Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Sul y Pasg, 2016

Mae’r bedd yn wag. Ond, waetha ni’n ein dannedd, edrych i gyfeiriad y bedd wnawn ni; edrych i’r gorffennol. A dyw bedd y gorffennol ddim yn wag. Y trueni yw fod y gorffennol hwnnw yn garchar i’n dealltwriaeth ni o’r bywyd tu hwnt i’r bedd. Mae’n ein caethiwo ni; yn ein dallu ni rhag gweld arwyddocâd yr atgyfodiad.

Ym mha ffurf corfforol bynnag, y mae Iesu’n ymddangos ymhlith y bobl roedd e’n eu caru. Y tro cyntaf yw ymddangos yng ngwyll y bore bach i Mair Magdalen. Mae disgrifiad o’r ymddangosiad hwnnw yn y pedair efengyl. Yn hwyrach yr un dydd mae e’n ymddangos i’r disgyblion yn eu cuddfan yn Jeriwsalem. Ymhen yr wythnos, yn yr un lle, mae’n ymddangos i Thomas ac yn ei gymell “estyn dy fys yma.” Yn y cyfamser mae e wedi ymddangos i ddau ddisgybl ar y ffordd i Emaus. Yna’n ôl yng Ngalilea, ar lan Llyn Tiberias, mae’n gwledda gyda’r disgyblion cyn rhoi’r comisiwn “ewch i’r holl fyd …”

Dyw ei ymddangosiadau ddim yn para’n hir. Dyw e ddim yn rhoi’r argraff ei fod am ddadbacio, fel petae. Ryde ni’n synhwyro mai ymweliadau dros dro yw’r rhain a bod rhyw fodolaeth a phwrpas pellach o’i flaen.

Nid “ysbryd” ydyw sy’n cerdded trwy’r waliau. Ac eto mae elfen o hynny yn perthyn i’r profiad o fod yn ei gwmni. [Mae gen i gof am y Norman Mair, cyn-fachwr yr Alban oedd yn brif ohebydd rygbi y Scotsman, yn sgrifennu am ei ryddhad pan gerddodd Barry John yn nyddiau ei anterth allan o’r stafell trwy’r drws ac nid trwy’r wal wedi cyfweliad i’r papur!] Dim ond wedi ei ddiflaniad y mae’r ddau ddisgybl oedd ar eu ffordd i Emaus yn sylweddoli pwy fu’n cyd-gerdded gyda nhw ac yn rhannu’r bara. Wnaeth Mair ddim adnabod Iesu yn yr ardd. Gwyrth y rhwydi llawn a helpodd y disgyblion oedd yn pysgota i’w adnabod.

Mae hi fel petae Iesu’n dal drych o flaen ei rai annwyl i ddangos iddyn nhw yr hyn sy’n anhawster iddyn nhw i gamu ymlaen. Pobl yde nhw sy’n byw bywyd o hunan-dosturi a nostalgia; pobl sy’n gaeth i’w gorffennol. Mae Iesu’n ail-sgrifennu’r stori o’u blaen, bennod wrth bennod, ac yn eu dirwyn, er mor amharod, i weld nad marw yw diwedd y stori. Mae’r stori ar ei mwyaf ingol a mwyaf dramatig yn yr ymddangosiad cyntaf oll i Mair ar fore’r atgyfodiad. Mae hi wedi eu dallu gan ei dagrau. Yn ei hanobaith a’i digalondid affwysol mae hi’n credu fod y cyfan yn wastraff a bod popeth ar ben.

Cwpled allweddol Rhys Nicholas yn ei emyn “Tydi a wnaeth y wyrth …” yw “lle’r oedd cysgodion nos mae llif y wawr, lle’r oeddwn gynt yn ddall ‘rwy’n gweld yn awr;” ac onid y gweld hwnnw yw hanfod yr atgyfodiad? Iesu’n agor ein llygaid i bosibiliadau bywyd. Mae’n ein harfogi i ganfod gwirionedd bywyd tragwyddol. Ac wedi cyflawni hynny, mae ei ddyddiau ar y ddaear yn dirwyn i ben.

 

E-fwletin Mawrth 20fed, 2016

Mae hi’n Sul y Blodau. Hwre i Iesu! Croeshoeliwch ef!

Dyma’r cyfnod o ddirgelion yr holl ddirgelion; calon y profiad Cristnogol. Cyfieithir “Passion” fel ‘Dioddefaint’. Bradychu Iesu; y prawf; y croeshoeliad; marw Iesu … ac yna’r atgyfodiad a’r esgyniad.

