Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin 30 Awst, 2020

Rhagor o benderfyniadau munud olaf. Beth mae ysgolion Lloegr i fod i wneud yn sgil achos o Covid yn eu plith? Rhyddhawyd y canllawiau nos Wener Gŵyl y Banc a’r ysgolion ar fin agor ddydd Mawrth.  Onid oes ffordd well o benderfynu? Ffordd fwy cadarn, cytbwys a chall?

Oes, yn ôl y proffwyd Habacuc…

Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tŵr; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i’m cwyn. Atebodd yr ARGLWYDD fi: “Ysgrifenna’r weledigaeth, a gwna hi’n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg; oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser— daw ar frys i’w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.”  Sef oedi, gwrando a meddwl yn hytrach na phenderfynu ar garlam.

Nid yw’n anodd gweld y problemau dyrys sy’n ein hwynebu ni fel Cristnogion, fel gwlad ac fel byd; pandemig, tlodi, dirywiad yr iaith ac argyfwng crefydd gyfundrefnol Cymru, i gyfeirio at rai ohonynt, heb sôn am yr argyfwng hinsawdd. Dwi’n gweld y problemau hyn yn cynyddu a’n harweinwyr gwleidyddol presennol yn brin o atebion cadarnhaol a hir dymor sy’n dod â phobl at ei gilydd. Maen nhw i’w gweld yn hapus i greu rhaniadau ymysg pobl, a mynd ar ôl y ‘quick fix’. ‘Paid â phoeni am y tymor hir, bydd y tymor hir yn edrych ar ôl ei hunan.’ Agwedd sy’n gaeth i dargedau byr-dymor ar draul unrhyw gynllunio darbodus at y dyfodol. Bydd 5 mlynedd rhwng etholiad cenedlaethol yn golygu bod neb yn meddwl yn rhy bell. A’r gweinidogion rownd bwrdd y cabinet yn cadw eu jobs am lawer llai na hynny. Nid dyna yw ymateb y proffwyd; oedi, ystyried, aros nes bod gweledigaeth yn dod a’i gwneud hi’n eglur, ‘fel y gellir ei darllen wrth redeg’, cyn dechrau gweithredu ar gyfer gwell heddiw ac yfory.

Nid yw Llywodraeth Cymru’n berffaith o bell ffordd. Ond mae i’w gweld yn taclo’r argyfwng presennol mewn ffordd fwy cytbwys na Llywodraeth Johnson yn ôl arolwg diweddar. Felly hefyd maen nhw i’w canmol, yn fy marn i, am apwyntio Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a phasio deddf tuag at yr un diben. Gwaith Sophie Howe, y Comisiynydd, yw helpu cyrff cyhoeddus i ystyried effeithiau hirdymor eu penderfyniadau. Mae pob cynllun cyhoeddus a phob gwario yn gorfod mynd drwy ei swyddfa hi. Er enghraifft, cafodd cwestiynau dwys Mrs Howe effaith fawr ar y cynllun i adeiladu ffordd liniaru’r M4. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod rhaid gweithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, sef Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru iachach, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. A hynny heb adael swp o ddyledion i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Mae angen y fath yma o gynllunio ar bob llywodraeth… ac eglwys hefyd. Mae’r cenedlaethau a fu wedi gadael etifeddiaeth i ni. Beth fyddwn ni yn ei adael i’r cenedlaethau i ddod? 

 

E-fwletin 23 Awst, 202

Mae gen i edmygedd mawr o’r newyddiadurwyr hynny sy’n mentro’u bywydau i ddod ag adroddiadau i ni am drychinebau dychrynllyd mewn gwahanol leoliadau tramor. Ond wrth i’r lluniau ddod yn fwy cyfarwydd, ac wrth i’r ystadegau am y dioddefaint lifo drosom ddydd ar ôl dydd, hawdd iawn yw suddo dan don difaterwch. Eto, mae gan ambell i ohebydd y ddawn i weld y tu hwnt i’r darlun cyffredinol, i hoelio’n sylw ar achosion unigol, i greu darlun o deulu ac unigolion a phobl go iawn fel ni’n hunain. Does neb gwell am wneud hynny nag Orla Guerin, gohebydd rhyngwladol y BBC, sydd bob amser yn crisialu’r sefyllfa drwy adrodd hanes un person neu un teulu ynghanol y gyflafan. 

Orla Guerin (Llun Twitter)

Mae ambell i wladwriaeth yn deall hynny’n burion, ac felly’n cyfyngu ar ryddid newyddiadurwyr. Enghraifft amlwg yw Sawdi-Arabia, sydd wedi gwrthod pob cais gan rai fel Orla Guerin i gael mynediad i Yemen i weld y brwydro drostyn nhw eu hunain. Ers 2015, bu Sawdi-Arabia yn arwain cyrchoedd milwrol yn erbyn y garfan Houthi yn Yemen, wedi i’r mudiad hwnnw oresgyn yr Arlywydd Hadi, a ddihangodd i Sawdi-Arabia i chwilio am noddfa. Yn eu tro, mae’r Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc yn cefnogi’r Sawdïaid, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafodd cannoedd o bobl gyffredin, gan gynnwys plant, eu lladd yn ystod rhai o’r cyrchoedd awyr.

Rai blynyddoedd yn ôl, llwyddodd Orla Guerin i deithio’n gyfrinachol ar long cario gwartheg i Aden, a gwelsom luniau o fachgen pumlwydd oed o’r enw Ahmad Mohammed yn gorwedd mewn ysbyty wedi ei anafu mewn cyrch awyr.

