E-fwletin Ionawr 24ain, 2016

Yn Llundain yr wythnos hon fe gyhoeddwyd yn y Goruchaf Lys adroddiad am helynt rhyfeddol llofruddio Alexander Litvinenko mewn gwesty ym Mayfair. Cafodd ei ladd trwy osod deunydd ymbelydrol mewn pot o de gwyrdd a weinwyd iddo wrth iddo gwrdd â dau ysbïwr o Rwsia. Digwyddiad a fyddai’n teilyngu ffilm James Bond – ond trasiedi ofnadwy i’w deulu dewr.

Ymateb Llywodraeth Prydain dan arweiniad David Cameron oedd condemnio’r weithred. Rhan o’r condemniad oedd fod Rwsia wedi dienyddio rhywun heb broses gyfreithiol a hynny ar dir gwlad dramor, heb geisio mynd trwy unrhyw broses estraddodi swyddogol. Mae’n ymddangos yn debygol i Mr Putin, Arlywydd Rwsia, ei hun awdurdodi’r weithred anghyfreithlon ac ofnadwy hon.

Ond arhoswch funud. Oni laddwyd gŵr ifanc o Gaerdydd mewn amgylchiadau digon tebyg y llynedd? Lladdwyd Reyaad Khan gan aderyn angau Prydeinig yn Syria. Nid oedd unrhyw broses gyfreithiol, ac ni wnaed unrhyw ymdrech i’w estraddodi. Yr un David Cameron, a oedd mor hallt ei feirniadaeth o Mr Putin, oedd wedi awdurdodi’r lladd. Trasiedi ofnadwy i deulu Reyaad, yn ein plith yma yng Nghymru.

Nid wyf yn ddilynwr brwd i ffilmiau James Bond, ond gwn mai un elfen gyffredin ynddynt oll yw’r diffyg ymlyniad at safonau moesoldeb arferol. Unwaith y penderfynir pwy yw’r bobl dda a phwy yw’r bobl ddrwg, yna mae hawl gan y bobl dda fynd ar ôl y bobl ddrwg gan ddefnyddio pa dechnegau bynnag y gwelant yn dda. Straeon wedi’u llunio i’n diddanu yw’r ffilmiau, wrth gwrs – ond fel y mae’r ddau achos yma yn darlunio nad ydynt mor bell â hynny o’r gwir.

Penderfynodd Rwsia fod Litvinenko yn ŵr drwg, yn peryglu buddiannau’r wlad gan ei fod yn gwybod gormod ac yn barod i leisio’i farn yn groyw. Penderfynodd Prydain fod Reyaad Khan yn llanc drwg, yn gwybod gormod am Brydain ac yn barod i ddefnyddio’i wybodaeth i helpu terfysgwyr i ymosod ar y gwledydd hyn. Tynged y ddau oedd marw ar orchymyn eu gwlad eu hunain heb unrhyw gyfle i amddiffyn eu hunain.

Pan etholwyd llywodraeth Tony Blair ym 1997 fe gyhoeddodd y diweddar Robin Cook, yr Ysgrifennydd Tramor, y byddai yna “bolisi tramor moesol”. ’Pharodd hwnnw ddim yn hir iawn, ac fe’i difethwyd yn llwyr gan ryfel Irac, pan fu i Cook ymddiswyddo. Tuedd pob llywodraeth yw penderfynu nad yw moesoldeb yn berthnasol i ymwneud â gwledydd eraill – dim ond ein pobl ni, a’r bobl dda yn eu plith, sy’n haeddu cael eu trin yn foesol.

Mae diwinyddiaeth Gristnogol wedi sgrifennu llawer am sut y dylem ymdrin â’r tlodion neu’r diymgeledd. Ond fe brofodd yn rhyfeddol o wan wrth geisio ymdopi â gwleidyddiaeth grym ryngwladol. Mae heddychiaeth yn un opsiwn, ond i’r sawl sydd heb eu hargyhoeddi gan y llwybr hwnnw, bach iawn o arweiniad a geir.

Yn Eisteddfod yr Urdd 2016 fe fydd Cymru’n Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf yn lansio arddangosfa deithiol ddifyr dros ben am ddewisiadau moesol heddychwyr ac eraill ganrif yn ôl. Fe all y bydd yn gymorth i ni feddwl eto am ein dewisiadau moesol ninnau heddiw.