E-fwletin Ebrill 4,2016

Cristnogaeth 21. E-fwletin Ebrill 4,2016.

Annwyl gyfeillion,

Cred ac amheuaeth

Dydw i heb ddarllen cyfrol newydd Cynog Dafis ac Aled Jones Williams eto. ‘Duw yw’r broblem’ yw’r teitl ac fel rwy’n deall, ymgais yw’r gyfrol i geisio ailddiffinio ac ail ddychmygu Duw. Wrth wneud hynny mae’n siŵr bod yr awduron yn ymgodymu â rhai amheuon sylfaenol ynghylch hanfod ac, yn wir, bodolaeth Duw. Fel eraill, mae’n siŵr, dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael gafael ar gopi a phrofi ffrwyth eu myfyrio.

Yn yr wythnosau yn dilyn y Pasg, fel hyn, mae’n siŵr bod yna gryn ddarllen ar hanes Tomos yn amau atgyfodiad Iesu; amau nes iddo weld Iesu a’i lygaid ei hunan a gosod ei fysedd yn ei glwyfau. Mae’n hanesyn cyfarwydd i ni gyd. Onid yw Tomos yn ymgnawdoli un o’r paradocsau creiddiol sy’n rhan o daith ysbrydol yr unigolyn – y tensiwn parhaus sy’n bodoli i gymaint ohonom, Pobl y Ffordd, rhwng ffydd ac amheuaeth. Gall y tensiwn hwnnw fod yn gatalydd cadarnhaol a chreadigol iawn.

Roedd myfyrio ar yr hanesyn am Tomos pa ddiwrnod yn fy atgoffa o sgwrs ddiddorol iawn gefais mewn parti rhai blynyddoedd yn ôl gyda chyfaill lleyg oedd yn llanw ambell i bulpud ar y Sul. Annibynnwr ydoedd ond roedd ei wraig yn addoli yn yr Eglwys Gatholig leol ac yn mynd a’r plant, mab a merch, gyda hi yno yn rheolaidd.

Un bore Sul dyma’r mab 15 oed yn strancio a phallu mynd i’r Eglwys gyda’i fam. Cafodd gynnig mynd i’r capel gyda’i dad yn lle hynny ond doedd dim yn tycio. Dyma’r fam yn hala’r crwt at ei dad er mwyn sortio’r sefyllfa. Dyma’r tad yn holi’r mab – “Pam wyt ti ddim ishe mynd i’r Eglwys gyda Mam bore ‘ma?” “Wel”, meddai’r mab, “Dwi wedi penderfynu nad ydw i’n credu mewn Duw”. “O!” meddai’r tad, “Ie, wel, wela’ i broblem dy fam nawr. Ond dwi’n ofni bod rhaid i ti ga’l dipyn gwell rheswm ‘na hynny i beidio mynd i’r capel”.

Ma’ hi’n dymor y marathons ar hyn o bryd. Marathon Llundain, hanner marathon y byd yng Nghaerdydd ac ati. Mae’r stori fach yna yn fodd i’m hatgoffa i nad sbrint yw’r daith ysbrydol. Yn oes y quick fix mae angen i ni atgoffa ein hunain yn aml nad mater o redeg cwpwl o weithiau rownd y trac a dyna ni – sorted – yw’r daith ysbrydol. Ma’ hi’n daith ymchwilgar, ymholgar ac addysgiadol sy’n parhau am fywyd cyfan. Dysgu’r mab sut i redeg marathon oedd bwriad y tad yn y stori.

Yn ôl y traddodiad fe wnaeth llwybr ffydd Tomos yr amheuwr ei arwain i efengylu’n llwyddiannus yn Syria, Mesopotamia ac India. Sgwn i pa lwybrau y bydd Cynog ac Aled yn eu disgrifio i ni wrth iddyn nhw gerdded y tir ffrwythlon hwnnw rhwng ffydd ac amheuaeth?

  • Pob bendith i’r rhai ohonoch fydd yn encilio i Nant Gwrtheyrn, Ebrill 8-9.
  • Yn anffodus, oherwydd bod Emlyn Davies, yn yr ysbyty, fe fydd yn rhaid i ni ohirio lansio Agora (ein cylchgrawn misol ) a’r wefan ar ei newydd wedd ( fel y bwriadawyd ar Ebrill 11eg ) oherwydd nad yw’r gwaith wedi ei gwblhau. Emlyn sydd wedi bod yn brysur ers peth amser ( gyda chymorth Penri Williams ) yn gwneud y gwaith a siom iddo yw bod yn yr ysbyty ar amser mor bwysig yn hanes Cristnogaeth 21. Yr ydym yn dymuno’n dda iawn iddo.

Gyda’n cofion a’n diolch.

Cristnogaeth 21       ww.cristnogaeth21.org