Bob blwyddyn mae Cristnogion yn ail-fyw y profiadau, gam wrth gam. Y swper olaf; ing gardd Gethsemane; y gusan; y goron ddrain … Mae’n gyfnod emosiynol sy’n codi o’r cysgodion. Yr euogrwydd a’r empathi. Fe’i croniclir yn holl genres y celfyddydau – yng nghampweithiau’r Meistri mewn olew ar ganfasau anferth; yn ffenestri lliw yr eglwysi cadeiriol; yn nramâu’r dramodwyr; yng ngweithiau’r cerddorion. Fe’u defnyddir, weithiau fodd bynnag, i godi cynnen ac i borthi casineb gwrth-Iddewig.

Roedd Iesu’n byw bywyd dwys ac angerddol. Daeth rhai profiadau i’w ran a achoswyd gan y dwyster hwnnw. Oedd raid iddi fod felly? Siawns na allai fod dewis llwybr haws i’w droedio gan fod yn fwy tebyg i’r Meseia roedd y bobol yn ei ddisgwyl. Roedd egni ei ryddid yn dyrchafu’i ffordd o fyw i fod yn waredigaeth cysegredig i ni.

I’r ffrâm o feddwl sy’n mynnu fod y Dioddefaint yn ennyn rhyw diwinyddiaeth o hunan-euogrwydd rhaid pwysleisio nad oedd Duw yn ddig. Fe glywir ambell ddehongliad yn honni fod Duw wedi digio wrth ddynoliaeth a bod yn rhaid wrth aberth dynol. Dyna Dduw yr Anghenfil. Sut y gall Iesu’r cymod, Iesu’r cariad, adlewyrchu’r fath Dad sydd yn gawr gwrthun; Tad dialgar sydd yn creu ofn ac yn cosbi? Rhaid dileu’r darlun.

A beth yn union a olygwn ni wrth honni fod Iesu wedi ‘marw tros ein pechodau’? Nid maddeuant personol yw hwn – Iesu’n ei aberthu ei hun am mod i’n ddrwg, yn gelwyddgi, yn dwyllwr, yn anffyddlon i’m partner, yn odinebwr. Tydi’r aberth ddim yn gweithio ar y lefel honno.

Maddeuant i ddynoliaeth ydyw. Mae hynny’n ein symud ni tu hwnt a thu draw i ddicter a llid a digofaint; y tu hwnt i euogrwydd. Dyna yw hanfod mawredd y marw.

Yn y capeli a’r eglwysi, dyma ddechrau cyfnod y cymanfaoedd canu. Dyblwch y gân. “Ar y dôn ‘Bryn Myrddin’ mae’r emynydd yn defnyddio’r y gair ‘mawr’ drosodd a throsodd; bedair ar ddeg o weithiau yn y tri phennill [mae ’na ddau emynydd mewn gwirionedd; un yn anadnabyddus] …” Dyna’r organ yn chwarae’r nodau gorfoleddus o ragarweiniad. A beth welwch chi ar y galeri? Y cantorion a’u trwynau yn eu rhaglenni. Ddim hyd yn oed yn gwybod y tri gair cyntaf o bob pennill ‘Mawr oedd Crist’, ‘Mawr oedd Iesu’.

Fedrwch chi ddim datgan mawredd Iesu a’ch trwyn yn y llyfr emynau. Gantorion, a Christnogion o gantorion yn benodol [syndod i mi yw fod bois y ‘doh re me’ nad sy’n arddel Cristnogaeth yn gallu canu’r emyn gydag unrhyw lun o arddeliad na dealltwriaeth] ystyriwch eto beth yw arwyddocâd canu “mawr iawn fydd ef ryw ddydd pan ddatguddir pethau cudd.” Fel y dywedais i ar y dechrau – dyma’r cyfnod o ddirgelion yr holl ddirgelion.

E-fwletin Mawrth 13eg, 2016

Os oes ‘na rysáit i ffilm boblogaidd, y prif gynhwysion yw good guys a bad guys. Dylid sicrhau fod y gwahaniaeth rhwng y good guys a’r bad guys yn gwbl amlwg i bawb o ddechrau’r ffilm. Wrth i’r ffilm ddatblygu, bydd angen i’r bad guys lwyddo sawl gwaith, a hynny er mwyn magu mwy a mwy o awydd ymhlith y gynulleidfa i weld y good guys yn ennill yn y pendraw, a’r bad guys yn derbyn yn dalpau mawr yr hyn a fu’n ddyledus iddynt o’r dechrau. Bu Hollywood yn dilyn y rysáit hwn ers blynyddoedd lawer, a pham lai, gan fod y rysáit yn gweithio, a phobl wrth ei boddau a’r cynnyrch.

