Mae hi’n Sul y Blodau. Hwre i Iesu! Croeshoeliwch ef!
Dyma’r cyfnod o ddirgelion yr holl ddirgelion; calon y profiad Cristnogol. Cyfieithir “Passion” fel ‘Dioddefaint’. Bradychu Iesu; y prawf; y croeshoeliad; marw Iesu … ac yna’r atgyfodiad a’r esgyniad.
Bob blwyddyn mae Cristnogion yn ail-fyw y profiadau, gam wrth gam. Y swper olaf; ing gardd Gethsemane; y gusan; y goron ddrain … Mae’n gyfnod emosiynol sy’n codi o’r cysgodion. Yr euogrwydd a’r empathi. Fe’i croniclir yn holl genres y celfyddydau – yng nghampweithiau’r Meistri mewn olew ar ganfasau anferth; yn ffenestri lliw yr eglwysi cadeiriol; yn nramâu’r dramodwyr; yng ngweithiau’r cerddorion. Fe’u defnyddir, weithiau fodd bynnag, i godi cynnen ac i borthi casineb gwrth-Iddewig.
Roedd Iesu’n byw bywyd dwys ac angerddol. Daeth rhai profiadau i’w ran a achoswyd gan y dwyster hwnnw. Oedd raid iddi fod felly? Siawns na allai fod dewis llwybr haws i’w droedio gan fod yn fwy tebyg i’r Meseia roedd y bobol yn ei ddisgwyl. Roedd egni ei ryddid yn dyrchafu’i ffordd o fyw i fod yn waredigaeth cysegredig i ni.
I’r ffrâm o feddwl sy’n mynnu fod y Dioddefaint yn ennyn rhyw diwinyddiaeth o hunan-euogrwydd rhaid pwysleisio nad oedd Duw yn ddig. Fe glywir ambell ddehongliad yn honni fod Duw wedi digio wrth ddynoliaeth a bod yn rhaid wrth aberth dynol. Dyna Dduw yr Anghenfil. Sut y gall Iesu’r cymod, Iesu’r cariad, adlewyrchu’r fath Dad sydd yn gawr gwrthun; Tad dialgar sydd yn creu ofn ac yn cosbi? Rhaid dileu’r darlun.
A beth yn union a olygwn ni wrth honni fod Iesu wedi ‘marw tros ein pechodau’? Nid maddeuant personol yw hwn – Iesu’n ei aberthu ei hun am mod i’n ddrwg, yn gelwyddgi, yn dwyllwr, yn anffyddlon i’m partner, yn odinebwr. Tydi’r aberth ddim yn gweithio ar y lefel honno.
Maddeuant i ddynoliaeth ydyw. Mae hynny’n ein symud ni tu hwnt a thu draw i ddicter a llid a digofaint; y tu hwnt i euogrwydd. Dyna yw hanfod mawredd y marw.
Yn y capeli a’r eglwysi, dyma ddechrau cyfnod y cymanfaoedd canu. Dyblwch y gân. “Ar y dôn ‘Bryn Myrddin’ mae’r emynydd yn defnyddio’r y gair ‘mawr’ drosodd a throsodd; bedair ar ddeg o weithiau yn y tri phennill [mae ’na ddau emynydd mewn gwirionedd; un yn anadnabyddus] …” Dyna’r organ yn chwarae’r nodau gorfoleddus o ragarweiniad. A beth welwch chi ar y galeri? Y cantorion a’u trwynau yn eu rhaglenni. Ddim hyd yn oed yn gwybod y tri gair cyntaf o bob pennill ‘Mawr oedd Crist’, ‘Mawr oedd Iesu’.
Fedrwch chi ddim datgan mawredd Iesu a’ch trwyn yn y llyfr emynau. Gantorion, a Christnogion o gantorion yn benodol [syndod i mi yw fod bois y ‘doh re me’ nad sy’n arddel Cristnogaeth yn gallu canu’r emyn gydag unrhyw lun o arddeliad na dealltwriaeth] ystyriwch eto beth yw arwyddocâd canu “mawr iawn fydd ef ryw ddydd pan ddatguddir pethau cudd.” Fel y dywedais i ar y dechrau – dyma’r cyfnod o ddirgelion yr holl ddirgelion.