Archif Awdur: Golygydd

Astrowleidyddiaeth

Astrowleidyddiaeth

 Rhyfela yn y gofod a pharhad gwleidyddiaeth ar y ddaear drwy dulliau eraillGofod

 O’r Sputnik i’r Rhyfel Gofod Cyntaf

Y Rhyfel Gofod Cyntaf? Beth ydw i wedi’i golli?

Rhyfel y Gwlff, 1991, oedd y ‘rhyfel gofod cyntaf’. Doedd dim rhyfela yn y gofod, ond defnyddiwyd gwasanaethau o systemau gofodol a lloerennau ar faes y gad am y tro cyntaf ar raddfa fawr, e.e. GPS yn yr anialwch ac arfau manwl-gywir (precision weapons). Dangosodd Rhyfel y Gwlff effaith technoleg y gofod ar faes y gad ar y Ddaear.

Wel na, dyw rhyfel yn y gofod ddim wedi digwydd eto, ond gan fod datblygiadau yn y gofod yn dilyn gwleidyddiaeth ar y ddaear, mae ’na debygrwydd y digwydd rywbryd. Ble bynnag y mae dynion (menywod hefyd!) yn mynd, maen nhw’n mynd â’u meddylfryd eu hunain. Mae rhyfela yn ysfa dragwyddol! Nid o reidrwydd, efallai, ond os bydd pobl yn dal i fynd i ryfela yn y ganrif hon, mae’n debyg y gwelir rhyfela yn erbyn lloerennau.

Beth sydd a wnelo hyn â ni?

Wel, rydyn ni’n manteisio ar bron pob un datblygiad yn y gofod. Mae ein cyfrifiaduron, ein ffonau symudol, ein GPS i gyd yn dibynnu ar systemau cyfathrebu trydanol sydd wedi’u dyfeisio gan y byd milwrol ac yn cael eu rheoli ganddo hefyd. Mae GPS yn cael ei reoli gan lu awyr yr Unol Daleithiau, ond nid yw pob system o’r fath yn cael ei rheoli gan lu arfog. Esiamplau da yw system gyfathrebu Iridium, Inmarsat, neu Intelsat. Ond mae ganddyn nhw hefyd gysylltiadau agos iawn â llywodraethau a lluoedd arfog.

Dr Bleddyn Bowen

Dr Bleddyn Bowen, Cymrawd Dysgu yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, yn y gyfres seminarau Byd o Wybodaeth

 

Mae’r Dr Bleddyn Bowen o’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth wedi cael cyfle i rannu ei sylwadau am y datblygiadau diweddaraf â nifer o bwyllgorau milwrol pwysig: y School of Advanced Air and Space Studies yn Maxwell Air Force Base, Alabama, a’r Space Policy Institute yn George Washington University, Washington, D.C.

 

 

 

 

Gair newydd, ond nid cysyniad newydd, yw ‘astrowleidyddiaeth’. Mae ei wreiddiau yn natblygiad rocedi yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn seiliedig ar dechnoleg rocedi V2 a datblygwyd gan Werner von Braun yn yr Almaen Natsïaidd. Creodd Sputnik cyntaf yr Undeb Sofietiaidd banig yn yr Unol Daleithiau oherwydd gwelai’r Americaniaid fwlch yn lledu rhwng eu gallu hwy a gallu Rwsia i lansio taflegrau ac arfau niwclear arnynt. Ond pan ddatblygwyd ffordd i dynnu lluniau manwl o’r hyn oedd yn digwydd ar y ddaear, sylw Lyndon B. Johnson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, oedd: ‘Rydyn ni’n codi adeiladau nad oedd eu hangen arnom, ac yn meithrin ofnau nad oedd angen i ni eu meithrin.’

Sleid AstrowleidyddiaethDywed Dr Bowen fod rhyfeloedd seiber lle mae cyfundrefnau’n ymosod ar ddata yn ein cyfrifiaduron yn cael llawer iawn mwy o sylw na’r sy’n digwydd yn y gofod oherwydd ein bod i gyd yn defnyddio cyfrifiaduron, heb sylwi faint maen nhw’n dibynnu ar systemau cyfathrebu sy’n seiliedig ar loerennau yn y gofod. O 1990 ymlaen yr oedd Rwsia, NATO a gwledydd eraill megis Tsieina, India, a Siapan yn defnyddio llawer ar dechnoleg lluniau ar gyfer cyfathrebu, mordwyo (navigation) a synhwyro.

Mae’r systemau’n sail i ddiogelwch yr economïau ar y ddaear – mae pob carden banc yn dibynnu ar y pethau hyn – a’r tebygrwydd ychwanegol yw y bydd y gorsafoedd rheoli’r lloerennau yn dod yn dargedau milwrol. Gallai’r llwyfannau ar loerennau fod yn sail i rhyfel arfau yn y gofod – ond rhethreg gwleidyddion ar y ddaear fyddai’n gyrru hynny.

‘Beibl’ athroniaeth filwrol astrowleidyddiaeth yw cyfrol gan Carl von Clausewitz (1780–1831) ar ryfel. Mynnai ef mai ffurf arall ar wleidyddiaeth ydi rhyfel. Mae rhyfela yn y gofod felly’n dal yn weithgaredd gwleidyddol, yn adlewyrchu ac yn parhau digwyddiadau gwleidyddol a gynhelir ar y ddaear.

