E-fwletin 1 Hydref 2017

Cenhadaeth ein Cenedl

Aeth blynyddoedd lawer ers i’n capel ni godi arian i’r “genhadaeth”. Dwi ddim yn cofio pryd y gwnaethon ni sôn ddiwethaf am y “genhadaeth”, hynny ydy, yn y ffordd rwy’n cofio pethau fel plentyn yn y ’60au.

Ry’n ni, fel nifer o eglwysi eraill, yn ariannu cynlluniau i oresgyn tlodi, i ymladd afiechyd a newyn, i gynorthwyo cynlluniau sy’n cefnogi ffoaduriaid yn ne Ewrop, i ddilladu’r digartref yn lleol ac i gynnig cefnogaeth i rai gydag anawsterau salwch meddwl. Mae ‘na gyffro am nifer o’r prosiectau hyn. Fodd bynnag, nid yw’r gair ‘cenhadaeth’ wedi cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag unrhyw un o’r gweithgareddau uchod; ac i fod yn onest, ry’n ni fel eglwys yn ddigon hapus gyda hynny.

Yr wythnos hon yng Nghymru fe lansiwyd cenhadaeth newydd, ac rwy’n tybio y bydd hon yn genhadaeth a fydd yn ennyn ein cefnogaeth. Os na ddarllenoch chi’r ddogfen, mae hi’n werth i chi daro golwg ar Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. Gydag arddeliad cenhadol, fe gyhoeddodd Kirsty Williams y ffordd ymlaen ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae’r wlad ar fin mynd ar daith newydd gyda’i phlant. Wedi cenedlaethau o greu cwricwlwm sy’n seiliedig ar restrau cynnwys diben-draw, ond heb weledigaeth am eu pwrpas, mae yna gwricwlwm newydd ar ddod a fydd wedi ei wreiddio mewn gwerthoedd.

Amcanion cwricwlwm newydd Cymru yw gwneud yn siwr bod y genhedlaeth nesaf yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sydd hefyd yn gyfranwyr mentrus a chreadigol; eu bod yn unigolion iach a hyderus, sydd hefyd yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus.  Bydd y cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei ysgrifennu er mwyn helpu’r ifanc i ddatblygu yn y ffyrdd hyn. Dyna yw ei bwrpas.

Yn eich barn chi, tybed a fyddai’r rhain hefyd yn nodau teilwng i’ch eglwys? Beth fyddai angen i’ch eglwys chi ei wneud i greu aelodau sy’n ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn gymdogion sy’n cyfrannu’n fentrus a chreadigol i fywyd yr eglwys a’i chymuned, yn bobl iach a hyderus ac yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus?

Ydy’n heglwysi ni hyd yn oed yn anelu mor uchel â hyn? Neu a ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae nodau ein system addysg ar gyfer ein pobl ifanc yn fwy nobl ac uchelgeisiol na nodau’r eglwys ar gyfer ei haelodau? Beth am gefnogi egwyddorion Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer ein plant, tra hefyd yn mynd ati i greu strategaeth ar gyfer ein heglwysi ar sail yr un egwyddorion?

Gallwch gyrchu’r ddogfen ar y ddolen hon: http://gov.wales/docs/dcells/publications/170926-education-in-wales-cy.pdf