Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Medi 25ain, 2016

Y Gynhadledd Flynyddol

Dyma fi newydd gyrraedd adre o Aberystwyth wedi mwynhau Cynhadledd Cristnogaeth 21. Y tro hwn cawsom ein rhannu yn dri grŵp trafod, gan ein lleoli mewn gwahanol rannau o’r adeilad. Yna trefnwyd tri ysgogydd peripatetig i ymweld â’r tri grwp yn eu tro, gan aros am dri chwarter awr cyn symud ymlaen. Ni welodd Cymru gynllun tebyg ers dyddiau ysgolion cylchynnol Griffith Jones. Ond, anghofiwch y gwamalu; fe fu’r diwrnod a’i drefniadau yn llwyddiant digymysg. Roedd y tri ysgogydd, Judith Morris, Bethan Wyn Jones ac Owain Llŷr Evans, yn heriol a chynhyrfus eu syniadau. Ac yna wedi cinio crynhowyd prif bwyntiau’r trafodaethau dan arweiniad bywiog John Roberts.

Dyma’r math o gyfarfodydd a sgyrsiau y byddaf i yn eu cael yn ysbrydoledig. Oherwydd byddant yn delio â syniadau sylfaenol perthynas dyn a Duw. Byddant yn treiddio y tu ôl i arferion a defodau, y tu ôl i ddogmâu ac athrawiaethau, a’r tu hwnt i gwahanol gredoau a osodir fel amodau hanfodol gan grefyddau’r byd.

Ni wnaf ailadrodd sylwadau’r ysgogwyr yn y gobaith y cânt weld golau dydd yn Agora. Ond un peth a’m trawodd heddiw oedd y ffordd y defnyddiwn y gair “crefydd”, gan roi’r argraff mai drwy grefydd y cawn ffordd at Dduw. Oni ddylem, y dyddiau hyn ac yn ein cyfnod erchyll ni, fod yn sylweddoli fod yna elfennau dieflig mewn crefyddau. O ddarllen yr Efengylau gwelwn Iesu mewn ymryson â chrefyddwyr ei ddydd, nes peri inni holi a oedd Iesu yn grefyddol.

Un tant a drawyd fwy nag unwaith heddiw oedd fod angen inni ollwng llu o allanolion ein Cristnogaeth. Ond y cwestiwn sylfaenol a godai yn sgîl hynny wedyn oedd pa mor isel y dylem dorri’r hen goeden a oedd yn ddiffrwyth.

Yr hyn sydd wedi digwydd mewn diwygiadau ar hyd y canrifoedd yw iddynt “docio” yn ôl hyd ryw fan; tocio’r canghennau a’r brigau ond gadael y boncyff. Canlyniad y math yna o ddiwygiad oedd cadw’r hen bren yn ei hanfod. Ymhen amser byddai hwnnw eto’n tyfu mor dewfrig a di-fudd â’r pren gwreiddiol.

Ai her Iesu i ni yw gwaredu’r hen bren yn llwyr a gadael iddo bydru? Yna byw drwy antur ffydd y bydd Duw yn peri i blanhigion newydd tyner egino, planhigion hanfodol wahanol i’r hen bren a fu’n bwrw’i gysgod difaol dros ein dynoliaeth gan guddio’r haul. 

E-fwletin Medi 18fed, 2016

Pleidleisiwch i mi

   Dyma ni yn byw drwy gyfnod afiach iawn y dyddiau hyn. Yr ydym ar ganol tymor diddiwedd o etholiadau, gyda phleidiau a gwledydd wedi bod wrthi mewn etholiad neu refferendwm, ac eraill yn paratoi i heidio i orsafoedd pleidleisio. Y rhagymadrodd i bob etholiad yw’r cyfarfodydd a’r cynadleddau di-ben-draw, a phob ymgeisydd yn datgan ei honiadau. Mae’n ymddangos fod hyn yn rhoi tragwyddol heol i holl nodweddion gwaetha’r natur ddynol.

 Yr anghenraid cyntaf yw casineb. Fe all hwnnw fod yn gasineb at wlad neu at undeb o wledydd. Fe all fod yn elyniaeth at heidiau arbennig o “deplorables”, neu heidiau o ffoaduriaid sy’n gorlifo’n gwlad fach ni. Yn sicr fe all fod yn elyniaeth at unrhyw greadur digywilydd sy’n mentro sefyll yn llwybr fy uchelgais fach i fy hunan.