Dysgodd Clausewitz ei bod hi’n ddigon anodd gwybod beth fydd canlyniadau brwydrau ar y ddaear; felly, bydd rhag-weld canlyniadau rhyfel yn y gofod yn gwbl amhosibl. (Mae’r un mor amhosibl rhag-weld canlyniadau stormydd gwynt yr haul.)

Yn dilyn gwaith Clausewitz, sylw’r Dr Bowen oedd fod y gelyn wastad yn dysgu – fel lluoedd ac arweinyddiaeth Irac, a ddysgodd rhwng rhyfeloedd 1991 a 2003 sut i’w hamddiffyn eu hunain yn erbyn hofrenyddion a’r defnydd o systemau gofod gan yr Americanwyr.

Mae maes astudiaethau newydd yn ymagor i gyfateb i’r datblygiadau technolegol sy’n sail i isadeiledd yr economi ar y ddaear. Yn ei hanfod, ni fyddai rhyfel yn y gofod yn wahanol i ryfel ar y ddaear.

I’r sawl a fyn ddarllen ymhellach yn y maes:

Clausewitz in Orbit: Spacepower Theory and Strategic Education gan Bleddyn E. Bowen, ar Defence-in-Depth, https://defenceindepth.co/2015/06/10/clausewitz-in-orbit-spacepower-theory-and-strategic-education/  

The Other Red Dragon Rising? Wales in Outer Space gan Bleddyn E. Bowen, yn Planet: The Welsh Internationalist, cyfrol 221, Gwanwyn 2016.

Astropolitik: Classical Geopolitics in the Space Age gan Everett C. Dolman

… the Heavens and the Earth: A Political History of the Space Age gan Walter A. McDougall

 The International Politics of Space gan Michael Sheehan

GPS Declassified: From Smartbombs to Smartphones gan Eric Frazier a Richard Easto

Dyfyniadau

Dyfyniadau

DISGWYL

Mae’r Duw a ddaeth at ei bobl yn Iesu yn mynd i dadlennu ryw ddydd ei deyrnas yn ei holl ogoniant gan ddwyn cyfiawnder a llawenydd i’r byd i gyd. Sut mae modd bod yn barod ar gyfer y dydd hwnnw? Ble mae’r ffyrdd i’w sythu? Pa goelcerth sydd angen ei chynnau i losgi’r llanast sydd ar ei lwybrau? Pa goed marw sydd angen eu torri i lawr? A lawn bwysiced, pwy ddylid eu galw i gyfrif, nawr, i edifarhau?

N T Wright yn St Matthew for All

*****************

Mae Mair a Joseff, Elisabeth a Sachareia, Anna a Simeon i gyd yn disgwyl. Cyfrinach disgwyl yw’r ffydd fod hedyn wedi’i hau, fod rhywbeth wedi dechrau. Mae disgwyl  gweithredol yn golygu bod yn bresennol y funud hon yn yr argyhoeddiad fod rhywbeth yn digwydd yn y fan lle rydych chi, a’ch bod chithau eisiau bod yn bresennol iddo. Mae person disgwylgar yn rhywun sy’n bresennol yn y funud, sy’n credu mai’r eiliad hon yw yr eiliad.

O Watch for the Light: darlleniadau ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig 2001 (Plough Publishing)

 *****************

Mae gormod o’n disgwyl nad yw’n agored – mae’n gymysg â chwennych, dymuno, rheoli ein dyfodol.

O Watch for the Light: darlleniadau ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig 2001 (Plough Publishing)

*****************

Rhowch y gorau i ddymuno, er mwyn gobeithio.

O Watch for the Light: darlleniadau ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig 2001 (Plough Publishing)

 *****************

Mae aros yn amyneddgar mewn disgwylgarwch yn sail i’r bywyd ysbrydol.

Simone Weil

 *****************

Mae disgwyl yn agored yn ffordd o fyw eithriadol radical. Felly hefyd ymddiried y bydd rhywbeth yn digwydd i ni sydd y tu hwnt i’n holl ddychmygu. Felly hefyd roi’r gorau i reoli ein dyfodol, a gadael i Dduw ddiffinio’r bywyd, ymddiried bod Duw yn ein llunio yn ôl cariad Duw ac nid yn ôl ein hofn ninnau.

Henri Nouwen

*****************

Os nad yw natur ddiamgyffred Duw yn gafael ynom mewn gair, os nad yw’n ein denu i mewn i’w dywyllwch disglair, os nad yw’n ein galw allan o lety bychan y gwirioneddau bach cartrefol y byddwn yn eu cofleidio … rydyn ni wedi camddeall y gair Cristnogaeth.

Karl Rahner

 *****************

Mae Thomas Merton yn cyfeirio at ryw point vierge, rhyw ‘fan gwyryfol’ mewn myfyrdod, a hynny ynghanol ei hanfod ef ei hun, man heb ei gyffwrdd gan dwyll, man gwirionedd pur sy’n perthyn yn gyfan gwbl i Dduw. Man anhygyrch i ffantasïau’r meddwl ac i greulonderau ein hewyllys. Man bach tlodi llwyr – dyna ogoniant Duw ynom ni.

