| AGORA Mis Mai 2016Cliciwch yma i weld y rhifyn pdf: Agora mis Mai 2016neu sgroliwch i lawr i weld pob erthygl yn unigol a rhyngweithiol: A ninnau wedi baglu braidd gydag Agora 1, dyma fentro arni gyda’r ail rifyn. Croeso’n ôl i chi, gan obeithio y byddwch chi’n teimlo’n rhydd i gyfrannu, i anfon adroddiadau am bethau lleol fydd o ddiddordeb ehangach. Anfonwch sylwadau, cwestiynau, dyfyniadau, cartwnau, cerddi sy’n codi o fyd ffydd a byd amheuaeth yng Nghymru heddiw. Cynnwys Rhifyn 2 (Mis Mai)Golygyddol                                                   Enid R. MorganCofio Gwyn Thomas Meg Elis‘Cael profiad’ a ‘Gwybod am’ Eric HallHoli tipyn ar awdur Dyfed EdwardsDyfyniad o IddewSut aeth yr encil?Canllaw i WeddïoYdwyf yr hyn ydwyf Enid MorganYdwyf gan James AlisonRownd y GwefannauDigyfaddawd Heriau’r Esgob Spong Arwel Rocet JonesHunaniaeth Ewropeaidd?Cerdd: Ble bynnag y mae cariad Arwel Rocet JonesAmgyffred WaldoAdolygu Ar Drywydd Dewi Sant Ann Parry OwenCadw a Newid | 
- GolygyddolRhagor- Golygyddol- gan Enid R. Morgan- ‘What do you think of all this immigration then?’ gofynnodd y lletywraig Gymreig yn Sir Fflint i mi (hyn ryw flwyddyn yn ôl). Teimlwn fy ngwrychyn yn codi wrth ateb, ‘We’ve been coping with immigration in Wales for many years.’ Edrychodd yn reit syn tuag ata i wrth sylweddoli nad oedd y ddwy ohonom yn sefyll ar yr un tir. Profiad anghysurus y dyddiau hyn ydi gwrando ar y Saeson hynny sy’n dadlau yn erbyn caniatáu i estroniaid ddod i mewn a newid natur cymunedau Seisnig. Ac os oes yna linyn sbeitlyd ynom, ... 
- ‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’ gan Eric HallRhagor- ‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’- Meithrin dawn y galon mewn addysg gan Eric Hall- Rydym ni i gyd yn ymwybodol fod cefnogaeth i’r ffydd Gristnogol yn y wlad yma ac yn Ewrop yn gyffredinol yn gwanhau yn gyflym. Er bod nifer o ffactorau yn cyfrannu at hyn, mae yna un sy’n allweddol, sef methiant ein hymdrechion yn ein hysgolion a’n  hysgolion Sul i ddarbwyllo dysgwyr o ... hysgolion Sul i ddarbwyllo dysgwyr o ...
- Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur IddewRhagor- Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew- Dyfed, diolch i chi am gytuno i ateb rhai cwestiynau. - Llongyfarchiadau ar gyfrol sydd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb. Mae dros 300 o weithiau creadigol llenyddol wedi eu cyhoeddi am Iesu yn Saesneg. Mae rhai wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg ond mae hon, a dweud y lleiaf, yn wahanol iawn. - Mae ôl ymchwil manwl iawn ar Iddew o safbwynt iaith, cefndir a’r stori wreiddiol. Mae dewis a dethol, wrth gwrs, a hynny’n anorfod. Ai ailedrych ar y stori oedd yn stori eich cefndir a’ch magwraeth, ynteu oeddech chi’n dibynnu’n llwyr ar ymchwil newydd?
 - Mae ... 
- Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan- Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan- ‘Nid enw yw “Duw” ond Berf’ - Mae’r ymadrodd trawiadol hwn gan Aled Jones Williams yn Duw yw’r Broblem wedi glynu yn fy meddwl a’m hatgoffa am y berth yn llosgi, a’r Moses a droes o’r neilltu i sylwi arni. Oes yna ffordd o ddehongli’r stori a fyddai’n help i ni? Wrth y berth ac ar ôl mynnu mai’r un Duw ydyw â’r un siaradodd ag ‘Abraham, Isaac a Jacob’ y mae’r presenoldeb yn yngan y gair IHWH. - Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016Rhagor- Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016- Encilio i Nant Gwrtheyrn? Pa encil corfforol mwy trylwyr? Ac roedd hi’n oer a gwlyb (ddim dan do, wrth gwrs – mae’r ddarpariaeth yn raenus a chynnes a hardd) ac eira yn Llithfaen. Ond bwriad encilio oedd tyfu i fod yn gymuned newydd. Nos Wener cawsom wylio’r ffilm Malala yw fy Enw a sylweddoli mor rhannol, mor rhagfarnllyd, mor Orllewinol o gam yw ein dealltwriaeth o beth sy’n digwydd ym Mhacistan, ac yn y gwrthryfel mileinig sy’n llithro o un enw i’r llall – Taliban – Al-Quaeda – Isis. - Ar y Sadwrn clywsom ddwy fardd ... - Canllaw i Weddïo- Canllaw i Weddïo - TYDI - Tydi – tangnefedd pob tawelwch - Tydi – y man i guddio rhag niwed - Tydi – y goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch - Tydi – gwreichionen dragwyddol y galon - Rhagor - Rownd y Gwefannau- Rownd y Gwefannau - Mae gwefan Cristnogaeth21 wedi dangos y cyfraniad unigryw y gall cymuned ar-lein ei wneud i’n taith Gristnogol. Gyda rhai miloedd wedi darllen rhai erthyglau ar y wefan, mae’n amlwg fod angen yn cael ei ddiwallu. Byddai’n braf petai darllenwyr Agora yn gallu rhannu eu gwybodaeth am wefannau sydd yn help i’w cynnal. Dyma bedair gwefan sydd o ddiddordeb wythnosol i un o selogion C21 ar hyn o bryd. - John Pavlovitz - Digyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel JonesRhagor- Digyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel Jones - Sawl asgwrn i’w gnoi - Fe fydd yr enw John Shelby Spong yn hen gyfarwydd i lawer ohonoch. Ond efallai i rai y bydd yn enw newydd. Mae’n enwog am gynnig atebion radical i ffwndamentaliaeth Gristnogol asgell dde Gogledd America. - O danysgrifio i’w wefan cewch ddilyn hynt a helynt ei gyfrol ddiweddaraf, a gyhoeddir fesul ysgrif wythnosol dan y teitl Mapio Diwygiad Newydd. - Mae’n gwneud deuddeg gosodiad: - Duw
 - Mae deall Duw fel bod goruwchnaturiol, yn byw yn rhywle y tu hwnt i’r byd ac yn ymyrryd ynddo gyda grymoedd gwyrthiol bellach ... - Hunaniaeth Ewropeaidd?Rhagor- Hunaniaeth Ewropeaidd? - Ddiwedd Ebrill cynhaliodd Cyngor Eglwysi’r Byd Ymgynghoriad yn Genefa ar y thema ‘Hunaniaeth Ewropeaidd. Wrth i Agora Mai ymddangos nid oedd adroddiadau o’r Ymgynghoriad wedi eu cyhoeddi, ond fe fyddant yn ymddangos yn ystod mis Mai mewn pryd i hybu trafodaeth yn yr eglwysi cyn y Refferendwm ar Fehefin 23ain. Wrth gyhoeddi’r Ymgynghoriad dywedodd Olav Fykse, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor, ei fod yn gweld y digwyddiad fel rhan o raglen byd-eang y Cyngor, ‘Pererinod o gyfiawnder a heddwch’, sydd, meddai, ‘yn annog parodrwydd i symud ymlaen a bod yn agored’. Soniodd am Jim Wallis yn America yn ... - Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham gan Meg ElisRhagor- Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham- Gwyn Thomas: Bardd, Athro, Diacon (1936–2016)- gan Meg Elis- Darluniodd y darlithydd