   Anghenraid arall yw agwedd ryfelgar ac ymosodol. Yn etholiadau Rwsia un o briodoleddau apelgar Vladimir Putin yw’r driniaeth ddidrugaredd a ddengys at ei wrthwynebwyr. Y mae’n feistr ar ddangos ei gryfder. Bydd yn gofalu fod yna gamerâu cyfleus wrth law i’w gofnodi’n hanner noeth yn arddangos ymchwydd ei gyhyrau. Yn yr un modd ei rinwedd amlwg yng ngolwg ei werin yn ei wlad yw ymchwydd cyhyrau ei fyddinoedd.

   Aeth dweud celwydd yn grefft yn yr hinsawdd newydd hwn. Fe all gynnwys y celwydd noeth sydd mor anhygoel nes bod yn gwbl gredadwy i’r ffyddloniaid placardiog sydd y tu ôl i chi. Fe all y celwydd olygu cuddio’r gwirionedd am eich iechyd neu eich ffurflen dreth.

   Ond pinacl yr holl elfennau i gyd yw’r agwedd welwch-chi-fi-fi-sy-orau. Yr hyn a gawsom, ac a geir eto, yw gloddest o falchder, o ymddyrchafu, o hunanhysbysebu ac ymffrost digywilydd. Mae yna adnod drawiadol yn y llythyr at y Philipiaid: “Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.” Mae’n ymddangos i mi fod hyd yn oed gwleidyddion sy’n honni bod yn Gristnogion yn cael hawl, am ryw ddeufis neu dri, i anghofio fod y geiriau yna yn eu Beibl nhw. Yn wir fe dderbynnir gan drefnwyr ymgyrchoedd fod gwyleidd-dra yn bechod anfaddeuol, ac arddull ymosodol yn anhepgor. Dyna paham yn ôl rhai y mae Jeremy Corbyn yn anetholadwy.

   Os yw hyn yn rhan annatod o’r egwyddor ddemocrataidd, Duw a’n gwaredo ni. Mewn byd gwareiddiedig disgwyliwn i’n harweinwyr ni fod yn arweinwyr, ac yn esiamplau gwâr i ni eu hefelychu nhw. Tybed a fydd Donald Trump drannoeth ei ethol yn Arlywydd yn ailymgnawdoli yn batrwm o ostyngeiddrwydd.

GOHIRIO DARLITH YR ESGOB JOHN SPONG

GOHIRIO DARLITH YR ESGOB JOHN SPONG

Mae’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi clywed erbyn hyn am salwch yr Esgob John Spong. Cafodd strôc fore Sadwrn diwethaf ac yntau ar fin annerch cyfarfod yn Marquette, Michigan. Dymunwn yn dda iddo yn ei waeledd, a byddwn yn ei gynnwys ef a’i deulu yn ein gweddïau. Yn amlwg, nid oes bwriad i fwrw ymlaen gyda’r ddarlith yng Nghaerdydd nos Lun, Hydref 24ain.

Yn ôl tudalen Facebook The Episcopal Diocese of Newark, sef ei hen esgobaeth, mae’r Esgob, sy’n 85 oed, yn gwella ac yn cryfhau, ac wedi bod yn siarad ar y ffôn gyda rhai o’i gyfeillion. Os daw rhagor o newyddion, byddwn yn siŵr o rannu unrhyw wybodaeth gyda chi.

 

E-fwletin Medi 11eg, 2016

E-fwletin Medi 11eg, 2016

Wrth ddarllen y gyfrol ‘Cenhadaeth newydd i Gymru’ gan David Ollerton (Cyhoeddiadau’r Gair £9.99) fe ddaeth yn amlwg fod y gyfrol hon, er yn ffrwyth gwaith ymchwil manwl, yn gwneud y camgymeriad cyffredin o uniaethu ’Rhyddfrydiaeth’ gyda’r ‘Efengyl Gymdeithasol’. Mae’r gyfrol yn haeddu llawer mwy o sylw na’r e-fwletin hwn, oherwydd mae hi’n gyfrol bwysig am sawl rheswm. Nid yw’n gyfrol hawdd i’w darllen, yn bennaf oherwydd y doreth o is-benawdau , ffeithiau ac ystadegau. Y mae iddi atodiad swmpus o siartiau hefyd. Mae David Ollerton wedi dysgu Cymraeg, yn flaenor yn Eglwys Thornhill  (Efengylaidd) yng Nghaerdydd ac yn gadeirydd  Cymrugyfan (Cymru Gyfan) ers deng mlynedd . Ffrwyth ymchwil doethuriaeth gan Brifysgol Caer yw’r gyfrol ond wedi ei chwtogi a’i haddasu (nid cyfieithu)  gan Meirion Morris. Astudiaeth o genhadaeth anghydffurfiol Cymru ydyw, ac nid yw’n cyfeirio at yr Eglwys Anglicanaidd na Chatholig. Rhag ofn bod rhywun yn anghyfarwydd â Chymru Gyfan, dyma ddyfyniad o wefan y mudiad :

ollerton

David Ollerton

“Cydweithrediad yw Cymrugyfan rhwng eglwysi a sefydliadau efengylaidd er plannu a chryfhau eglwysi ar draws Cymru. Mae Cymrugyfan yn gweithio gydag arweinwyr eglwysi i sefydlu eglwysi yn arbennig lle nad oes presenoldeb Efengylaidd, a lle bod angen cryfhau eglwysi i fod yn fwy effeithiol. www.cymrugyfan.org