Cymunedau Ffydd ar y We

Cymunedau Ffydd ar y We

Springfield Community Christian Church

Mae nifer cynyddol o bobl sydd wedi dieithrio oddi wrth eglwysi nawr yn dod yn rhan o gymunedau eglwysig sy’n cyfuno’r rhithiol gyda rhywbeth mwy personol. Gallwch gael pregeth wythnosol, neu gymryd rhan mewn grwpiau trafod trwy Skype neu Facetime, a gallwch gael deunydd darllen. Ymddengys fod nifer fawr erbyn hyn yn gwirfoddoli, dyweder, gyda chynllun i’r digartref yn lleol neu fudiad cyfiawnder global, ac yn ymwneud â chymuned eglwysig rithiol i wreiddio’u bywydau defosiynol. Er nad yw’n ddewis sy’n apelio at lawer, mae’n amlwg fod posibiliadau cynyddol i’r dull hwn. Dyma gwpwl o lefydd y gallwch droi iddynt i gael cymuned o’r fath.

Springfield

Springfield Community Christian Church  http://www.spfccc.org/

Y gweinidog yw’r Parchg. Ddr Roger Ray. Gallwch gael podlediad wythnosol o’i bregethau. Maen nhw fel arfer yn werth gwrando arnyn nhw: ugain munud o bregeth sy’n plethu’r deallusol, yr ysbrydol, yr heriol ac yn ceisio cymhwyso ffydd i fywyd bob dydd.

Roger Ray

Y Parchg. Ddr Roger L. Ray

Os ewch ar ei gwefan, mae’r eglwys yn Printholi a ydych wedi rhoi lan ar fynd i gapel. Os ydych wedi rhoi lan, maen nhw’n eich deall chi!

Os ydych yn deall fod ffydd yn fater i’r galon ac i’r enaid, ac yn cymryd y Beibl yn rhy ddifrifol i’w gymryd yn llythrennol, maen nhw’n eich deall chi.

Os ydych yn gwybod fod Duw yn anwesu pob person yn gydradd, heb ystyried rhyw, hil neu hunaniaeth rywiol, maen nhw’n eich deall chi.

Os ydy amrywiaeth, goddefgarwch a chynhwysiant yn gryfderau i’w dysgu ac yn bwysig i chi …

Os ydych yn credu fod Crist yn eich galw i fod yn ddinesydd llawn o’r byd, yn mynegi cariad cymdeithasol drwy weithredu cyfiawnder, a bod ystyriaethau ysbrydol yn anwahanadwy oddi wrth y byd naturiol …

Os ydych wedi dymuno bod yn rhan o gymuned ffydd agored a gofalgar i feithrin eich hysbryd a chodi eich plant, ond heb eto’i darganfod …

Mae gwahoddiad i chi yn Springfield ac eglwys Dr Roger Ray …

Mae’r pregethau yma: http://progressivechristianity.org/resources/faith-in-the-face-of-terrorism/

The Omega Course

Peter_Rollins_2015

Peter Rollins

 http://peterrollins.net

Gwyddel o Belfast yw Rollins, ond mae’n byw yn LA erbyn hyn. Mae e wedi gweithio’i ffordd drwy waith ieuenctid, prifysgolion a llawer o bethau eraill. Mae’n awdur y bydd llawer o ddarllenwyr AGORA yn gyfarwydd ag ef, mae’n debyg. Bydd llawer ohonom wedi dod ar ei draws yn Greenbelt dros y ddau ddegawd diwethaf.

Rollins Quote 2 Erbyn hyn mae Rollins wedi creu cwrs o’r enw ‘The Omega Course’, lle mae nifer cyfyngedig o bobl yn gallu cofrestru ar gyfer defosiwn ar-lein. Pan fyddwch yn gwneud hynny, cewch restr ddarllen, gyda’r gobaith y byddwch yn darllen rhywfaint cyn y sesiynau dydd Sul. Trwy Fehefin a Gorffennaf bydd e wedyn yn cynnal darlith a thrafodaeth wythnosol ar-lein i’r rheiny sydd wedi cofrestru.

Rollins quoteTrwy gofrestru, mae’r aelodau wedi dod i adnabod ei gilydd ychydig yn yr wythnosau cyn y cwrs, ac mae’n amlwg o’r tudalennau Facebook (sy’n gaeedig i aelodau’r cwrs yn unig) fod amrywiaeth arbennig o unigolion yn mynd i gamu trwy’r Omega Course gyda Rollins. Os bydd yn llwyddiant, mae’n debyg y bydd Rollins yn rhoi cyfleoedd eraill i bobl ymuno â grŵp astudio a thrafod rhithiol. Edrychwch allan amdano.

E-fwletin Mehefin 26ain, 2016

Boed anwybod yn obaith!