Dychmygwch Mathew yn cynnig ei Efengyl fel sgript ffilm i rai o gynhyrchwyr Hollywood. Wedi darllen y sgript, mae’r cynhyrchydd yn codi’r ffon i drafod gyda Mathew:

Cynhyrchydd: Sgript dda Matt. Diddorol. Mae gennym ni good guy: Iesu. Dyn da, tough background. Yes! Gwir botensial i ddatblygu hynny. Iachau…gwyrthiau…cerdded ar y dŵr – special effects! Ond…Matt, trafferthion – gofidiau – y cymeriad Iesu – ddim go iawn yn gweithio fel good guy. Bad dynamic – gormod o gyswllt rhyngddo â’r bad guys. Rhaid creu fwy o gap. Mae angen i Iesu sefyll fwy ar wahân i’r bad guys, angen datblygu ychydig ar y trais. Glanhau’r deml yn gweithio! Gwynfydau..? Ddim yn gweithio Matt! Gwyn eu byd y rhai addfwyn?! Na, Matt! Gwyn eu byd yn rhai trugarog…y tangnefeddwyr…y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder. Matt, rhaid dileu’r Gwynfydau’n llwyr o’r sgript, a hefyd y llinell: Oherwydd i alw’r bad guys, nid y good guys, yr wyf wedi dod (9:13). Mae’r diwedd ychydig yn lletchwith hefyd. Yn sinematig mae ‘na botensial mawr i’r croeshoelio, ond … tybed a ellid newid ychydig ar y sgript a chael Iesu’n disgyn oddi ar y groes, yn tynnu’r hoelion, diosg y goron a llwyr ddinistrio’r milwyr, catrawd ar ôl catrawd, malu’r religious nuts i gyd. Wow! Ti’n gweld fy vision?

Mathew: Na, sori. Nid y math yna o good guy yw Iesu. Nid stori am y good guy yn lladd y bad guys i gyd yw hon. Nid gorfodi mae Iesu, ond cymell. Mae Iesu’n ennill wrth golli…

Cynhyrchydd: …Get real Matt! Pwy yn y byd sydd yn mynd i brynu tocyn i weld ffilm lle mae’r bad guys yn ennill? Neb. Straight to video fydd hi!

Mathew: Ond, nid y bad guys sydd yn ennill. Oherwydd aberth cariad Iesu, daw rhai o’r bad guys i ddeall fod y good guy ‘ma’n wirioneddol dda, yn good go iawn. Mae daioni Iesu’n yn drech na phob drygioni am byth!

Cynhyrchydd: It’s not working Matt! Rhaid addasu’r sgript i’r farchnad!

Mathew: Na, fedrai ddim gwneud hynny.

Cynhyrchydd: Oce, Matt; don’t call us, we’ll call you.

Nid yw Efengyl Iesu Grist yn addas i Hollywood; ond, mae’r efengyl honno’n gwbl addas i stori bywyd go iawn. Y gamp i’r eglwys, yw nid newid y sgript, ond newid ein hunain yn unol â’r sgript.

E-fwletin Mawrth 6ed, 2016

Ymlonyddwch am funud fach os gwelwch yn dda. Oes yna Feibl wrth law? Trowch i’r ddegfed adnod o Salm 46. Beth am Caneuon Ffydd? Bydd darllen cyfieithiad Nantlais (1874-1959) o eiriau Emily M Grimes (1864-1927) (Emyn rhif 781) yn gymorth efallai; er cystal cyfaddef bod geiriau Elfed (1860-1953) (Emyn rhif 787) bob amser yn gweithio’n well i mi!

Ymlonyddwch. Cymerwch anadl ddofn … a’i ddal am ychydig cyn ei ollwng. Cymerwch sawl anadl ddofn … a dal bob un am ychydig cyn ei ollwng. Byddwch ymwybodol o’ch ysgyfaint yn lledu a llacio

Ymlonyddwch. Cymerwch anadl … a’i ddal am ychydig cyn ei ollwng gan hymio. Gwnewch cymaint o sŵn ag y caniateir gan eich sefyllfa!

Nesaf, chwiliwch am guriad eich calon. Cymerwch amser i ddod yn ymwybodol o’r curiad hwnnw – rythm eich byw. Ymdawelwch am funud fach i ymglywed â churiad eich calon.

‘Rydym, bob yr un ohonom, yn offeryn chwyth a tharo, y ddau yn un. Ensemble ydym, ti a minnau. Offeryn chwyth ydym, a phob anadl yn nodyn. Cymerwn oddeutu 12,000,000 anadl y flwyddyn! Offeryn taro ydym hefyd, mae drwm y galon yn curo, curo … yn curo 40,000,000 gwaith bob blwyddyn. Mae ein bywyd o’i ddechrau i’w ddiwedd yn gyngerdd, swynol a chyd-gordus.

Mae rhai ohonom yn gerddorol, ond mae pawb ohonom yn gerddoriaeth – darn o gerddoriaeth Duw ydym bob un. Ef a’n cyfansoddodd.

Anghofiwn hyn weithiau! Pan anghofiwn hyn daw pob math o drafferthion: awn i gredu ein bod yn llai nag ydym, neu’n fwy nag ydym – ac y mae i’r naill a’r llall beryglon enbyd.

