Mae gan sawl un ohonom, dybiwn i, edmygedd mawr o grefft y cartwnydd. Dawn amheuthun iawn yw medru dal gwirionedd yr eiliad mewn un ffrâm gryno i wneud sylw bachog ar sefyllfa gymdeithasol neu wleidyddol. Weithiau bydd yn goglais, dro arall yn dychanu, ac ar adegau dim ond codi awgrym o wên wrth i ni gytuno â chraffter y sylw miniog.
Byth ers i William Hogarth, tad y cartŵn cyfoes, arloesi gyda’r cyfrwng yn y ddeunawfed ganrif, daeth cylchgronau a phapurau newydd i sylweddoli gwerth y cartŵn fel modd o feirniadu a chystwyo’n gynnil. Perffeithiwyd y grefft gan rai fel Osbert Lancaster a gynhyrchodd filoedd o gartwnau i’r Daily Express ganol y ganrif ddiwethaf. Heddiw, mae’n anodd iawn gwella ar gynigion deifiol “yr anfarwol Matt” fel y bydd Dewi Llwyd yn cyfeirio ato yn lled aml ar fore Sul wrth fodio drwy dudalennau’r Sunday Telegraph. I ni yng Nghymru, mae cartwnau Cen yn y cylchgrawn Golwg gyda’r goreuon yn gyson, bob amser yn ffres ac amserol.
Ym myd crefydd, bu rhai fel yr arlunydd Hywel Harries, yn wreiddiol o’r Tymbl, yn gynhyrchiol iawn yn pwnio’r sefydliadau crefyddol yn haeddiannol ddigon yn ystod chwedegau’r ugeinfed ganrif. Yn yr Unol Daleithiau wedyn, bu ambell i enghraifft o waith disglair Charles M. Schulz gyda Charlie Brown, Peanuts a Snoopy yn gyfraniadau diwinyddol llawn cystal ag ambell i gyfrol swmpus, hunan-dybus gan academyddion di-ddychymyg. Fe gofiwn mai Tony Campolo ysgrifennodd y rhagair i’r gyfrol “The Gospel According to at The Simpsons” sy’n dadansoddi athrylith Matt Groenig. Does ryfedd i Rowan Williams gyfeirio at y gyfres fel un o’r rhaglenni mwyaf crefyddol ar deledu.
Serch hynny, braidd yn araf fuom ni fel Cristnogion i gofleidio’r cartŵn fel cyfrwng i ddweud ein neges. O ganlyniad, braf iawn yw gweld tudalen Facebook Cristnogaeth 21 yn gwneud iawn am hynny drwy roi sylw cyson i waith cartwnydd o’r enw David Hayward, sy’n galwi’i hun yn “Naked Pastor.” Mae’n disgrifio’i grefft fel “arlunydd graffiti ar furiau crefydd”, ac mae’r cynhyrchion yn wirioneddol dda. Unwaith eto, mae grym y llun yn werth mil o eiriau, ac yn ein gorfodi i feddwl o ddifrif am sawl pwnc. Mae selogion y dudalen Facebook yn cael llawer o foddhad yn postio cartwnau Hayward ar y we, ac yn cyfeirio at nifer o ffynonellau eraill. Byddai’n werth i chi ymweld â’r dudalen, a’r gwahoddiad hwnnw yw ein anrheg Nadolig ni i chi am eleni. Beth am gofrestru ar dudalen Facebook Cristnogaeth 21?
Wn i ddim a fyddai Mathew na Luc wedi medru tynnu llun fel Cen Cartŵn neu Matt Pritchett, ond yn sicr roedden nhw’n artistiaid di-hafal am greu lluniau gyda geiriau. Lluniau a fwriadwyd i bwrpas; lluniau a delweddau a grëwyd i ddyrchafu person yr Iesu, a phob cameo bach prydferth yn werth mil o eiriau. Lluniau oedd yn cymryd yn ganiataol y byddai’r darllenydd yn deall y cyd-destun ysgrythurol a hanesyddol.
Trueni ein bod ni weithiau yn dewis peidio gweld y tu hwnt i’r darlun bach tlws hwnnw.
Nadolig Llawen iawn i chi,
Cristnogaeth 21.
(Bydd yr e-fwletin nesaf yn eich cyrraedd ddydd Sul, Ionawr 3ydd)