E-fwletin Medi 18fed, 2016

Pleidleisiwch i mi

   Dyma ni yn byw drwy gyfnod afiach iawn y dyddiau hyn. Yr ydym ar ganol tymor diddiwedd o etholiadau, gyda phleidiau a gwledydd wedi bod wrthi mewn etholiad neu refferendwm, ac eraill yn paratoi i heidio i orsafoedd pleidleisio. Y rhagymadrodd i bob etholiad yw’r cyfarfodydd a’r cynadleddau di-ben-draw, a phob ymgeisydd yn datgan ei honiadau. Mae’n ymddangos fod hyn yn rhoi tragwyddol heol i holl nodweddion gwaetha’r natur ddynol.

 Yr anghenraid cyntaf yw casineb. Fe all hwnnw fod yn gasineb at wlad neu at undeb o wledydd. Fe all fod yn elyniaeth at heidiau arbennig o “deplorables”, neu heidiau o ffoaduriaid sy’n gorlifo’n gwlad fach ni. Yn sicr fe all fod yn elyniaeth at unrhyw greadur digywilydd sy’n mentro sefyll yn llwybr fy uchelgais fach i fy hunan.

   Anghenraid arall yw agwedd ryfelgar ac ymosodol. Yn etholiadau Rwsia un o briodoleddau apelgar Vladimir Putin yw’r driniaeth ddidrugaredd a ddengys at ei wrthwynebwyr. Y mae’n feistr ar ddangos ei gryfder. Bydd yn gofalu fod yna gamerâu cyfleus wrth law i’w gofnodi’n hanner noeth yn arddangos ymchwydd ei gyhyrau. Yn yr un modd ei rinwedd amlwg yng ngolwg ei werin yn ei wlad yw ymchwydd cyhyrau ei fyddinoedd.

   Aeth dweud celwydd yn grefft yn yr hinsawdd newydd hwn. Fe all gynnwys y celwydd noeth sydd mor anhygoel nes bod yn gwbl gredadwy i’r ffyddloniaid placardiog sydd y tu ôl i chi. Fe all y celwydd olygu cuddio’r gwirionedd am eich iechyd neu eich ffurflen dreth.

   Ond pinacl yr holl elfennau i gyd yw’r agwedd welwch-chi-fi-fi-sy-orau. Yr hyn a gawsom, ac a geir eto, yw gloddest o falchder, o ymddyrchafu, o hunanhysbysebu ac ymffrost digywilydd. Mae yna adnod drawiadol yn y llythyr at y Philipiaid: “Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.” Mae’n ymddangos i mi fod hyd yn oed gwleidyddion sy’n honni bod yn Gristnogion yn cael hawl, am ryw ddeufis neu dri, i anghofio fod y geiriau yna yn eu Beibl nhw. Yn wir fe dderbynnir gan drefnwyr ymgyrchoedd fod gwyleidd-dra yn bechod anfaddeuol, ac arddull ymosodol yn anhepgor. Dyna paham yn ôl rhai y mae Jeremy Corbyn yn anetholadwy.

   Os yw hyn yn rhan annatod o’r egwyddor ddemocrataidd, Duw a’n gwaredo ni. Mewn byd gwareiddiedig disgwyliwn i’n harweinwyr ni fod yn arweinwyr, ac yn esiamplau gwâr i ni eu hefelychu nhw. Tybed a fydd Donald Trump drannoeth ei ethol yn Arlywydd yn ailymgnawdoli yn batrwm o ostyngeiddrwydd.