E-fwletin Mawrth 6ed, 2016

Ymlonyddwch am funud fach os gwelwch yn dda. Oes yna Feibl wrth law? Trowch i’r ddegfed adnod o Salm 46. Beth am Caneuon Ffydd? Bydd darllen cyfieithiad Nantlais (1874-1959) o eiriau Emily M Grimes (1864-1927) (Emyn rhif 781) yn gymorth efallai; er cystal cyfaddef bod geiriau Elfed (1860-1953) (Emyn rhif 787) bob amser yn gweithio’n well i mi!

Ymlonyddwch. Cymerwch anadl ddofn … a’i ddal am ychydig cyn ei ollwng. Cymerwch sawl anadl ddofn … a dal bob un am ychydig cyn ei ollwng. Byddwch ymwybodol o’ch ysgyfaint yn lledu a llacio

Ymlonyddwch. Cymerwch anadl … a’i ddal am ychydig cyn ei ollwng gan hymio. Gwnewch cymaint o sŵn ag y caniateir gan eich sefyllfa!

Nesaf, chwiliwch am guriad eich calon. Cymerwch amser i ddod yn ymwybodol o’r curiad hwnnw – rythm eich byw. Ymdawelwch am funud fach i ymglywed â churiad eich calon.

‘Rydym, bob yr un ohonom, yn offeryn chwyth a tharo, y ddau yn un. Ensemble ydym, ti a minnau. Offeryn chwyth ydym, a phob anadl yn nodyn. Cymerwn oddeutu 12,000,000 anadl y flwyddyn! Offeryn taro ydym hefyd, mae drwm y galon yn curo, curo … yn curo 40,000,000 gwaith bob blwyddyn. Mae ein bywyd o’i ddechrau i’w ddiwedd yn gyngerdd, swynol a chyd-gordus.

Mae rhai ohonom yn gerddorol, ond mae pawb ohonom yn gerddoriaeth – darn o gerddoriaeth Duw ydym bob un. Ef a’n cyfansoddodd.

Anghofiwn hyn weithiau! Pan anghofiwn hyn daw pob math o drafferthion: awn i gredu ein bod yn llai nag ydym, neu’n fwy nag ydym – ac y mae i’r naill a’r llall beryglon enbyd.

Offeryn ydym, offeryn chwyth ac offeryn taro – crëwyd ni felly gan Dduw, ac mae pob anadl a churiad calon yn glod iddo. Cofiwch hynny’r wythnos hon. Atgoffwch rywun o hynny heddiw. Beth ydym? Offeryn cerdd y Duw byw ydym bob un – crëwyd ni gyda gofal a chariad i fod yn gyfryngau i’w ofal a’i gariad Ef.