Yn ei chyfrol Learning to Walk in the Dark, cydnebydd Barbara Brown Taylor ei dyled i’r awdur a’r gweithredwr gwleidyddol o Ffrainc, , 1924-71, am ddangos iddi’r ffordd i weld yn y tywyllwch. Buan iawn, wedi ei ddallu’n ddamweiniol yn saith oed, y sylweddolodd Lusseyran mai ‘golau arall yw tywyllwch’. Gyda chefnogaeth ei rieni ymwrthododd â hunan-dosturi ac ar eu hanogaeth rhannai â nhw’n gyson ei ddarganfyddiadau o’i fyd a’i fywyd newydd.
Nid yn lleiaf y ffaith nad aeth y golau o’i fywyd. Ni chollodd ei allu i weld ac adnabod a dirnad. Er i’w lygaid ddiffodd gallai weld ac adnabod y goeden wrth furmuron yr awel drwy’i dail ac uchder y wal wrth wasgfa’i chysgod ar ei gorff. Gwyddai wrth gyffyrddiad ei law p’run ai offer llaw ynteu beiriant fu’n llunio’r bwrdd cinio.
Dysgodd fyw’n sylwgar. Dawn nad yw’r llygaid gwibiog, cyflym, arwynebol eu trem yn ei chaniatau. Dawn y mae Iesu’n gofyn am ei meithrin. Syllu a sylwi a chraffu ar adar a blodau a chymylau a gwynt. Cyn anodded â dim iddo oedd meithrin y ddawn i sylwi arno’i hunan a chanfod fod y ddawn honno’n ddibynnol ar ei gyflwr mewnol. Yng nghysgodion ofn a thristwch pylai’r golau a’i ddiffodd yn llwyr gan feddylfryd cas, dialgar ac anfaddeugar.
Profwyd hynny pan gludwyd ef, ynghyd â dwy fil o’i gyd-wladwyr, gan y Natsïaid i Buchenwald. Sylwodd fel y gweithiai casineb yn ei erbyn, nid yn unig wrth dywyllu ei fywyd ond ei grebachu’n ogystal. Tra mewn natur ddrwg, dymherus cerddai i fewn i furiau a baglu dros gelfi.
Tra carai, gwelai. Tra carai, cerddai’n rhydd.
Yng ngoleuni ei sylwadau cawn ragorach golwg ar natur ddeublyg y farn a gyhoeddir gan Iesu yn nhermau adfer a cholli golwg. (Ioan 9.39) Bod y dall yn cael adferiad golwg sydd fendith fawr yn wir. A ninnau yn byw ym myd Trump a Kim Jong Un gwyddom pa mor beryglus yw’r person sy’n gweld yn glir â hithau’n amlwg i’r ddau lle triga’r gelyn ac yn lle gorwedd y bygythiad i fywyd y byd. A chofio mai dau sy’n gweld pethau’n glir yw Trump a Kim Jong Un onid oes lle i gredu nad llai bendithiol y bywyd hwnnw sydd ar dro’n gorfod ymbalfalu ei ffordd yng nghysgodion nos lle mae’r goleuni , nad oes a wnelo ddim â’r llygaid, yn llewyrchu.