Mae’r gyfrol yn nodi chwe math o ‘ddynesiad at genhadaeth’ ac y mae’r chwech ar yr un pryd yn categoreiddio eglwysi o safbwynt cenhadu. Fe fydd y termau yn gyfarwydd i lawer, ond yn anghyfarwydd  i lawer mwy, efallai  :

Efengylaidd 1, Efengylaidd 2, Rhyddfrydol, Lausanne, Missio Dei, Egin Eglwys.

Dull (dyna’r gair yn y gyfrol)  Rhyddfrydiaeth yw ‘Cristnogaeth gymdeithasol.’  (e.e. tud.123  ‘yr efengyl gymdeithasol oedd (yw) hanfod misioleg (sic) y mudiad’) Ond nid yw hynny’n hanesyddol gywir nac yn wir heddiw chwaith. Nid yw Rhyddfrydiaeth erioed wedi credu mai  ‘efengyl gymdeithasol’ yw’r Efengyl. Mae yn gymdeithasol, wrth gwrs, ond Efengyl sy’n ymwneud â pherthynas Duw â’r ddynoliaeth, â’r byd ac â bywyd pob person ydyw. Gweinidogaeth Iesu a Theyrnas ei Dad ydyw na ellir ei chyfyngu i iaith nac athrawiaeth na thraddodiad. Iesu yw ein harweiniad i ddehongli’r Beibl. Mae Rhyddfrydiaeth o’r dechrau  yn wynebu’r dasg o newid radical yn y ffordd yr ydym yn cyflwyno a rhannu’r efengyl yn ein cenhadaeth a’n haddoliad. Nid yw ‘efengyl gymdeithasol’ wedi bod yn rhywbeth i’w drafod hyd yn oed, fel mae’r ‘dull efengylaidd’ wedi ei wneud (o’r diwedd – ac y mae’r gyfrol hon yn cydnabod hynny) yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Mae hyn, yn ei dro, yn codi cwestiwn ynglŷn â’r ‘Eglwysi Rhyddfrydol’ yn y gyfrol. Ple mae eglwysi felly? Mae awgrym cryf  mai’r eglwysi enwadol ydynt. Go brin y byddai Rhyddfrydwyr yn cytuno. Ac a yw ‘Eglwysi (dull) efengylaidd’ yn golygu eglwysi o fewn yr enwadau, yn ogystal â’r rhai sy’n galw eu hunain yn ‘eglwysi efengylaidd’? Mae rhai sydd yn awyddus i weld eglwysi yn dechrau galw eu hunain yn ‘Eglwysi Rhyddfrydol’, fel cam cenhadol yn y gymuned.  Ond nid felly mae hi. ‘Trafoder’ – ar y bwrdd Clebran.

Mae’n gyfrol â digon o wybodaeth a materion i’w trafod ac y mae’n pwysleisio’r angen am weithredu mentrus ac ar unwaith gan fod y dirywiad bellach wedi mynd yn rhy bell. Plannu eglwysi newydd yw’r brif (ond nid yr unig) nod, ond nid yw’r enwadau Cymraeg wedi dechrau cynllunio rhaglen genhadol,  radical felly, er bod ein sefyllfa yn gweddïo ac yn gweiddi am hynny. Mae’n rhaid i’r genhadaeth honno fod yn gyd-enwadol, ddi-enwad ac (ar sail y gyfrol), Anghydffurfiol. Mae’r adnoddau ar gael.