Heddiw, wyddom ni ddim i sicrwydd beth yw’r sefyllfa yn Yemen. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae newyddiadurwyr yn cael eu llofruddio a’u carcharu yno’n rheolaidd. O ganlyniad, ychydig sy’n hysbys am wir gyflwr y wlad, er y medrwn ddyfalu mai dyma’r argyfwng dyngarol gwaethaf yn y byd erbyn hyn.  Dywed UNICEF bod 1.5 miliwn o blant Yemen yn dioddef o ddiffyg maeth, a bod 21 miliwn o oedolion, sef ymhell dros 80% o’r boblogaeth, angen cymorth dyngarol. Gyda newyn difrifol ar y gorwel, cholera yn rhemp, yr economi’n deilchion a thros filiwn o bobl yn ddigartref, daeth Cofid 19 i hawlio llawer gormod o fywydau mewn cymunedau sy’n amddifad o bob cyfleuster i’w hamddiffyn eu hunain.

Ahmad Mohamed

Fel y gŵyr llawer ohonom, mae’r hyn sy’n digwydd yn Yemen yn berthnasol iawn i ni yng Nghymru, oherwydd mai yn Y Fali yn Ynys Môn y cafodd llawer iawn o beilotiaid Sawdi-Arabia eu hyfforddi ar gyfer y cyrchoedd angheuol. Daeth yr arfer i ben oherwydd diffyg lle yn Y Fali.

Ond yr wythnos hon, rhybuddiodd Cymdeithas y Cymod y medrem weld rhagor o hyfforddi’n digwydd ym maes awyr Llanbedr ger Harlech yn y dyfodol os bydd Llywodraeth Cymru’n gefnogol i gynlluniau Snowdonia Aerospace, sy’n rhentu’r safle.

Am ba hyd y medrwn ganiatáu i hyn ddigwydd? Mae Ahmad Mohamed yn tynnu at ei ddeg oed erbyn hyn. Pa un ohonom ni tybed fyddai’n fodlon egluro iddo pam y bu inni anwybyddu’r anfadwaith yma?

E-fwletin 16 Awst, 2020

Pa flaidd fyddi di’n ei fwydo?

 Ga’i eich cyflwyno chi i Mano Totau? Falle eich bod chi eisoes yn ei adnabod e. Os felly, dwi’n gwybod eich bod chi’n gwenu’n dawel wrth glywed ei enw ac yn diolch o fod wedi bod yn ei gwmni. Mae’n hen ŵr erbyn hyn, ond mae fflam direidi’n dal yn ei lygaid. A bois bach! Chi’n cofio amdano, fe a phump o’i ffrindiau, yn ‘cael menthyg’ cwch yr hen bysgotwr blin ’na? Chofia’i ddim ei enw ynte’. Na chithe’ chwaith, fentra’i swllt. Ond chi’n cofio sut y buodd hi!? Â Mano a’r criw wedi cael llond bola ar fywyd undonog yr ysgol, dyma benderfynu dianc dros dro. Hwylio mas i’r môr mawr am antur … Roedd y cynllun gadael yn glir. Doedd dim cymaint o siâp ar y cynllun dychwelyd.

A do. Cawson nhw eu dal mewn storm. Torrodd yr hwylbren. Roedd y cwch yn rhacs jibiders. Ac erbyn yr wythfed noson, a nhw ar eu cythlwng, roedd y disgyblion ysgol direidus yn falch i’w ryfeddu o weld ynys yn ymddangos o’u blaen yng nghanol y Môr Tawel.

Ac yno y buon nhw. Am flwyddyn a thri mis. Ar ynys ‘Ata. Ynys garegog, wydn, gwbl ddigroeso.

O do, cynhaliwyd angladdau a phopeth. Pawb wedi colli pob gobaith. A bydd y rhai hynny ohonoch chi na chlywodd am Mano cyn heddiw, wrthi nawr yn ceisio cofio enwau plant y Lord of the Flies, ac yn dyfalu ai Jack neu Piggy neu Ralph o fachgen ydoedd.

Ond gallwch chi fwrw’r hen stori greulon honno ymhell o’ch meddwl. Mae stori Ynys ‘Ata yn un am gymwynasgarwch a chyd-ymddiriedaeth. Ffrwyth dychymyg William Golding oedd stori Ralph. Mae stori Mano Totau’n stori wir a Rutger Bregman sy’n ei chofnodi yn ei lyfr ysbrydoledig Humankind a Hopeful History(Bloomsbury, 2020). Mae’n rhan o’r dystiolaeth sydd ganddo i argyhoeddi’r darllenydd ein bod ni, drigolion y ddaear, yn y bôn yn bobl dda.

Dydw i ddim eto wedi gweithio drwy’r 400 tudalen sydd ganddo i gefnogi ei ddamcaniaeth, ond hyd yma, rwy’n mwynhau bob gair.

Dyw hi ddim yn ddamcaniaeth newydd wrth reswm. Ond y mae hi’n radical. Mae hi’n radical am ei bod hi’n bygwth holl sail grym y rheiny sydd ar hyn o bryd yn dal awenau pŵer. Mae’n syniad sy’n awgrymu nad oes, wedi’r cyfan, raid i ni gael ein ffrwyno a’n rheoli. Does dim rhaid, wedi’r cyfan, i ni bentyrru arfau rhag ofn … achos does dim rhaid wrth ofn.

Fe’ch gadawaf chi ag un stori arall a glywais gan Bregman, un sy’n gosod y dewis yn blaen ger bron:

Dywed hen ddyn wrth ei ŵyr, ‘Tu mewn i mi mae brwydr. Brwydr enfawr rhwng dau flaidd. Mae un yn ddrwg – yn grac, yn drachwantus, yn genfigennus, yn drahaus a llwfr. Mae’r llall yn dda – yn heddychlon, yn gariadus, ym ddiymhongar, yn hael a ddibynadwy. Mae’r un ddau flaidd yn brwydro y tu mewn i ti hefyd, a thu mewn i bob person arall, wyddost ti.’

