E-fwletin Sul y Pasg, 2016

Mae’r bedd yn wag. Ond, waetha ni’n ein dannedd, edrych i gyfeiriad y bedd wnawn ni; edrych i’r gorffennol. A dyw bedd y gorffennol ddim yn wag. Y trueni yw fod y gorffennol hwnnw yn garchar i’n dealltwriaeth ni o’r bywyd tu hwnt i’r bedd. Mae’n ein caethiwo ni; yn ein dallu ni rhag gweld arwyddocâd yr atgyfodiad.

Ym mha ffurf corfforol bynnag, y mae Iesu’n ymddangos ymhlith y bobl roedd e’n eu caru. Y tro cyntaf yw ymddangos yng ngwyll y bore bach i Mair Magdalen. Mae disgrifiad o’r ymddangosiad hwnnw yn y pedair efengyl. Yn hwyrach yr un dydd mae e’n ymddangos i’r disgyblion yn eu cuddfan yn Jeriwsalem. Ymhen yr wythnos, yn yr un lle, mae’n ymddangos i Thomas ac yn ei gymell “estyn dy fys yma.” Yn y cyfamser mae e wedi ymddangos i ddau ddisgybl ar y ffordd i Emaus. Yna’n ôl yng Ngalilea, ar lan Llyn Tiberias, mae’n gwledda gyda’r disgyblion cyn rhoi’r comisiwn “ewch i’r holl fyd …”

Dyw ei ymddangosiadau ddim yn para’n hir. Dyw e ddim yn rhoi’r argraff ei fod am ddadbacio, fel petae. Ryde ni’n synhwyro mai ymweliadau dros dro yw’r rhain a bod rhyw fodolaeth a phwrpas pellach o’i flaen.

Nid “ysbryd” ydyw sy’n cerdded trwy’r waliau. Ac eto mae elfen o hynny yn perthyn i’r profiad o fod yn ei gwmni. [Mae gen i gof am y Norman Mair, cyn-fachwr yr Alban oedd yn brif ohebydd rygbi y Scotsman, yn sgrifennu am ei ryddhad pan gerddodd Barry John yn nyddiau ei anterth allan o’r stafell trwy’r drws ac nid trwy’r wal wedi cyfweliad i’r papur!] Dim ond wedi ei ddiflaniad y mae’r ddau ddisgybl oedd ar eu ffordd i Emaus yn sylweddoli pwy fu’n cyd-gerdded gyda nhw ac yn rhannu’r bara. Wnaeth Mair ddim adnabod Iesu yn yr ardd. Gwyrth y rhwydi llawn a helpodd y disgyblion oedd yn pysgota i’w adnabod.

Mae hi fel petae Iesu’n dal drych o flaen ei rai annwyl i ddangos iddyn nhw yr hyn sy’n anhawster iddyn nhw i gamu ymlaen. Pobl yde nhw sy’n byw bywyd o hunan-dosturi a nostalgia; pobl sy’n gaeth i’w gorffennol. Mae Iesu’n ail-sgrifennu’r stori o’u blaen, bennod wrth bennod, ac yn eu dirwyn, er mor amharod, i weld nad marw yw diwedd y stori. Mae’r stori ar ei mwyaf ingol a mwyaf dramatig yn yr ymddangosiad cyntaf oll i Mair ar fore’r atgyfodiad. Mae hi wedi eu dallu gan ei dagrau. Yn ei hanobaith a’i digalondid affwysol mae hi’n credu fod y cyfan yn wastraff a bod popeth ar ben.

Cwpled allweddol Rhys Nicholas yn ei emyn “Tydi a wnaeth y wyrth …” yw “lle’r oedd cysgodion nos mae llif y wawr, lle’r oeddwn gynt yn ddall ‘rwy’n gweld yn awr;” ac onid y gweld hwnnw yw hanfod yr atgyfodiad? Iesu’n agor ein llygaid i bosibiliadau bywyd. Mae’n ein harfogi i ganfod gwirionedd bywyd tragwyddol. Ac wedi cyflawni hynny, mae ei ddyddiau ar y ddaear yn dirwyn i ben.