Offeryn ydym, offeryn chwyth ac offeryn taro – crëwyd ni felly gan Dduw, ac mae pob anadl a churiad calon yn glod iddo. Cofiwch hynny’r wythnos hon. Atgoffwch rywun o hynny heddiw. Beth ydym? Offeryn cerdd y Duw byw ydym bob un – crëwyd ni gyda gofal a chariad i fod yn gyfryngau i’w ofal a’i gariad Ef.

E-fwletin Chwefror 28ain, 2016

Gŵyl Ddewi : beth yw diwinydda yng Nghymru ?

Beth sydd â wnelo angladd offeiriad Pabyddol 83 oed yn Managua heddiw (Chwefror 28ain) â Gŵyl Ddewi ? Fernando Cardenal, un o bobl Nicaragua, oedd yr offeiriad ac o’r blynyddoedd cynnar fe deimlodd alwad i wasanaethu Duw drwy wasanaethu tlodion Nicaragua, – ‘fy mhobl’. Ymunodd â’r Jesiwitiaid a threuliodd ei gyfnod cynnar yn gwasanaethu yn Medellin, Colombia a hynny ym mysg ‘tlodion dwbwl’, sef y rhai cwbwl ddi-addysg ac anllythrennog. Fe ddaeth yn ôl i Niacargua a’i alwad wedi ei chadarnhau. Bu’n arweinydd mudiad gwirfoddol i ‘roi addysg i’w bobl’ gyda gwirfoddolwyr (tua 60,000 ohonynt!) yn symud i fyw gyda theuluoedd tlawd i’w dysgu i ddarllen ac ysgrifennu, a gostyngodd anllythrennedd Nicaragua o 50% i 13% mewn 6 mis! Yr oedd yn llawn cydymdeimlad â mudiad comiwnyddol y Sandinista oedd yn ceisio dymchwel llywodraeth ormesol a militaraidd Somoza. Llwyddodd y gwrthryfel. Gwahoddwyd Fernando (a’i frawd Ernesto) ac offeiriaid eraill – oherwydd eu gwaith gyda’r tlodion – i fod yn rhan o lywodraeth y Sandinista. Gwahoddwyd Fernando i fod yn Weinidog Addysg rhwng 1984-1990. “Sut allaf beidio ufuddhau?” meddai, “ni allaf feddwl fod Duw am i mi droi cefn ar y tlodion yr wyf wedi rhoi fy mywyd i’w gwasanaethu wrth wasanaethu Duw ei hun.”
Dan arweiniad Fernando ac eraill gwelodd pobl Nicaragua fod y Beibl yn eu harwain i adnabod y Duw, trwy Grist, sydd yn rhyddhau tlodion o gaethiwed tlodi. Daeth dehongliad Fernando ac eraill i’w adnabod fel Diwinyddiaeth Rhyddhad a daeth pobl Nicaragua i ddeall fod neges y Beibl yn Newyddion Da iddynt hwy. Tristwch mawr i’r Eglwys Gatholig oedd fod y Pab John Paul 2il yn gweld Fernando a’i gyd offeiriad yn ymwrthod ag Athrawiaethau yr Eglwys, yn troi at wleidyddiaeth ac yn troi cefn ar eu galwad. Fe ddiarddelwyd Fernando ac eraill o Urdd y Jesiwitiaid ac o’r eglwys.

Fe wyddom, erbyn hyn, i’r Sandinista golli eu grym; i Fernando gael ei siomi gan rhai agweddau o’r chwyldro; ac iddo gael ei dderbyn yn ôl at y Jesiwitiaid. Ond am weddill ei oes yr un fu pwyslais Y Tad Fernando: gwasanaethu ei Dduw drwy wasanaethu ei bobl. Dim ond y rhai a wyddai am dlodi pobl Nicaragua a wyddai hefyd beth oedd diwinydda a beth oedd bod yn Gristion yn y wlad fechan honno yn y cyfnod hwnnw.

Mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng Cymru a Nicaragua, wrth gwrs, ond nid cwestiwn ffôl yw gofyn – “Beth yw diwinydda yng Nghymru heddiw?” Ond ni allwn fod yn ddi-feind, chwaith, fod cenedl fechan yn gweld ei diwylliant, ei hiaith, ei hetifeddiaeth ysbrydol a’i chymunedau yn diflannu. Ond a oes yna ddiwinyddiaeth Gymraeg /Gymreig ? Nid yw’r Deyrnas yn torri i mewn i fywydau pobl yn yr un ffordd ym mhob man. Diolch am hynny. Beth yw bod yn Gristnogion ymhlith ein pobl, a sut mae darllen y Beibl yng Nghymru heddiw? Beth yw gwasanaethu ein pobl wrth wasanaethu Duw? Methiant mawr y Pab ar y pryd – a’r eglwys yn gyffredinol – oedd methu gweld mai ufuddhau i’r alwad i wasanaethu ei bobl, nid cyfundrefn wleidyddol, a wnaeth Fernando. Diolch am ei esiampl loyw a dewr. Mae’n fraint ei gofio ar drothwy Gŵyl Ddewi, nawddsant gwlad fach ’ein pobl ni.’