gysyniad llenyddol y ‘trychiad’ i’w ddosbarth trwy gyfeirio at un o erchylleiriau Williams Pantycelyn – “Constant-fawr-inople”. Ond er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y ffurf yn dal yn gynhyrchiol, fe gyfeiriodd hefyd at ebychiad gyrrwr bws yn y Blaenau pan gamodd cerddwraig ddiofal allan i’r lôn o’i flaen – “Ddaru hi ddim hesi-blydi-tetio”. - A dyna Gwyn Tom. Yn medru esbonio dyfais lenyddol o ddyddiau Dafydd ap Gwilym drwodd ... - Ydwyf gan James AlisonRhagor- Ydwyf gan James Alison- Dywedodd Duw wrth Moses “YDWYF YR HWN YDWYF” - Dyma, felly, ateb yr atebion, ac ar yr un pryd y pennaf ddim-ateb-o-gwbl. Oherwydd y mae’r un Duw sy ddim yn cystadlu â dim sy’n bod, ac sy’n bwriadu dod â rhywbeth newydd i fodolaeth trwy ddefnyddiau tra anaddawol, yn gwbl y tu allan i ffurfiau cyffredin o ymddygiad dwyfol, hefyd yn gwrthod bod yn Beth nac yn Ef. YDWYF, ond yna Byddaf yr hwn y byddaf. (Mae hwn o bosibl yn gyfieithiad llai camarweiniol o’r cymal eithriadol o annirnad hwn.) Dyma rywbeth na ellir gafaelyd ynddo, ... - Iddew gan Dyfed Edwards- Iddew gan Dyfed Edwards- Mae Iesu a’i ddisgyblion ar lethrau Mynydd yr Olewydd (Har HaZeitim) ac mae Iesu yn edrych ar y cannoedd o bererinion yn torheulo, yn ymlacio, yn diogi ac yn gweld y milwyr Rhufeinig ar ben muriau Jerwsalem. Mae’n cynhyrfu ynddo’i hun. Mae Pedr (Kepha) yn torri ar draws ei feddyliau. Mae Pedr yn gweld Yako (brawd Iesu). - (tudalennau 170–171 ) - Mae ei lygaid yn chwilio. Yn chwilio’r ddinas. Yn chwilio’r muriau. Yn chwilio llethrau Har HaZeitim. Yn chwilio – - Rhagor - Darlith Morlan-Pantyfedwen- Darlith Morlan-Pantyfedwen- ‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain. - Rhagor - Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw … gan Rocet Arwel- Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw … Rocet Arwel- Lleisiau’n trampio i mewn i’r tawelwch Yn chwalu cadeiriau rhydd Mewn gofod gwyn A fu’n gorau uniongred. Sgrin Yn hoelio Sylw Ac arni lwybr o nodau Fel cerrig I gamu Dros afon. Taro nodyn, Rhagor- Amgyffred WaldoRhagor- Amgyffred Waldo- I’r enw nad oes mo’i rannu; - Y rhuddin yng Ngwreiddyn Bod, - Tawel ostegwr helbul hunan. - Darlith Morlan-PantyfedwenRhagor- Darlith Morlan-Pantyfedwen - ‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain. - Rodd hi’n ddarlith gynhwysfawr, yn gweu ynghyd ... - Cadw a NewidRhagor- Cadw a Newid - ‘Mae ’na ryw bethau mae’n rhaid i mi sôn wrthych amdanyn nhw,’ meddai Betonie’n dawel. ‘Mae gan y bobl heddiw ryw syniad am y defodau. Maen nhw’n credu bod yn rhaid cyflawni’r defodau yn union fel y buon nhw erioed, efallai oherwydd y gallai un camsymud neu gamsyniad bach olygu bod yn rhaid rhoi diwedd ar y ddefod a dinistrio’r darlun yn y tywod. Mae cymaint â hynny’n ddigon gwir. Maen nhw’n credu, os yw’r cantor yn newid unrhyw ran o’r ddefod, y gellid gwneud drwg mawr a gollwng rhyw ... - Adolygu ‘Ar Drywydd Dewi Sant’Rhagor- Croeso i ‘Lyfr Bychan’
 Ann Parry Owen- ‘Llyfr bychan yw hwn,’ meddai Gerald Morgan ar ddechrau’r gyfrol fach ddeniadol hon, ond nid bychan o gwbl yw’r dasg y mae’r awdur wedi ei gosod iddo’i hun, sef esbonio yn glir ac yn syml pwy oedd Dewi a phryd a pham y datblygodd i fod yn nawddsant Cymru. Dyma’r cwestiynau sydd yng nghefn ein meddyliau ni i gyd pan ddaw’r cyntaf o Fawrth bob blwyddyn a ninnau’n gwisgo ein cenhinen Bedr neu’n cennin gyda balchder mewn ciniawau dathlu, mewn eisteddfodau ysgol neu leol, ... 

