Calon y Drindod – Mentro Caru

CALON Y DRINDOD – MENTRO CARU

Pe baen ni ond yn medru cymryd o ddifrif yr alwad i ffordd newydd o fyw a ymgorfforwyd gan Grist ac amlygu’r cariad hwn gyda dewrder yng nghanol gwae ac ansicrwydd yr oes sydd ohoni, pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad? Tybed a fyddem yn agosach at yr undod y gweddïodd Iesu drosto cyn ei farwolaeth, yr undeb perffaith sy’n bodoli rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, a’r byd, yn sgil yr amlygiad rhyfeddol hwn, yn dod i gredu? (Ioan 17:2)

Ainsley Griffiths, Caplan Prifysgol Cymru: y Drindod, Dewi Sant, a swyddog y Weinidogaeth yn Esgobaeth Tyddewi, yn pori mewn cyfrol ddiwinyddol bwerus.

(Gil Bailie, God’s Gamble: The Gravitational Power of Crucified Love. Kettering, Ohio: Angelico Press, 2016)

Prif honiad y gyfrol afaelgar hon ydy argyhoeddiad yr awdur, mewn cymundeb â thraddodiad coeth Cristnogaeth Gatholig, mai Crist yw’r Alffa a’r Omega, rhesymeg ac ystyr y greadigaeth gyfan. Drama ydy iachawdwriaeth felly – nid rhyw waith ffuglen llawn dychymyg ond hanes ymgnawdoliad Duw wrth iddo gyffwrdd yn ddwys â’n hanes dynol a’i lwyr drawsnewid, gan ein hachub ni o’n rhwymedigaeth i ffyrdd sy’n arwain at farwolaeth a’n hailgyfeirio tuag at y bywyd syfrdanol hwnnw a amlygir yn y groes a’r atgyfodiad. I Gil Bailie, dirgelwch y Pasg yw trobwynt ein bodolaeth fel hil, gan ddatguddio llawnder cariad dwyfol ac arllwys y cariad hwnnw i galonnau parod, disgwylgar.

Er mwyn ymgymryd â’r dasg o geisio cymeradwyo’r ymagweddau diwinyddol craidd hyn mae’r awdur wedi dewis dau gydymaith dylanwadol dros ben. Y cyntaf yw’r ysgolhaig Ffrangeg-Americanaidd René Girard (1923–2015) a fu mor weithgar mewn sawl maes academaidd ond sy’n cael ei gofio, yn bennaf oll, am ei waith arloesol o ran deall arwyddocâd trais. Yn ôl Girard, tarddle trais yw’r gwrthdaro sy’n sicr o ddigwydd pan fo’n chwantau personol ni yn cyffwrdd â dyheadau pobl eraill. Gall y rhain ymddangos oherwydd cystadleuaeth am ryw adnodd prin – er enghraifft, rhai o bethau sylfaenol bywyd fel dŵr a bwyd neu rai o nwyddau moethus ein cymdeithas faterol, orffwyll, y breuddwydion hudol hynny y mae’r byd hysbysebu am i ni eu chwenychu a buddsoddi ynddynt ein harian, ein hegni a’n syniad personol o hunan-werth a phwrpas. Gall yr ymraniad ddigwydd hefyd oherwydd rhyw ysfa gyffredin am realiti sydd tu hwnt i wrthrychau, sef dyhead am ryw lesiant mwy annelwig, rhyw fudd metaffisegol neu gyflwr ysbrydol. Yr un sy’n tawelu a rheoli’r trobwll dieflig hwn o drais yn magu mwy o drais ydy’r bwch dihangol, y dioddefwr y mae’r ddwy garfan gynhennus yn ei gasáu. Drwy aberthu’r unigolyn (neu’r grŵp) hwn, daw heddwch a chymod – dros dro, o leiaf – er, yn ddiddorol iawn, mae’r ddwy blaid yn methu deall na chyfaddef y broses gudd sydd wrth wraidd y ‘llwyddiant’ hwn. I Girard, Iesu Grist yw’r dioddefwr pennaf oll, yr un sy’n datgelu ein tueddiad dynol cynhenid ac anochel i ganolbwyntio ein diffygion a’n dicter ar unigolyn. Wrth fyw yn gyson ag egwyddorion cariad tosturiol, digyfnewid y Tad, amlyga Iesu ffordd arall, ffordd bywyd a rhyddid. Wrth ddarllen hanesion yr efengylau o’r Dioddefaint, gwelwn farn yr awdurdodau crefyddol yn erbyn Iesu yn ennill cymeradwyaeth yr ymerodraeth bwerus ac o ganlyniad yn creu rhyw gytundeb rhyfedd, ond byrhoedlog, drwy’r hwn a aberthir.

