Cynhadledd Pantycelyn 14 Hydref

Cynhadledd Pantycelyn, 14 Hydref

Llun: LlGC

Cynhelir y gynhadledd undydd eleni yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Sadwrn 14 Hydref 2017. Y mae’n briodol iawn mai agweddau ar waith William Williams Pantycelyn a fydd dan sylw am ein bod yn dathlu tri chanmlwyddiant ei eni eleni. Bydd pum papur yn cael eu cyflwyno, a’r siaradwyr fydd yr Athro E. Wyn James, Dr Eryn M. White, Gwynn Matthews, yr Athro Densil Morgan a’r Athro Ceri Davies. Yn sesiwn olaf y diwrnod, bydd panel o dri (Dafydd IwanGareth Bonello a Lleuwen Steffan) o dan gadeiryddiaeth Delyth Morgans Phillips yn sôn am ddylanwad emynau Pantycelyn arnynt hwy, ac am yr her o gyflwyno emynau’r Pêr Ganiedydd mewn cyd-destun cyfoes.

Trefnodd y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa arbennig ar Bantycelyn a bydd hon i’w gweld yn ystod y dydd yn Ystafell Summers. Yn ystod y dydd hefyd, bydd Cymdeithas Emynau Cymru yn lawnsio cyfrol o ysgrifau’r diweddar Glyn Tegai Hughes ar Bantycelyn.

Trefnir y digwyddiad gan Adran Diwylliant y 18-19 Ganrif, Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gyda chydweithrediad a chefnogaeth yr Adrannau Athroniaeth, Clasuron, Diwinyddiaeth, a Llên Gwerin ac Ethnoleg, ynghyd â Chymdeithas Emynau Cymru. Cafwyd cefnogaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd. Noddir y digwyddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30 ac yn gorffen am 4.30. Bydd y tâl cofrestru yn £5 am y diwrnod a gofynnir i bob un gofrestru ymlaen llaw. Gellir cofrestru trwy anfon siec am £5 yn daladwy i ‘Prifysgol Cymru’ a’i hanfon i’r Ganolfan Uwchefrydiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH. Gellir cofrestru trwy anfon ebost at: canolfan@cymru.ac.uk. Rhif ffôn y Ganolfan yw: 01970.636543.

Bydd Caffi Pendinas yn y Llyfrgell ar agor yn ystod y dydd.