Wedi’r seibiant traddodiadol yn Awst, dyma’r e-fwletin yn ei ôl. Fel pob dechrau tymor mae i Gristnogaeth 21 ei rhaglen waith. Fe welwch fod y pumed rhifyn o Agora wedi ymddangos ar y wefan, ac oherwydd ei fod am ddim nid yw mewn  cystadleuaeth â chyhoeddiadau crefyddol eraill. Wrth edrych ar y byd cyhoeddi crefyddol Cymraeg mae gennym y papurau enwadol Cymraeg sy’n cynnwys y ‘Pedair Tudalen’ (sef, pedair tudalen ar y cyd rhwng y Bedyddwyr, yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid) a’r wythnos hon bydd y Parchedig Huw Powell-Davies yn dechrau ar ei waith fel golygydd.  Wrth ddymuno’n dda iddo, rydym yn holi pam nad yw’r Eglwys yng Nghymru (sy’n ddi-gyhoeddiad wythnosol Cymraeg) a’r Eglwys Fethodistaidd yn rhan o’r trefniant?  Yna mae Cristion (sy’n ddigon ffodus i gael tri ifanc yn ei olygu) a’r Traethodydd (sydd hefyd dan olygyddiaeth newydd, sef Dr. Densil Morgan).  Caiff y cyhoeddiadau hyn i gyd eu prynu a’u darllen gan y rhai sydd ynglŷn â Christnogaeth 21. Gobeithio bod Agora yn gymorth i ddod ag amrywiaeth i’r meddwl Cristnogol a’i fod yn ymestyn gorwelion ein ffydd. Mae’n cael ei gynhyrchu’n gwbwl wirfoddol, wrth gwrs.

Bydd tri achlysur pwysig yn ystod y tymor. Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ddydd Sadwrn Medi 24ain. yn y Morlan, Aberystwyth. (Cewch y manylion cofrestru ar y wefan www.cristnogaeth21.cymru ). Y thema eleni yw Eisiau tyfu – ofn newid a bydd tri ( Judith Morris, Owain Llŷr Evans a’r naturiaethwraig Bethan Wyn Jones) yn ein helpu i wynebu’r angen i dyfu (gan nad yw ffydd byth yn aros yn llonydd) ac i newid nifer o bethau yn y tyfu hwnnw. (Fel y dywedodd Dave Tomlinson am Gristnogaeth: “Mae’n rhaid newid os am aros yr un fath”.) Dros y blynyddoedd diwethaf daeth y Gynhadledd Flynyddol a’r Encil Flynyddol yn brofiad adeiladol ac adnewyddol, a’r niferoedd ar gynnydd o flwyddyn i flwyddyn.

Ymweliadau yw’r ddau achlysur arall a’r ddau yn ein cydio â gweithgarwch cyffrous a heriol tu allan i ffiniau Cymru. Ar wahoddiad C21 mae’r Esgob John Spong  yng Nghaerdydd ddydd Llun Hydref 24ain (manylion ar y wefan). Ers blynyddoedd bu’n arwain ac yn cyhoeddi cyfrolau sy’n dehongli’r Beibl mewn ffordd sydd yn rhyddhau Gair Duw o gaethiwed llythrenoliaeth neu o geidwadaeth grefyddol nad yw’n agored i oleuni newydd. Rescuing the Bible from Fundamentalism, yw teitl un o’i gyfrolau a Biblical Literalism – a Gentile Heresy yw teitl ei ddarlith yng Nghaerdydd.

I Gaerdydd hefyd y daw Brian McLaren ar Hydref 10ed a hynny dan nawdd PCN (Progresive Christian Network, un o bartneriaid C21 ). Americanwr a gweinidog yr efengyl yw Brian Mclaren, yn un o arweinwyr yr ‘emerging church movement’ sy’n agor drysau i lawer o aelodau’r enwadau traddodiadaol a gafodd eu diflasu, neu aelodau o eglwysi efengylaidd a gafodd eu dadrithio gyda chrefydd ddogmataidd ac awdurdodol.  Arweiniodd pererindod McLaren ef o’r pwyslais efengylaidd i Gristnogaeth gynhwysol a radical. Ei gyfrol enwocaf, efallai, yw A Generous Orthodoxy  gydag is-deitl rhyfeddol: “Why I Am a Missional, Evangelical, Post/Protestant, Liberal/Conservative, Mystical/Poetic, Biblical, Charismatic/Contemplative, … Emergent, Unfinished Christian (Emergent YS).” Ac mae’n ychwanegu: “It’s my only book to contain a “Chapter 0.” Wel, ie…..

Er mai gwefan yw Cristnogaeth 21 – nid mudiad na diwinyddiaeth newydd – trwy gyhoeddi’r gyfrol fechan ‘Byw’r Cwestiynau’, (a hybu cyhoeddiadau eraill), mae gwahoddiad i unigolion neu grwpiau ystyried rhai o’r cwestiynau y mae’r gweithgarwch  uchod yn ein helpu i’w gofyn – ac i’n harwain i gyfeiriad ambell ateb a pharhau ar ein taith ysbrydol. Mae ein tudalen Facebook yn denu rhai nad ydynt yn gwybod dim am C21 – ac yn aml yn anwybodus iawn am Gristnogaeth, gan fod llawer wedi aros yn eu hunfan gyda gwybodaeth arwynebol eu plentyndod.

Dylid sôn am un agwedd arall ar ein rhaglen y tymor hwn, sef yr e-fwletin. I dyfu yn ein ffydd mae’n rhaid rhannu a thrafod ein ffydd, a hynny nid yn unig ymhlith rhai sydd ‘o’r un meddwl’, ond rhai sydd yn gweld yn wahanol, neu yn gweld mwy neu yn well na ni.  Dyna fwriad y Bwrdd Clebran, sydd yno i agor drws i drafodaeth a thystiolaeth a chwestiwn. Nid yw’r wefan hon yn wefan i ryddfrydwyr neu ddiwinyddiaeth flaengar (progressive) yn unig, ond i bawb. Un Efengyl, llawer o leisiau. Nid oes rhaid i wahanol farn a dehongliad fod yn wrthdaro, ond fe all, drwy ras Duw, fod yn adnewyddol gan adfer cymaint o’r hyn â gollwyd ac a gollir  yn ein bywyd Cristnogol. Mae dilyn Iesu yn newydd i bob cenhedlaeth. Ymunwch â’r seiat ac â’r daith.

Bydd yr E-fwletin yn dychwelyd i’w ffurf arferol yr wythnos nesaf.