Wedi’r seibiant traddodiadol yn Awst, dyma’r e-fwletin yn ei ôl. Fel pob dechrau tymor mae i Gristnogaeth 21 ei rhaglen waith. Fe welwch fod y pumed rhifyn o Agora wedi ymddangos ar y wefan, ac oherwydd ei fod am ddim nid yw mewn  cystadleuaeth â chyhoeddiadau crefyddol eraill. Wrth edrych ar y byd cyhoeddi crefyddol Cymraeg mae gennym y papurau enwadol Cymraeg sy’n cynnwys y ‘Pedair Tudalen’ (sef, pedair tudalen ar y cyd rhwng y Bedyddwyr, yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid) a’r wythnos hon bydd y Parchedig Huw Powell-Davies yn dechrau ar ei waith fel golygydd.  Wrth ddymuno’n dda iddo, rydym yn holi pam nad yw’r Eglwys yng Nghymru (sy’n ddi-gyhoeddiad wythnosol Cymraeg) a’r Eglwys Fethodistaidd yn rhan o’r trefniant?  Yna mae Cristion (sy’n ddigon ffodus i gael tri ifanc yn ei olygu) a’r Traethodydd (sydd hefyd dan olygyddiaeth newydd, sef Dr. Densil Morgan).  Caiff y cyhoeddiadau hyn i gyd eu prynu a’u darllen gan y rhai sydd ynglŷn â Christnogaeth 21. Gobeithio bod Agora yn gymorth i ddod ag amrywiaeth i’r meddwl Cristnogol a’i fod yn ymestyn gorwelion ein ffydd. Mae’n cael ei gynhyrchu’n gwbwl wirfoddol, wrth gwrs.

Bydd tri achlysur pwysig yn ystod y tymor. Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ddydd Sadwrn Medi 24ain. yn y Morlan, Aberystwyth. (Cewch y manylion cofrestru ar y wefan www.cristnogaeth21.cymru ). Y thema eleni yw Eisiau tyfu – ofn newid a bydd tri ( Judith Morris, Owain Llŷr Evans a’r naturiaethwraig Bethan Wyn Jones) yn ein helpu i wynebu’r angen i dyfu (gan nad yw ffydd byth yn aros yn llonydd) ac i newid nifer o bethau yn y tyfu hwnnw. (Fel y dywedodd Dave Tomlinson am Gristnogaeth: “Mae’n rhaid newid os am aros yr un fath”.) Dros y blynyddoedd diwethaf daeth y Gynhadledd Flynyddol a’r Encil Flynyddol yn brofiad adeiladol ac adnewyddol, a’r niferoedd ar gynnydd o flwyddyn i flwyddyn.

Ymweliadau yw’r ddau achlysur arall a’r ddau yn ein cydio â gweithgarwch cyffrous a heriol tu allan i ffiniau Cymru. Ar wahoddiad C21 mae’r Esgob John Spong  yng Nghaerdydd ddydd Llun Hydref 24ain (manylion ar y wefan). Ers blynyddoedd bu’n arwain ac yn cyhoeddi cyfrolau sy’n dehongli’r Beibl mewn ffordd sydd yn rhyddhau Gair Duw o gaethiwed llythrenoliaeth neu o geidwadaeth grefyddol nad yw’n agored i oleuni newydd. Rescuing the Bible from Fundamentalism, yw teitl un o’i gyfrolau a Biblical Literalism – a Gentile Heresy yw teitl ei ddarlith yng Nghaerdydd.

I Gaerdydd hefyd y daw Brian McLaren ar Hydref 10ed a hynny dan nawdd PCN (Progresive Christian Network, un o bartneriaid C21 ). Americanwr a gweinidog yr efengyl yw Brian Mclaren, yn un o arweinwyr yr ‘emerging church movement’ sy’n agor drysau i lawer o aelodau’r enwadau traddodiadaol a gafodd eu diflasu, neu aelodau o eglwysi efengylaidd a gafodd eu dadrithio gyda chrefydd ddogmataidd ac awdurdodol.  Arweiniodd pererindod McLaren ef o’r pwyslais efengylaidd i Gristnogaeth gynhwysol a radical. Ei gyfrol enwocaf, efallai, yw A Generous Orthodoxy  gydag is-deitl rhyfeddol: “Why I Am a Missional, Evangelical, Post/Protestant, Liberal/Conservative, Mystical/Poetic, Biblical, Charismatic/Contemplative, … Emergent, Unfinished Christian (Emergent YS).” Ac mae’n ychwanegu: “It’s my only book to contain a “Chapter 0.” Wel, ie…..

Er mai gwefan yw Cristnogaeth 21 – nid mudiad na diwinyddiaeth newydd – trwy gyhoeddi’r gyfrol fechan ‘Byw’r Cwestiynau’, (a hybu cyhoeddiadau eraill), mae gwahoddiad i unigolion neu grwpiau ystyried rhai o’r cwestiynau y mae’r gweithgarwch  uchod yn ein helpu i’w gofyn – ac i’n harwain i gyfeiriad ambell ateb a pharhau ar ein taith ysbrydol. Mae ein tudalen Facebook yn denu rhai nad ydynt yn gwybod dim am C21 – ac yn aml yn anwybodus iawn am Gristnogaeth, gan fod llawer wedi aros yn eu hunfan gyda gwybodaeth arwynebol eu plentyndod.