Dull Girard yw darllen y Beibl drwy lensys anthropolegol gan awgrymu bod Crist yn cynnig iachawdwriaeth drwy ein rhyddhau o’r cylchoedd caeth sy’n adnabod bychod dihangol di-ri ac yna yn eu ‘haberthu’ er mwyn sicrhau rhyw heddwch ffug a ddadlennir yn y diwedd fel celwydd gan fod y cymod yn beth edwinol, diflanedig. Gellid dadlau, efallai, fod yr anthropolegydd hwn yn rhoi diagnosis o’r drwg y mae’n rhaid i ni ffoi rhagddo ac yn cymeradwyo gwaredwr i ni sydd yn unig yn medru cyflawni’r gwaith hwn. Ond wrth edmygu’r un holl-gariadus, dwyfol-ddynol sy’n medru byw y tu hwnt i’r maglau negatif sy’n rhwydo’r gweddill ohonom, nid oes ganddo ddigon o bwyslais ar y realiti positif sy’n ein disgwyl drwyddo. Hynny yw, mae gan Girard syniad clir a darbwyllol o’r hyn y’n hachubir ni rhagddo ond heb ddisgrifio neu ddychmygu yr hyn y prynwyd ni ar ei gyfer.

Os oes modd beirniadu campwaith Girard o ran diffyg dyfnder diwinyddol ni fyddai cyhuddiad o’r fath yn ddilys o gwbl i ail gydymaith Gil Bailie. Mynnodd yr offeiriad a’r diwinydd Catholig Rufeinig o’r Swistir Hans urs von Balthasar (1905–1988) ddarllen hanes Dioddefaint Crist fel drama lle mae geiriau a gweithredoedd yr ‘actorion’ dynol yn cael eu llwyr gysgodi gan yr hyn y mae Duw yn ei wneud. Ar ben hyn, nid yn unig y digwyddiadau allanol, gweladwy yw diwedd y stori ond yr hyn sy’n digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’ ym mywyd mewnol y Tri yn Un. Felly, er bod ystyr y gyfres o olygfeydd achubol a thrawiadol a gawn yn hanes yr efengylwyr o’r croeshoelio yn hollbwysig i Balthasar, mae’r hyn sy’n digwydd ar ôl marwolaeth Crist o arwyddocâd tyngedfennol. I’r rhan fwyaf o Gristnogion mae’r cyfnod rhwng ein coffâd dwys o farwolaeth yr Arglwydd ar y Groglith a’n dathliadau llawen ar Ddydd y Pasg fel rhyw saib bach, cyfle i addurno’n heglwysi ar gyfer yr ŵyl neu ymbaratoi mewn rhyw ffordd arall. I Balthasar, fodd bynnag, roedd digwyddiadau cudd y Dydd Sadwrn Sanctaidd – yr hyn y mae Credo’r Apostolion yn ei ddisgrifio fel y Disgyniad i Uffern – yn rhan anhepgor o’r modd y bu raid i Dduw waredu’r byd. Mae’r pwyslais ar reidrwydd yn allweddol yma oherwydd dealltwriaeth Balthasar o’r Drindod fel patrwm tragwyddol o hunan-roi rhwng y tri Pherson dwyfol. O ganlyniad mae disgrifiad Paul o Grist yn ei wacáu ei hun (Philipiaid 2:7) drwy ei ymgnawdoliad a’i groeshoeliad yn golygu nid rhyw cynllun argyfyngus i achub yr hil ddynol, rhyw batrwm sy’n estron i fywyd Duw, ond yn hytrach yn amlygiad yn ein cnawd a’n hanes dynol ni o fywyd hael a llawn y Drindod.

