Encil

Encil

Sylwadau Valmai a John Gwilym Jones ar Encil Aberdaron

Daeth cwmni cynnes o bererinion i olwg Ynys Enlli ddydd Sadwrn olaf Medi. Wnaethom ni ddim croesi y tro hwn, ond lluesta yn Eglwys Aberdaron am y bore a rhan o’r prynhawn. Gan ein bod yn cwrdd ar Ddydd Waldo, roedd hi’n briodol iawn mai thema’r sesiynau oedd ‘Tywyllwch a Goleuni’. Fel gyda llawer o gyfarfodydd Cristnogaeth 21, bu’r geiriau a’r meddyliau a’r gweddïau yn gwlwm o emosiynau, yn gyfres o fyfyrdodau trosgynnol.

 

Roedd hyd yn oed lleoliad yr eistedd o fewn yr eglwys yn symbolaidd. Agorwyd y diwrnod yn rhan dywyll yr eglwys. Mae’n wir i Pryderi egluro y byddai hynny’n fanteisiol i weld sgrin y pwerbwynt, ond bu’r gwyll ynddo’i hun yn foddion gras wrth gael ein tywys drwy lun a gair.

Symud wedyn i’r ochr olau a chael ein cyfareddu gan eiriau a llais a chân Gwyneth Glyn. Rhagoriaeth ei chanu hi bob amser yw cyfoeth a barddoniaeth ei cherddi. Y tro hwn fe glymwyd y cyfan yn fyfyrdod a gweddi a chân.

Wedi cydginiawa yn gwmni diddan dod yn ôl, heibio i donnau gwyllt y môr, i awyrgylch cysegredig yr eglwys a chael cyfle i ddarllen oriel o gerddi grymus R S Thomas ar hyd y muriau. Rhyfeddu yn arbennig at greiriau annisgwyl, megis y garnedd o gerrig glan môr oddi ar draeth Aberdaron, ac arnynt arysgrifau â beiro. Ymwelwyr oedd awduron y geiriau, yn mynegi meddyliau ingol eu profiadau. Cofiaf ddwy neges yn arbennig: ‘Er bythol gof am ein hannwyl ferch’, ac ar un arall: ‘Fe’th garaf, Taid, er na welais mohonot erioed.’

Agorwyd sesiwn y prynhawn gan Gwen Aaron ac Aled Lewis Evans ac Anna Jane. Fe’n harweiniwyd mewn darlleniadau gafaelgar gan y tri. Er mor amrywiol eu cynnwys teimlem eu bod oll yn ein tywys drwy dywyllwch at oleuni.

Fel y disgwyliem ac y gobeithiem, o gofio’i fagwraeth yn Nyfed, fe’n harweiniwyd gan Tecwyn Ifan at drysorau barddoniaeth Waldo. Cawsom ein tywys drwy gyfres o weledigaethau syfrdanol am dywyllwch a goleuni yn y cerddi, gan gynnwys y cyfeiriad at y môr goleuni yn ‘Mewn Dau Gae’, at ‘Preseli’, lle sonnir am ‘hil y gwynt a’r glaw … yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg’, ac at ‘Geneth Ifanc’ a’r hyder yn niweddglo’r gerdd honno:

Dyfnach yno oedd yr wybren eang,
Glasach ei glas oherwydd hon;
Cadarnach y t anweledig a diamser
Erddi hi ar y copâu hyn.

Clowyd y prynhawn â deuawd gan Tecwyn Ifan a Gwyneth Glyn, a ninnau yn cael ymuno yn y gytgan obeithiol. Yn sain y gân honno, ac fel hen bererinion Enlli dros y canrifoedd, troesom am adre o Aberdaron wedi ein hysbrydoli a’n symbylu.

(Valmai a John Gwilym)