E-fwletin Ionawr 17eg, 2016

Yr wythnos nesaf, mi fydd hi’n Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol. Hyd yn hyn, ychydig iawn o sylw mae hynny wedi’i gael yng Nghymru ac mae rhywun yn amau mai mynd heibio’n weddol dawel y bydd yr wythnos eleni, gydag ambell eithriad.

Cynhaliwyd yr Wythnos Weddi am y tro cyntaf cyn belled yn ôl ag 1908, a phenderfynwyd ar ddyddiadau’r cyfnod fel wyth nos o Ŵyl Cyffes Pedr (18 Ionawr) hyd at Ŵyl Tröedigaeth Paul (25 Ionawr), er y gall hyn amrywio – cynhelir yr wythnos adeg y Pentecost mewn rhai rhannau o’r byd. Ond faint nes ydyn ni at undeb neu undod Cristnogol yn 2016, tybed?

Pobl ifanc o wahanol eglwysi yn Latfia sydd wedi paratoi’r deunyddiau ar gyfer eleni, ar y thema ‘Halen y Ddaear’. Oherwydd ei safle daearyddol unigryw, mae Latfia’n gartref i Gristnogion o amryfal draddodiadau, a gwahoddwyd rhai ohonynt i gyfrannu deunydd ar gyfer y gwahanol ddyddiau. Anogaeth Pedr i’r rhai sydd newydd eu bedyddio i fyw bywydau sanctaidd ac i gyhoeddi ‘gweithredoedd yr Arglwydd’ (1 Pedr 2:9–10) yw sail y myfyrdodau, yn ogystal â’r delweddau o halen a goleuni, sy’n themâu diwylliannol pwysig yn Latfia.

Mae’n werth troi at yr adnoddau hyn, sydd i’w gweld ar wefan y mudiad Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (www.ctbi.org.uk/weekofprayer), ac yn arbennig at y llyfryn dwyieithog sy’n cynnwys myfyrdodau, gweddïau, cwestiynau i’w trafod ac awgrymiadau ymarferol y gellid eu dilyn ar gyfer pob dydd o’r Wythnos Weddi.

Felly, dyma ambell ddyfyniad o’r llyfryn ‘Halen y Ddaear’ a fydd, gobeithio, yn fodd o wneud i ninnau feddwl am undod Cristnogol yn ystod yr wythnos:

Pan yw Joseff yn rhannu ei freuddwyd gyda’i frodyr maen nhw’n adweithio gyda dicter a thrais oherwydd i’r freuddwyd awgrymu bod yn rhaid iddyn nhw ymgrymu o’i flaen. … Mae Iesu, fel Joseff yn y stori, yn datblygu gweledigaeth o undod i ni. Ond fel brodyr Joseff, yr ydym yn ofni’r weledigaeth pan fydd honno’n awgrymu y dylem ildio i ewyllys rhywun arall. Rydym yn ofni’r hyn y gallem ei golli. Ond mae’r weledigaeth yn ymwneud ag ennill: adennill ein brodyr a’n chwiorydd a wahanwyd oddi wrthym unwaith.

Yn rhy aml mae Cristnogion yn ceisio efengylu gydag ysbryd cystadleuol, gan obeithio llenwi eu heglwysi eu hunain. Mae uchelgais yn bwysicach na’r awydd i eraill glywed neges fywiol yr Efengyl. Gwir efengyliaeth yw taith o Emaus i Jerwsalem, y daith o unigedd i undod.

Newyddion da

Newyddion da yn wir!

Dyna bobl hyfryd,
mewn rhan mor hyfryd o’r dre:
dim mewnfudwyr,
dim troseddwyr,
dim carchar.

Ficer newydd:
ifanc, gwyn, a diolch byth yn ddyn,
i gyd-fynd â tho newydd yr eglwys a’r gegin newydd
fwyaf diweddar
a gostiodd filoedd.

Y tlodion?
O, ie. Y tlodion …

Onid oes cyfraniadau wedi eu hanfon
i le o’r enw Trydydd Byd?
Ac onid oes rhywun yn casglu tuniau a phethau
i Fanc Bwyd yn rhywle?

Ond mae hon yn ardal dda.

Nid yw llonyddwch cysglyd ei Suliau’n gwybod
am ocheneidiau angen,
nac oernadau poen,
na chri anobaith.