Mae’r ‘bwlch’ sy’n anorfod rhwng unrhyw roddwr a derbyniwr yno o fewn bywyd y Tri ac, mewn termau athronyddol, dyma sy’n galluogi’r posibilrwydd o greu unrhyw beth o gwbl. Dim ond oherwydd y gofod oesol rhwng y Tad a’r Mab y gall y byd fodoli ac mae pob pellter a welwn yn y greadigaeth yn medru digwydd oherwydd hynny, gan gynnwys y rhwyg gwenwynig, heintus sy’n ymddangos yn sgil penderfyniad Adda ac Efa i wrthod rhodd wreiddiol Duw a dewis rhyw ffantasi o fodoli y tu hwnt i’w batrymau rhagluniaethol. Ar y groes – ac yn enwedig yn y Disgyniad i Uffern – mae Crist yn profi’r agendor rhyngddo ef a’r Tad yn cael ei estyn i’r eithaf a thrwy waith pontio’r Ysbryd Glân daw gofod iachusol ym mywyd y Tri yn Un i’r greadigaeth glwyfedig ymgartrefu ynddo ac felly dderbyn iachâd. Felly, os oedd hanes achubiaeth Girard braidd yn denau o ran dychmygu diweddglo positif y ddrama mae Balthasar yn cynnig darlun bras iawn: ein tynged fel creaduriaid a wnaethpwyd ar lun a delw Duw (Genesis 1:26–8) yw cael cyfran ym mywyd yr un sydd yn ‘ddelw’r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth’ (Colosiaid 1:15).

Er bod yna wahaniaethau amlwg o ran disgrifiadau Girard a Balthasar o ystyr marwolaeth Crist mae’r syniad o aberth yn allweddol i’r ddau (er bod yr anthropolegydd yn tueddu i weld Crist fel dioddefwr (‘victim’) sy’n cael ei yrru i’r groes drwy gynllwynio dieflig dynol a’r diwinydd yn ei ystyried fel gweithred ddwyfol rydd sy’n amlygu cariad dwyfol tragwyddol). Mae Bailie yn dadlau, fel Girard, bod aberthu yn elfen reddfol o fod yn aelod o hil yr homo sapiens ac mae’n nodi digon o enghreifftiau o fewn a thu hwnt i’r traddodiad Iddewig-Gristnogol sy’n cryfhau ei ddadl. I Balthasar, mae patrymau treisgar esblygiad, lle mae’r un cryf yn difa’r un gwan, yn golygu mwy na chylchoedd creulon Darwin ond yn adleisio, yng nghanol datblygiad araf y greadigaeth, olion dirgelwch y Pasg ac felly olion y bywyd Trindodaidd. Felly, nid pethau sy’n herio neu’n tanseilio gwirionedd Cristnogol yw athroniaeth a gwyddoniaeth yn y meddylfryd Catholig (er y gallem feddwl am eithriadau, fel yn achos Galileo). Yn hytrach gall credinwyr eangfrydig lawenhau bod Duw wedi trefnu cyfres ddi-ben-draw o arwyddion yn y byd naturiol ac yn ein hymdrechion deallusol i’n harwain i mewn i ryfeddodau ei fywyd a’i amcanion iachusol. Gallwn fod yn hyderus fod dirgelwch Duw yn fwy na’n dyheadau dynol i’w ddiffinio a’i ffrwyno: ‘mystery … is the shimmering essence that endlessly excites the longing to know … [glowing] with the promise of what is yet to be known’ (tud. 38). Er bod darlleniad gofalus a ffyddlon o’r Ysgrythurau yn hanfodol i Bailie er mwyn dirnad a deall trysorau’r Ffydd, mae’r datguddiad yn fwy na’r hyn y medrir ei fynegi mewn geiriau: y Gair a wnaethpwyd yn gnawd yw’r ffordd y mae Duw yn ei uno ei hun â’n cyflwr dynol a thrwy wneud hynny ei drawsnewid.