Ymhen eiliad, mae gan yr ŵyr gwestiwn: ‘Pa flaidd sy’n mynd i ennill?’

Ac mae gan yr hen ddyn ateb, a chan wenu, dywed:

‘Yr un y byddi di’n ei fwydo’.

E-fwletin 9 Awst, 2020

A oes heddwch?

A hithau’n wythnos lle yr oedd y byd yn nodi 75 mlynedd ers gollwng y bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki, daeth yr hanes yn ôl drwy luniau, fideos, erthyglau papur newydd ac atgofion unigolion o erchyllterau’r cyfnod hwnnw. Un frawddeg a’m gwnaeth yn oer drosta’i oedd clywed Prydeiniwr oedd yn Japan ar y pryd, yn nodi taw pwrpas y bomiau hyn oedd ymgais i  “rhoi diwedd ar y rhyfel gan nad oedd unrhyw ffordd amlwg arall i ddod â’r rhyfel i ben.”  Oedd difa chwarter miliwn o fywydau wir yn gyfiawnhad dros ystyried y fath ddull o ryfela? Ydy’r meddylfryd hon wedi newid o gwbl yn ein byd erbyn heddiw?

Fedra’i ddim dirnad rhesymeg y “buddsoddiad” anferthol anwaraidd sydd yn cael ei fynnu o hyd gan lywodraethau ar wariant arfau.  Yn 2019 gwariodd y Deyrnas Unedig oddeutu £38 bn ar “amddiffyn”.  I’w roi mewn cyd-destun bydd holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn oddeutu £20bn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Nid yw hyn yn hanner o’r hyn sydd yn cael ei wario ar “amddiffyn” hyd yn oed. Ydyn ni wedi dysgu gwersi? Sgersli bilîf!

Gan ddilyn y llu o wyliau a seremonïau sydd wedi eu gorfodi i fynd yn ddigidol o ganlyniad i’r cofid, felly yr aeth yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon gyda Gŵyl AmGen. Ymweliad hanfodol i mi bob blwyddyn yw mynd i’r lle celf ac eleni cafwyd arddangosfa rithiol dan y teitl Epona. Os nad ydych wedi ei weld, rhaid i chi fynd. Mae’n llawn lluniau, delweddau, fideos a chelfyddyd sydd yn procio, plesio a pheri penbleth – yn ôl yr arfer, gydag ambell ddarn yn gadael ei ôl hefyd – yn ôl yr arfer. Mae’r arddangosfa ar ffurf galeri rhithiol lle y cewch ymlwybro drwy’r galeri yn eich amser eich hun.

Ond daeth dagrau i’m llygaid pan welais y llun hwn. Llun ffotograff gan Aled Rhys Hughes ydyw, llun o arwydd a welir wrth ddilyn y ffordd i fyny’r Epynt.  Gan ddefnyddio ei hawl a’i ddawn artistig, mae Aled wedi “addasu’r” llun, edrychwch yn ofalus. Y mae’n drawiadol ac y mae’n dweud y cyfan sydd angen ei ddweud.

A glywn wir alwad y llun hwn?  Fel galwad menywod Greenham, fel galwad trigolion yr Yemen, Syria ac Afghanistan…

Pryd, o pryd y gwanwn ni sylweddoli bod rhethreg rhyfel a’r gwariant anferthol diangen yn perthyn i’r oes a fu. Fel dwedodd Waldo  

Cenedl dda a chenedl ddrwg –
Dysgent hwy mai rhith yw hyn,
Ond goleuni Crist a ddwg
Ryddid i bob dyn a’i myn.
Gwyn eu byd, daw dydd a’u clyw,
Dangnefeddwyr, plant i Dduw.

Mae cyfle gyda ni yn sgil y cofid i ailfeddwl y gwariant hwn ar arfau. Mae angen galwad grymus o’r newydd i wario ar adfywio cymunedau, ar addysg ac ar waredu tlodi yn hytrach na bwydo ofnau a phryderon ein poblogaethau.

Rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan i sicrhau bod yna heddwch y tu hwnt i unrhyw bafiliwn.

E-fwletin 2 Awst 2020

Gyda chanllawiau COVID-19 yn cael eu llacio, ac ychydig mwy o ryddid, o leiaf yn arwynebol, trodd sylw ein trafodaethau eglwysig o fod yn canolbwyntio ar barhad argaeledd gwasanaethau ac addoliad, a chadw cyswllt a sicrwydd ‘koinonia’ yn fyw, i’r cyfnod ôl-COVID-19. Beth fydd goblygiadau’r cyfnod digynsail hwn ar ein heglwysi? Beth fydd ffurf addoli yn y dyfodol?

Cafwyd rhaeadr fyrlymog o syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol; rhaid, meddir, parhau gyda’r arlwy dechnolegol, rhaid cyfuno’r traddodiadol a’r newydd.  Un farn bendant sydd wedi amlygu ei hun: nid dychwelyd i’r hyn a fu ddylai’n nod fel eglwysi fod.  Os mai dim ond ymdrechu i gael pethau nôl i’r hyn oeddent yw ein dymuniad, cystal derbyn ein methiant nawr, a chyfaddef ein hamharodrwydd i ddysgu. Mae angen gweddi ddwys a chyfeiriedig yn gofyn am arweiniad i’r hyn y dylem fod wedi ei ddysgu dros y misoedd aeth heibio.