E-fwletin Chwefror 21ain, 2016

Dyma ychydig sylwadau wedi wythnos o raglenni, Cymraeg a Saesneg, am iechyd meddwl ac iselder :

• Newsnight, Chwefror 15ed: Cyfweliad Kirsty Wark gyda Sue Klebold. Plentyn deunaw oed i Sue a’i phriod oedd Dylan Klebold a saethodd, gyda’i ffrind Eric Harris,12 o ddisgyblion ac un athro yn Ysgol Uwchradd Columbine (Colorado) gan anafu 21 arall. Cyn diwedd y prynhawn roedd y ddau wedi saethu eu hunain. Ebrill 20ed, 1999 oedd y dyddiad. Mae Sue Klebold newydd gyhoeddi cyfrol, “A Mother’s Reckoning: Living in the Aftermath of Tragedy” yn dilyn blynyddoedd o weithio gyda mudiad i atal hunan laddiad ymhlith pobl ifanc.
Y mae’r elw a ddaw o’r gyfrol yn mynd tuag at waith iechyd meddwl. Un o’r pethau a ddywedodd wrth Kirsty Wark oedd ei bod yn edifar na fyddai wedi gwrando mwy ar Dylan, oherwydd daeth yn amlwg wedi’r gyflafan ei fod yn dioddef o iselder ysbryd, ond wedi llwyddo i gadw hynny rhag ei rieni. “Rwy’n siwr fy mod”, meddai, “wedi dweud gormod wrtho, yn hytrach na gwrando arno.” Pan ofynnodd Kirsty Wark iddi a oedd yn dal i gredu yn Nuw, ateb Sue oedd “Not in the same way”. Yn anffodus ni ddilynodd KW y sylw pwysig hwnnw ond, yn hytrach, aeth ymlaen ar unwaith i ofyn a oedd yn gobeithio y byddai yn gweld Dylan eto. Yn ei dagrau yr atebodd Sue Klebold ei bod yn gobeithio hynny….yn fawr. Cyfle a gollwyd, neu gyfweliad a olygwyd, oedd na chlywsom ym mha ffordd yr oedd ei chred yn Nuw wedi newid.

• Colofn Cris Dafis (ein colofnydd mwyaf sensitif a thosturiol) yn Golwg (Chwefror 18). Llun gan ddyn o’r enw Ehab Taha ar ei dudalen Facebook ac yn dangos hen wraig oedrannus yn gafael yn dyner yn llaw gŵr ifanc a golwg brudd arno. Funudau ynghynt yr oedd y dyn ifanc wedi bod yn bytheirio a rhegi ac ymddwyn yn dreisgar fygythiol. Dianc oddi yno wnaeth gweddill y teithwyr, mewn dychryn ac ofn. Aros i gynnig cysur wnaeth y wraig oedrannus ddienw. Nid cynnig cysur i’r sawl gafodd eu bygwth, ond i’r dyn â wnaeth y bygwth. Ac o fewn eiliadau, roedd y dyn ifanc, a dagrau yn ei lygaid, wedi ymdawelu. Fe allai’r stori fod wedi gorffen yn erchyll, wrth gwrs. “Ond”, meddai Cris Dafis, “mewn byd sy’n llawn casineb a rhagfarn a lladd, daeth gweithred y wraig hon…..â llonydd a heddwch i enaid poenus…a bod arwyddion bychain yn gallu gwella clwyfau.” ‘Y gwersi mawr mewn llun bach’ yw pennawd y golofn. Ond mae llawer mwy na ‘gwers’ yn y stori hon a stori Columbine.

Ni all iechyd meddwl ac iselder fod yn ‘bwnc’ a thestun rhaglenni am wythnos yn unig.

Pob bendith.

