E-fwletin Ionawr 31ain, 2016

Pan gynhaliwyd refferendwm am aelodaeth y Deyrnas Unedig yn y Gymuned Ewropeaidd ym 1975, fe fu i nifer o eglwysi gefnogi aros yn aelodau. Roedd hyn yn rhan o fudiad ar draws y ‘sefydliad’ yn datgan cefnogaeth, a dyna a wnaeth yr etholwyr yn y pen draw. Roedd yr eglwysi yn bleidiol ar y cyfan o safbwynt cymod a hedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd – roedd plant ar iard fy ysgol i ar y pryd o hyd yn chwarae’r gêm “Prydeinwyr ac Almaenwyr”, a allai droi yn gêm gas iawn ar brydiau!

Dyma ni eto ar drothwy refferendwm. Mae sawl peth yn debyg rhwng y ddwy sefyllfa – rhaniadau yn y blaid sy’n llywodraethu; ofnau am fewnfudo a lle Prydain yn y byd; dadleuon am ba opsiwn sydd orau i economi Prydain.

Ond mae rhai pethau’n wahanol. Y cyntaf yw nad yw bod yn rhan o’r sefydliad bellach yn gryfder, ond yn hytrach yn wendid. Dyna sydd wrth wraidd llwyddiant nid yn unig UKIP, ond hefyd yr SNP, Jeremy Corbyn a’r Gwyrddion. Nid wyf yn sicr a yw’r eglwysi bellach yn rhan o’r ‘sefydliad’ ai peidio – ond os ydynt, nid yw hynny yn cynyddu eu poblogrwydd na’u dylanwad cyhoeddus.

Ail wahaniaeth yw nad oes yr un eglwys hyd yma wedi dangos ei hochr. Mae Eglwys Loegr ac Eglwys yr Alban eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn amhleidiol, ac wedi sefydlu gwefan ar gyfer trafod yn unig (http://reimaginingeurope.co.uk/). Yng Nghymru, heb eglwys sefydledig, nid oes disgwyl i fwy nag un neu ddau enwad ar y mwyaf fynegi barn – er bod cynhadledd ar y pwnc ar draws eglwysi Prydain ar y gweill fis Mawrth. Mae’r eglwysi, wrth gwrs, wedi bod yn groyw yn erbyn unrhyw ragfarn yn erbyn mudwyr o ddwyrain Ewrop, a da o beth hynny.

Trydedd wahaniaeth yw bod yr Undeb Ewropeaidd yn dra gwahanol i’r hen Gymuned Ewropeaidd. Bellach mae’r Undeb Ewropeaidd wrthi yn trafod cytundeb masnach trylwyr gyda’r Unol Daleithiau (dan yr enw TTIP) a Chanada (CETA). Mae’r cytundebau drafft yn gyfrinachol, ond fe amheuir yn gryf bod ynddynt delerau a fydd yn rhoi i gwmnïau mawr rhyngwladol (y rhai hynny sydd ddim yn talu rhyw lawer o dreth, megis Google) yr hawl i erlyn gwledydd Ewrop mewn llysoedd caeëdig os gwnân nhw unrhyw beth fydd yn niweidio eu busnes – megis codi trethi, gorfodi safonau iechyd a diogelwch i weithwyr a defnyddwyr, neu mynnu bod rhaid i bobl dlawd gael mynediad i’w gwasanaethau. O ganlyniad, daeth gwrthwynebiad nid gan “little Englanders” yn unig, ond gan lawer o undebau llafur a mudiadau megis Global Justice Now a War on Want (gweler www.nottip.org.uk)

Beth felly am eglwysi sy’n ymboeni nid yn unig am gymod a heddwch, ond hefyd am ddemocratiaeth a mynediad teg i wasanaethau cyhoeddus i’r tlodion? Gyda Cameron yn dweud mai’r cytundebau masnach yw’r rhesymau gorau dros aros yn yr Undeb, onid yw hi’n bryd i’r eglwysi godi eu llais – ond y tro hwn yn erbyn Ewrop sydd dan fawd y busnesau mawrion?