Estyn y cyfle hwn hefyd gyfle, nid yn unig i edrych ar ffurf ein haddoliad a’n cenhadaeth, ond hefyd ar sut y mae’n heglwysi yn cael eu rhedeg. Clywyd mewn trafodaethau ar Radio Cymru nifer o swyddogion eglwysi yn dweud ei fod yn ormod o waith i weithredu canllawiau’r Llywodraeth ac nad oedd y byd technolegol yn rhywbeth y medrent ymdopi ag ef.  Clywyd mewn un cyfweliad gyfaddefiad bod cyfartaledd oed swyddogion yr eglwys yn 75 mlwydd oed ac mai go brin y medrent wneud llawer i sicrhau parhad y dystiolaeth. Dyma’r ffyddloniaid dewr a dygn sydd wedi brwydro i gadw’r achos i fynd ers degawdau. Mawr ein diolch iddynt, ac yn sicr ni ddylid bod yn feirniadol nac yn anystyriol ohonynt. Rhaid, er hynny gofyn y cwestiwn, sut y crëwyd y fath sefyllfa? 

Ymchwil diddorol fyddai edrych ar Adroddiadau Blynyddol ein heglwysi. Faint o swyddogion eglwysi sydd wedi bod yn gwneud y gwaith dros ddegawd a mwy o flynyddoedd?  Gwnânt eu gwaith yn drwyadl a heb achwyn, ond a ydy’r fath barhad mewn swydd wirfoddol yn arfer da? Mewn cymdeithasau a sefydliadau seciwlar, tymor o dair a phum mlynedd yw’r arferol, ac efallai ail-ethol am un tymor arall. Oes yna genhedlaeth newydd o swyddogion eglwys yn cael eu meithrin yn ein heglwysi? Oes yna dimoedd cyllid ac ysgrifenyddol o fewn ein heglwysi yn magu swyddogion y dyfodol? A ydym yn dal at y cysyniad o fod yn ddiacon am oes?  O roi cyfnod penodol ar dymor Swyddogion Eglwysi oni estynnir cyfle i eraill? Yn fwy pwysig, efallai, sbarduno eraill at y gwaith?  A oes yna ‘elit’ yn rhedeg ein heglwysi ac fel y cynghorau lleol bondigrybwyll hynny yn yr 1960au a’r 1970au deiliaid yn gwrthod gadael i eraill gymryd lle?     

Geilw COVID-19 am edrychiad newydd ar ein ffordd o addoli, o genhadu ac o redeg ein heglwysi. Ni fydd canolbwyntio ar y ddarpariaeth addoli yn unig yn ddigon. Rhaid ystyried o ddifrif sut i sicrhau ymwneud llawer mwy o’n pobl yn swyddogaeth a llywodraeth ein heglwysi. ‘Nid oes ganddynt ddiddordeb’ – dyna’r ymateb yn aml. Wel nag oes siŵr iawn, nid ydynt wedi cael unrhyw gyfle! Mae angen i ni edrych ar becyn cyfan ein heglwysi os ydym, trwy ras Duw, am oroesi’r cyfnod rhyfedd hwn.    

 

E-fwletin 26 Gorffennaf 2020

DRWS

Daw cyfraniad yr wythnos hon gan un o’r tîm sy’n gyfrifol am gylchgrawn ‘DRWS’ a gyhoeddir ym Mhen Llŷn ers dechrau’r Cyfnod Clo. Diolchwn i’r awdur am rannu’r profiad, ac am godi cwr y llen ar y math o weithgarwch sydd yn medru bod mor ddyrchafol ar adeg anodd

Un hedyn bach oedd o ac mae’r hedyn hwnnw wedi gafael a thyfu’n rhyfeddol. Cyfeirio at DRWS ydw i, newyddlen sydd wedi datblygu’n fwy na newyddlen a dweud y gwir a bydd rhifyn 18 yn ymddangos yr wythnos hon. Doedd DRWS yn ddim byd mwy nag ymgais i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod clo am fod drysau ein heglwysi wedi cau. Caiff ei rannu ar facebook, ei anfon ar e-bost ac ar droed. Nid yw’n cynrychioli unrhyw farn benodol, rhoi llais i ystod eang o safbwyntiau a wna cyn belled â’n bod yn parchu barn ein gilydd a derbyn bod mwy nag un ffordd o gyrraedd copa’r mynydd. O’r dechrau un ceisiwyd sicrhau arddull gynnes agos atoch ac efallai bod hyn wedi bod yn anogaeth i bobl siarad ar bapur. Mae’r cyfraniadau wedi llifo mewn a phobol yn cysylltu ac yn rhannu cymaint, ac yn y rhannu mae yna ymestyn allan cwbl arbennig wedi digwydd.

Gallwn eich cyfeirio at erthygl Mared Llywelyn am Black Lives Matter neu eich arwain at gyfraniad Gwawr Thomas, bargyfreithiwr yn Siambr 1MCB yn Llundain aeth â’r darllenydd i fyd cyfraith droseddol, mewnfudo a hawliau dynol (Dylid cael rhaglen deledu am Gwawr Thomas, mae’n ferch  arbennig a’i gwaith mor ddi-sôn amdano.)

Gallwn sôn am sgyrsiau y Parch Sara Roberts o’i Sied Weddi yng ngwaelod ei gardd ym mhentref Edern, a gwneud yn siŵr eich bod yn cael  ‘chwerthin’ yn iawn efo Sian Roberts, Trefor.

Gallwn eich tywys i fyd nodau Sioned Webb neu ddangos cyfeillgarwch Glandwr i chi, cartref Catrin Roberts, Morfa Nefyn. Gallwn fynd â chi am dro i Gapel Penuel gyda thelyneg Stan Massarelli, eich rhoi yng nghefn tacsi Gwilym John Ceidio, neu eich gollwng yn nhŷ gwydr Meinir Giatgoch.

Gallwn eistedd efo chi heb ddweud gair o fy mhen ar y fainc honno yn Eglwys Boduan; taflu carreg gofidiau i ganol cerrig Dinas Dinlle neu ddarllen llythyr Elen Lewis at ei mam ym Mynydd Nefyn.

Gallwn drafod y cyfnod cyfunol newydd a’r dysgu carlam y dylai ein heglwysi ystyried ei fabwysiadu, mesur a phwyso manteision addoli digidol ac ar ôl gwneud hynny rhannu cerdd Casia Wiliam efo chi.