E-fwletin Chwefror 14eg, 2016

Nid oes hanes hapus rhwng Cristnogion ac Iddewon dros y ddwy fil o flynyddoedd ers sefydlu eglwys Iesu Grist. Mae’r gair ‘pogrom’ yn golygu erlid a lladd Iddewon a hynny yn aml gan Gristnogion oedd yn eu cyhuddo nhw o fod yn ‘llofruddwyr Crist’. Dwi’n cofio Helen Shapiro (‘Walking back to happiness’ oedd ei chân enwog hi yn y chwedegau) yn sôn am ei phrofiad hi o gael ei magu mewn tŷ cyngor yn Hackney, Llundain. Daeth merch ati un diwrnod dweud ar yr iard chwarae yn yr ysgol a dweud, “Christ-killer.” Aeth hi adre a gofyn i’w mam beth oedd ystyr y geiriau hynny.
Ond mae’r ymbellhau rhwng Cristnogion ac Iddewon wedi peri i ni golli golwg ar wreiddiau Iddewig Iesu. Iddew oedd Iesu. Iddewon oedd ei rieni ef. Roedd barn a disgyblaeth y Synagog dros fywyd pentref Nasareth. ‘Yn ôl ei arfer,’ mae Efengyl Luc yn dweud, ‘fe âi yno o Saboth i Saboth.’ Ac Iesu’r plentyn, am wn i, fel pob Iddew bach da, yn dysgu adnodau yn union fel plant capeli Cymru. Beth oedd yr adnod gyntaf iddo ei dysgu? Ni wyddom ni o sicrwydd, ond mae un bwysig iawn a phlant bach Iddewig yn dal i’w dysgu hi am y cyntaf. ‘Shema Yisrael, Adonai eloheinu, Adonai echad.’ (Hebraeg heb y wyddor Iddewig) ‘Gwrando, O Israel: Y mae’r ARGLWYDD ein Duw yn unig ARGLWYDD.’ (Deuteronomium 6:4) Wedi dechrau ar ei weinidogaeth, daeth un o’r ysgrifenyddion at Iesu, a gofyn iddo, “Prun yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl?” Trodd Iesu at yr adnodau hyn, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, … a châr yr Arglwydd dy Dduw.’
Boed i’r Iesu ddysgu adnod o lyfr Deuteronomium neu beidio. Mae’n amlwg mai Deuteronomium oedd ei hoff lyfr yn y Beibl. Yn ôl tystiolaeth yr Efengylau, pan fu Iesu’n troi at y Beibl, bu’n troi at Deuteronomium yn amlach na pheidio. Er enghraifft, yn stori ei demtiad yn yr anialwch mae Satan yn ei demtio teirgwaith ac mae Iesu’n dyfynnu o lyfr Deuteronomium teirgwaith.
Deuteronomium, wrth reswm, sy’n rhan o’r Torah; pum llyfr cyntaf y Beibl- cyfraith Moses. Mae’r gair Torah sy’n swnio’n ddieithr iawn i ni, ond y byddai Iesu yn gyfarwydd â fe.
Megis y geiriau a ganlyn;
Gwyliau fel Rosh Hashanah, Yom Kippur, Sukkot, Hanukkah, Purim, Pesach, Shavuot
Cerrig milltiroedd ar lwybr bywyd fel Berith Milah, Bar Mitzvah
Gwrthrychau crefyddol fel Mezuzah, Tallit, Tzitzit, Tefillin, Menorah
Maen nhw’n ddieithr iawn i ni (hyd yn oed yn Gymraeg). Ond a fyddai’n ganolog iawn ym mywyd Iesu Grist, a’i deulu, a’i bobl. Ac maen nhw oll i’w gweld yn y Beibl a’r Testament Newydd. O’u deall felly, yn fy marn i, fe fyddai’n dealltwriaeth ni o’r ffydd Gristnogol cymaint â hynny’n gyfoethocach.
Shalom

E-fwletin Chwefror 7fed, 2016

Beth yw man sanctaidd? Adeilad? Lleoliad ym myd natur? Credir i’r hen seintiau Celtaidd ddweud, “Y mae’n le tenau iawn.” Hynny yw, mangreoedd lle y dywedwyd mai tenau yw’r ffin rhwng y byd hwn a’r nesaf, rhwng amser a thragwyddoldeb.

Mae ‘mynd ar bererindod’ yn fwy poblogaidd y dyddiau hyn. Gellir anelu am ryw gyrchfan sanctaidd; adeilad gyda hanes hir o addoli, man sydd wedi dod yn ‘sanctaidd’ oherwydd cysylltiad gyda bardd neu ddigwyddiad hanesyddol.

Hyd yn oed yn yr oes seciwlar sydd ohoni mae’n gynyddol boblogaidd i greu man sanctaidd wrth ochr y ffordd i ddynodi damwain angheuol. Gwelir blodau i goffau’r ymadawedig ac weithiau beic wedi’i baentio’n wyn lle lladdwyd beiciwr. Yna mae rhybudd yn rhan o neges y gysegrfa. Does wiw inni awgrymu bod y blodau, hyd yn oed rhai wedi darfod, yn cael eu symud. Mae’r lle yn ‘sanctaidd’!