Dylid sôn am un agwedd arall ar ein rhaglen y tymor hwn, sef yr e-fwletin. I dyfu yn ein ffydd mae’n rhaid rhannu a thrafod ein ffydd, a hynny nid yn unig ymhlith rhai sydd ‘o’r un meddwl’, ond rhai sydd yn gweld yn wahanol, neu yn gweld mwy neu yn well na ni.  Dyna fwriad y Bwrdd Clebran, sydd yno i agor drws i drafodaeth a thystiolaeth a chwestiwn. Nid yw’r wefan hon yn wefan i ryddfrydwyr neu ddiwinyddiaeth flaengar (progressive) yn unig, ond i bawb. Un Efengyl, llawer o leisiau. Nid oes rhaid i wahanol farn a dehongliad fod yn wrthdaro, ond fe all, drwy ras Duw, fod yn adnewyddol gan adfer cymaint o’r hyn â gollwyd ac a gollir  yn ein bywyd Cristnogol. Mae dilyn Iesu yn newydd i bob cenhedlaeth. Ymunwch â’r seiat ac â’r daith.

Bydd yr E-fwletin yn dychwelyd i’w ffurf arferol yr wythnos nesaf.

E-fwletin Gorffennaf 3ydd, 2016

Rhyfel Cyfiawn?

Na, nid rhyfel arfog ond rhyfel geiriol sydd gen i mewn golwg. Ymddengys mai dyna oedd ymgyrch y refferendwm. Er fod y rhyfel wedi ei hennill yn ôl y bleidlais, y mae`r brwydro yn parhau. Fel mewn rhyfel arfog mae`r teimladau yn gryf ar y naill ochr a`r llall.  Mewn rhyfel o unrhyw fath mae un ochr yn wyn a`r llall yn ddu. Mae ein hachos ni yn gyfiawn ond anghyfiawn yw eu hachos nhw. Mewn rhyfel y peth cyntaf i fynd yn ysglyfaeth iddo yw`r “gwir”. Bu`r dadlau a`r cecru yn hynod o bersonol,  roedd anwiredd a chelu`r gwir yn elfen yn y frwydr, a rhagfarn ac anoddefgarwch yn amlwg.  Unwaith y teflir mwd fe gollir y tir ys y dywedodd  Adlai Stevenson. y Seneddwr Americanaidd un waith.

Mae bod yn bersonol yn hawdd i`w adnabod a`i gondemnio. Nid yw`r celwydd  bob amser mor hawdd i`w adnabod, Yn aml ar ôl y rhyfel y daw y celwydd yn amlwg fel yn  ymgyrch y refferendwm. Roedd y naill  ochr a`r llall yn codi ein gobeithion i`r entrychion ac yn codi`r ofnau mwyaf dychrynllyd. Yr hyn sydd yn anodd ar y lefel hon o`r rhyfel hyd y gwelaf yw mai yn y tymor hir, ac yn y tymor hir iawn, y deuwn i weld pa mor real oedd rhai o`r ofnau a`r gobeithion.

Ond ar y naill ochr mae yna deimladau cryf oherwydd, yn gam neu’n gymwys, mae cyfiawnder o`u plaid a`u dicter yn un cyfiawn. Mae`r dicter hwnnw weithiau yn mynd allan o reolaeth ac yn troi`n gasineb personol ac annymunol,  a rhagfarn ac anoddefgarwch yn cymryd drosodd. Yn waeth na dim y perygl mwyaf yw gweld didwylledd ar un ochr yn unig. 

Er y gellir, dybiaf i, ddadlau dros ryfel cyfiawn mewn ambell achos, pa mor gyfiawn yw y rhyfel pan fo`r gwir yn mynd yn ysglyfaeth iddo a`r diniwed yn colli eu bywydau, heb sôn am fywydau y rhai sydd yn cymryd rhan ynddo?

A oedd y blaid “aros” yn meddu`r gwir i gyd? O blaid aros yr oeddwn i, ond ni chredais am funud fod y gwir i gyd ar yr ochr honno, fel mae`n amlwg nad oedd y gwir i gyd gan y blaid  “allan”. Ymddengys ar y lefel waraidd fod blaenoriaethau y naill blaid a`r llall yn wahanol wrth benderfynu y naill ffordd neu`r llall.

Nid yw paentio pawb gyda`r un paent ar y naill ochr neu`r llall  yn gymorth i`r achos o gwbwl, yn wir y mae`n gwbwl andwyol ac yn gadael ei effaith am genedlaethau i ddod.  Erys dylanwadau Streic y Penrhyn ar y gymuned ym Methesda o hyd yn ôl y sôn. Ond fel mewn rhyfel arfog, ynghanol y drin y mae pethau annisgwyl ac anarferol yn digwydd, pethau na fyddai yn digwydd ar adeg normal.