Fe bleidleisiais i yn 1975 yn erbyn mynd i mewn i’r Farchnad Gyffredin oherwydd ofn yn bennaf y byddai`r Farchnad yn gyfrwng creu grym militaraidd enfawr arall yn y byd. Collais y bleidlais. Pleidleisiais y tro hwn yn bennaf ar sail gobaith oherwydd fod y Gymuned Ewropeaidd wedi bod yn rym heddychol ar sail partneriaeth a chydweithio. A chollais y bleidlais y tro hwn eto!

Gallwn weld beiau, camgymeriadau,  rhagfarnau a gwenwyn yr ymgyrchoedd o blaid aros ac yn erbyn aros, ond y mae`r mwyafrif wedi penderfynu gadael a rhaid parchu hynny gan adael y Deyrnas Gyfunol ymhell o fod yn gyfunol. Siom bersonol i mi oedd gweld Cymru  yn cerdded llwybr gwahanol i`r Alban ac i Ogledd Iwerddon. A welir y Deyrnas Gyfunol bellach yn ddim mwy na Chymru (gwêl Lloegr)? Gwae ni!

Er mai pleidlais yn ymwneud ag un mater oedd o`n blaenau, ymddengys fod y rhesymau dros bleidleisio y naill ffordd a`r llall yn lleng yn gam neu`n gymwys; economaidd, democrataidd a  mewnfudo. Tybed mai amharodrwydd i wynebu`r consyrn am effeithiau yr olaf oedd un o`r  camgymeriadau mawr? Onid oedd Jo Cox fawrfrydig ac arwrol yn cydnabod ei fod yn fater o gonsyrn! Mae`n fater sensitif i ni yng Nghymru hefyd! Ymddengys hefyd fod y bleidlais yn amlwg yn rhannu`r pleidiau yn arbennig y ddwy blaid fawr sydd yn ein llywodraethu ar yn ail. Gwelir hefyd fod cefnogwyr di-freintiedig y Blaid Lafur a chefnogwyr y dde eithaf yn wrth-Ewropeaidd am resymau tra gwahanol, y naill oherwydd fod unrhyw ffyniant wedi mynd heibio iddynt a`r llall oherwydd rheolau caethiwus yr Undeb.  Ymddengys fod “disgyblion y torthau” hwythau yng Nghymru wedi brathu’r llaw a oedd yn rhoi!  Ymddengys fod y genhedlaeth a bleidleisiodd dros fynd i`r Farchnad Gyffredin wedi pleidleisio y tro hwn i fynd allan tra bod ein pobl ifanc wedi pleidleisio i aros. A hwy wedi`r cyfan biau`r dyfodol. Y mae`n anodd osgoi’r casgliad hefyd fod y bleidlais yn bleidlais brotest ddeublyg; yn erbyn Ewrop ac yn erbyn y sefydliad gwleidyddol. Cadarnheir hyn gan nifer uchel y rhai a bleidleisiodd sydd yn awgrymu fod yr elfen amhleidiol nad ydyw yn trafferthu i bleidleisio yn arferol mewn etholiadau  yn elfen allweddol yn y penderfyniad.

Er y siom i rai ohonom fel Cristnogion (ac mi roedd hi`n siom fawr i lawer ohonom), rhaid bellach gychwyn wrth ein traed a wynebu yr hyn sydd yn obeithiol ac yn greadigol.  Rhaid glynu wrth y weledigaeth a phoeri allan y gwenwyn a fu`n gyfrifol am ein polareiddio.  Eto, fel pobol, fel Cristnogion ac fel Cymry, yr ydym yma o hyd, ac y mae gennym Senedd yng Nghaerdydd er fod llwybr y Senedd oedd o blaid aros yn un anodd. Yr ydym yn dal yn rhan o Ewrop er fod yr Undeb wedi ei chwalu. Tybed a yw hyn yn ddechrau ar chwalfa fwy?

Dichon na bydd yr ofnau na`r  gobeithion a godwyd yn ystod yr ymgyrch cyn gymaint ag yr haerwyd. Yn wir yr ydym ar daith newydd sbon a thaith hir ac ansicr i`r anwybod. Er i ni gymryd cam yn ôl rhaid bellach gamu ymlaen. Y mae angen ffydd (argyhoeddiad) a chariad (goddefgarwch) arnom yn ogystal â dyhead/gweddi`r bardd: “Boed anwybod yn obaith”.

Y bardd Gwyn Thomas, y gwelwn ei golli, ddywedodd unwaith nad creigiau `Stiniog oedd y rhyfeddod mwyaf yn ei olwg ond y ddynoliaeth a oedd ar y creigiau hynny wedi goroesi pob caledi.

Orlando

Orlando

Orlando

Gwylnos yn y First United Methodist Church, Orlando, nepell o Pulse, y Clwb Nos  lle saethwyd 49 o’r gymuned LGBT. Mae lluniau y rhai a laddwyd o flaen y gweddïwr ynghyd â Beibl agored a chroes (nad yw i’w gweld yn glir yn y llun).

Dyma sut y bu i’r Eglwys Gatholig ymateb i’r  ymosodiad ar y gymuned hoyw yn Orlando.

