Beth yw man sanctaidd? Adeilad? Lleoliad ym myd natur? Credir i’r hen seintiau Celtaidd ddweud, “Y mae’n le tenau iawn.” Hynny yw, mangreoedd lle y dywedwyd mai tenau yw’r ffin rhwng y byd hwn a’r nesaf, rhwng amser a thragwyddoldeb.
Mae ‘mynd ar bererindod’ yn fwy poblogaidd y dyddiau hyn. Gellir anelu am ryw gyrchfan sanctaidd; adeilad gyda hanes hir o addoli, man sydd wedi dod yn ‘sanctaidd’ oherwydd cysylltiad gyda bardd neu ddigwyddiad hanesyddol.
Hyd yn oed yn yr oes seciwlar sydd ohoni mae’n gynyddol boblogaidd i greu man sanctaidd wrth ochr y ffordd i ddynodi damwain angheuol. Gwelir blodau i goffau’r ymadawedig ac weithiau beic wedi’i baentio’n wyn lle lladdwyd beiciwr. Yna mae rhybudd yn rhan o neges y gysegrfa. Does wiw inni awgrymu bod y blodau, hyd yn oed rhai wedi darfod, yn cael eu symud. Mae’r lle yn ‘sanctaidd’!
A oedd Iesu yn adnabod mannau sanctaidd? Byddai rhai yn cynnig y profiad hwnnw ar ben y mynydd a gogoniant Duw yn llenwi’r eiliad. Aeth Iesu i weddïo i ben mynydd a thri o’i ddisgyblion gydag e. Roedd Pedr am afael yn dynn yn y foment ond bu rhaid i’r profiad ddod i ben. Doedd dim modd oedi ar y mynydd. Disgynnodd Iesu o’r mynydd a pharhau’r daith i Jerwsalem a’r groes.
Mae Santes Teresa Afila, Sant Ioan y Groes, Ignasiws ac eraill yn adnabyddus fel pobl sydd wedi cael profiadau cyfriniol. Ond mae bywyd pob un hefyd wedi ei nodweddu gan ymroddiad diwyd a gwaith caled.
Mae ‘profiad pen y mynydd’ yn ystod encil, neu gyfnod o drybini, ynghanol rhyfeddodau byd natur, mewn oedfa arbennig yn werthfawr. Mae’n bwysig arafu, oedi, dod i stop, sylwi ‘go iawn’ ar y byd o’n cwmpas. Wedi dweud hynny, ni allwn aros ar ben y mynydd. Mae’r byd yn galw. Er nad yw’n hawdd mynegi’r profiadau hyn mewn geiriau nac ychwaith yn ein byw, dyna yw’r her. Mi ddywed Iesu, “Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.”