Yn rhy aml y mae`n haws dweud na gwneud.

E-fwletin Mehefin 26ain, 2016

Boed anwybod yn obaith!

Fe bleidleisiais i yn 1975 yn erbyn mynd i mewn i’r Farchnad Gyffredin oherwydd ofn yn bennaf y byddai`r Farchnad yn gyfrwng creu grym militaraidd enfawr arall yn y byd. Collais y bleidlais. Pleidleisiais y tro hwn yn bennaf ar sail gobaith oherwydd fod y Gymuned Ewropeaidd wedi bod yn rym heddychol ar sail partneriaeth a chydweithio. A chollais y bleidlais y tro hwn eto!

Gallwn weld beiau, camgymeriadau,  rhagfarnau a gwenwyn yr ymgyrchoedd o blaid aros ac yn erbyn aros, ond y mae`r mwyafrif wedi penderfynu gadael a rhaid parchu hynny gan adael y Deyrnas Gyfunol ymhell o fod yn gyfunol. Siom bersonol i mi oedd gweld Cymru  yn cerdded llwybr gwahanol i`r Alban ac i Ogledd Iwerddon. A welir y Deyrnas Gyfunol bellach yn ddim mwy na Chymru (gwêl Lloegr)? Gwae ni!

Er mai pleidlais yn ymwneud ag un mater oedd o`n blaenau, ymddengys fod y rhesymau dros bleidleisio y naill ffordd a`r llall yn lleng yn gam neu`n gymwys; economaidd, democrataidd a  mewnfudo. Tybed mai amharodrwydd i wynebu`r consyrn am effeithiau yr olaf oedd un o`r  camgymeriadau mawr? Onid oedd Jo Cox fawrfrydig ac arwrol yn cydnabod ei fod yn fater o gonsyrn! Mae`n fater sensitif i ni yng Nghymru hefyd! Ymddengys hefyd fod y bleidlais yn amlwg yn rhannu`r pleidiau yn arbennig y ddwy blaid fawr sydd yn ein llywodraethu ar yn ail. Gwelir hefyd fod cefnogwyr di-freintiedig y Blaid Lafur a chefnogwyr y dde eithaf yn wrth-Ewropeaidd am resymau tra gwahanol, y naill oherwydd fod unrhyw ffyniant wedi mynd heibio iddynt a`r llall oherwydd rheolau caethiwus yr Undeb.  Ymddengys fod “disgyblion y torthau” hwythau yng Nghymru wedi brathu’r llaw a oedd yn rhoi!  Ymddengys fod y genhedlaeth a bleidleisiodd dros fynd i`r Farchnad Gyffredin wedi pleidleisio y tro hwn i fynd allan tra bod ein pobl ifanc wedi pleidleisio i aros. A hwy wedi`r cyfan biau`r dyfodol. Y mae`n anodd osgoi’r casgliad hefyd fod y bleidlais yn bleidlais brotest ddeublyg; yn erbyn Ewrop ac yn erbyn y sefydliad gwleidyddol. Cadarnheir hyn gan nifer uchel y rhai a bleidleisiodd sydd yn awgrymu fod yr elfen amhleidiol nad ydyw yn trafferthu i bleidleisio yn arferol mewn etholiadau  yn elfen allweddol yn y penderfyniad.

Er y siom i rai ohonom fel Cristnogion (ac mi roedd hi`n siom fawr i lawer ohonom), rhaid bellach gychwyn wrth ein traed a wynebu yr hyn sydd yn obeithiol ac yn greadigol.  Rhaid glynu wrth y weledigaeth a phoeri allan y gwenwyn a fu`n gyfrifol am ein polareiddio.  Eto, fel pobol, fel Cristnogion ac fel Cymry, yr ydym yma o hyd, ac y mae gennym Senedd yng Nghaerdydd er fod llwybr y Senedd oedd o blaid aros yn un anodd. Yr ydym yn dal yn rhan o Ewrop er fod yr Undeb wedi ei chwalu. Tybed a yw hyn yn ddechrau ar chwalfa fwy?

Dichon na bydd yr ofnau na`r  gobeithion a godwyd yn ystod yr ymgyrch cyn gymaint ag yr haerwyd. Yn wir yr ydym ar daith newydd sbon a thaith hir ac ansicr i`r anwybod. Er i ni gymryd cam yn ôl rhaid bellach gamu ymlaen. Y mae angen ffydd (argyhoeddiad) a chariad (goddefgarwch) arnom yn ogystal â dyhead/gweddi`r bardd: “Boed anwybod yn obaith”.

