E-fwletin Medi 25ain, 2016

Y Gynhadledd Flynyddol

Dyma fi newydd gyrraedd adre o Aberystwyth wedi mwynhau Cynhadledd Cristnogaeth 21. Y tro hwn cawsom ein rhannu yn dri grŵp trafod, gan ein lleoli mewn gwahanol rannau o’r adeilad. Yna trefnwyd tri ysgogydd peripatetig i ymweld â’r tri grwp yn eu tro, gan aros am dri chwarter awr cyn symud ymlaen. Ni welodd Cymru gynllun tebyg ers dyddiau ysgolion cylchynnol Griffith Jones. Ond, anghofiwch y gwamalu; fe fu’r diwrnod a’i drefniadau yn llwyddiant digymysg. Roedd y tri ysgogydd, Judith Morris, Bethan Wyn Jones ac Owain Llŷr Evans, yn heriol a chynhyrfus eu syniadau. Ac yna wedi cinio crynhowyd prif bwyntiau’r trafodaethau dan arweiniad bywiog John Roberts.

Dyma’r math o gyfarfodydd a sgyrsiau y byddaf i yn eu cael yn ysbrydoledig. Oherwydd byddant yn delio â syniadau sylfaenol perthynas dyn a Duw. Byddant yn treiddio y tu ôl i arferion a defodau, y tu ôl i ddogmâu ac athrawiaethau, a’r tu hwnt i gwahanol gredoau a osodir fel amodau hanfodol gan grefyddau’r byd.

Ni wnaf ailadrodd sylwadau’r ysgogwyr yn y gobaith y cânt weld golau dydd yn Agora. Ond un peth a’m trawodd heddiw oedd y ffordd y defnyddiwn y gair “crefydd”, gan roi’r argraff mai drwy grefydd y cawn ffordd at Dduw. Oni ddylem, y dyddiau hyn ac yn ein cyfnod erchyll ni, fod yn sylweddoli fod yna elfennau dieflig mewn crefyddau. O ddarllen yr Efengylau gwelwn Iesu mewn ymryson â chrefyddwyr ei ddydd, nes peri inni holi a oedd Iesu yn grefyddol.

Un tant a drawyd fwy nag unwaith heddiw oedd fod angen inni ollwng llu o allanolion ein Cristnogaeth. Ond y cwestiwn sylfaenol a godai yn sgîl hynny wedyn oedd pa mor isel y dylem dorri’r hen goeden a oedd yn ddiffrwyth.

Yr hyn sydd wedi digwydd mewn diwygiadau ar hyd y canrifoedd yw iddynt “docio” yn ôl hyd ryw fan; tocio’r canghennau a’r brigau ond gadael y boncyff. Canlyniad y math yna o ddiwygiad oedd cadw’r hen bren yn ei hanfod. Ymhen amser byddai hwnnw eto’n tyfu mor dewfrig a di-fudd â’r pren gwreiddiol.

Ai her Iesu i ni yw gwaredu’r hen bren yn llwyr a gadael iddo bydru? Yna byw drwy antur ffydd y bydd Duw yn peri i blanhigion newydd tyner egino, planhigion hanfodol wahanol i’r hen bren a fu’n bwrw’i gysgod difaol dros ein dynoliaeth gan guddio’r haul.