Gan ddilyn egwyddor lwyr Drindodaidd Balthasar, mae Bailie yn cytuno mai ym mywyd y Tri yn Un y cawn darddle, ystyr a diben cariad, y cariad sy’n byrlymu allan drwy weithredoedd achubol y Gwaredwr ac yn ei gwneud hi’n bosibl i ni ystyried cariad dynol fel peth da (gweler Genesis 1). ‘Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun,’ meddai Duw yn y dechreuad (Genesis 2:18) ac felly mae ein perthynas â’n gilydd – gan gynnwys atyniad rhywiol – yn gallu mynegi rhywbeth o’n dyhead am y Duw byw, y Tri yn Un sy’n ‘diffinio’ cariad pur sy’n mentro tu hwnt i’w anghenion ei hun er mwyn caniatáu i’r un arall ffynnu ac er mwyn creu a chynnal cymundeb. I Bailie felly, mae gwir gariad yn haeddu’r disgrifiad ‘ecstasi’ (ek-stasis yn y Roeg) oherwydd ei darddiad yn y syniad o ‘sefyll y tu allan’ i’m byd bach cyfyng er mwyn gadael i rywbeth mwy ymddangos a blodeuo, gan fod yn argyhoeddiedig fod y peth newydd hwn yn fwy na’r ddwy ran a fu ar wahân ynghynt ac yn datgelu rhyw gipolwg ar fywyd bythol-ffrwythlon Duw. Wrth wneud hyn mae Bailie yn ei roi ei hun o fewn y traddodiad Catholig o ‘nuptial theology’ a amlygwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif gan Balthasar a’r Pab Ioan Paul II ond sydd â’i gwreiddiau ganrifoedd ynghynt yn nhraddodiad diwinyddion y Canoloesoedd, fel Richard o Sant Victor.

Gwyddom, fodd bynnag, fod cariad yn fenter, yn risg. Dyna yw’r ‘gamble’ y mae Bailie yn cyfeirio ato yn nheitl y llyfr, sef penderfyniad Duw i roi rhyddid i’r ddynolryw oherwydd ei gariad mawr tuag atynt gan sicrhau bod olion o’r cariad hwnnw i’w dirnad yn y Cread a’r gwahoddiad i ymateb i’r ysfa am gariad llawn a blennir yn ein calonnau.

One could say that God’s great gamble was in giving human beings freedom, but it was a necessary gamble. Not only is freedom indispensable to the creature whose unique vocation is love, but only a creature thus endowed with freedom has the capacity to seek out and to recognize truth, goodness and beauty (mysteries to which non-human creatures are oblivious) and to say ‘Yes’ to the God who has left traces of divinity in our midst and inscribed a hunger for them in our hearts. (tud. 69)

I Bailie, felly, mae’r Cwymp yn golygu diffyg cymundeb, methiant mewn cariad, ac yn sgil ei effaith rymus gellid parhau i fod yn gaeth i’r prosesau y mae Girard yn eu gweld fel rhan o’n gwneuthuriad neu ddeall a derbyn y ffordd ‘amgen’ (sydd yn wir yn ffordd wreiddiol) a amlygir yn Iesu o Nasareth, Adda’r ail.

Mewn ffordd drawiadol mae Bailie yn ystyried y llwybrau mae ein rhyddid dynol a’n cyflwr bregus a phechadurus yn eu cynnig i ni. Ar y naill ochr mae heol serth sy’n arwain i lawr tuag at farwolaeth, y llwybr sy’n ymddangos wrth i ni ddilyn y prosesau o greu bychod dihangol ac a welir ym mhrofiadau arswydus y dioddefwyr, o Abel ymlaen, patrwm a grisialir ym mharodrwydd Abraham i ufuddhau i alwad Duw i roi ei fab Isaac i farwolaeth. Ar y naill ochr, mae gennym un arall sy’n fodlon tramwyo’r un llwybr o aberth ond yn hytrach nag offrymu un arall mae’n benderfynol o’i gyflwyno ei hun – fel Duw a dyn – gan hunan-roi i’r fath raddau fel bod yr holl fecanwaith a fu mor ddylanwadol ynghynt wedi ei lwyr ddiwallu ac, o ganlyniad i hyn, ei danseilio. Er mwyn i ni gael cyfle i gamu i mewn i fywyd newydd, llawn a rhyfeddol y greadigaeth newydd, mae’n rhaid i Dduw, yn gyntaf, gamu i mewn i’r ‘hanner bywyd’ a gawn fel etifeddion Adda. Trwy wneud hyn, gall cyfraith Duw beidio â bod yn rhestr o orchmynion beichus, ‘allanol’, ond yn llawenydd yn ffrydio oddi mewn, y Torah wedi ei gnawdoli ym mherson Iesu Grist, y Gair dwyfol sydd i’w ysgrifennu oddi mewn i’n calonnau dynol (Jeremeia 31:31–4; Eseciel 11:19–20) ac, wrth drigo yno, eu gweddnewid.