A oedd Iesu yn adnabod mannau sanctaidd? Byddai rhai yn cynnig y profiad hwnnw ar ben y mynydd a gogoniant Duw yn llenwi’r eiliad. Aeth Iesu i weddïo i ben mynydd a thri o’i ddisgyblion gydag e. Roedd Pedr am afael yn dynn yn y foment ond bu rhaid i’r profiad ddod i ben. Doedd dim modd oedi ar y mynydd. Disgynnodd Iesu o’r mynydd a pharhau’r daith i Jerwsalem a’r groes.

Mae Santes Teresa Afila, Sant Ioan y Groes, Ignasiws ac eraill yn adnabyddus fel pobl sydd wedi cael profiadau cyfriniol. Ond mae bywyd pob un hefyd wedi ei nodweddu gan ymroddiad diwyd a gwaith caled.

Mae ‘profiad pen y mynydd’ yn ystod encil, neu gyfnod o drybini, ynghanol rhyfeddodau byd natur, mewn oedfa arbennig yn werthfawr. Mae’n bwysig arafu, oedi, dod i stop, sylwi ‘go iawn’ ar y byd o’n cwmpas. Wedi dweud hynny, ni allwn aros ar ben y mynydd. Mae’r byd yn galw. Er nad yw’n hawdd mynegi’r profiadau hyn mewn geiriau nac ychwaith yn ein byw, dyna yw’r her. Mi ddywed Iesu, “Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.”

E-fwletin Ionawr 31ain, 2016

Pan gynhaliwyd refferendwm am aelodaeth y Deyrnas Unedig yn y Gymuned Ewropeaidd ym 1975, fe fu i nifer o eglwysi gefnogi aros yn aelodau. Roedd hyn yn rhan o fudiad ar draws y ‘sefydliad’ yn datgan cefnogaeth, a dyna a wnaeth yr etholwyr yn y pen draw. Roedd yr eglwysi yn bleidiol ar y cyfan o safbwynt cymod a hedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd – roedd plant ar iard fy ysgol i ar y pryd o hyd yn chwarae’r gêm “Prydeinwyr ac Almaenwyr”, a allai droi yn gêm gas iawn ar brydiau!

Dyma ni eto ar drothwy refferendwm. Mae sawl peth yn debyg rhwng y ddwy sefyllfa – rhaniadau yn y blaid sy’n llywodraethu; ofnau am fewnfudo a lle Prydain yn y byd; dadleuon am ba opsiwn sydd orau i economi Prydain.

Ond mae rhai pethau’n wahanol. Y cyntaf yw nad yw bod yn rhan o’r sefydliad bellach yn gryfder, ond yn hytrach yn wendid. Dyna sydd wrth wraidd llwyddiant nid yn unig UKIP, ond hefyd yr SNP, Jeremy Corbyn a’r Gwyrddion. Nid wyf yn sicr a yw’r eglwysi bellach yn rhan o’r ‘sefydliad’ ai peidio – ond os ydynt, nid yw hynny yn cynyddu eu poblogrwydd na’u dylanwad cyhoeddus.

Ail wahaniaeth yw nad oes yr un eglwys hyd yma wedi dangos ei hochr. Mae Eglwys Loegr ac Eglwys yr Alban eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn amhleidiol, ac wedi sefydlu gwefan ar gyfer trafod yn unig (http://reimaginingeurope.co.uk/). Yng Nghymru, heb eglwys sefydledig, nid oes disgwyl i fwy nag un neu ddau enwad ar y mwyaf fynegi barn – er bod cynhadledd ar y pwnc ar draws eglwysi Prydain ar y gweill fis Mawrth. Mae’r eglwysi, wrth gwrs, wedi bod yn groyw yn erbyn unrhyw ragfarn yn erbyn mudwyr o ddwyrain Ewrop, a da o beth hynny.

Trydedd wahaniaeth yw bod yr Undeb Ewropeaidd yn dra gwahanol i’r hen Gymuned Ewropeaidd. Bellach mae’r Undeb Ewropeaidd wrthi yn trafod cytundeb masnach trylwyr gyda’r Unol Daleithiau (dan yr enw TTIP) a Chanada (CETA). Mae’r cytundebau drafft yn gyfrinachol, ond fe amheuir yn gryf bod ynddynt delerau a fydd yn rhoi i gwmnïau mawr rhyngwladol (y rhai hynny sydd ddim yn talu rhyw lawer o dreth, megis Google) yr hawl i erlyn gwledydd Ewrop mewn llysoedd caeëdig os gwnân nhw unrhyw beth fydd yn niweidio eu busnes – megis codi trethi, gorfodi safonau iechyd a diogelwch i weithwyr a defnyddwyr, neu mynnu bod rhaid i bobl dlawd gael mynediad i’w gwasanaethau. O ganlyniad, daeth gwrthwynebiad nid gan “little Englanders” yn unig, ond gan lawer o undebau llafur a mudiadau megis Global Justice Now a War on Want (gweler www.nottip.org.uk)

Beth felly am eglwysi sy’n ymboeni nid yn unig am gymod a heddwch, ond hefyd am ddemocratiaeth a mynediad teg i wasanaethau cyhoeddus i’r tlodion? Gyda Cameron yn dweud mai’r cytundebau masnach yw’r rhesymau gorau dros aros yn yr Undeb, onid yw hi’n bryd i’r eglwysi godi eu llais – ond y tro hwn yn erbyn Ewrop sydd dan fawd y busnesau mawrion?

