E-fwletin Chwefror 28ain, 2016

Gŵyl Ddewi : beth yw diwinydda yng Nghymru ?

Beth sydd â wnelo angladd offeiriad Pabyddol 83 oed yn Managua heddiw (Chwefror 28ain) â Gŵyl Ddewi ? Fernando Cardenal, un o bobl Nicaragua, oedd yr offeiriad ac o’r blynyddoedd cynnar fe deimlodd alwad i wasanaethu Duw drwy wasanaethu tlodion Nicaragua, – ‘fy mhobl’. Ymunodd â’r Jesiwitiaid a threuliodd ei gyfnod cynnar yn gwasanaethu yn Medellin, Colombia a hynny ym mysg ‘tlodion dwbwl’, sef y rhai cwbwl ddi-addysg ac anllythrennog. Fe ddaeth yn ôl i Niacargua a’i alwad wedi ei chadarnhau. Bu’n arweinydd mudiad gwirfoddol i ‘roi addysg i’w bobl’ gyda gwirfoddolwyr (tua 60,000 ohonynt!) yn symud i fyw gyda theuluoedd tlawd i’w dysgu i ddarllen ac ysgrifennu, a gostyngodd anllythrennedd Nicaragua o 50% i 13% mewn 6 mis! Yr oedd yn llawn cydymdeimlad â mudiad comiwnyddol y Sandinista oedd yn ceisio dymchwel llywodraeth ormesol a militaraidd Somoza. Llwyddodd y gwrthryfel. Gwahoddwyd Fernando (a’i frawd Ernesto) ac offeiriaid eraill – oherwydd eu gwaith gyda’r tlodion – i fod yn rhan o lywodraeth y Sandinista. Gwahoddwyd Fernando i fod yn Weinidog Addysg rhwng 1984-1990. “Sut allaf beidio ufuddhau?” meddai, “ni allaf feddwl fod Duw am i mi droi cefn ar y tlodion yr wyf wedi rhoi fy mywyd i’w gwasanaethu wrth wasanaethu Duw ei hun.”
Dan arweiniad Fernando ac eraill gwelodd pobl Nicaragua fod y Beibl yn eu harwain i adnabod y Duw, trwy Grist, sydd yn rhyddhau tlodion o gaethiwed tlodi. Daeth dehongliad Fernando ac eraill i’w adnabod fel Diwinyddiaeth Rhyddhad a daeth pobl Nicaragua i ddeall fod neges y Beibl yn Newyddion Da iddynt hwy. Tristwch mawr i’r Eglwys Gatholig oedd fod y Pab John Paul 2il yn gweld Fernando a’i gyd offeiriad yn ymwrthod ag Athrawiaethau yr Eglwys, yn troi at wleidyddiaeth ac yn troi cefn ar eu galwad. Fe ddiarddelwyd Fernando ac eraill o Urdd y Jesiwitiaid ac o’r eglwys.

Fe wyddom, erbyn hyn, i’r Sandinista golli eu grym; i Fernando gael ei siomi gan rhai agweddau o’r chwyldro; ac iddo gael ei dderbyn yn ôl at y Jesiwitiaid. Ond am weddill ei oes yr un fu pwyslais Y Tad Fernando: gwasanaethu ei Dduw drwy wasanaethu ei bobl. Dim ond y rhai a wyddai am dlodi pobl Nicaragua a wyddai hefyd beth oedd diwinydda a beth oedd bod yn Gristion yn y wlad fechan honno yn y cyfnod hwnnw.

Mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng Cymru a Nicaragua, wrth gwrs, ond nid cwestiwn ffôl yw gofyn – “Beth yw diwinydda yng Nghymru heddiw?” Ond ni allwn fod yn ddi-feind, chwaith, fod cenedl fechan yn gweld ei diwylliant, ei hiaith, ei hetifeddiaeth ysbrydol a’i chymunedau yn diflannu. Ond a oes yna ddiwinyddiaeth Gymraeg /Gymreig ? Nid yw’r Deyrnas yn torri i mewn i fywydau pobl yn yr un ffordd ym mhob man. Diolch am hynny. Beth yw bod yn Gristnogion ymhlith ein pobl, a sut mae darllen y Beibl yng Nghymru heddiw? Beth yw gwasanaethu ein pobl wrth wasanaethu Duw? Methiant mawr y Pab ar y pryd – a’r eglwys yn gyffredinol – oedd methu gweld mai ufuddhau i’r alwad i wasanaethu ei bobl, nid cyfundrefn wleidyddol, a wnaeth Fernando. Diolch am ei esiampl loyw a dewr. Mae’n fraint ei gofio ar drothwy Gŵyl Ddewi, nawddsant gwlad fach ’ein pobl ni.’