Gan adleisio syniadau Girard am sut mae ein dyheadau gwyrgam yn medru ein caethiwo mewn rhwydwaith dychrynllyd o gystadleuaeth, trais ac aberth, mae Bailie (tud. 154) yn pwysleisio cwestiwn Iesu i’r disgyblion cyntaf: ‘Beth yr ydych yn ei geisio?’ (Ioan 1:38; Beibl Cymraeg Newydd) neu, yn ôl cyfieithiad mwy llafar a bachog Beibl.net, ‘Beth dych chi eisiau?’ Hynny yw, beth yw gwir ddyhead ein calon? Ai am gael ein diffinio gan yr hyn sydd gennym yn faterol, ein chwantau cnawdol, ein huchelgeisiau, ein statws a’n bri, ynteu’r ysfa wrth-ddiwylliannol lwyr am y sancteiddrwydd a ddaw oddi wrth Dduw yn unig? Ar ôl sôn wrth y wraig o Samaria am ei syched ef am ddŵr, mae Iesu’n cyfeirio at ei syched hithau ac yn cynnig yr hyn sy’n rhagori ar holl ddiddanwch y gall y byd ei gynnig: ‘Bydd pawb sy’n yfed o’r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o’i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol’ (Ioan 4:13–4; cf. Datguddiad 21:7). Dyma alwad felly i beidio â chael ein hudo a’n cyflyru gan rythmau gwyllt ein byd aflonydd sy’n cynnig rhyw foddhad darbodus drwy fasnach neu eiddo neu ryw, ond gwir gyflawnder sy’n parhau. Cawn wahoddiad oddi wrth y Crist Ioanaidd i aros ynddo (Ioan 15:4), gyda ffrwythlondeb a llawenydd yn dilyn. Mae’r efengylwr yn defnyddio’r ferf Roegaidd menein yma, gair sy’n ein hatgoffa o gwestiwn y disgyblion cyntaf: ‘Rabbi, ble’r wyt ti’n aros (menein)?’ (Ioan 1:38). Mae Ioan felly’n awgrymu mai galwad yw i gyfranogi ym mherthynas dragwyddol y Tad a’r Mab, ‘er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un: myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith’ (17:22–3). Os yw’r dymuniad hwn – a ymddengys ymhlith geiriau olaf Iesu yn yr efengyl – fel rhyw fath o ‘ewyllys olaf’ ac yn dangos ei ddealltwriaeth o alwedigaeth ddyfnaf y credinwr, felly dylai’r un ysfa ffynnu yn ein calonnau ninnau hefyd, gan ddad-wneud y strwythur hollddifaol o chwantau sy’n tynnu’n groes i bwrpas Duw ar ein cyfer.

Yn ystod hanes Israel mae Duw wedi bod yn chwilio am yr ‘ie’ sylfaenol hwnnw, yr ymateb llawen a chyson i’w gynlluniau yn y genedl a’r greadigaeth ehangach. Daw’r cysyniad hwnnw i’r golwg ym mywydau rhai o’r mawrion, fel Abraham, Moses a Dafydd, ond yn amherffaith. Dadl Bailie (tud. 141) – gan gytuno â’r traddodiad diwinyddol Catholig mawr – yw cyflwyno Mair, y Forwyn ddifrycheulyd, fel yr un sy’n lleisio cydsyniad llwyr y ddynolryw â phwrpas achubol Duw, gan berffeithio ffydd yr hynafiaid a pharatoi ffordd, yn ei chalon ac yn ei chroth, i’r Gair tragwyddol gymryd cnawd dynol ac felly agosáu i waredu’r byd. Yn y bôn, mae yna alwad i adleisio honiad yr apostol Paul fod gwir fodolaeth yn golygu byw yng Nghrist a thrwyddo: ‘yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof fi. A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a’m carodd i ac a’i rhoes ei hun i farw trosof fi’ (Galatiaid 2:20).