Ond wnâi ddim.

Ond yr hyn wnai ydi rhannu ychydig o eiriau Seiat Bach efo chi, pytiau byr sydd yn y golofn hon. Geiriau efo blas mwy arnyn nhw, geiriau sy’n estyn, geiriau gonest, geiriau’r galon. Ac wrth ddarllen mi welwn fod pobl am rannu mwy nag erioed ac isio siarad a sgwennu am bethau roedden nhw efallai yn betrys o wneud cyn hyn i gyd. Fel hyn mae un darllenydd yn ymateb i Seiat Bach ‘Mae’r pytiau am wahanol bobol yn gwneud i mi feddwl, pytiau, myfyrdodau i fynd yn nôl atyn nhw drachefn a thrachefn ydyn nhw. Testunau Seiat ydyn nhw a dyna un o ragoriaethau’r DRWS.’

Ydi hyn wedi codi awydd arnoch i bicio mewn i’r Seiat?

Dyma gyfraniad rhai fu’n seiadu i chi:

  • Diolch am y gerdd am ‘Amser’ – mae copi ar y cwpwrdd wrth y sinc. Meddwl fod pytiau fel hyn mor fendithiol. A fydd angen pregethau hirwyntog pan fydd yr argyfwng yma drosodd dybed?
  • Be ddaw ohonom ar ôl hyn i gyd? Fyddwn i’n closio at ein gilydd? Fyddwn i’n rhannu mwy? Mae isio i ni fod yn ddigon cyffyrddus i grio yng nghwmni’n gilydd weithiau. Does dim o’i le mewn crio. Dyna pam fod gynnon ni ddagrau.
  • Cau drysau ydan ni wedi bod yn ei wneud ar hyd yr holl flynyddoedd . Ond ar ôl bod adre yn Fron Haul am dros naw wythnos erbyn hyn mae cymaint o ddrysau wedi agor i ni am fod pobl wedi bod mor ffeind efo ni. A dyna ydi DRWS. 

A dyma gyfle i ni fu’n agor DRWS i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac am roi y rwbath hwnnw na ellir ei ddiffinio’n iawn sydd yn ffeind ac yn ein nerthu ni i gyd i ddal ati ar adeg mor ddyrys.

E-fwletin 19.7.2020

Pla

A ninnau’n byw yn yr unfed ganrif ar hugain wyddonol, ddatblygedig a materol foethus, tipyn o ysgytwad fu darganfod bod pla ar gerdded ledled y byd.

Bu plaon achlysurol yn rhan o brofiad y ddynoliaeth ar hyd y canrifoedd maith, wrth gwrs, a’u heffaith ar fywyd a chymdeithas yn ddigon trawiadol i adael eu hôl ar gofnodion a llenyddiaeth. Crybwyllir yn y Beibl, yn Ecsodus, er enghraifft, gyfres o ddigwyddiadau adfydus yn yr Aifft rywbryd yng nghanol yn ail fileniwm cyn Crist, a fu’n ddigon i beri trychinebau cymdeithasol ac economaidd yn un o gymunedau mwyaf soffistigedig a datblygedig y byd ar y pryd. Barn Duw, meddid – cosb ar bennaeth gormesol yn Aifft – oedd yr esboniad.

Lledodd afiechyd dybryd, y dangoswyd yn ddiweddar mai’r Pla Du ydoedd, Pla Justinian, o’r Dwyrain Pell i Ewrop yn y chweched ganrif OC, gan chwalu’r hyn a oedd yn weddill o drefn yr Ymerodraeth Rufeinig. Arweiniodd hyn at newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol yn Ewrop a gorseddu teyrn milwrol yno. Cyffyrddodd y pla hwnnw ein hanes ni yng Nghymru gyda’r disgrifiad o farw Maelgwn Gwynedd yn 547 OC, wedi gweld, trwy dwll y clo yn eglwys y Rhos, yr afiechyd a elwid yma yn Fad Felen, yn dod tuag ato fel niwlen a’i ladd. Cosb Duw arno am lygredd oedd hynny eto, yn ôl yr hanes amdano.

Ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, trawodd y Pla Du Ewrop eto, a lladd tua thraean o’r boblogaeth. Unwaith eto, mae cofnodion, llenyddiaeth a chelfyddyd ledled y Cyfandir a Chymru yn adrodd am yr ofn, y dychryn a’r chwalfa a achoswyd gan y fath glefyd. Digwyddai hyn mewn byd na wyddai sut i ymdrin â’r afiechyd, ac eithrio drwy ynysu trigiolion yn eu tai ac ymbellhau’n gymdeithasol. Ond yr oedd cred gyffredinol mai cosb Duw am ‘bechodau’ oedd marwolaeth mewn oes pan oedd amheuaeth grefyddol a gwrth-glerigaeth ar gerdded.     

Go brin y byddai neb, wrth reswm, yn honni heddiw mai cosb am bechodau’r byd nac unigolyn yw ymddangosiad afiechyd Covid-19. Ac eto, mae hynt y clefyd a’r ymateb iddo’n amlygu tebygrwydd rhwng profiad y gorffennol a’r presennol. Clefydau newydd yn ysgubo’n donnau diatal am fod difffyg dealltwriaeth am eu hachos a diffyg meddyginiaethau effeithiol i’w lliniaru fu gynt, gan godi ofn, dychryn a galanastra. A’r un yw’r sefyllfa yn ein hunfed ganrif ar hugain ‘hollwybodus’ ninnau gyda’r feirws newydd, dieithr. Wyddom ni mo’r cyfan o bell ffordd, ac efallai mai da o beth yw i ni ddysgu’r wers honno. Nid yw dyn yn hollalluog.