Dyma’r datganiad gan  yr Archesgob Joseph Kurtz  ar ran Cynhadledd Esgobion Catholig America (USCCB):

“Roedd deffro i glywed am y trais yn Orlando yn ein hatgoffa mor gysegredig yw bywyd. Mae’n gweddïau gyda’r dioddefwyr a’u teuluoedd a phawb sydd wedi eu cyffwrdd gan y weithred erchyll hon. Mae cariad Crist yn ein galw i uniaethu â’r dioddefwyr ac i ymrwymiad llwyr i warchod bywyd ac urddas pob person.”

Mewn ymateb anuniongyrchol i’r datganiad hwn – nad yw yn enwi’r gymuned hoyw –  daeth o leiaf dau ymateb gwahanol gan arweinwyr eraill yr Eglwys Gatholig yn America.

Archesgob Blasé Cupich, Chicago :

“Mae ein cydymdeimlad gyda’r dioddefwyr, eu teuluoedd a’n cyfeillion yn y gymuned hoyw a lesbaidd… Know this, the Archdiocese of Chicago stands with you. I stand with you.”

Esgob Robert Lynch, St. Petersburg, Florida:

“Dagrau pethau yw mai crefydd, gan gynnwys ein crefydd ni, sy’n targedu yn eiriol gan feithrin dirmyg tuag at hoywon, lesbiaid a’r gymuned LBGT. Mae’r gweithredu yn erbyn LBGT yn hau hadau dirmyg, yna casineb ac mae casineb yn ddieithriad arwain at drais a thrychineb.”

 

E-fwletin Mehefin 19eg, 2016

A ninnau’n dal yn syfrdan wedi’r gyflafan erchyll yn Orlando, daeth llofruddiaeth Jo Cox i’n sobri ymhellach. Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer y refferendwm ail-ddechrau heddiw, mae awdur yr e-fwletin yn poeni am natur y dadlau ac effaith y casineb a welwyd ar y ddwy ochr.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai tipyn o syndod oedd gweld yng nghyhoeddiadau Sul y Western Mail,  bythefnos yn ôl, y byddai’r Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnal trafodaeth ar y refferendwm ar fore Sul.

Ond dyma feddwl wedyn – pam syndod?  Onid yw’r ‘oll yn gysegredig’ a’n ffydd i fod i gwmpasu pob agwedd ar ein bywyd?

Ac wrth gwrs, argyhoeddiadau Cristnogol oedd wrth wraidd gweledigaeth Robert Schuman ac eraill, ond Schuman yn bennaf, i gyfannu cyfandir rhwygedig ac i bontio rhwng hen elynion. Schuman, pan yn brif weinidog Ffrainc, gyflwynodd gynllun a arweiniodd at Gyngor Ewrop ac a ddatblygodd yn Farchnad Gyffredin.  Meddai, yn dilyn arwyddo’r cytundeb gwreiddiol, ‘Yr ydym yn cychwyn ar arbrawf a fydd yn gwireddu hen, hen freuddwyd o greu sefydliad i roi terfyn ar ryfel a gwarantu heddwch. Mae’r ysbryd Ewropeaidd yn amlygu ein hymwybyddiaeth o berthyn i gymuned neilltuol a’n parodrwydd i wasanaethu’r gymuned honno.’

box-quizEr ei holl fethiannau mae’r Undeb Ewropeaidd gyda’r corff mwyaf llwyddiannus a welwyd o ran diogelu heddwch, rhyddid a democratiaeth.  Y mae hefyd yn crynhoi gymaint o’r hyn sydd wrth galon y ffydd Gristnogol: cymod, heddwch, parch at eraill, gofal dros y gwan a’r anghenus, y tlawd a’r amddifad, a chariad tuag at y dieithryn a hyd yn oed y gelyn.

Mae Cymru yn un o’r cenhedloedd bach sydd wedi elwa’n fawr o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Yr hyn sy’n tristáu dyn yw’r diffyg parch sydd wedi ymddangos yn y trafod a’r dadlau.

Mewn erthygl yn Y Tyst yr wythnos hon mae Euryn Ogwen yn cyfeirio at ddatblygiad math newydd o wleidydda y mae rhai yn ei alw’n post-truth, lle mae dweud hanner y gwir a chelwydd noeth, dirmygu rhai sy’n ‘wahanol’ a gwawdio lleiafrifoedd di-amddiffyn, yn norm i bob golwg.

Mae i’w weld mor glir yn y cyfeirio at  ‘immigrants’, heb wahaniaethu o gwbl rhwng ffoaduriaid rhyfel, ceiswyr lloches a mewnfudwyr economaidd. Bu cyfaill ar ymweliad â Sicily yn ddiweddar, ac meddai’r tywysydd wrtho pan holodd yntau am y mewnfudwyr, ‘Nid mewnfudwyr ydy ni’n eu hachub o’r môr, ond pobl’.

Tybed a fyddwch chi, fel finnau, yn falch i weld dydd Iau’n dod – a chael cefn ar y refferendwm! Ond y gwir yw mai man cychwyn fydd Mehefin 23 pa ffordd bynnag yr aiff hi. Bydd angen dechrau ar broses arall yr un mor bwysig – efallai anoddach –  sef adfer y berthynas rhwng y gwahanol garfannau.