Wrth reswm, mae croeshoeliad Crist yn allweddol bwysig i Bailie. Ystyria foliant y canwriad a fu’n dyst i’r dienyddio, ynghyd â’i ddatganiad fod y dioddefwr rhyfeddol hwn yn ‘ddiniwed’ (‘cyfiawn’, yn ôl y Beibl Cymraeg Newydd) fel arwydd o allu unigryw Crist i fod yn waredwr:

Jesus’s innocence consisted neither of his merely moral impeccability nor his merely juridical innocence of the charges leveled against him. He was ontologically innocent. He was like us in all things but sin. This is essentially why it took the crucifixion of Christ to save us. Only the kind of innocence of which we fallen creatures are incapable could have broken the spellbinding power of the system of ritual accusation and immolation by which sinful man has turned mimetic aggravations into social camaraderie and a communal sense of moral rectitude ‘since the foundation of the world’. (tud. 168)

Mae’r geiriau olaf hyn yn adleisio teitl un o lyfrau mwyaf dylanwadol Girard, lle mae’r anthropolegydd yn tanlinellu cryn dystiolaeth yn y Beibl o system gathartig y bwch dihangol, nid yn unig yn y rheolau ar gyfer Dydd y Cymod ond hefyd yn ymestyn yn ôl i Abel ac ymlaen at Grist, y Gwas Dioddefus sy’n gwyrdroi pŵer yr hen drefn ac yn sefydlu ffordd newydd. Pwysleisia Bailie arwyddocâd disgrifiad Luc o’r digwyddiad yn syth ar ôl cyhoeddiad y canwriad: ‘troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio’r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau’ (Luc 23:48). Yn ôl Bailie, mae’r Roeg a gyfieithir fel ‘troi’ yn golygu ailgyfeirio sylfaenol i’r bobl, gyda’r curo bronnau yn awgrymu’r dryswch dwys sydd wedi cael gafael ynddynt wrth iddynt sylweddoli bod y mecanwaith oesol o lwytho dicter a thrais ar ddioddefwr diniwed bellach wedi ei ddadlennu fel peth ffiaidd a gwag sydd heb allu i wireddu unrhyw newid heblaw am ryw ysbaid o heddwch byrhoedlog cyn i’r holl broses gylchol, ddieflig fynnu un aberth arall ar ôl y llall. Marwolaeth Crist yn unig sydd â’r gallu i danseilio a llwyr ddiddymu nerth yr hen drefn a chynnig ffordd arall, drawsnewidiol: ‘Dyma awr barnu’r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan. A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun.’ Yn ôl Ioan, dywedodd Iesu hyn ‘i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros’ (Ioan 12:31–3). I Bailie, mae’n ddigwyddiad hollgynhwysol:

 

[we insist] on the universal impact of Christ’s life, death, and Resurrection on everyone who ever has or ever will live and on creation itself – ordained as it is to being brought by human wonder and affection into the everlasting liturgy of Trinitarian communion. (tud. 171)

 

