Glyn cawsom amryw osodiadau o eiriau Waldo. Gobeithiwn weld cyhoeddi a recordio’r rhain cyn hir er bod ‘Rhodia, o wynt’ yn newydd sbon gan nad yw hyd yn oed yn ei chryno ddisg newydd Tro. Cawsom ddarlleniadau effeithiol iawn gan Aled Lewis Evans, a Gwen Aaron ac Anna Jane yn darllen o’r ddwy gyfrol Galar a Fi a Gyrru Drwy Storom. Clymodd Tecwyn Ifan y cwbl ynghyd mewn myfyrdod a chân hynod afaelgar oedd yn peri i rai o ddelweddau symlaf Waldo befrio yn y cof a’n herio i holi: ‘Ble mae’ch llawr chi? Ble mae’ch ffenest chi?’
Aethom adre o niwl ar Ynys Enlli a’r môr goleuni yn ein hudo fwy nag erioed.
Diolch i bob un.