E-fwletin Medi 11eg, 2016

E-fwletin Medi 11eg, 2016

Wrth ddarllen y gyfrol ‘Cenhadaeth newydd i Gymru’ gan David Ollerton (Cyhoeddiadau’r Gair £9.99) fe ddaeth yn amlwg fod y gyfrol hon, er yn ffrwyth gwaith ymchwil manwl, yn gwneud y camgymeriad cyffredin o uniaethu ’Rhyddfrydiaeth’ gyda’r ‘Efengyl Gymdeithasol’. Mae’r gyfrol yn haeddu llawer mwy o sylw na’r e-fwletin hwn, oherwydd mae hi’n gyfrol bwysig am sawl rheswm. Nid yw’n gyfrol hawdd i’w darllen, yn bennaf oherwydd y doreth o is-benawdau , ffeithiau ac ystadegau. Y mae iddi atodiad swmpus o siartiau hefyd. Mae David Ollerton wedi dysgu Cymraeg, yn flaenor yn Eglwys Thornhill  (Efengylaidd) yng Nghaerdydd ac yn gadeirydd  Cymrugyfan (Cymru Gyfan) ers deng mlynedd . Ffrwyth ymchwil doethuriaeth gan Brifysgol Caer yw’r gyfrol ond wedi ei chwtogi a’i haddasu (nid cyfieithu)  gan Meirion Morris. Astudiaeth o genhadaeth anghydffurfiol Cymru ydyw, ac nid yw’n cyfeirio at yr Eglwys Anglicanaidd na Chatholig. Rhag ofn bod rhywun yn anghyfarwydd â Chymru Gyfan, dyma ddyfyniad o wefan y mudiad :

ollerton

David Ollerton

“Cydweithrediad yw Cymrugyfan rhwng eglwysi a sefydliadau efengylaidd er plannu a chryfhau eglwysi ar draws Cymru. Mae Cymrugyfan yn gweithio gydag arweinwyr eglwysi i sefydlu eglwysi yn arbennig lle nad oes presenoldeb Efengylaidd, a lle bod angen cryfhau eglwysi i fod yn fwy effeithiol. www.cymrugyfan.org

Mae’r gyfrol yn nodi chwe math o ‘ddynesiad at genhadaeth’ ac y mae’r chwech ar yr un pryd yn categoreiddio eglwysi o safbwynt cenhadu. Fe fydd y termau yn gyfarwydd i lawer, ond yn anghyfarwydd  i lawer mwy, efallai  :

Efengylaidd 1, Efengylaidd 2, Rhyddfrydol, Lausanne, Missio Dei, Egin Eglwys.

Dull (dyna’r gair yn y gyfrol)  Rhyddfrydiaeth yw ‘Cristnogaeth gymdeithasol.’  (e.e. tud.123  ‘yr efengyl gymdeithasol oedd (yw) hanfod misioleg (sic) y mudiad’) Ond nid yw hynny’n hanesyddol gywir nac yn wir heddiw chwaith. Nid yw Rhyddfrydiaeth erioed wedi credu mai  ‘efengyl gymdeithasol’ yw’r Efengyl. Mae yn gymdeithasol, wrth gwrs, ond Efengyl sy’n ymwneud â pherthynas Duw â’r ddynoliaeth, â’r byd ac â bywyd pob person ydyw. Gweinidogaeth Iesu a Theyrnas ei Dad ydyw na ellir ei chyfyngu i iaith nac athrawiaeth na thraddodiad. Iesu yw ein harweiniad i ddehongli’r Beibl. Mae Rhyddfrydiaeth o’r dechrau  yn wynebu’r dasg o newid radical yn y ffordd yr ydym yn cyflwyno a rhannu’r efengyl yn ein cenhadaeth a’n haddoliad. Nid yw ‘efengyl gymdeithasol’ wedi bod yn rhywbeth i’w drafod hyd yn oed, fel mae’r ‘dull efengylaidd’ wedi ei wneud (o’r diwedd – ac y mae’r gyfrol hon yn cydnabod hynny) yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Mae hyn, yn ei dro, yn codi cwestiwn ynglŷn â’r ‘Eglwysi Rhyddfrydol’ yn y gyfrol. Ple mae eglwysi felly? Mae awgrym cryf  mai’r eglwysi enwadol ydynt. Go brin y byddai Rhyddfrydwyr yn cytuno. Ac a yw ‘Eglwysi (dull) efengylaidd’ yn golygu eglwysi o fewn yr enwadau, yn ogystal â’r rhai sy’n galw eu hunain yn ‘eglwysi efengylaidd’? Mae rhai sydd yn awyddus i weld eglwysi yn dechrau galw eu hunain yn ‘Eglwysi Rhyddfrydol’, fel cam cenhadol yn y gymuned.  Ond nid felly mae hi. ‘Trafoder’ – ar y bwrdd Clebran.

Mae’n gyfrol â digon o wybodaeth a materion i’w trafod ac y mae’n pwysleisio’r angen am weithredu mentrus ac ar unwaith gan fod y dirywiad bellach wedi mynd yn rhy bell. Plannu eglwysi newydd yw’r brif (ond nid yr unig) nod, ond nid yw’r enwadau Cymraeg wedi dechrau cynllunio rhaglen genhadol,  radical felly, er bod ein sefyllfa yn gweddïo ac yn gweiddi am hynny. Mae’n rhaid i’r genhadaeth honno fod yn gyd-enwadol, ddi-enwad ac (ar sail y gyfrol), Anghydffurfiol. Mae’r adnoddau ar gael.