E-fwletin Mehefin 26ain, 2016

Boed anwybod yn obaith!

Fe bleidleisiais i yn 1975 yn erbyn mynd i mewn i’r Farchnad Gyffredin oherwydd ofn yn bennaf y byddai`r Farchnad yn gyfrwng creu grym militaraidd enfawr arall yn y byd. Collais y bleidlais. Pleidleisiais y tro hwn yn bennaf ar sail gobaith oherwydd fod y Gymuned Ewropeaidd wedi bod yn rym heddychol ar sail partneriaeth a chydweithio. A chollais y bleidlais y tro hwn eto!

Gallwn weld beiau, camgymeriadau,  rhagfarnau a gwenwyn yr ymgyrchoedd o blaid aros ac yn erbyn aros, ond y mae`r mwyafrif wedi penderfynu gadael a rhaid parchu hynny gan adael y Deyrnas Gyfunol ymhell o fod yn gyfunol. Siom bersonol i mi oedd gweld Cymru  yn cerdded llwybr gwahanol i`r Alban ac i Ogledd Iwerddon. A welir y Deyrnas Gyfunol bellach yn ddim mwy na Chymru (gwêl Lloegr)? Gwae ni!

Er mai pleidlais yn ymwneud ag un mater oedd o`n blaenau, ymddengys fod y rhesymau dros bleidleisio y naill ffordd a`r llall yn lleng yn gam neu`n gymwys; economaidd, democrataidd a  mewnfudo. Tybed mai amharodrwydd i wynebu`r consyrn am effeithiau yr olaf oedd un o`r  camgymeriadau mawr? Onid oedd Jo Cox fawrfrydig ac arwrol yn cydnabod ei fod yn fater o gonsyrn! Mae`n fater sensitif i ni yng Nghymru hefyd! Ymddengys hefyd fod y bleidlais yn amlwg yn rhannu`r pleidiau yn arbennig y ddwy blaid fawr sydd yn ein llywodraethu ar yn ail. Gwelir hefyd fod cefnogwyr di-freintiedig y Blaid Lafur a chefnogwyr y dde eithaf yn wrth-Ewropeaidd am resymau tra gwahanol, y naill oherwydd fod unrhyw ffyniant wedi mynd heibio iddynt a`r llall oherwydd rheolau caethiwus yr Undeb.  Ymddengys fod “disgyblion y torthau” hwythau yng Nghymru wedi brathu’r llaw a oedd yn rhoi!  Ymddengys fod y genhedlaeth a bleidleisiodd dros fynd i`r Farchnad Gyffredin wedi pleidleisio y tro hwn i fynd allan tra bod ein pobl ifanc wedi pleidleisio i aros. A hwy wedi`r cyfan biau`r dyfodol. Y mae`n anodd osgoi’r casgliad hefyd fod y bleidlais yn bleidlais brotest ddeublyg; yn erbyn Ewrop ac yn erbyn y sefydliad gwleidyddol. Cadarnheir hyn gan nifer uchel y rhai a bleidleisiodd sydd yn awgrymu fod yr elfen amhleidiol nad ydyw yn trafferthu i bleidleisio yn arferol mewn etholiadau  yn elfen allweddol yn y penderfyniad.

Er y siom i rai ohonom fel Cristnogion (ac mi roedd hi`n siom fawr i lawer ohonom), rhaid bellach gychwyn wrth ein traed a wynebu yr hyn sydd yn obeithiol ac yn greadigol.  Rhaid glynu wrth y weledigaeth a phoeri allan y gwenwyn a fu`n gyfrifol am ein polareiddio.  Eto, fel pobol, fel Cristnogion ac fel Cymry, yr ydym yma o hyd, ac y mae gennym Senedd yng Nghaerdydd er fod llwybr y Senedd oedd o blaid aros yn un anodd. Yr ydym yn dal yn rhan o Ewrop er fod yr Undeb wedi ei chwalu. Tybed a yw hyn yn ddechrau ar chwalfa fwy?

Dichon na bydd yr ofnau na`r  gobeithion a godwyd yn ystod yr ymgyrch cyn gymaint ag yr haerwyd. Yn wir yr ydym ar daith newydd sbon a thaith hir ac ansicr i`r anwybod. Er i ni gymryd cam yn ôl rhaid bellach gamu ymlaen. Y mae angen ffydd (argyhoeddiad) a chariad (goddefgarwch) arnom yn ogystal â dyhead/gweddi`r bardd: “Boed anwybod yn obaith”.

Y bardd Gwyn Thomas, y gwelwn ei golli, ddywedodd unwaith nad creigiau `Stiniog oedd y rhyfeddod mwyaf yn ei olwg ond y ddynoliaeth a oedd ar y creigiau hynny wedi goroesi pob caledi.