Ond er mwyn i’r ddynolryw gael cyfran yn yr agosrwydd hwn sy’n perthyn i’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, rhaid i’r Un a gymerodd gnawd dynol oddef arswyd y bwlch enfawr sydd wedi agor oherwydd pechod. Felly, gan ddilyn Balthasar, mae Bailie yn cynnig bod prosesau iachawdwriaeth (yr hyn a elwir yn ‘Iawn’ gan rai) yn golygu mwy na’r digwyddiadau gweladwy sy’n diorseddu cylchoedd trais ond hefyd yn ddigwyddiad Trindodaidd sy’n cymryd o ddifrif lef Iesu adeg y croeshoelio: ‘Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?’ (Marc 15:34). Heblaw ein bod ni am ddeall y geiriau hyn fel profiad dynoldeb Crist yn unig, mae yna ryw ‘ymwahanu mewnol’ o fewn y Drindod am ennyd, rhyw rwyg yn y patrymau tragwyddol o agosatrwydd annisgrifiadwy y Personau. Fel cardiolegydd sy’n gorfod stopio curiad calon claf sydd dan y gyllell am eiliad er mwyn cyflawni rhyw broses iachusol, mae angen y ddynolryw am iachâd mewnol a pharhaol yn golygu ymestyn rhythmau llif cariad rhwng y Tad a’r Mab i’r eithaf, gyda’r Ysbryd Glân yn pontio’r agendor ac yn ei gwneud hi’n bosibl i gredinwyr ddarganfod ‘cartref’ newydd i aros ynddo (gweler y sylwadau uchod am arwyddocâd menein yn Efengyl Ioan). Mae profiad Crist o’i deimlo ei hun wedi ei adael gan y Tad yn fwy ingol na phrofiad unigrwydd na dioddefaint unrhyw un arall oherwydd ei fod yn adnabod gwynfyd y Mab tragwyddol ‘ym mynwes y Tad’ (Ioan 1:18). Ond fel y mae Bailie yn nodi, mae’r ffaith fod y weithred yn cael ei chyflawni gyda’r bwriad o ailsefydlu’r cymundeb dwyfol a gollwyd gan bechaduriaid yn golygu bod y Personau yn parhau i fod yn berffaith un o ran ewyllys wrth i rwymau cariad tragwyddol gael eu lledu i’r eithaf. I Balthasar (a Bailie), mae’r ddysgeidiaeth fod Crist wedi disgyn i drigfan y meirw a dioddef mwy na marwolaeth gorfforol yn unig yn golygu bod y gadwyn o ddigwyddiadau o’r oruwchystafell i’r ardd i’r brawdle i’r groes i’r bedd ac i uffern ei hun – fel un symudiad o gariad dwyfol pur – yn weithred achubol hollgynhwysol nad oes unrhyw un wedi ei eithrio ohono. Serch hynny, mae’r ddau yn cytuno bod trugaredd diddiwedd Duw yn parchu rhyddid ac annibyniaeth ddynol; felly, mae angen i bob un ei dderbyn drwy benderfyniad personol fel bod y gwaith gwrthrychol yn medru bod yn ffrwythlon ynom a thrwom.

Fodd bynnag, nid yw angau a disgyniad Crist yn gyflawn yn ei allu iachusol heb rym yr atgyfodiad. Dyma’r digwyddiad hanesyddol a thyngedfennol sy’n dangos buddugoliaeth lwyr dros gadwyni’r system arswydus hynafol a nodweddir gan drais a marwolaeth. Yn fwy na gweithred achubol sy’n rhoi sicrwydd a chysur ond yn parhau i fod yn rhywbeth ‘allanol’ a phellennig, mae’n cynnig modd newydd o fyw, ffordd sy’n wahanol i’r drefn ddiddiwedd, ddiffaith a fu:

At the Resurrection, ‘the power of death’ was broken, but not the fact of death. Death, the dark curse of human existence since the relinquishing of our full ontological dignity in return for the excitations of the mimetic melodrama, has now been turned into the universal opportunity to enter into the Paschal Mystery, taking up one’s cross, and dying with Christ. (tud. 179)