 

Efallai mai dyna pryd y bydd galw am gofio un o brif feini sylfaen yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir, ein democratiaeth: ein perthynas â’n gilydd ar sail ein dynoliaeth gyffredin, ein cyfrifoldeb i ofalu am ein gilydd a chyd-weithio er mwyn y lles cyffredin, ac yn gymaint â dim, parch  a goddefgarwch tuag at ein gilydd.

Fan yna rhywle y mae’r her i ni fel Cristnogion i roi arweiniad wedi’r drin, ar ba ochr bynnag o’r ddadl yr ydym yn sefyll ar hyn o bryd.

E-fwletin Mehefin 12fed, 2016

Beth fydd yn eich cymell i brynu llyfr? Enw’r awdur, y pwnc sy’n cael ei drafod, y pris?

Rhaid i mi gyfadde i mi brynu sawl llyfr am fod y teitl wedi apelio.

Cofiaf brynu cofiant Arthur Ashe, y chwaraewr tenis a fu farw’n ifanc, yn unig oherwydd ei deitl ‘Days of Grace‘. Mewn maes awyr yn America y gwelais y llyfr  ‘Salt – a world history’ a chael blas mawr ar y darllen. ‘Nathaniel’s Nutmeg’ yw un arall sy’n dal yn fy meddiant. Hanes dod â pherlysiau o’r dwyrain pell – a hynny ar gost ddychrynllyd mewn bywydau. Ac wedi darllen ‘Have a Little Faith’ hawdd iawn oedd troi at lyfrau eraill Mitch Albom, Tuesdays with Morrie’  a ‘The Five People You Meet In Heaven’

Cranky FaithDigwydd gweld y teitl ‘Cranky, Beautiful Faith’ wrth ‘arnofio’r’ we wnes i, a dyma ddechrau darllen y broliant a chael blas rhyfeddol. Yr awdur yw Nadia Bolz-Weber, cyn ddigrifwraig clybiau nos a chyn alcoholig sydd, ers ei thröedigaeth, wedi gosod tatŵ o Fair Magdalen ar hyd ei braich dde ac sydd bellach yn weinidog ar gynulleidfa Lwtheraidd gyda’r enw gogoneddus ‘The House of All Sinners and Saints’.

Mae’r gyfrol gignoeth ei dweud a’i phrofiadau, yn adrodd hanes ei thaith o wrthryfel yn erbyn ei magwraeth grefyddol i anffyddiaeth ac alcoholiaeth. Yna daeth ar draws cyfrol Marcus Borg ‘Meeting Jesus Again for the First Time’  a dyna ddechrau’r daith yn ôl at Iesu ac at y Duw sy’n ein derbyn fel yr ydym a gyda’r dyhead i wneud rhywbeth o’r salaf ohonom.

A dyna pam y tatŵ o Fair Magdalen. Mair oedd y cyntaf, yn ôl Efengyl Ioan, i dystio i’r atgyfodiad –  er nad oedd wedi deall ystyr ac arwyddocâd y bedd gwag. Ond i Nadia Bolz-Weber, dyna neges greiddiol y ffydd Gristnogol, ac mae’r argyhoeddiad hynny yn tarddu o’i phrofiad personol. Meddai:  ‘The love and grace and mercy of Jesus was so offensive to us that we killed him. But death could not contain God. The Christian faith (as I have experienced it and grown in faith) is really about death and resurrection. It’s about how God continues to reach into the graves we dig for ourselves and pull us out, giving us new life in ways both dramatic and small’

Y  profiad yma o’r Duw sy’n agos atom yng nghanol düwch ac anobaith ein bywydau, a’i galluogodd i ddringo o ‘fedd’ alcoholiaeth.

Nadia Bols-Weber

Nadia Bolz-Weber

Cynulleidfa fechan yw un ‘The House of All Sinners and Saints’, a’r rhan fwyaf o’r cwmni yn ferched a dynion hoyw ac yn rhai sy’n ceisio torri’n rhydd o afael cyffuriau ac alcohol.

Arweiniodd croeso Nadia i’r cwmni yma, a’i dadl dros gael yr Eglwys Lwtheraidd i gydnabod priodasau un rhyw, at ymosodiadau personol, a chas iawn arni gan gyd-weinidog o’r enw Chris Rosenburgh. Mae Rosenburgh yn cynnal gorsaf radio ar y we i erlid y rhai sydd, yn ei dyb ef, yn gwyro oddi wrth uniongrededd y ffydd. Roedd Nadia Bols-Weber a’i chynulleidfa yn dargedau amlwg iddo, ac yntau yn gwbwl anoddefgar o’i argyhoeddiad hi y dylai’r eglwys fod yn agored i bawb yn ddi-wahân.

Daeth y ddau wyneb yn wyneb mewn cynhadledd eglwysig, ac er i bawb oedd yno ddisgwyl dadl ffyrnig a ffrae danllyd, yr hyn a gafwyd oedd trafodaeth hanner awr a ddaeth i ben gyda’r geiriau yma gan Nadia: ‘Chris, I have two things to say to you. One, you are a beautiful child of God. Two, I think that maybe you and I are desperate enough to hear the Gospel that we can even hear it from each other’

Atgyfodiad yn wir o fedd dogma a rhagfarn ac anoddefgarwch!

