‘Duw ar Zoom’
‘Duw ar Zoom’ ydi teitl gogleisiol cerdd arbennig a gyflwynwyd gan Casia Wiliam, Bardd y Mis Radio Cymru, ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul diwethaf. Gallwch wrando ar Casia’n darllen y gerdd drwy ddilyn y ddolen yma i Facebook: https://www.facebook.com/watch/?v=275447817003209
Rydyn ni’n ddiolchgar hefyd i Casia am ei chaniatâd parod i ddyfynnu’r gerdd yn y neges hon:
Duw ar Zoom
Rhywsut aeth Duw yn ddiarth.
Rhwng y naw tan bump a plant i’w gwlâu a gwaith yn galw
doedd dim lle iddo yn sêt fawr fy mywyd.
Bob hyn a hyn dôi yn ôl yn annisgwyl
wrth i mi lenwi troli, neu lyncu’r Ê ffôr sefnti
ond wastad â chymun o euogrwydd
am beidio twyllu ei dŷ
cyhyd.
Ond rŵan, a ninnau yng nghanol
y tywyllwch tywyllaf,
dyma fo, ar fy nglin,
lond y sgrin,
lond y gegin.
Duw ar Zoom.
A ffasiwn sinig, mi daerwn y byddwn
wedi mynd am y groes yn syth,
ond na, arhosais ennyd
i glywed adnod,
i geisio ei lais eto,
i weld os medrwn estyn croeso iddo
yn fy nhŷ fy hun.
Ac yn lle’r festri oer a chwech yn gwmni
dyma lond y we o gwmpeini;
a dros goffi,
mewn pajamas,
yn ein gwlâu ella,
daeth y ne’ atom ni.
O dro i dro,
rŵan ei bod hi’n dechra g’leuo,
wrth i mi osod bwrdd neu
hel llestri brecwast,
mewn eiliad o heddwch,
mi ga i ryw air bach efo fo
a mae o i’ weld ddigon bodlon
i ni gwrdd fel hyn,
yn bytiog rhwng prydau,
a minnau heb ddim byd am fy nhraed.
Casia Wiliam
Mae yna gymaint o gyfoeth a dyfnder yn y gerdd yma: yn ei chyfeiriadaeth a’i delweddau cynnil a synhwyrus, er enghraifft, y syniad o wthio Duw allan o ‘sêt fawr fy mywyd’ a theimlo ‘cymun o euogrwydd’ am beidio â thywyllu’r capel ers sbel.
Gyda’r ystadegau’n awgrymu bod llawer mwy o bobl yn cymryd rhan mewn addoliad crefyddol ers y cyfnod clo, faint ohonom tybed sy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r ‘festri oer a chwech yn gwmni’ pan mae Duw ‘yng nghanol / y tywyllwch tywyllaf / ar fy nglin, / lond y sgrin, / lond y gegin’ – a hynny drwy gyfwng Zoom?
Tybed ydi hi bellach yn haws ymdeimlo â phresenoldeb Duw ‘yn bytiog rhwng prydau’, wrth ein gorchwylion o ddydd i ddydd, yn ein dillad nos neu ein dillad gwaith, yn droednoeth – ac nad oes angen bod mewn adeilad penodol ar adeg benodol ar ddiwrnod penodol i wneud hynny?
Bydd yn ddiddorol clywed ymateb a phrofiadau tri sydd wedi bod yn arwain ac yn trefnu addoliad yn ystod y cyfnod clo, sef Rhodri Darcy, Beti Wyn James ac Evan Morgan, yn y sesiwn arbennig sydd i’w chynnal gan Cristnogaeth21 nos Fercher nesaf am 7 o’r gloch – drwy gyfrwng Zoom, wrth gwrs! Anfonwch air i gofrestru – mae croeso i unrhyw un ymuno. Dyma’r manylion:
SESIWN ZOOM
7:00 p.m. Nos Fercher, 15fed Gorffennaf
ADDOLI YN Y CYFNOD CLO
Rhannu profiadau yng nghwmni
Rhodri Darcy, Beti Wyn James, Evan Morgan
Llywydd: Enid Morgan
Cadeirydd y drafodaeth: Emlyn Davies
Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn yn syth wedyn.
Rhaid cofrestru i gael cyfrinair er mwyn ymuno.
Anfonwch e-bost at: cristnogaeth21@gmail.com neu atebwch y neges hon.