Ydi, mae’r cyfan drosodd am flwyddyn arall a diolch fyth am weld nos Ystwyll er mwyn cael tynnu’r trimins a’u cadw’n ddiogel am y tro – er bod y tŷ’n edrych braidd yn llwm hebddyn nhw.
Fe glywais sawl un oedd wedi cael llond bol ar holl ffws a ffwdan y Nadolig yn dweud – ‘Dim ond diwrnod ydi o wedi’r cwbwl’. Ond gobeithio nad ydyn ni’n rhoi neges y Nadolig i gadw gyda’r trimins, gan fod honno’n berthnasol drwy’r flwyddyn, fel mae Mererid Hopwood yn ein hatgoffa:
Mae gwaith y Nadolig yn dechrau pan ddaw dydd Nadolig i ben,
Pan fydd Santa di’i throi hi am adre a’r goeden yn ddim byd ond pren.
Pan fo’r tinsel yn saff yn yr atig, yn angof mewn dau neu dri blwch,
Y cyfarchion a’r cardiau ’di’u llosgi ac ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn hel llwch.
Bryd hynny mae angen angylion i dorchi’u hadenydd go iawn
A bryd hynny mae angen lletywr all wneud lle – er bo’r llety yn llawn.
Yr un pryd mae galw am fugail i warchod y defaid i gyd,
Fel mae galw am ddoethion a seren i egluro tywyllwch y byd.
Mae ’na alw am gast drama’r geni drwy’r flwyddyn i weithio’n gudd,
Am fod gwaith y Nadolig yn anodd, yn ormod o waith i un dydd.
Oes, mae angen rhai i wneud ‘gwaith y Nadolig’ bob dydd o’r flwyddyn, dybiwn i. Nid yr un ydi gwaith pawb, wrth gwrs: mae angen rhai i warchod, rhai i ymchwilio a dehongli, a rhai i ganfod atebion lle mae hynny’n ymddangos yn amhosib.
Neges debyg sydd gan Howard Thurman (1899–1981), awdur Affro-Americanaidd eang ei ddylanwad, pregethwr grymus ac ymgyrchydd brwd o blaid hawliau sifil. Fe’i ganed yn Florida, a’i fagu mewn cymdeithas lle roedd apartheid yn dal mewn grym. Ond fe wnaeth gyfraniad nodedig iawn at ‘waith y Nadolig’ drwy helpu i sefydlu eglwys amlddiwylliannol yn San Fransisco – y gyntaf yn America. Dyma’i ddehongliad ef o ‘waith y Nadolig’:
Wedi i gân yr angylion ddistewi,
wedi i’r seren gilio o’r ffurfafen,
wedi i’r brenhinoedd a’r tywysogion
ddychwelyd adref,
wedi i’r bugeiliaid ddychwelyd
at eu praidd,
yna bydd gwaith y Nadolig yn dechrau:
canfod y colledig,
iacháu’r clwyfedig,
bwydo’r newynog,
rhyddhau’r carcharor,
ailadeiladu’r cenhedloedd,
dwyn heddwch i blith y bobl,
creu cerddoriaeth yn y galon.
(Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts, 2004)
Mae sialens i bob un ohonom yn y geiriau yma ar ddechrau blwyddyn, a gobeithio y bydd hi’n bosib inni i gyd greu cerddoriaeth yng nghalonnau pobl yn 2016.