Y mae ein byd mor ansicr heddiw ag yr oedd yng nghanol clefydau pandemig y gorffennol. I rai, bu’n gyfnod o alaru ar ôl anwyliaid. I lawer mwy, bu’n gyfnod o gaethiwed a cholli’r pleserau hynny sydd fel pe baent yn hanfodol i gymdeithas erbyn hyn: y goleuadau llachar a’r cyfleon dihysbydd i wario ar nwyddau a phleserau materol. Byd annifyr o fyw o fewn y filltir sgwar dan orfodaeth oedd hi, a byd o fyw oddi mewn i’w hadnoddau eu hunain. Tristwch y sefyllfa yw mai ychydig iawn o sylw a roddwyd yn y cyfryngau torfol i’r cyfoeth sydd gan Gristnogaeth i’w gynnig i bawb, yn unigolion a chymdeithas, yn y cyfwng hwn – yn gysur a gobaith. Y duedd fu cyflwyno parlyrau harddwch, chwaraeon, gwyliau, bwyd parod a diod fel YR ateb, Y nefoedd, a’r sawl sy’n feddygon corff a meddwl fel y duwiau ‘hollalluog’ newydd heb ystyried y Meddyg Gwell. Rhoddwyd Crist o’r neilltu gan y cyfryngau mewn capeli ac eglwysi clo. Prin bod Duw yn bod iddynt.

Mewn cyfrol o gerddi hollol ysgytiol a gyhoeddwyd ganddo yn ddiweddar, Cerddaf o’r Hen Fapiau  mae Aled Jones Williams yn archwilio grym yr angen am ‘dduw’ ym mywydau pawb, ond yn dangos hefyd pa mor frau yw’r duwdod y mae’r hunan yn ei lunio a’i greu yn ei feddwl ac mewn geiriau. Mae duwdod o’r fath mor ddiflanadwy ag iaith, meddai, ond er hynny’n rhywbeth sy’n bodoli yn y gwacter y tu hwnt i strwythur. Pwysleisia yn ei ragair nad cerddi am Dduw sydd ganddo, ond yr ymchwil am dduw. Y mae yna ymchwil am dduw heddiw yn yr argyfwng sydd ohoni a chredwn y byddai’r meudwyo, yr arafu a’r heddwch wedi rhoi cyfle i ganfod o’r newydd y Duw yng Nghrist sy’n freichiau i gynnal dynoliaeth gyfan, fel y bu’n gynhaliaeth ym mhlaon y gorffennol – daeth Oes y Saint wedi’r Fad Felen. Gyda’r llacio, pylu mae’r gobaith hwnnw, ysywaeth, ond pery ffydd.

E-fwletin 12fed. Gorffennaf 2020

‘Duw ar Zoom’

‘Duw ar Zoom’ ydi teitl gogleisiol cerdd arbennig a gyflwynwyd gan Casia Wiliam, Bardd y Mis Radio Cymru, ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul diwethaf. Gallwch wrando ar Casia’n darllen y gerdd drwy ddilyn y ddolen yma i Facebook: https://www.facebook.com/watch/?v=275447817003209

Rydyn ni’n ddiolchgar hefyd i Casia am ei chaniatâd parod i ddyfynnu’r gerdd yn y neges hon:

Duw ar Zoom

Rhywsut aeth Duw yn ddiarth.
Rhwng y naw tan bump a plant i’w gwlâu a gwaith yn galw
doedd dim lle iddo yn sêt fawr fy mywyd.

Bob hyn a hyn dôi yn ôl yn annisgwyl
wrth i mi lenwi troli, neu lyncu’r Ê ffôr sefnti
ond wastad â chymun o euogrwydd
am beidio twyllu ei dŷ
cyhyd.

Ond rŵan, a ninnau yng nghanol
y tywyllwch tywyllaf,
dyma fo, ar fy nglin,
lond y sgrin,
lond y gegin.

Duw ar Zoom.

A ffasiwn sinig, mi daerwn y byddwn
wedi mynd am y groes yn syth,
ond na, arhosais ennyd
i glywed adnod,
i geisio ei lais eto,
i weld os medrwn estyn croeso iddo
yn fy nhŷ fy hun.

Ac yn lle’r festri oer a chwech yn gwmni
dyma lond y we o gwmpeini;
a dros goffi,
mewn pajamas,
yn ein gwlâu ella,
daeth y ne’ atom ni.

O dro i dro,
rŵan ei bod hi’n dechra g’leuo,
wrth i mi osod bwrdd neu
hel llestri brecwast,
mewn eiliad o heddwch,
mi ga i ryw air bach efo fo

a mae o i’ weld ddigon bodlon
i ni gwrdd fel hyn,
yn bytiog rhwng prydau,
a minnau heb ddim byd am fy nhraed.

Casia Wiliam

Mae yna gymaint o gyfoeth a dyfnder yn y gerdd yma: yn ei chyfeiriadaeth a’i delweddau cynnil a synhwyrus, er enghraifft, y syniad o wthio Duw allan o ‘sêt fawr fy mywyd’ a theimlo ‘cymun o euogrwydd’ am beidio â thywyllu’r capel ers sbel.

Gyda’r ystadegau’n awgrymu bod llawer mwy o bobl yn cymryd rhan mewn addoliad crefyddol ers y cyfnod clo, faint ohonom tybed sy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r ‘festri oer a chwech yn gwmni’ pan mae Duw ‘yng nghanol / y tywyllwch tywyllaf / ar fy nglin, / lond y sgrin, / lond y gegin’ – a hynny drwy gyfwng Zoom?

Tybed ydi hi bellach yn haws ymdeimlo â phresenoldeb Duw ‘yn bytiog rhwng prydau’, wrth ein gorchwylion o ddydd i ddydd, yn ein dillad nos neu ein dillad gwaith, yn droednoeth – ac nad oes angen bod mewn adeilad penodol ar adeg benodol ar ddiwrnod penodol i wneud hynny?