E-fwletin Mehefin 5ed, 2016

‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw’ oedd datganiad yr emynydd Thomas Jones (1756-1820), awdur a gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd a fagwyd ac a addysgwyd yn Sir y Fflint. Ond sut y gwyddai fod ei honiad yn wir?

Mae ymweld ag ysgol a chael cyfle i fod mewn dosbarth yng nghwmni plant a phobl ifainc yn fraint. Dyna oedd fy hanes yn ystod cyfnod yn y Ffindir a minnau’n cael treulio amser mewn ysgol uwchradd tref fawr yng nghanol y wlad honno. Yn un o’r dosbarthiadau roedd grŵp o ryw bymtheg o bobl ifainc ‘dosbarth 6’ yn dilyn cwrs y Fagloriaeth Ryngwladol dan arweiniad athro o Sais a oedd wedi dysgu rhywfaint o Ffinneg. Ond Saesneg oedd iaith y wers y bore hwnnw a’r cwestiwn dan sylw oedd beth yw natur gwybodaeth ac, yn benodol, a oedd honiadau ynghylch gwirionedd yr wybodaeth yn dibynnu ar y ddisgyblaeth dan sylw.

Ai’r un peth ydy honiad am hanes, dyweder, wrth ei gymharu gyda honiad am ddaearyddiaeth? A oes yna wahaniaeth rhwng ‘ffaith’ mewn mathemateg a ‘ffaith’ mewn bioleg? Ai’r un statws sydd i bob ‘ffaith’ mewn ffiseg?

Er enghraifft, ai’r un statws sydd i’r ‘ffeithiau’ hyn?:

  • Mae’r Ddaear yn cylchdroi o amgylch yr Haul
  • 1 + 1 = 2
  • Mae’r ddynoliaeth wedi esblygu o fwncïod
  • Dihiryn oedd Hitler
  • Mae proton yn ronyn ac yn don – y ddau ar yr un pryd
  • Roedd Michelangelo yn athrylith
  • Mae theorem Pythagoras yn wir

Roedd aeddfedrwydd trafodaeth y myfyrwyr, a hynny yn eu hail iaith, yn drawiadol ac yn sail iddynt ymchwilio ymhellach cyn mynd ati i sgwennu eu traethodau.

Cefais gyfle i drafod y gwaith gyda’r myfyrwyr ac i ddod i wybod rhagor am eu dyheadau at y dyfodol. Ar ddiwedd y wers trodd yr athro o Sais ataf a gofyn, mewn Cymraeg perffaith, ‘Ydych chi’n siarad Cymraeg?’ Roedd yn gymharol hawdd i ateb y cwestiwn hwnnw, er mor annisgwyl, ond beth am y cwestiynau dyfnach, athronyddol eu natur, a oedd wedi ymestyn y myfyrwyr?

A beth pe byddent hefyd yn cynnwys honiadau diwinyddol eu natur, rhai fel honiad Thomas Jones, ‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw’?

 

Golygyddol

Mwynhad a lwc y We

Mae golygu neu ysgogi cylchgrawn yn gymysgwch rhyfeddaf o rwystredigaeth a chyffro. Stryffaglu i gael ambell gyfrannwr i gadw addewid, ac yna rhodd rasol o enw a phersonoliaeth newydd a chyfraniad yn gytgordio’n hapus ag amcanion Agora.

Yn Agora2 cyfeiriais at anerchiad gwefreiddiol gan Esyllt Maelor yn ein hencil yn Nant Gwrtheyrn. Soniodd, a hithau mewn galar ar ôl colli ei mab, Dafydd, am y ffordd y daeth y geiriau ‘Tabitha Cwmi’ yn gyfrwng cysur ac ysbrydiaeth iddi. Trwy ‘gyd-ddigwyddiad’ roeddwn wrthi ryw bythefnos yn ddiweddarach yn chwilio am adnoddau pregeth ar Actau 9: 31–4. Dechreuais o wefan Progressive Christianity a gwasgu rhyw fotymau addawol yr olwg, a gweld cyfeiriad at y testun ar wefan broffesiynol iawn yr olwg dan yr enw, braidd yn anaddawol, fel y tybiwn ar y pryd, pastordawn.com.

Roedd hi’n bregeth ardderchog, yn mynd at y testun gyda thrylwyredd a dirnadaeth benigamp.

Pastor Dawn

Pastor Dawn Hutchinson

Mae’r Pastor Dawn Hutchinson yn blaen ac yn onest yn dweud nad yw rhai o straeon y Testament Newydd yn hanesyddol, hynny yw, yn ffeithiol wir. Ond mae hi’n argyhoeddedig bod ystyr a gwirionedd yn y straeon hynny. Wrth gymryd anadl ddofn i fagu’r plwc i ddweud: ‘Dw i ddim yn credu honna’, beth sy eisiau wedyn yw’r plwc a’r dyfalbarhad i ymaflyd codwm â’r testun (fel Jacob gyda’r angel); mae angen parchu ysgolheictod er mwyn i’r ‘gwirionedd uwch’ ddod i’r golwg a throi’n ‘Air Bywiol’ sy’n treiddio i’n calonnau yn ogystal â’n hymennydd.