Y bardd Gwyn Thomas, y gwelwn ei golli, ddywedodd unwaith nad creigiau `Stiniog oedd y rhyfeddod mwyaf yn ei olwg ond y ddynoliaeth a oedd ar y creigiau hynny wedi goroesi pob caledi.

E-fwletin Mehefin 19eg, 2016

A ninnau’n dal yn syfrdan wedi’r gyflafan erchyll yn Orlando, daeth llofruddiaeth Jo Cox i’n sobri ymhellach. Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer y refferendwm ail-ddechrau heddiw, mae awdur yr e-fwletin yn poeni am natur y dadlau ac effaith y casineb a welwyd ar y ddwy ochr.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai tipyn o syndod oedd gweld yng nghyhoeddiadau Sul y Western Mail,  bythefnos yn ôl, y byddai’r Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnal trafodaeth ar y refferendwm ar fore Sul.

Ond dyma feddwl wedyn – pam syndod?  Onid yw’r ‘oll yn gysegredig’ a’n ffydd i fod i gwmpasu pob agwedd ar ein bywyd?

Ac wrth gwrs, argyhoeddiadau Cristnogol oedd wrth wraidd gweledigaeth Robert Schuman ac eraill, ond Schuman yn bennaf, i gyfannu cyfandir rhwygedig ac i bontio rhwng hen elynion. Schuman, pan yn brif weinidog Ffrainc, gyflwynodd gynllun a arweiniodd at Gyngor Ewrop ac a ddatblygodd yn Farchnad Gyffredin.  Meddai, yn dilyn arwyddo’r cytundeb gwreiddiol, ‘Yr ydym yn cychwyn ar arbrawf a fydd yn gwireddu hen, hen freuddwyd o greu sefydliad i roi terfyn ar ryfel a gwarantu heddwch. Mae’r ysbryd Ewropeaidd yn amlygu ein hymwybyddiaeth o berthyn i gymuned neilltuol a’n parodrwydd i wasanaethu’r gymuned honno.’

box-quizEr ei holl fethiannau mae’r Undeb Ewropeaidd gyda’r corff mwyaf llwyddiannus a welwyd o ran diogelu heddwch, rhyddid a democratiaeth.  Y mae hefyd yn crynhoi gymaint o’r hyn sydd wrth galon y ffydd Gristnogol: cymod, heddwch, parch at eraill, gofal dros y gwan a’r anghenus, y tlawd a’r amddifad, a chariad tuag at y dieithryn a hyd yn oed y gelyn.

Mae Cymru yn un o’r cenhedloedd bach sydd wedi elwa’n fawr o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Yr hyn sy’n tristáu dyn yw’r diffyg parch sydd wedi ymddangos yn y trafod a’r dadlau.

Mewn erthygl yn Y Tyst yr wythnos hon mae Euryn Ogwen yn cyfeirio at ddatblygiad math newydd o wleidydda y mae rhai yn ei alw’n post-truth, lle mae dweud hanner y gwir a chelwydd noeth, dirmygu rhai sy’n ‘wahanol’ a gwawdio lleiafrifoedd di-amddiffyn, yn norm i bob golwg.

Mae i’w weld mor glir yn y cyfeirio at  ‘immigrants’, heb wahaniaethu o gwbl rhwng ffoaduriaid rhyfel, ceiswyr lloches a mewnfudwyr economaidd. Bu cyfaill ar ymweliad â Sicily yn ddiweddar, ac meddai’r tywysydd wrtho pan holodd yntau am y mewnfudwyr, ‘Nid mewnfudwyr ydy ni’n eu hachub o’r môr, ond pobl’.

Tybed a fyddwch chi, fel finnau, yn falch i weld dydd Iau’n dod – a chael cefn ar y refferendwm! Ond y gwir yw mai man cychwyn fydd Mehefin 23 pa ffordd bynnag yr aiff hi. Bydd angen dechrau ar broses arall yr un mor bwysig – efallai anoddach –  sef adfer y berthynas rhwng y gwahanol garfannau.

 

Efallai mai dyna pryd y bydd galw am gofio un o brif feini sylfaen yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir, ein democratiaeth: ein perthynas â’n gilydd ar sail ein dynoliaeth gyffredin, ein cyfrifoldeb i ofalu am ein gilydd a chyd-weithio er mwyn y lles cyffredin, ac yn gymaint â dim, parch  a goddefgarwch tuag at ein gilydd.

Fan yna rhywle y mae’r her i ni fel Cristnogion i roi arweiniad wedi’r drin, ar ba ochr bynnag o’r ddadl yr ydym yn sefyll ar hyn o bryd.