Bydd yn ddiddorol clywed ymateb a phrofiadau tri sydd wedi bod yn arwain ac yn trefnu addoliad yn ystod y cyfnod clo, sef Rhodri Darcy, Beti Wyn James ac Evan Morgan, yn y sesiwn arbennig sydd i’w chynnal gan Cristnogaeth21 nos Fercher nesaf am 7 o’r gloch – drwy gyfrwng Zoom, wrth gwrs! Anfonwch air i gofrestru – mae croeso i unrhyw un ymuno. Dyma’r manylion:

SESIWN ZOOM

7:00 p.m. Nos Fercher, 15fed Gorffennaf

ADDOLI YN Y CYFNOD CLO

Rhannu profiadau yng nghwmni

Rhodri Darcy, Beti Wyn James, Evan Morgan

Llywydd: Enid Morgan

Cadeirydd y drafodaeth: Emlyn Davies

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn yn syth wedyn.

Rhaid cofrestru i gael cyfrinair er mwyn ymuno.

Anfonwch e-bost at: cristnogaeth21@gmail.com neu atebwch y neges hon.

E-fwletin 05 Gorffennaf 2020

Beth ddylai’r ‘gweddill’ ei wneud?

Darllenais E-fwletin Cristnogaeth 21 yr wythnos ddiwethaf (28 Mehefin 2020) â chryn ddiddordeb. Dyma e-fwletin oedd yn gorlifo â rhwystredigaeth a phwy bynnag oedd yn gyfrifol am ei llunio (boed yn ddyn neu ddynes) rhaid ei fod yn dyheu am gael trawsffurfio bywyd yr eglwys leol lle mae’n aelod.  Mae’n siwr y dylai’r llith hwn fod ar restr darllen pob Gweinidog, Diacon neu Flaenor, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth. At hynny, efallai y dylai cynnwys y llith fod yn eitem agenda cyfarfodydd nesaf pob eglwys gan fod yr awdur yn holi cwestiynau hynod bwysig am ddyfodol y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru heddiw a’r modd yr awn ati i gyrraedd pobl â neges yr Efengyl. 

Mae’r llith yn dechrau yn ddigon cadarnhaol: canmolir ymdrechion y gweinidog ac mae’n amlwg fod gan y cyfaill barch mawr tuag ato, a’i fod yn hynod ddiolchgar iddo am ei weinidogaeth. Mae hefyd yn cyfaddef nad yw wedi colli ei ffydd, yn hytrach mae ei ffydd wedi tyfu a gwreiddio’n ddyfnach dros y blynyddoedd sydd yn syndod a rhyfeddod efallai o ystyried yr holl bethau negyddol sydd ganddo i ddweud am ei brofiad o fod yn aelod yn yr eglwys arbennig hon. Hynny yw, mae wedi diflasu’n llwyr ar y cyfrif pennau, y cyfarfodydd dibwys, y diffyg cydweithio, ynghyd ag agwedd sidêt ei gyd-aelodau.  Mae’n dyheu am gael bod yn aelod o eglwys sydd yn weithgar yn y gymuned, yn trefnu banc bwyd ac yn mynd ati i ddosbarthu bwyd i’r hen a’r methedig.

Mae’n ddigon posib fod yna ryw ychydig o or-ddweud yn y pethau negyddol a restrir ond ar yr un pryd mae’n siwr fod awdur y llith i ryw raddau yn adlewyrchu rhwystredigaethau nifer o aelodau ein heglwysi heddiw sydd yn teimlo yr union yr un fath ag ef.

Sut allwn ni felly gynorthwyo ein gilydd i ddal ati pan fyddwn wedi blino’n lân ar ein sefyllfaoedd lleol ac yn teimlo nad yw ein heglwys leol ar flaen y gad o ran gwasanaethu’r gymuned a rhannu’r dystiolaeth Gristnogol?

Mae’n gwestiwn anodd ac yn gwestiwn y mae’r mwyafrif o eglwysi yn gorfod ei wynebu. Nid oes ateb hawdd. Sut mae trawsffurfio eglwys? O ystyried sefyllfaoedd nifer o’n heglwysi fel yr un a bortreadir gan y cyfaill yn yr e-fwletin mae’n amlwg na fydd llawer ohonynt yn goroesi am nad ydynt yn berthnasol i fywydau pobl gyffredin. Yn y pen draw byddant yn cau eu drysau a’r dystiolaeth draddodiadol Gristnogol o ganlyniad yn diflannu. Yn eu lle, fe ddaw eglwysi newydd a fydd yn cael eu plannu gan enwadau mwy efengylaidd, pentecostalaidd a cheidwadol Saesneg eu hiaith.  Dyma yw’r gwirionedd caled sydd yn ein hwynebu.

Beth felly ddylwn ni, ‘y gweddill’, fod yn ei wneud? Gweddïo am ddiwygiad? Plannu eglwysi Cymraeg newydd sydd yn diogelu’r pethau gorau, ond ar yr un pryd sydd yn fwy cymunedol eu gweledigaeth?  Parhau fel yr ydym gan obeithio am wyrth? Diau y bydd yr enwadau traddodiadol yn dod i ben ymhen rhai blynyddoedd, ond mae’n anodd gen i gredu nad oes modd i rywbeth gydio o’r newydd o lwch ein ffydd a gyfrannodd gymaint i dwf y deyrnas ar draws y byd. Byddai hynny yn ein galluogi i gyfathrebu’n uniongyrchol â’n cymdeithas heddiw gan ddangos fod gennym bethau cyfoes a chwbl berthnasol i’w dweud. Yn y cyfamser onid ein cyfrifoldeb yw peidio â bodloni ar ein sefyllfa drist ond bwrw ati i ymgodymu â’r materion a drafodir gan ein cyfaill yn yr e-fwletin. Daliwn ati i gwestiynu a phrocio ein gilydd gan ddyheu am gael ein herio a’n hysgwyd o’r newydd gan y proffwyd o Nasareth.