Rhaid i ni beidio â chredu bod yr ysgrythurau wedi’u cyfyngu i ystyr lythrennol. Rhyw dybiaeth go fodern a chenhedlig yw honno. Gwir mai cyfyng yw’n crebwyll, ond Duw a’i rhoddodd i ni, a’n dyletswydd yw ei fwydo, ei ddisgyblu a’i ddefnyddio. Pan yw rhywun lleyg heb gymhwyster mewn astudiaethau beiblaidd yn holi: ‘Sut y

penderfynwyd pa lyfrau fyddai’n mynd i mewn i’r Testament Newydd?’, dyw ateb x, ‘Yr Ysbryd Glân’, ddim yn gwneud y tro.

Ateb diog ydyw ac nid ateb deallus i gwestiwn didwyll a chall.

Dyna felly sail i frwdfrydedd Golygydd Agora wrth ddarganfod gwefan, blog, adnoddau litwrgaidd, ayyb, gan Dawn Hutchinson.

Dyma fi felly, fel golygydd cydwybodol a gonest, yn lle codi defnydd da heb gydnabod y ffynhonnell, yn gyrru nodyn at y wefan yn egluro pam roeddwn i’n awyddus i ddefnyddio’r bregeth, a’i haddasu ychydig at ein cefndir ni yng Nghymru.

 A dyma neges ’nôl mewn rhyw ddwyawr o ardal i’r gogledd o Toronto yng Nghanada: ‘My father is Welsh (from Tredegar) and although the Welsh language is all but lost to our family, I know that he will be delighted to know that some small contribution to a Welsh-speaking community might find its way across the digital landscape back to Wales. Tangnefedd gyda chwi.’

Yn y dyfodol rwy’n siŵr y byddai’n benthyca gan pastordawn. Yn y cyfamser, cyfarchion iddi hi ac i’w thad, a diolch iddi hi am ei hymateb cynnes.

https://pastordawn.com/

 

Pytiau

PYTIAU

 

Mae gwadu’r Drindod yn beryg i’n hiachwdwriaeth;
mae ceisio egluro’r Drindod yn beryg i’n pwyll.
(-Martin Luther)

 

Nid yw crefydd yn bennaf yn set o gredoau, nac yn gasgliad o weddïau, nac yn gyfres o ddefodau. Y mae crefydd yn gyntaf ac yn bennaf yn ffordd o weld. All e ddim newid y ffeithiau am y byd yr ydyn ni’n byw ynddo, ond gall newid y ffordd yr ydyn ni’n gweld y ffeithiau, ac mae hynny weithiau ynddo’i hun yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.

(-Rabbi Harold Kushner yn Who Needs God?)

Mynnwch feithrin tangnefedd ynoch eich hunan,
yna fe allwch ei rannu â phobl eraill.
(-Thomas à Kempis)

Duw yw popeth sy’n dda. Duw wnaeth bopeth a wnaed ac mae Duw yn  caru pob rhan ohono. Os wyt yn caru pawb oherwydd cariad Duw, fe fyddi di’n caru popeth sydd, am dy fod yn caru’r creawdwr. Canys y mae Duw ym mhob person, a phob person yn Nuw. Os wyt yn caru yn y ffordd hon, fe fyddi di’n caru popeth.

(-Julian o Norwich 1342–1416)

BENDITH

Cariad yw Duw ac y mae Cariad yn drech na ffiniau.
Does dim terfynau i Atgyfodiad, felly byddwch byw ynddo nawr.
Rhowch eich hyder nawr yn yr hyn sydd y tu hwnt i eiriau, 
Bydd Duw yr hyn a fyddo Duw.
IHWH yr ‘Ydwyf’ Mawr,
Crist sy’n gariad Duw,
A’r Ysbryd Glân sy’n anadlu’r bywyd dwyfol 
Yn a thrwy bawb sy’n credu mewn cariad.
Amen
              Gweddi'r Arglwydd
              (Dehongliad Posib:)
Ti, yr Un sy’n esgor ar y Cread,
Canolbwyntia dy oleuni ynom ni a’i wneud yn ddefnyddiol:
Crea deyrnas unedig yn awr –
A bydd dy chwennych di yn cydweithredu â’n chwennych ninnau
ym mhob goleuni, ym mhob ffurf.
Dyro i ni heddiw yr hyn sydd arnom ei angen mewn bara a dirnadaeth.
Datod gortynnau’r camsyniadau sy’n ein rhwymo
Wrth i ni ollwng gafael ar edafedd euogrwydd pobl eraill.
Paid â gadael i bethau arwynebol ein twyllo
Ond gwared ni rhag y pethau sy’n ein dal ’nôl,
Oddi wrthyt ti y genir pob bwriad lywodraethol,
Y nerth a’r bywyd i weithredu,
Y gân sy’n harddu popeth
Ac yn adnewyddu popeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
Yn wir, bydded i hyn i gyd – trwy’r gosodiadau hyn
Fod yn dir y bydd fy holl weithredoedd yn tyfu ynddo:
Amen