E-fwletin Ionawr 24ain, 2016

Yn Llundain yr wythnos hon fe gyhoeddwyd yn y Goruchaf Lys adroddiad am helynt rhyfeddol llofruddio Alexander Litvinenko mewn gwesty ym Mayfair. Cafodd ei ladd trwy osod deunydd ymbelydrol mewn pot o de gwyrdd a weinwyd iddo wrth iddo gwrdd â dau ysbïwr o Rwsia. Digwyddiad a fyddai’n teilyngu ffilm James Bond – ond trasiedi ofnadwy i’w deulu dewr.

Ymateb Llywodraeth Prydain dan arweiniad David Cameron oedd condemnio’r weithred. Rhan o’r condemniad oedd fod Rwsia wedi dienyddio rhywun heb broses gyfreithiol a hynny ar dir gwlad dramor, heb geisio mynd trwy unrhyw broses estraddodi swyddogol. Mae’n ymddangos yn debygol i Mr Putin, Arlywydd Rwsia, ei hun awdurdodi’r weithred anghyfreithlon ac ofnadwy hon.

Ond arhoswch funud. Oni laddwyd gŵr ifanc o Gaerdydd mewn amgylchiadau digon tebyg y llynedd? Lladdwyd Reyaad Khan gan aderyn angau Prydeinig yn Syria. Nid oedd unrhyw broses gyfreithiol, ac ni wnaed unrhyw ymdrech i’w estraddodi. Yr un David Cameron, a oedd mor hallt ei feirniadaeth o Mr Putin, oedd wedi awdurdodi’r lladd. Trasiedi ofnadwy i deulu Reyaad, yn ein plith yma yng Nghymru.

Nid wyf yn ddilynwr brwd i ffilmiau James Bond, ond gwn mai un elfen gyffredin ynddynt oll yw’r diffyg ymlyniad at safonau moesoldeb arferol. Unwaith y penderfynir pwy yw’r bobl dda a phwy yw’r bobl ddrwg, yna mae hawl gan y bobl dda fynd ar ôl y bobl ddrwg gan ddefnyddio pa dechnegau bynnag y gwelant yn dda. Straeon wedi’u llunio i’n diddanu yw’r ffilmiau, wrth gwrs – ond fel y mae’r ddau achos yma yn darlunio nad ydynt mor bell â hynny o’r gwir.

Penderfynodd Rwsia fod Litvinenko yn ŵr drwg, yn peryglu buddiannau’r wlad gan ei fod yn gwybod gormod ac yn barod i leisio’i farn yn groyw. Penderfynodd Prydain fod Reyaad Khan yn llanc drwg, yn gwybod gormod am Brydain ac yn barod i ddefnyddio’i wybodaeth i helpu terfysgwyr i ymosod ar y gwledydd hyn. Tynged y ddau oedd marw ar orchymyn eu gwlad eu hunain heb unrhyw gyfle i amddiffyn eu hunain.

Pan etholwyd llywodraeth Tony Blair ym 1997 fe gyhoeddodd y diweddar Robin Cook, yr Ysgrifennydd Tramor, y byddai yna “bolisi tramor moesol”. ’Pharodd hwnnw ddim yn hir iawn, ac fe’i difethwyd yn llwyr gan ryfel Irac, pan fu i Cook ymddiswyddo. Tuedd pob llywodraeth yw penderfynu nad yw moesoldeb yn berthnasol i ymwneud â gwledydd eraill – dim ond ein pobl ni, a’r bobl dda yn eu plith, sy’n haeddu cael eu trin yn foesol.

Mae diwinyddiaeth Gristnogol wedi sgrifennu llawer am sut y dylem ymdrin â’r tlodion neu’r diymgeledd. Ond fe brofodd yn rhyfeddol o wan wrth geisio ymdopi â gwleidyddiaeth grym ryngwladol. Mae heddychiaeth yn un opsiwn, ond i’r sawl sydd heb eu hargyhoeddi gan y llwybr hwnnw, bach iawn o arweiniad a geir.

Yn Eisteddfod yr Urdd 2016 fe fydd Cymru’n Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf yn lansio arddangosfa deithiol ddifyr dros ben am ddewisiadau moesol heddychwyr ac eraill ganrif yn ôl. Fe all y bydd yn gymorth i ni feddwl eto am ein dewisiadau moesol ninnau heddiw.