E-fwletin Mehefin 19eg, 2016

A ninnau’n dal yn syfrdan wedi’r gyflafan erchyll yn Orlando, daeth llofruddiaeth Jo Cox i’n sobri ymhellach. Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer y refferendwm ail-ddechrau heddiw, mae awdur yr e-fwletin yn poeni am natur y dadlau ac effaith y casineb a welwyd ar y ddwy ochr.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai tipyn o syndod oedd gweld yng nghyhoeddiadau Sul y Western Mail,  bythefnos yn ôl, y byddai’r Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnal trafodaeth ar y refferendwm ar fore Sul.

Ond dyma feddwl wedyn – pam syndod?  Onid yw’r ‘oll yn gysegredig’ a’n ffydd i fod i gwmpasu pob agwedd ar ein bywyd?

Ac wrth gwrs, argyhoeddiadau Cristnogol oedd wrth wraidd gweledigaeth Robert Schuman ac eraill, ond Schuman yn bennaf, i gyfannu cyfandir rhwygedig ac i bontio rhwng hen elynion. Schuman, pan yn brif weinidog Ffrainc, gyflwynodd gynllun a arweiniodd at Gyngor Ewrop ac a ddatblygodd yn Farchnad Gyffredin.  Meddai, yn dilyn arwyddo’r cytundeb gwreiddiol, ‘Yr ydym yn cychwyn ar arbrawf a fydd yn gwireddu hen, hen freuddwyd o greu sefydliad i roi terfyn ar ryfel a gwarantu heddwch. Mae’r ysbryd Ewropeaidd yn amlygu ein hymwybyddiaeth o berthyn i gymuned neilltuol a’n parodrwydd i wasanaethu’r gymuned honno.’

box-quizEr ei holl fethiannau mae’r Undeb Ewropeaidd gyda’r corff mwyaf llwyddiannus a welwyd o ran diogelu heddwch, rhyddid a democratiaeth.  Y mae hefyd yn crynhoi gymaint o’r hyn sydd wrth galon y ffydd Gristnogol: cymod, heddwch, parch at eraill, gofal dros y gwan a’r anghenus, y tlawd a’r amddifad, a chariad tuag at y dieithryn a hyd yn oed y gelyn.

Mae Cymru yn un o’r cenhedloedd bach sydd wedi elwa’n fawr o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Yr hyn sy’n tristáu dyn yw’r diffyg parch sydd wedi ymddangos yn y trafod a’r dadlau.

Mewn erthygl yn Y Tyst yr wythnos hon mae Euryn Ogwen yn cyfeirio at ddatblygiad math newydd o wleidydda y mae rhai yn ei alw’n post-truth, lle mae dweud hanner y gwir a chelwydd noeth, dirmygu rhai sy’n ‘wahanol’ a gwawdio lleiafrifoedd di-amddiffyn, yn norm i bob golwg.

Mae i’w weld mor glir yn y cyfeirio at  ‘immigrants’, heb wahaniaethu o gwbl rhwng ffoaduriaid rhyfel, ceiswyr lloches a mewnfudwyr economaidd. Bu cyfaill ar ymweliad â Sicily yn ddiweddar, ac meddai’r tywysydd wrtho pan holodd yntau am y mewnfudwyr, ‘Nid mewnfudwyr ydy ni’n eu hachub o’r môr, ond pobl’.

Tybed a fyddwch chi, fel finnau, yn falch i weld dydd Iau’n dod – a chael cefn ar y refferendwm! Ond y gwir yw mai man cychwyn fydd Mehefin 23 pa ffordd bynnag yr aiff hi. Bydd angen dechrau ar broses arall yr un mor bwysig – efallai anoddach –  sef adfer y berthynas rhwng y gwahanol garfannau.

 

Efallai mai dyna pryd y bydd galw am gofio un o brif feini sylfaen yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir, ein democratiaeth: ein perthynas â’n gilydd ar sail ein dynoliaeth gyffredin, ein cyfrifoldeb i ofalu am ein gilydd a chyd-weithio er mwyn y lles cyffredin, ac yn gymaint â dim, parch  a goddefgarwch tuag at ein gilydd.

Fan yna rhywle y mae’r her i ni fel Cristnogion i roi arweiniad wedi’r drin, ar ba ochr bynnag o’r ddadl yr ydym yn sefyll ar hyn o bryd.