E-fwletin Mehefin 12fed, 2016

Beth fydd yn eich cymell i brynu llyfr? Enw’r awdur, y pwnc sy’n cael ei drafod, y pris?

Rhaid i mi gyfadde i mi brynu sawl llyfr am fod y teitl wedi apelio.

Cofiaf brynu cofiant Arthur Ashe, y chwaraewr tenis a fu farw’n ifanc, yn unig oherwydd ei deitl ‘Days of Grace‘. Mewn maes awyr yn America y gwelais y llyfr  ‘Salt – a world history’ a chael blas mawr ar y darllen. ‘Nathaniel’s Nutmeg’ yw un arall sy’n dal yn fy meddiant. Hanes dod â pherlysiau o’r dwyrain pell – a hynny ar gost ddychrynllyd mewn bywydau. Ac wedi darllen ‘Have a Little Faith’ hawdd iawn oedd troi at lyfrau eraill Mitch Albom, Tuesdays with Morrie’  a ‘The Five People You Meet In Heaven’

Cranky FaithDigwydd gweld y teitl ‘Cranky, Beautiful Faith’ wrth ‘arnofio’r’ we wnes i, a dyma ddechrau darllen y broliant a chael blas rhyfeddol. Yr awdur yw Nadia Bolz-Weber, cyn ddigrifwraig clybiau nos a chyn alcoholig sydd, ers ei thröedigaeth, wedi gosod tatŵ o Fair Magdalen ar hyd ei braich dde ac sydd bellach yn weinidog ar gynulleidfa Lwtheraidd gyda’r enw gogoneddus ‘The House of All Sinners and Saints’.

Mae’r gyfrol gignoeth ei dweud a’i phrofiadau, yn adrodd hanes ei thaith o wrthryfel yn erbyn ei magwraeth grefyddol i anffyddiaeth ac alcoholiaeth. Yna daeth ar draws cyfrol Marcus Borg ‘Meeting Jesus Again for the First Time’  a dyna ddechrau’r daith yn ôl at Iesu ac at y Duw sy’n ein derbyn fel yr ydym a gyda’r dyhead i wneud rhywbeth o’r salaf ohonom.

A dyna pam y tatŵ o Fair Magdalen. Mair oedd y cyntaf, yn ôl Efengyl Ioan, i dystio i’r atgyfodiad –  er nad oedd wedi deall ystyr ac arwyddocâd y bedd gwag. Ond i Nadia Bolz-Weber, dyna neges greiddiol y ffydd Gristnogol, ac mae’r argyhoeddiad hynny yn tarddu o’i phrofiad personol. Meddai:  ‘The love and grace and mercy of Jesus was so offensive to us that we killed him. But death could not contain God. The Christian faith (as I have experienced it and grown in faith) is really about death and resurrection. It’s about how God continues to reach into the graves we dig for ourselves and pull us out, giving us new life in ways both dramatic and small’

Y  profiad yma o’r Duw sy’n agos atom yng nghanol düwch ac anobaith ein bywydau, a’i galluogodd i ddringo o ‘fedd’ alcoholiaeth.

Nadia Bols-Weber

Nadia Bolz-Weber

Cynulleidfa fechan yw un ‘The House of All Sinners and Saints’, a’r rhan fwyaf o’r cwmni yn ferched a dynion hoyw ac yn rhai sy’n ceisio torri’n rhydd o afael cyffuriau ac alcohol.

Arweiniodd croeso Nadia i’r cwmni yma, a’i dadl dros gael yr Eglwys Lwtheraidd i gydnabod priodasau un rhyw, at ymosodiadau personol, a chas iawn arni gan gyd-weinidog o’r enw Chris Rosenburgh. Mae Rosenburgh yn cynnal gorsaf radio ar y we i erlid y rhai sydd, yn ei dyb ef, yn gwyro oddi wrth uniongrededd y ffydd. Roedd Nadia Bols-Weber a’i chynulleidfa yn dargedau amlwg iddo, ac yntau yn gwbwl anoddefgar o’i argyhoeddiad hi y dylai’r eglwys fod yn agored i bawb yn ddi-wahân.

Daeth y ddau wyneb yn wyneb mewn cynhadledd eglwysig, ac er i bawb oedd yno ddisgwyl dadl ffyrnig a ffrae danllyd, yr hyn a gafwyd oedd trafodaeth hanner awr a ddaeth i ben gyda’r geiriau yma gan Nadia: ‘Chris, I have two things to say to you. One, you are a beautiful child of God. Two, I think that maybe you and I are desperate enough to hear the Gospel that we can even hear it from each other’

Atgyfodiad yn wir o fedd dogma a rhagfarn ac anoddefgarwch!