E-fwletin Ionawr 3ydd, 2016

Chwarae â thân

Rhaid fod tipyn o waed yr hen Ebenezer Scrooge ynof fi. Ni allaf yn fy myw â deall pam y gwerir yr holl filiynau drwy’r byd i gyd ar sioeau tân gwyllt i ddathlu blwyddyn newydd, a’r torfeydd yn tyrru i ganol dinasoedd i wylio’r cyfan. Eleni gwelsom ddameg drawiadol yn cael ei hadrodd ar eitemau newyddion o Dubai.Tra’r oedd y ddinas honno yn disgwyl tanio’r tân gwyllt, a gynlluniwyd yn drylwyr, aeth gwesty ar dân yn hollol ddirybudd. Nid oedd cyswllt am wn i rhwng y ddau dân. Ond ynghanol bywyd cymdeithas a gwledydd, mae’r cyswllt yn amlwg. Bydd gwladwriaethau yn cynlluno’u trais yn ofalus, ond y canlyniad yw mwy o drais, a thrais direol. Gallwn ni alw’n bomio yn “surgical”, ond bydd y canlyniadau’n wenfflam.

Eto meddai gwleidyddion y gwledydd, a chatrodau lluosog cefnogwyr Donald Trump, beth allwch chwi ei wneud ag eithafiaeth Mwslemaidd ond ei ladd. Yng ngeiriau Hilary Benn, yr unig beth a wyddom am ffasgaeth yw fod yn rhaid ei ddifa: felly rhaid difa Mwslemiaid eithafol. A’r tristwch yw fod Cristnogion drwy’r gwledydd yn llyncu areithiau Trump a Benn fel yr unig ffordd i waredigaeth.

Caed agwedd arall ar yr un safbwynt yn ddiweddar: rhaid ateb Mwslemiaeth drwy Gristnogaeth eithafol meddir. Rhaid cael efengylu ymosodol yn cyhoeddi mai drwy Grist yn unig mae iachawdwriaeth. Rhaid achub holl grefyddwyr byd, ynghyd â’r paganiaid a’r anffyddwyr, eu hachub oll i’r Iesu. Dyma’r hen efengylu imperialaidd eto’n codi ei ben.

Ond y mae yna ambell lef wahanol yn llefain yn yr anialwch, megis un Hugh C. Howey. Yr ateb i eithafiaeth Mwslemiaeth, meddai, yw mwy o eithafiaeth. Dywed iddo gael ei fagu yn Gristion, a’i fagu i gredu mewn dryllau. Bellach nid yw’n credu yn y naill na’r llall. Mae’n credu yn awr mewn heddychiaeth eithafol a maddeuant eithafol. Wrth sôn am ddryllau mae’n siarad fel Americanwr yn gweld problem cenedl sy’n credu mai meddu dryll yw sylfaen diogelwch a rhyddid yr unigolyn. Pa ryfedd fod Americanwyr yn seilio eu ffydd ar rym a thrais os yw unigolion a theuluoedd yn ymddiried yn y dryll sydd ganddynt yn y drôr?

Ond y mae haeriad Howey, iddo gefnu ar Gristnogaeth er mwyn cael ffydd mewn heddychiaeth a maddeuant, yn dangos pa fath o Gristnogaeth a ddysgwyd iddo. Cristnogaeth wedi ei gwreiddio ym mhwysigrwydd yr achubiaeth bersonol. Cristnogaeth yn seiliedig ar rym a nerth y Duw a fydd yn trechu ei elynion. Ac fel rhan o’r broses honno bydd y Duw hwnnw yn bendithio’r rhai a fydd yn rhyfela i ladd y “drygionus”. Y mae’r Gristnogaeth honno yn broblem fawr, nid yn unig i Americanwyr, ond hefyd i ninnau yng Nghymru. Mae’r Gristnogaeth a arddelwyd gennym dros y canrifoedd wedi gwyro’n aml oddi wrth yr hanfod a welwyd ym mywyd Iesu.

Yr her i ninnau fydd canlyn yr Iesu sy’n eithafol ei gariad a’i faddeuant.