E-fwletin Mehefin 5ed, 2016

‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw’ oedd datganiad yr emynydd Thomas Jones (1756-1820), awdur a gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd a fagwyd ac a addysgwyd yn Sir y Fflint. Ond sut y gwyddai fod ei honiad yn wir?

Mae ymweld ag ysgol a chael cyfle i fod mewn dosbarth yng nghwmni plant a phobl ifainc yn fraint. Dyna oedd fy hanes yn ystod cyfnod yn y Ffindir a minnau’n cael treulio amser mewn ysgol uwchradd tref fawr yng nghanol y wlad honno. Yn un o’r dosbarthiadau roedd grŵp o ryw bymtheg o bobl ifainc ‘dosbarth 6’ yn dilyn cwrs y Fagloriaeth Ryngwladol dan arweiniad athro o Sais a oedd wedi dysgu rhywfaint o Ffinneg. Ond Saesneg oedd iaith y wers y bore hwnnw a’r cwestiwn dan sylw oedd beth yw natur gwybodaeth ac, yn benodol, a oedd honiadau ynghylch gwirionedd yr wybodaeth yn dibynnu ar y ddisgyblaeth dan sylw.

Ai’r un peth ydy honiad am hanes, dyweder, wrth ei gymharu gyda honiad am ddaearyddiaeth? A oes yna wahaniaeth rhwng ‘ffaith’ mewn mathemateg a ‘ffaith’ mewn bioleg? Ai’r un statws sydd i bob ‘ffaith’ mewn ffiseg?

Er enghraifft, ai’r un statws sydd i’r ‘ffeithiau’ hyn?:

  • Mae’r Ddaear yn cylchdroi o amgylch yr Haul
  • 1 + 1 = 2
  • Mae’r ddynoliaeth wedi esblygu o fwncïod
  • Dihiryn oedd Hitler
  • Mae proton yn ronyn ac yn don – y ddau ar yr un pryd
  • Roedd Michelangelo yn athrylith
  • Mae theorem Pythagoras yn wir

Roedd aeddfedrwydd trafodaeth y myfyrwyr, a hynny yn eu hail iaith, yn drawiadol ac yn sail iddynt ymchwilio ymhellach cyn mynd ati i sgwennu eu traethodau.

Cefais gyfle i drafod y gwaith gyda’r myfyrwyr ac i ddod i wybod rhagor am eu dyheadau at y dyfodol. Ar ddiwedd y wers trodd yr athro o Sais ataf a gofyn, mewn Cymraeg perffaith, ‘Ydych chi’n siarad Cymraeg?’ Roedd yn gymharol hawdd i ateb y cwestiwn hwnnw, er mor annisgwyl, ond beth am y cwestiynau dyfnach, athronyddol eu natur, a oedd wedi ymestyn y myfyrwyr?

A beth pe byddent hefyd yn cynnwys honiadau diwinyddol eu natur, rhai fel honiad Thomas Jones, ‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw’?