E-fwletin 28 Mehefin 2020

Mynd nôl i’r capel?

“Wyt ti’n edrych ymlaen at fynd nôl i’r capel?” Dyna oedd cwestiwn cellweirus fy mab wrth i mi bendwmpian ar y soffa un bore Sul, yn hanner gwrando ar y radio. Rhaid oedd ei ateb yn onest a’r ateb oedd, ‘Na’.

Wedi ateb rhaid oedd i mi gyfiawnhau fy hun. Pam ydw i’n teimlo fel hyn? Pam y diffyg awydd? Mae gen i weinidog sy’n ‘neud ei orau glas o dan amgylchiadau anodd. Dw i’n hoff o’i ffordd o gyflwyno’r efengyl. Dw i, mwy na heb, yn mwynhau cynnwys ei bregethau a’i gyflwyniadau. Mae’n ddarllenwr. Mae’n trafod syniadau newydd ac yn ein herio i gymryd ein ffydd o ddifri. Mae’n ‘neud ei orau glas i fod yn gyfoes. Mae’r plant yn hoff ohono. Mae ganddo ffordd rhwydd ‘da’r plant a’r bobl ifanc. A phan fydd gofyn mae fy mhlant yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn oedfa.

Dw i heb golli fy ffydd. Os rhywbeth, mae’n tyfu ac yn gwreiddio’n ddyfnach. Dw i’n credu ei fod yn bwysig i mi fel Cristion i fanteisio ar bob cyfle i gyd-addoli, i rannu profiad, i rannu gofid ac i rannu llawenydd fy ffydd.

Felly, pam dweud, Na? Beth yw fy mhroblem?

Dw i wedi blino brwydro gydag aelodau sy’n gwrthod ildio modfedd er mwyn sicrhau parhad yr achos. Dw i wedi blino ceisio dal pen rheswm gydag aelodau sy’n dal i gredu mai un ffordd yn unig o addoli sy’n bodoli – trefn a osodwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dw i wedi danto ar fynychu cyfarfodydd dibwys sy’n cymryd dwy awr i ddod at benderfyniad ar bwy fydd yn derbyn gwahoddiad i bregethu ar Suliau gwag y gweinidog. Dw i wedi blino dadlau dros ymarferoldeb uno oedfaon yr ofalaeth ar y Sul a meithrin perthynas agosach gyda gweddill capeli’r cylch.

Dw i wedi cael llond bola ar weld aelodau yn cyfri pennau ar ddechrau oedfa ac yna yn trafod cyn lleied oedd yn bresennol ar ddiwedd oedfa.

Dw i wedi cael llond bola addoli mewn hen adeilad damp ac eistedd ar sedd galed pan mae yna gynifer o neuaddau modern cysurus a chynnes, ffit i bwrpas, o fewn cam geiliog i’r capel.

Dw i wedi blino mynd trwy’r ‘mosiwns’, chwedl mam-gu.

Dw i’n teimlo’n chwithig nad oes bellach gennym gymdeithas yn y capel. Does neb yn aros i sgwrsio, yn annog ei gilydd, yn sicrhau fod pawb yn ‘OK’ ar ddiwedd oedfa dros ddisied o de neu goffi.

Dw i’n ‘ffed-yp’ o orfod chwilio am le diogel i barcio a phoeni am ddiogelwch rhai o’r aelodau hŷn sy’n straffaglu i gyrraedd y capel. Ar ddiwedd oedfa dw i’n poeni bydd un o’n haelodau yn cael ei daro gan gar neu lori wrth gerdded ar y pafin cul o flaen y capel.

Dw i wedi ystyried symud. Ond i ble? Yr unig addoldy cyfagos sy’n apelio yw’r un Saesneg. Mae’n fywiog. Maen nhw wedi gweithio’n galed yn ystod cyfnod COVID-19 drwy drefnu banc bwyd, cynnig cyngor pan mae modd a threfnu dosbarthu bwyd i’r hen a’r methedig a’r rhai sy’n gorfod ynysu. Ond dw i’n Gymro a dw i ddim am addoli yn fy ail iaith. Er dw i’n cael fy nhemtio!

Felly, parhau sy’n rhaid. ‘Ych chi’n gweld, dw i ddim yn aelod o deulu o Gristnogion gweithgar, bywiog sy’n gweithredu neges y Bregeth ar y Mynydd. Na, dw i’n aelod o glwb bach preifat, Y Gweddill. Dw i’n perthyn i draddodiad bach neis nad oes a wnelo bron dim ag efengyl achubol Iesu Grist. Does dim rhyw lawer o awydd arnom, er gwaethaf ymdrechion diflino ein gweinidog, i daflu mas lifebelt yr efengyl i’r holl bobl yna tu draw i ddrws derw mawr ein capel bach ni. R’yn ni lot rhy sidêt i hynny. Cofiwch bydd hysbys yn y papur bro a chyhoeddiad i’r dethol rhai o’r set fawr am wasanaeth Nadolig y plant a’r gymanfa  ganu. Os i chi’n lwcus.

                SESIWN ZOOM

7:00 p.m. Nos Fercher, 15fed Gorffennaf

ADDOLI YN Y CYFNOD CLO

Rhannu profiadau yng nghwmni

Rhodri Darcy, Beti Wyn James, Evan Morgan

Llywydd: Enid Morgan

Cadeirydd y drafodaeth: Emlyn Davies

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn yn syth wedyn.

Rhaid cofrestru i gael cyfrinair er mwyn ymuno.

Anfonwch e-bost at: cristnogaeth21@gmail.com neu atebwch y neges hon.