Mae Bailie felly yn awgrymu ffordd syfrdanol o fyw a bod sy’n golygu mwy na dal ein gafael ar ein bodolaeth bresennol na hyd yn oed fynd yn ôl i baradwys Eden. Y nod yw ymdebygu i Grist drwy batrwm o dderbyn a rhoi sy’n adleisio rhythmau bywyd y Drindod, y bywyd a ddatgelwyd yn yr Ymgnawdoliad, ac yn bennaf oll drwy ddirgelwch y Pasg. Gydag eneiniad yr Ysbryd Glân a hir ddisgwyliwyd, caiff gredinwyr le newydd i ffynnu a’r sicrwydd bod digwyddiadau’r Diwedd wedi dechrau wrth i’r greadigaeth symud tuag at ei Omega, sef Crist ei hun. Wrth ddathlu sacramentau’r Cyfamod Newydd mae Cristnogion Catholig yn dal eu gafael ar hanes ein hiachawdwriaeth ond gan ymestyn ymlaen yn llawen i’r hyn sydd i fod. Digwydd y pontio rhyfeddol hwn drwy Iesu Grist, yr un ffyddlon a digyfnewid (Hebreaid 13:8), sy’n bresennol mewn ffordd arbennig ym mhob Offeren: ‘the Mass represents the inbreaking into time of the Messianic Banquet … anamnesis (memory) under the sign of maranatha (the Lord is coming, come Lord)’ (tud. 344). Mae’r Cymun Bendigaid yn cymeradwyo i’r Eglwys ffordd aberthol – nid yr hen drefn ddieflig, dreisgar ond llwybr cariad, realiti cymundeb: felly, nid gweithred litwrgaidd ydyw’r Offeren yn bennaf oll: ‘the Eucharist … “is not an isolate cultic act but a way of existence” (Joseph Cardinal Ratzinger, Y Pab Bened XVI), “a mode of being which passes from Jesus into each Christian, through whose testimony it is meant to spread throughout society and culture”’ (Y Pab Ioan Paul II).

Mae cyfrol Bailie yn un drawiadol iawn sy’n tynnu sylw’r darllenydd at ystod eang o ysgolheigion Catholig eu naws yn ogystal â Balthasar a Girard. Gellid dadlau bod persbectifau Bailie a’i gymdeithion diwinyddol yn dra gwahanol i gyd-destun y rhan fwyaf o bobl a fydd yn darllen yr erthygl hon o ran cenedligrwydd, traddodiad eglwysig ac ati. Serch hynny, wrth geisio goresgyn y gwahaniaethau cymharol arwynebol hyn daw ffrwyth da. Er enghraifft, drwy ystyried honiadau Girard ynglŷn â phwrpas trais ac aberth yn y gymdeithas ddynol, efallai y daw modd dilyn y llwybr a agorwyd gan yr un a ddioddefodd ei allu difaol a’i ddisodli. Da fyddai clywed hyn o’r newydd yn ein hoes derfysgol sy’n mynnu hunan-amddiffyniad a’r gallu i dalu’r pwyth yn ôl. A ninnau yng nghanol dirnad goblygiadau penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn wynebu’r holl atgasedd a dywalltwyd yn sgil y refferendwm ar bobl o wledydd eraill sy’n preswylio yn ein mysg, sut mae modd osgoi mynnu bychod dihangol sy’n dioddef baich ein dicter a’n digalondid pan fo’n bywydau’n llai llewyrchus nag y dymunem? A thra bod eglwysi’r Gorllewin (gan gynnwys eglwysi Cymru) yn edwino, yn cael eu rhwygo gan ddadleuon mewnol, yn prysur ddiwygio’u strwythurau ac yn poeni am oroesiad yn hytrach na chyhoeddi’r Deyrnas, mae Bailie yn ein hatgoffa o’r un ffactor amlwg sy’n cael ei esgeuluso’n gyson, sef Duw ei hun, yr un dirgel yn ein mysg sydd am wireddu ei ddyheadau er gwaethaf ein ffolineb a’n dallineb ysbrydol. Os bydd y gyfrol yn llwyddo i danio’r Eglwys â’r argyhoeddiad fod Duw eisoes wedi gwneud yr hyn sydd ei angen er mwyn dod â’n hanes fel hil i’r diweddglo llawen a fwriadodd o’r dechreuad a’i fod wedi cynysgaeddu’r Corff â’r cwbl sydd ei angen arno, gallai chwarae rôl bwysig wrth adennill hyder.

Pe baem ni ddim ond yn medru cymryd o ddifrif yr alwad i ffordd newydd o fyw a ymgorfforwyd gan Grist ac amlygu’r cariad hwn â dewrder yng nghanol gwae ac ansicrwydd yr oes sydd ohoni, pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad? Tybed a fyddem yn agosach at yr undod y gweddïodd Iesu drosto cyn ei farwolaeth, yr undeb perffaith sy’n bodoli rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, a’r byd, yn sgil yr amlygiad rhyfeddol hwn, yn dod i gredu? (Ioan 17:21)

 

Ainsley Griffiths
Caerfyrddin

31 Awst 2017